Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Cafwyd gwleid Gymreig yn Llundain nos Fercher diweddaf, gan yr Henadur D. Evans. Eistedda yr henadur Evans ar Gynghor Dinas Llundain dros Castle Baynard Ward, yr hon a enillodd gyda mwyafrif gorthreehol. Brodor o Lantri- sant ydyw. Mae yn codi i safle mor bwysig yn mysg ei gydgynghorwyr, fel y mae gan ei gyfeillion bob lie i hyderu y éaiff vn mhen ychydig flvnyddau ei ddyrchafu i swydd uchaf y ddinas, sef yn Arglwvdd Faer. Y mae bellach 170 o flynyddoedd er pan fu Cymro yn y swydd urddasol hono, yn mherson Syr William Humphrey, yr hwn hefyd yw yr unig un erioed a freintiwyd a'r anrhydedd. Yr oedd lluaws o brif gofnogwyr yr Henadur Evans yn bresenol, ac amryw aelodau Seneddol Cymreig, yn mhlith y rhai y caed anercbiadau gwresog a byrion ar faterion gwleidyddol gan Syr Edward Reed, A.S., a Mr. Henry Bichard, A.S.
[No title]
News
Cite
Share
Hysbysir fod bywoliaeth bwysig plwyf Llanbeblig, Caernarfon, a wnaed yn wag drwy ymddiswyddiad y Parch. Canon Evans, wedi ei cbynyg gan Esgob Caer i'r Parch. John Wynne Jones, rector Llanbebr Velfrey. Bu Mr. Jones yn gurad yn Nghaernarfon dan y diweddar Ddeon Edwards, pan oedd efe yn rector y lie hwnw. Apwyntiwyd Mr. Jones i fywol- aeth Llanbedr pan ddyrchafwyd yr Arch- ddiacon Lewis yn Esgob Llandaff. Tebyg iawn yw y boddha y penodiad hwn drig- olion Caernarfon 011.
[No title]
News
Cite
Share
¡¡ 'I j.'U,! Cymer y seremoni o agor Coleg Gogledd Cymruyn Mangorleyr wythnos nesaf, yr 17eg a'r ISfed cyfisol, ac y mae y sereihoui y addaw y bydd yn un urddasol ac anrhyd- eddus. Cynaliodd trefwyr Bangor gwrdd cyhoeddus nos Fercher diweddaf, yn yr hwn y cadarnhawyd holl drefniadau pwyllgor y coleg yn ngtyn ar seremoni, a phasiwyd hefyd fod arddangosiad mawr- eddog, teilwng o'r dref a'r achlysur, i gy- meryd lie. Bydd y rhaglen rywbeth i'r perwyl yma:—Ddydd Gwener, yr 17eg, ymgyferfydd pwyllgor y Coleg yn y sef- ydliad, a dilynir bwy gan gyfarfod o lys y Llywodraethwyr. Dydd Sadwrn, traddoda Llywydd y Cynghor, Arglwydd Powis, yr Araeth agoriadol yn Neuadd y Penrhyn, ac ar ol hyn ymffurfir yn orymdaith, yr hon a wneir i fyny o Arglwydd-raglawiaid Gogledd Cymru, aelodau y Cynghor a llys y Llywodraethwyr, aelodau seneddol y Dywysoeaeth (y rhai sydd wedi arwyddo eu parodrwydd i fod yn bresenol), swydd- ogion y coleg, maerod a chynghorwyr gwahanol drefi corfforedig y chwe' sir, cadeiryddion y byrddau ysgol a'r byrddau lleol, uchel-siryddion, prifgwnstabliaid, clerigwyr a gweinidogion o bob enwad, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Gwelir fel hyn .y bydd yne, ddigon o rwysg, a lie i bawb gymeryd rhan yn y seremoni agoriadol. Y mae dyfodol y Coleg yn addawol, ac nid oes gan Gymru eto ddim i'w wneud ond gwthio ar y Llywodraeth i roddi iddi Fesur Addysg Ganolraddol, gan nas gellir dysgwyl y bydd genym systmi addysgol agos i berflaith hyd nes y ceir hwnw i rym. Tra yn son am y Colegau, llawenydd o'r mwyaf i ni yw deall fod Coleg Aber- ystwyth Wedi dechreu ei dymhorpresenol gyda nifer mwy o efrydwyr nag ar unrhyw dymhor er ei gychwyniad. Y rhif diwedd- araf ydyw 96, ond y mae lie cryf i gredu y bydd yn mhen ychydig wythnosau wedi cyrhaedd y tri ffigiwr. Gresyn mawr fod y coleg