Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"Y WASG.\, --

News
Cite
Share

Y WASG. Yr Eurgrawn Wesleyaidd. Dan Olygiaeth, y Parch. HUGH JONES, D.D. Bangor; Y Llyfrfa Wesleyaidd. Pris. 4c. Y mae hyd yn nod frysdrem dros Gynwysiad y rhifyn am y mis hwn, yn codi dysgwyliadau, ac yn cymell brys i dori y dalenau, ac hwyrach ormod o frys am brofi bias yr erthyglau, yn gymaint nes bod bron yn ffwdanus, ac yn aoa. wyddo at geisio darllen yr holl erthyglau ar unwaith. Y mae pwysau yn y testynau, a phwysau, drachefn, nid ychydiig yn enwau aw- duron yr erthyglau arnynt, mai mai nid rhyf- edd y bydd i'r rhifyn hwn dynu ato gyda chryn rym. Dechreuir gyda Chofiant Samuel Davies, gan y Golygydd. mae yn dda genym hyny • yn dda genym fod y Cofiant wedi ei ddechreu, ac fod y rhifyn yn dechreu gyda'r Cofiant. Credwn mai yn nechreu y rhifyn y mae lie y Cofiantau; a diau foci pawb yn uinfarn mai dyna Ie Cofiant Samuel Davies yn anad un- gwr. Nid oes angen dyweyd dim am y Cofiant. JXid oes neb ar gael heddyw nid a adwaenai Samuel Davies yn well, ond cystal a Golygydd yr Eurgrawn,' ac y mae hyn yn ddigon. Y mae Ysgol Hegel ar Ryddid yr Ewyllys vn ngofal meistr—y Parch. Owen Evans. Bydd 1 bob darllenydd meddylgar gael porthiant yn yr ysgnf h,on. Gobeithio fod llawer iawn o wyr ieuainc yn derbyn yr 'Eurgrawn,' ac y darllenant yr erthygl hon yn ofalus. Byddai noson gyda hi yn y Cymdeithasau Diwylliadol o gryn lawer gwerthfawrocach fel moddion di- wylliant nag hyd yn nod 'wiedd ardderchog' mewn swper coifS. Gwyr pawb mai y Parch. R. Lloyd Jones ydyw ceidwad yr athrawiaeth yn ein Cyfund'eb ni yn Nghymru ac y mae y Than liaenaf o Adolygiad o'i eiddo ar Araeth Dr. Cynddylan1 Jones o gadair Cymanfa y Methodistiaid Calfinaidd' yn y rhifyn hwn. Mater cyntaf Dr. Jones yn ei Anerchiad yw y Gcruwchnatuiriol mewn Cristionogaeth, ac y mae Mr. Lloyd Jones yn dadgan mai Y tir a gymer efe yw yr unig dir dyogel mewn per- thynas a'r uwchfeirniadaeth y clywir cymaint yn ei chylch.' Yn yr ail adran o Anerchiad Dr. J ones—' Yr Elfen Efengylaidd yn y Gor- llwchnaturiol '-y mae Mr. Lloyd Jones yn gwa- haniaethu oddiwrtlio ar Bechod Gwreiddiol, er ei fod yn cael ei gario gan y Dr. mewn petliau eraill ynddi 'i raddau helaeth.' Yr Elfen Galfinaidd yn yr Athrawiaethau Efengylaidd' yw trydydd mater araeth Dr. Cynddylan Jones, ac, fel y gallesid dysgwyl, ar y rhan hono y mae baich yr adolygiad. Pa un bynag a gyd- welir a'r Adolygydd yn mhob peth ai peidio, y mac yr adolygiad yn werth ei darllen yn ef- rydgar. Modd bynag, wrth ddarllen y para- graff a ddechreua ar waelod t.d. 59, cawsom ein hunain bron yn ddiarwybod yn gofyn, Beth am yr angylicn a bechant ? Dena ysgrif Gwynfryn ni nid yn unig gan ei thestyn, ond hefyd gan ei harddull. Ac nid ydym yn hollol sicr pe buasai Gwynfryn, er