Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Y CYNWYSIÂD I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWYSIÂD I Yr Wythnos 1 Nodion Cylfredinol. 2 Adgof uwoh Anghof, gan Gutyn Ebrill on 3 Gohebiaethau 4 Dolgellau 5 O Ben y T'wr 6 Newyddion Oyrnreig 7 Oymra a'r Ad-ddosbarthiad 8 Cyfarfodydd Qwleidyddol 9 Cynullion Americanaidd 10 Barddoniaeth 11 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 12 HynbyBiadaa .12,16
BIRMINGHAM A'R CTFWNG GWLEIDIFDUOL.
News
Cite
Share
BIRMINGHAM A'R CTFWNG GWLEIDIFDUOL. YMGAIS feiddgar, a dweyd y lleiaf, yn y Toriaid ydyw ceisio meddianu y gynrych- iolaeth radicalaidd enwog uchod. A nat- uriol gan hyny, ydoedd iddynt gael arddangosiad yn y cyfwng presenol i ddatgan eu barn. Ddydd Llun diweddaf, cafodd Birmingham y cyfryw arddangosiad ond dylai yr olygfa gaed yno fod yn ddigon i argyhoeddi yr anghredadyn, Ar- dalydd Salisbury fod y wlad eisieu Mesur yr Etholfraint, a bod yna bwynt tudraw i'r hwn y bydd yn beryglus iddo barhau i wrthod dymuniad y genedL Yr oeddys wedi trefnu i gynal nos Lun y cyntaf o gyfres o gyfarfodydd er dangos fod prif- ddinas y Midlands yn ffafr gweithred Ty yr Arglwyddi, ac yn elynol i'r Llywodr- aeth. Mangre y cynulliadau ydoedd Aston Grounds, a'r prif areithwyr oedd- ynt Syr Stafford Northcote ac Arglwydd Randolph Churchill. Mewn neuadd fawr, digon eang i gynwys saith neu wyth mil yr oedd y prif gyfarfod i fod, a'r ail i fod mewn ôkating rink, sydd yr un mor eang, ac yr oedd llwyfanau wedi eu codi mewn amryw fanau eraill. Amcangyfrifir fod tua 130,000 o bersonau wedi ymgynullyn Aston Grounds, ac afreidiol yw dweyd mai Ceidwadwyr oedd y mwyafrif o honynt. Rhenid y tocynau yn rhydd yn mysg yRhyddfrydwyr, ond pan ddechreu- odd y gweithrediadau caufyddwyd mai tocynau gwynion a dderbyniasai y Toriaid, tra mai rhai cochion oedd eiddo y Rhydd- frydwyr, ac mai y rhai a ddalient y tocyn- au gwynion yn unig a ollyngid i mewn. Ymgynullodd cynuIliad mawr o Rydd- my frydwyr siomedig y tuallan, ac yn mhen ychydig dechreuodd y dyrfa ddigofus ystormio y muriau, curo i lawr ddrysau y neuadd, a rhuthro i mewn i ganol yr adeilad, ac yn nghanol cyffro dychrynllyd, meddianwyd y liwyfan ganddynt. Ceisiai y Toriaid adfeddianu eu tir, o thorwyd yr holl ddodrefn, a chymhwyswyd hwy yn arfau gan y naill ochr a'r Hall i gael tD meddiant o'r lie. Ond yr oedd y fintai Ryddfrydig yn rhy nerthol i gyfeilliori yr Arglwyddi yn y neuadd eang a'r skating rink, a'r gwahanollwyfanau algodwyd, fel na wnaed un ymgais i gynal cyfarfodydd, a gorfodwyd tori ifynyyrholl weithrediad- au. Gan fod yn annichonadwy fel hyn i Syr Stafford ac Arglwydd Randolph gael gwneud eu hunain yn glywadwy yn y cyfarfodydd a drefnwyd i'r pwrpas, ym- neillduwyd i westy, lie y traddodwyd ganddynt anerchiadau byrion. Dywedai Syr Stafford fod eu gwrthwynebwyr wedi eu rhwystro hwy i ddwyn yn mlaen eu rhesymau, i'r rhai nas gallent roddi ateb, ac aeth yn mlaen i ddadleu eu bod oil yn dymuno eangiad yr etholfraint, ond fod y Rhyddfrydwyr yn dymuno defnyddio yr achlysur ibwrpasgwahanol. Barnai Arg- lwydd Randolph fod yr etholfa wedi dwyn arni ei hunan waradwydd, ac mai Cham- berlain a'i gyfeillion oeddynt i'w beio fwyaf, ond y caent brofi yn chwerw am hyn adeg yr etholiaa. Dyma enghraifft o deimlad cryf am Fesur yr Etholfraint, a chondemniad diamwys ar weithred yr Arglwyddi. Beth a ddysga Ardalydd Salisbury a'i gynffonwyr oddiwrth hyn tybed?
XC ~ Y FFRANCOD A'R CHINEAID.
