Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TAFARNWR A'R MEDDWYN.

News
Cite
Share

Y TAFARNWR A'R MEDDWYN. Y DYDD o'r blaen darllenasom adrodd- iad o gyfarfod blynyddol Cymdeithas Gwerthwyr Diodydd Meddwol, a gyn- aliwyd yn Llandudno. Ac yn araeth y llywydd, ar ei ymadawiad o'r gadair, nyni a gawsom yr ymadrodd hyn A drunken man was a curse and a nuisance to everybody, and no one was more interested than the publican in getting rid of him." Os yw yr adroddiad yn gywir-ac y mae yn debyg ei fod-dyna ddadganiad tafarnwr am y meddwyn: ei fod yn felldith ac yn gasbeth i bawb, ac nad oes neb yn fwy ei fudd o gael gwared o hono na'r tafarnwr! Yn mhell- ach yn mlaen ceir y dywedwyd, yn yr un cyfarfod, gan gyfreithiwr o Gaernar- fon, na byddai cymeryd ymaith drwy- dded unrhyw dafarnwr heb achos digonol amgen nag yspeiliad o'r nod- Wedd waethaf, Yn awr, atolwg, pwy sydd yn gwneyd y meddwyn Rhaid, ateb mai y tafarnwr, y gwr sydd yn gwerthu y ddiod feddwol. Nid oes bosibl gwadu hyny. Ac onid yw yn achos digonol i gymeryd oddiarno y gallu sydd ganddo i wneyd dyn yn ^lldith a chasbeth i bawb ? Nid peth bychan yw gwneyd dyn yn beth mor ofnadwy a bod yn felldith a nuisance.' •^id dy Ie, nid dyna nodwedd briodol dyn mewn cymdeithas. Ac y mae y tafarnwr wrth roddi y gostrel i'w gymy- dog ac yn ei feddwi yn gwneyd y camwri gwaethaf a'r dyn hwnw ei hun, a chyda hyny yn gwneyd y camwri mwyaf a chymdeithas wrth ei ollwng-wrth ollwng miloedd oddynion a merched i fod Yll felldith i bawb. Rhaid fod gweision cyflog y tafarnwyr yn siarad heb "logjc" gystal ag heb gydwybod. Ond ^ruan o'r dyn meddw Y mae y gwr a 1 gwnaeth yn feddwyn yn addef nad Oes gan neb fuddiant mwy nag ef o gael Scared ohono—heb roddi compensa- tlon" iddo, yn ddiau. Wedi i'r tafarnwr ^neyd y dyn sobr y feddwyn, ei nod yw "getting rid of him"—i'r, Workhouse," i'r asylum, neu i'r carchar ar crogbren, neu i fedd anamserol ni ^v.aeth i ba le, ond cael getting rid of Ond y mae ffordd fwy rhagorol. Nid §vvneyd y dyn y feddwyn, ac yna bod fwy "interested" na neb arall "in *>etting rid of him," ond ei gadw rhag ^ed yn feddwyn. Ac y mae ffordd ttffaeledig i hyny. Nid rhoddi diod ^odwol iddo, a chymaint o honi fel ag i y Fasnach yn llwyddianus—cadw >a.rn ar gyfer llai na deucant o drigolion cuyfrif pawb, mewn pentref. Na, nid y 0fdd hono. Yn yr un papur ag y glvelsorn hanes cyfarfod y tafarnwyr I ^e^°m mewn colofnau cyfochrog ad- j, Quiad o gyfarfod blynyddolCymdeithas tfirwestol Sir Ddinbych a'r Cylch, a MHaliwyoi yn Llanelwy 0 dan lywy- laeth Mr. J. Herbert Roberts, A.S. rncan y Gymdeithas hon yw cadw «(<n yn sobr, a chynorthwyo y tafarnwr n getting rid o'r dyn meddw trwy eyd dirwestwr o hono. Aï chvnllun P^rswadio y Senedd a'r Ustustiaid i "Hid yr achos o'r "curse and nuisance. fUd iawer gwaith y dywedwyd mewn ton augoliaethus nas gellir gwneyd d n y m°kr trwy Weithred Seneddol. Ond cul ae Weithred a ddaeth i rym ddydd n eleni yr un funud a phe byddai am n^er Hed dda yn sobr, beth y ag> am dair blynedd. Modd bynag, ae genym ni gryn gred mewn Act Seneddol gyfiawn a da. Yr ydym yn credu mewn cadw yr ellyn o gyraedd y plentyn, yr ydym yn credu mewn cym- eryd y llawddrull llwythog o law y bachgen sydd yn chwareu ag ef. Gwna y Ddeddf newydd beth yn y ffordd hon ac yr ydym yn hyderus fod "mwy i ganlyn" -yn y man. Ond mal y dywedodd Mr. Herbert Roberts yn Llanelwy. Tra yr ydym yn Ilawen o weled arwyddion o gynydd yn y diwygiad parth trwyddedu, rhaid cofio na wna deddfwriaeth mewn unrhyw gylch o fywyd na rhan o'r gwaith angenrheidiol tuag at welihad y bobl. Cynyrch a mynegiant o'r farn gyhoeddus fydd yn ffynu mewn gwlad ar gwestiwn o dan yatyriaeth deddfwriaeth, ac y mae perygl bob amser i basio deddf newydd beri lIawenydda difaterwch yn mhlith y rhai aymladdasant yn ddewr am flynydda u am i'w syniadau gael eu cortIori mewn Deddf Seneddol. Na feddylied neb fod pasio yr Act newydd yn rhoddi hawl i lacio am foment yn yr ymdrech yn mhlaid achos Dirwest. Y pwnc mawr ydyw creu opiniwn cy- hoeddus iach a chryf ar y cwestiwn o yfed diod alcohol. Rhan o'r gwaith hwnw yw defnyddio pob mantais gyfreithlon i symud yr hudoliaethau a'r temtas'ynau i greu a phorthi blys a fydd yn rhwystr i ffurfio barn gywir, neu o leiaf i roddi grym iddi, ar y mater. Y mae gan y Cyfarfod Dirwest, y Sul Dirwest, y Band of Hope a'ruHol- wyddorydd Dirwestol" fyth eu lie a'u gwaith. Y mae eisiau adgofio y bobl, o'r hyn sydd wedi ei brofi, nad oes dim maeth mewn alcohol, fod alcohol yn wenwyn y y mae pob mesur o hono yn peri mesur o niwaid i'r cyfansoddiad. Y mae eisiau dangos mai yr unig beth posibl a ellir ei gyfrif dros gymeryd diod feddwol ydyw hoffder o honi. Ac yna daw y cwestiwn difrifol—cwestiwn a raid apelio at reswm a chydwybod dyn—a ydyw yn iawn boddhau blys pan y mae y ddiod a wna hyny yn gwneyd y fath alanasdra o'n cylch ? A ydyw yn iawn i ni ymarfer a'r hyn sydd mor beryglus i ni ein hunain ? A all mas- nach sydd yn achos o'r fath drueni ag a gynytchir gan ddiod alcohol fod yn fasnach barchus-na, a all hi fod mewn gwirionedd yn fasnach gyfreithlon ? A yw yn bosibl i fasnach sydd yn gwneyd meddwyn i fod yn "curse ac nuisance" i bawb-a ydyw yn bosibl iddi fod yn gyfreithlon ? Er mwyn getting rid "» or meddwyn rhaid getting rid o'r fasnaeh-o'r tafarnwr.

BUDDUGOLIAETH !

, CYFLWR YSPRYDOL EIN HEGLWYSI.