Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

fattesicm Ci#tveMtmL

News
Cite
Share

fattesicm Ci#tveMtmL TERFYSG YN LLUNDAIN. Ymddengys i derfysg pwysig gymraeryd lie boreu dydd Mercher, Ionawr 16eg, yn nghymmydogaeth Whiterhapel. Torodd tyrfa fawr o lafurwyr, ac ereill allan o waith, i siopau y pobyddion, a lledratasant y bara oedd ynddynt. Dywedir fod yr hedd- geidwaid yn hollol analluog i gyfryngu i'w darostwng am c,Y gryn amser. TRETHI An BOB PETH.-Mewn gohebiacth swyddogol yn mherthynas i drefedigaeth y Natal yn Affrica, sydd newydd gael jd chyhoeddi gan swyddfa y Drefedigaeth, cyfeirir at dreth o 7s. ar bob gwraig yn y drefedigaeth hono, fel y bydd raid i Gaffre yn meddu chwech o wragedd, dalu 42s. yn y flwyddyn i'r Llywodraeth." Gosodwyd y dreth ar y cyntaf trwy orchymyn yr Is-Lyw. odraethwr fel tad ei wlad, ond sefydlwyd hi ar ol hyny gan gyfraith Seneddol. ACHOS MISS AYLWAHD.—Mae achos Miss Avlward, y foneddiges Babaidd, yr hon sydd yn dyoddef carchariad am beidio rhoddi plentyn Protestanaidd i fyny i'w gwarcheidwaid cyfreithlawn, yn parhau i greu cyffro mawr yn yr Iwerddon. Edrychir arni gan y Pabyddion fel merthyres, ac y mae pob tebygolrwydd yn bresenol, y bydd i'w henw gael ei restru yn mhlith y saint Pabaidd. Mewn cyfarfod a gynnaliwyd yn Dublin dydd Mercher diweddaf, traddododd yr archesgob Pabaidd, ac amryw glerigwyr, areithiau ar garchariad Miss Avlward, gan ei osod allan fel yr erlidigaeth fwyaf gwarthus a gymmerodd le erioed. Codir trysorfa yn yr Iwerddon i dalu y treul- iadau yr aethpwyd iddynt wrth ei hamddiffyn. Pan y mae deiliaid Prydain yn dangos y fath ysbryd a hwn, nid yw yn rhyfedd yn y byd fod y Pab yn parhau i wrthod rhoddi y plentyn Mortara i fyny. TRETH FLYNYDDOL EDINBURGH.—Y inae Mr. Adam Black, mewn llythyr a anfonwyd ganddo at amryw o glerigwyr Ysgotland, y rhai ydynt yn wrthwynebol i Ysgrif y Dreth Flynyddol, yn amddiffyn mesur ei gyd- aelod fel y goreu y gellid ar hyn o bryd ei lunio i eonill cefnogaeth Ty y Cyffredin. Mae efe hefyd yn cyfeirio at y llythyr diweddar a gyhoeddwyd gan Mr. Bright ar y pwnc, yr hwn, yn ol ei farn ef, sydd yn anwybodus o deilyngdod y cwestiwn, gan iddo ef wrthod cymmeryd un drafferth gyda'r ysgrif pan oedd yn pasio drwy Dy y Cyffredin; ac am hyny, barnai Mr. Black nad ydyw yn deg i Mr. Bright yn awr ddefnyddio ei ddylanwad i gyn- nydda'r ymryson. Trwy gyd-darawiad Hed hynod, ym- ddangosodd ail lythyr oddiwrth Mr. Bright ar yr un amser ag epistol Mr. Black, ac ymddengys ei fod yn cyn- nwys atebiad iddo, canys y mae yr aelod dros Birming- ham yn dangos ei fod ef wedi cymmeryd y dyddordeb yn yr ysgrif trwy ei chondemnio hi a'r cwrs a gymmerasid gan yr Arglwydd Amddiffynwr. JOHN ANDERSON, Y CAETHWAS FFOEDIG.-Dydd Mawrth, Ionawr 15fed, gofynodd Mr Edwin James i Lys y Frenines am wys habeas corpus, i ddwyn i fyny gorff John Anderson, y caethwas ffoedig a brofwyd yn ddi- weddar yn Canada. Wedi gwneyd y cais, ymneillduodd y barnwyr am ycbydig amser i ymgynghori, ac wedi dychwelyd, hysbysodd y Prif Arglwydd Farnwr Cock- burn fod y Ilys o'r farn y dylid rhoddi y wys. Dywedodd hefyd fod y barnwyr yn ystyried yr annghyfleusdra a allai ddeilliaw oddiwrth y cyfryw weithrediad; ond yr oedd yn sglur fod y llys yn meddu awdurdod, a bwriedid ei ddef- nyddio, er y gellid edrych arno fel yn annghysson a'r an- nibyniacth hono ag oedd yn ffynu yn nhrefedignctb Canada. Y canlyniad fydd, fe ddygir Anderson yma i'w brofi, yr hyn a fydd yn sicr o wneyd yr achos yn dra dyddorol. Ar ol dedfryd barnwyr Canada, y mae yn an- whosibl dywedyd pa fodd y penderfynir yr achos yma, ond flid oes un ddadl na bydd teimlad pobl y wlad hon yn gyffredinol o blaid i'r carcharor gael mwynhau y rhyddid ag y mae efe wedi ei fwynhau yn Canada am gynnifer o flynyddoedd. Dichon fod rhai yn barod i dybied fod Llys y Frenines, wrth ganiatau gwys habeas corpus, eisoes wedi penderfynu yr achos-y bydd Anderson yn rhydd oddiwrth reolaeth ei feistr y mynyd y rhydd efe ei droed i lawr ar dir Lloegr, ac nas gall neb byth honi hawl ynddo fel caethwas. Y mae yn ddiamheu fod hyn yn wir; ond yn anffodus, nid yw yn dal perthynas a'r cwestiwn sydd i gael ei godi. Gofynir Anderson, nid fel caethwas, ond fel llofrudd a'r cwestiwn yw, nid pa un a amddiffyna y llvsoedd hawliau meistr i gaethwas ar dir Lloegr, ond pa beth ydyw llofruddiaeth yn ol y cytundeb sydd rhwng Canada a'r Unol Dalaethau. Os cytuna Llys y Frenines yn Lloegr a Llys y Frenines yn Canada, bydd America yn meddu hawl o dan y cytundeb i gael meddiant o'r Negro, ac nid oes dim yn nghyfreithiau y wlad hon i attal i hyny gymmeryd lie. Os bydd y dded- fryd yn ffafr y Negro, bydd yn gerydd o eiddo yr awdur- dod uchaf ar gyfreithiau ac arferion yr Unol Dalaethau ond, os ar y llaw arall, y bydd y ddedfryd yn erbyn y Negro, diau y cynnyrcbir eyffre annghySfcdin trwy yr holl wlad hon.

r FFRAINC..

ITALY.