cymaint ein medd- wl o hono, yn agos atom., na buasai perygl i ni blicio ei wallt. Paham y dechreua ei ysgrif heb nac enw na rhagenw yn ei brawddeg gyn- taf ? Gwir fod yr arddodiad rhagenwol iddo yn nechreu yr ail frawddeg—ond i bwy ? Rhy ddrwg yw nad oes atebiad nes na phenawd yr ysgrif. Nid yw Mr. Jones ar ei ben ei hun yn y camwedd o adael a. o flaen- berfau allan. Mor ddigrif a fyddai, Ni ddywedasom' pan y bwriadem gyfleu v ffaith ein bod wedi dyweyd rhywbeth penodol! Eithr y mae troseddwyr eraill yn y rhifyn hwn o'r gyfraith hon.' Ty- bed, hefyd, na ddyru Gwynfryn y clod yn rhy holloi i Pryce Hughes am y neivid y rhydd, efe gredyd iddo ar ben t.d. 71 ? Yn sicr hefyd, gwnaeth Alexander M'Aulay rywbeth yn y cy- feiriad cyn. fod Mr. Hughes ar y llwyfan. Y raae Dalen Dirwest yn newydd, ac yn sicr o fod yn ddalen bwysig ac y mae Astell y Llyfr- au yn yrnddangos yn bur olygus a deniadol. Wrth gwrs, y mae y nodiadau am y Rhai a Hunasant yn deilwng o'u lie, ac yn werth i'w darllen. Y mae gweddnodau Emynyddiaeth Wesleyaidd, gan y Parch. T. J. Humphreys; Hen Gymeriadau Da, gan loan Glan Mienai; Cyfieithiad yr Ysgrythyrau, gan y Parch. O. Williams; Hamddenau gyda Phaul, gan y Parch. J. Humphreys; a'r Genadaeth, gan y Parch. J. R. Ellis yn adnabyddus eisoes, ac y mae eu dyddordeb a'u gwerth yn y rhifyn hwn heb fod yn ol i'r peth oeddynt yn rhifynau blaenorol. Da genym weled arwyddion o eang- iad yn nghylchrediad yr 'Eurgrawn.' 0 na chaffai le yn mhob teulu Wesleyaidd, a der- byniad gan y cannoedd pobl ieuainc sydd heb fod yn bvw gartref! Pe darllenid yr Eur- grawn,' gellid fforddio gadael i'r Home Mes- senger,' a'i debyg, fyned i chwilio am lety. Y mae gormod o'n pobl yn croesawu 'goody- goodies o'r dras ar draul esgeuluso yr Eur- grawn.' Y IV in I Jan. Dan Olygiaeth y Parch. JOHN" HUMPHREYS. Bangor: y Llyfrfa Wesley- aidd. Pris lc. Yn gyntaf ell, yn v rhifyn hwn (Chwefror), gvyneir ni yn adnabyddus, trwy gyfrwng darlun a braslun gan Mr. John Marsden, o wr da o'r enw Lewis Thomas, o Rymni: defnyddiol mewn byd ac eglwys. Y mae efe yn Ynad Ileddwch. ac 'wedi llenwi pob swydd sydd yn agored i leypwr'—ond bod yn bregethwr-yn ei Dal- aet'h. Ceir pennod "ddyddcrol arali ar Thomas- A.ubrey, gan Dr. II. Jones. Y mae yr ail bennod 0 Helynticn fv Mywyd' eto yn eithaf dyddorol, ac vnddi ami wers dda megys yn d-damweiniol. Y mae Y Mis a'r 1 Gelfyddyd o VyW • a'r Cvfeillicn yn v rhifyn hwn hefyd. 'n \c y ma- Prawf v ddau Ddluiw'—yr ysgrif yn well na'r teitl. Y ddadl oedd, Pwy oedd Dduw' Un Duw Sydd. Y mae yn y rhifyn Itefyd Farddoniaeth, a Cherddonaeth, a darn- an eraill y bydd v plant yn falch o honynt. -uorr-

Family Notices

MR. EDWARD MORGAN, MEIFOD.…

CYNADLEDD ADDYSG CAERDYDD.

ARIANDY GOGLEDD A DEHEUDIR…

Cyfarfodydd ChwarteroJ.

Y DYDDIADUR AM 1903.