Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GANWYD,— Medi 9, priod Mr. J. E. Morgan, arweinydd y côr bach, Brynhyfvyd, Glyn Ebwy, ar fab. PRIODWYD,— Medi 21, yn Ebenezer, Llangefni, gan y Parch J. D. Evans, yn cael ei gynnorthwyo gan v Parch. James Donn (T.C.), y Parch. Robert Roberts, gweinidos y Bedvddwyr yn Llanerchymedd, a Miss Ellen Jones, merch Mr. Henry Jones, Painter, &c., Llanerchymedd. Medi 16, yn nghapel y Bedvddwyr, Abercarn, gan y Parch. D. R Jones, Mr. D. Waters, Bont- y-waen, a Miss Margaret Evans, Abercarn. Medi 17, yn nghapel Heol Siarls, gan y Parch. D. Davies, yn mhresenoldeb y cofrestrydd ac ereill, Mr. Wm, Jones a Miss Elizabeth Thomas, y ddau o Abercarn. Medi 14. drwy drwydded, yn eglwys St Paul, Llynlleifiad, gan y Parch. Ddr. Hume, Cldben James L. Davies, o'r llong Anne," o Aherys- twyth, a Catherine, merch ieuengaf Mr. J. Mathias, o Hakin, Milford. BU FARW,- Medi 15, yn 22 oed, Joseph Evans, Pentre Estyll, ger Abertawe, o'r geri. Yr cedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Siloam, Pentre Estyll. Medi 16, o'r un teulu, Ann Evans. neu, fel y gelwid hi yn Llansawel, sir Gaerfyrddin, Nansi Dafydd, yn 92 oed. Bu yn aelod crefyddol am 78 o flynyddau, yn yr Eglwys Wladol, a chyda'r Method istmid Calfinaidd. Medi 20, o'r un teulu etto, Dafydd Evans, yn 62 oed. Yr oedd yn selod gvda'r Bedyddwyr Neillduol er y flwyddyn 1827. Claddwyd y tri vn mynwent Caersalem Newydd, pan y gweinyddwyd gan y Parchn. B. A. Jones, Bethesda; I). Tho- mas, Glandwr; a D. W. Morris, Bethlehem. Awst 21, yn Chicago, Illinois, Gogledd America, ar ol nychdod o tua 3 neu 4 mis, Mr. W. Price, Fferyllydd gynt o Narberth a Briton Ferry, a mab y Parch. Henry Price, Rhydwilym. Taith fer, yn llawn o helbul.

(Krefytldol.

CYFARFOD GWIR BWYSIG.

ABERDAR.

TIPYN 0 HANES Y NORTH.

DIWYGIAD CREFYDDOL YN Y GADLYS,…

TYSTEB Y PARCH. T. WILLIAMS,…

ATHROFA HWLFFORDD.