hwn, sydd hyd yn hyn wedi gweithio mor odidog, wedi ei ddiystyru gymaint gan y Llywodraetb,. ac y mae hyny yn sarhad ar y rhai a ymdrechasant mor lafurfawr ac egniol er ei godi na ddylid ei odlef yn hir. Ceisir cynhyrfu ychydig ar y byd bardd- ol y dyddiau hyn, wedi cadeiriad y bardd Dyfed yn Eisteddfod Le'rpwl. Tystiai y beirniaid fod teilyngdod oiawr mewn amryw o'r awdlau oedd yn y gys- tadleuaeth ar y testun godidog, "Hiraetb- og." Y ddau oreu oeddynt "Wylofus," a "Murmur Aled,"ond dyfarnwyd yr olaf yn rhagori. Ysgrifena Wylofus i rai papyrau Seisonig a Chymreig i ddatgan, yn ol geiriad y feirniadaeth, fod cam wedi ei wrifiud ag ef Metha a deall pa fodd y gwobrwywyd Dyfed tra yr oedd yn ei awdl ddiffygion yn cael eu nodi gan y beirniaid, ac na nodid dim diffygion yn ei awd1 ef. Bydd i awdl Wylofus (Dewi Wyn o Essyllt) gael ei chyhoeddi yn fuan. Mae yn sicr y cyhoeddir y fuddugol hefyd, a chaiff y wlad roddi ei dedfryd pa un a wnaed cam ai peidio. Mae llawer yn eiddigeddn at lwyddiant y bardd ieuanc- Dyfed. Fodd bynag, y mae lhai darnau a glywsom eu darllen yn Le'rpwl o'i awdl ar yr anfarwol Hiraethog yn odidog A nerthol iawn, a buan y cyhoedder hi er tawelu y cynhwrf a geisir godi yn rjghylch ei theilyngdod a'i rhagoriaeth i gael gwobr a chadair Eisteddfod Genedlaethol Le'rpwl, 1884.
[No title]
News
Cite
Share
i' h'' Torodd tan- dinystriol allan y nos o'r blaen yn ffermdy Plasucha, Rhiwabon. Tua chanol nps darganfyddwyd fod amryw o deisi ar dan. Dygwyd peirianau i fyny yn ddiatreg o Wrecsam a Rhiwabon, ond o herwydd y tywydd sych, metbid a chael ond ychydig ddwfr. Llosgwyd saith das wair a gwenith yn llwyr. Gwneir y golled i fyny, yr hon sydd yn bur drom, gan ys- wiriaeth. Tybir mai gwaitli rhyw adyn mileiuig ydoedd y cwbl..
[No title]
News
Cite
Share
JL,. Cymerodd damwain ofidus-oble,id dyna ydyw hyd nes y profir yn wahanol- Ie yn Bethesda prydnawn Sadwrn di- weddaf, pryd y saethwyd chwarelwr ieu- anc o'r enw John Jones, o Penybryn, yn ei ben gan Isaac Hughes, labrwr amaeth- yddol, o Coed Farm, Llanllechid. Ym- ddengys i Hughes, yr hwn oedd wedi bod yn yfed yn ystod y dydd, fyned at oriel saethu mewn congl o High street, a cheis- iodd gan yr hon oedd yn cymeryd gofal y lie gael saethu. Gan ei fod yn lied feddw, gwrthododd iddo ei ddymuniad. Pan dynwyd sylw y wraig, rhuthrodd Hughes at ddryll llawn, ac yr oedd ar danio i mewn pan y ceisiodd y ddynes ei ( atal, a gafaelodd yn y dryll. Ond daliodd I Hughes yn benderfynol, ac yn yr ymrafael d- cwympodd y cocked triggar, ac aeth v • nwys y dryll ymaith, gan ddisgyn ar be1 John Jones, yr hwn a safai gryn belled oddiwrth yr oriel. Cariwvd y truan meM sefvllfa hollol anymwybodol i'w gartre ond diangodd Hughes yn ddychrynedig gwyllt o'r lie. Gwysiwyd Dr. Robert Bangor, a Dr. Hughes, Bethesda, i wei yddu ar y dyn a anafwyd, a chanfyddwy1 fod bwled wedi myned i'w ymenydd dry yr ochr chwith, uwchTaw ei glust. 1 oedd yr anaf yn amryw fodfeddi o ddyffl' der, ac anmhosibl oedd ei thynu allag Hyd 5 o'r gloch nos Sadwrn, yr oed Jones mewn sefyllfa ddifrifol, ac ni ddys. gwylid iddo fyw yn hir. Daliwyd Hughe gan heddgeidwad yn Coed Farm, we cuddio ei hun mewn cwpbwrdd. Acho odd yr amgylchiad gyffro dirfawr y Bethesda.