News
Cite
Share
XC Y FFRANCOD A'R CHINEAID. Yn ol newyddion a dderbyniwyd ddydd Gwener, ymddengys mai un o ganlyniad- au diweddaf y rhyfel afreolaidd rhwng y brodorion uchod ydoedd gorchfygiad y milwyr Chineaidd rheolaidd, gyda cholled o fil o ddynion. YD ol hysbysrwydd di- weddarach nid milwyr rheolaidd oeddynt, eithr adran wyliedyddol, a dywedir y bydd i'r milwyr Ffrengig wyneb yn mhen ychydig ar brif adran y fyddin Chineaidd. Par hyn i ni ddysgwyl am ychwanego newyddion trychinebus. Ad- l roddir fod caerfeydd Tamsui wedi eu dys- r trywio, ond er hyay parheid y tanbeleniad gan fod y fyddin elynol yn dal i wrthwyn- ebu.
! YR AIPHT A'R SOUDAN.
News
Cite
Share
YR AIPHT A'R SOUDAN. Ar y cyfan, prin yw y newyddion o'r Ileoedd uchod. Mae helynt Llywodraeth y Khedive yn parhau yn ddyryswch o hyd, a dim goleuni eto wedi ei daflu. arno. Am Arglwydd Wolseley, mae ef a'i gad- gyrch yn teithio yn mlaen yn ngwyneb llawer o anhawsderau a pheryglon. Mae y pryder mwyaf yn nghylch diogelwch y Milwriad Stewart, yr hwn y inae'n ofnus lofruddiwyd gan nifer o Arabiaid creulon a bradwrus. Hyd yu hyn, nid oes adrodd- iad swyddogol am yr erchyllwaith wedi ei dderbyn, a gwan iawn ydyw y gobeithion t3 y am ei ddiogelwch.
-....-.., CAIS I \\ DDINYSTRIO…
News
Cite
Share
CAIS I DDINYSTRIO SENEDD-UY CANADA. Gwnaed cais mor fileinig ag ydyw o ynfyd yn Quebec i chwythu i fyny adeil- adau newyddion y Senedd-dy. Ni bu yr ymgais yn llwyddiant hollol, ond dilyn- wyd ef a chanlyniadau o nodwedd pur ddifrifol. Y cyfryw ganlyniadau oeddynt chwilfriwiad y gwaith ceryg i'r fath radd- au fel y bydd yn angenrheidiol ail adeil- adu ei haner. Gwnaed yr ymgais pryd- nawn Sadwrn diweddaf, ac fel y cyffredin o drychinebau ydyddiau hyn, dynamite oedd y sylwedd difrodolfa ddefnyddiwyd gan yr adyn neu y fileiniaid. Pa bwrpas all fod mewn golwg i ddystrywio adeilad- au a godid gan deimlad gwladgarol dinrs- wyr Quebec eu hunain, nis gellir ar hyn o bryd ddyfalu. Cynygir gwobr gan y Llywodraeth am yr olrheiniad a ddilyno yn naliad cyflawnydd neu gyflawnwyr y trosedd.
Y CHOLERA YN ITALI.
News
Cite
Share
Y CHOLERA YN ITALI. Mae yr ymdrechion i leddfu yr achosion lluosog a phoenus fu yn gwneud hafog mor ofnadwy yn Itali wedi bod braidd yn brin mewn llwyddiant. Gwnaeth y meddygon luaws o ddarganfyddiadau anarferol fel achosion o'i ffyniant a'i led- aeniad cryf. Ond er hyn, mae yn gwneud difrod mawr yno. Hyd ddiwedd yr wyth- nos ddiweddaf, ni bu llai na 109 o achos- ion o'r cholera yn Rhufain, a 42 yn Naples. Prin y temtir neb i anturio ymweled a'r lie olaf yn awr, er cymaint ei ardderch- owgrwydd a'i swyn atdyniadol. Bu dau farw yn Genoa, a rhydd y cyfrifon am y talaethau Italaidd i lawri 13i o achosion a 65 o farwolaethau. Mae hyn yn wedd ddifrifol ar amgylchiadau yn Itali. Dy- munol yw gweled amryw mewn gwahan- 01 ranau o'r wlad hon yn dechreu deffroi i godi cronfeydd i leddfu dyoddefaint y trueiniaid yn ngwyneb y galanastra dych- rynllyd a wneir gan y geri hwn yn eu plith.
DIFFYNDOLL.
News
Cite
Share
DIFFYNDOLL. Mae diffyndoll medd un newyddiadur, yn dinystrio y gwaith silk yn Neheudir Ffrainc. Dibyna dros 800,000 am eu bywioliaeth ar y fasnach hon, ond y mae y cynyrchwyr yn Lyons yn canfod nad oes siawns iddynt, os na thynir y doll drom oddiarnyntamedafedd Seisnig, gys- tadlu a masnachwyr Germani a Switzer- land, Yn yr Unol Daieithiau hefyd gwelir fod diffyndoll yn golygu dinystr. 0 dan y diffyndoll, nid yw melinaucotwm N aw Zealand haner mor flodelioly ac y mae yn debyg gyda gweitllydd haiarn. America. Maey cynyrchionyn gorlenwi ac ofnir yjiceir helynt difrifol ar y pwnc