[No title]
News
Cite
Share
——-——————-— Cyffrowyd ardalwyr Criccieth a PortV madog a'r cyffiniau boreu Gwener diwedd- af gan y newydd fod dyn wedi cael hyd i a fwndel o ddillad dan geryg ar draetlf Criccieth. Yn y pocedi, yr oedd r lly'ch)'1 a ganlyn:—"Mae perchenog y A ethau? hyl dan y tonau. Mae ei foes, gyda' i env arno, Parch. W. D. Evans, yn jngorsa' Criccieth. Os gwel yrawdurddotdau y" dda anfoner ef i'w d:9', Strata Florida Aberteifi. Goheber a'm brawd-yn--nghyf' raith, Mr. David Jones, Maesyllan, gf., Tregaron, Aberteifi. Gwelwyd y trancedlg t yn Nghriccieth; cafodd de mewn gwestý,' dirwestol, a gadawodd y lie hwnw tua 9 o'r gloch er cael y gerbydres olaf am Portb' madog. Derbyniodd Sergeant Parry hyS' j bysrwydd fod dyn yn ateb i'r desgrifiad roddid o Evans wedi ei weled tua 6 boreo Gwener yn myned o'r lie y caed y dilla^j Dyna'r peth olaf a wyddys dano. llawer o'r ardalwyr dan yr argraff nad yO Evans "dan y tonau." Gwnaed yinchwil' iad trwyadl am y corff pan cedd y dwfr yl1 isel, ond ni chaed dim ol o'r colledig. ft 0 e oedd y trancedig yny cymydogaethau ef dechreu yr wythnos, yn gwerthu ei 1yfr at Dros y Cyfandir a'r Werydd." Pregetb' wr ydoedd gyda'r Trefnyddion Calfinaiddj wedi ei ordeinio yn 1874. Beth achosod<j iddo ddinystrio ei hun, o&yw wedi gwneu<> hyny, nid ymddengys fod neb yn gwybod,
[No title]
News
Cite
Share
THROAT IRKITATION.—Soreuesa and Iryness, tick I lug and irritation, inducing cough ao i atfeetio* the voice. For these symptoms use EPP'S Glyeeti 6 Jujubes In contact with the glands at the momeD1 hey are excited by the act of sucking, th« Glyceric0 in these agreeable coulectioos bee )m''s actively he"¡' ing. Sotdontyir) boxes, nd.. tins is. lnbelle" "JAMEs EpPB & Co., Homoeopathic Chemistfli L u.do A letter receive I: "Gentlemeo,—It may, perhaps, interest you t' know that after an exte 't,r ed trial, I have found your Glycerine to considerable benefit (with or without qjedic»l treatment) in almost all forms of throat disease. They soften and clear the voice. — Vours faithfullY GOKDJN HOLMES M D., Senior Physician to th" Principal Throat and Ear Infirmary.
Advertising
Advertising
Cite
Share
GERDYH.—AT BAWB SYDD YN DYODDEF ODpt" WRTH amryfusedd acannoethineb ieuenctyd, gvyendid gewynawl, darfodediga^th cynar, diffy £ gwroldeb, &G., anfonir cynghor a'ch gwellda, » hyny yn DDIDRAUL. Da.rganfyddwyd Ý feddyginiaeth enwog hon gan genadwr yn Ne' heubarth America. Anf > wch envelope a'cl1 cyfeiriad arni i REV. JOSEPH INMAN, STATION JJ. New York City, U,- » K ■ [ v-O J