Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
'..:.--SIBRYDION O'R DE.1
News
Cite
Share
SIBRYDION O'R DE. HWHTW. Rhyfedd fel y mae cyfleasderau teithio y blynyddoedd diwsddaf wedi dwyn y pell yn agos a'r agon :yn nes.' Nid oes rhyw auiser maith wedi myned Ijelbio er pan ystyricl taith o'r Gogledd i'r De, gan belled ag yr Y8- tyrir taith o America yn awr. Tetmlai y dyn a fyddai wedi ieithio o Merthyr i MOD, ei fod wedi gweled. rban anferth o'r byd, ond erbyn hyn y u,ao y Gogfedd a'r De wedi d'od yn agos iawn, a aellir teithio yn rhwydd o ben Caergybi i ben Caerdydd mewn un di- wrnod. Par hyn tod Oeheuwyr a Gogledd- wyr yn teimlo rhyw ddyddordeb rhytedd yn ) naill a'r Hall. Yr ydyro bellach wedi ein dwyn i sylweddoii yu well nag erioed y gwirionedd "mai brodyr o'r un bru ydym," ac hyderwn y bydd yr ycbydig newyddion a sibrydir genym yn y golofn hon yn rbyw foddion i'n gwneud yn fwy ffyddlon i gynghor yr Apostol Paul pan y dywedai, Parhaed brawdgarwch." Sibrydir ddarfod i Eglwys Annibynol Pen- bontarogwy gael cyfavfod blyuyddoi rbagorol, Hydref laf a'r 2il, pryd y gwasanaethwyd gan y Parcbn. R. Thomas, Glandwr, D. Sil- yu Evans, Aberdar, a D. Evans, Caerfyrddin. Llawen genym ddeall fod golwg lewyrchus ar yr aobos odata. weinidogaeth y pregethwr ieuanc poblogaidd W. Oscar Owen. Sibrydir mai y Sabtath diweddaf y derh- reuodd y Parch. J. Alun Roberts, B.D., ei weinidogaeth yn Ebenezer, Caerdydd. Y mae yma faes eang, a chredwn ynsicr am Mr. Roberts ei fod y "right man in] the right place." Eiddunwn iddo lawer ojwyddiant. Sibrydir mai y Parch. E. Roberts, Byrwydd, Maldwyn, sydd yn supplio pulpud yr eglwys Selsnig yn Penbontarogwy ar hyn o bryd. Dyma wr ieuanc teilwng sydd yn cyflym ddringo i fyny i boblogrwydd mawr. Pity hefyd fod y Saeson vn dwyn ymaith ein dyn- ion ieuainc talentog. Ond atolwg ai nid yw baich y cytrifoldeb yn syrthio ar eglwysi Cymre!geingwlad? Dydd Llun diweddaf y cynaliodd hen Eg lwyø barchua y Groeswen e1 chyfarfod diolchr garwch am y cynhauaf. Yn yr hwyr preg- ethwyd yn lymus ac effeithiol gan ei gvreini- dog, y Parch. C. Tawelfryn Thomas. Yn gynar yn y mis nesaf bwriada y Parch. Towyn Jones, Gwernllwyn, Donlais, ddech. reu ar ei weinidogaeth yn Owmaman. Y mae Cwmaman yn hen eglwys barchus, ac wedi mwynhau ar hyd y blynyddoedd ddon- iau pregethwrol oradd uchel a phoblogaidd. Eiddanwu I Mr. Jones iechyd corfforol, ac yna ni phetruswn brophwydo iddo ddyfodol teilwng o'i ragilaeno:iatd enwog, oblegid rhestrir ef eisoes yn mysg rhan flaenaf preg- ethwyr ieuainc poblogaidd ei < nwad. Da frawd, dos rhagot at Urffeithrwydd. Rbaid terfynu yn awr, ceweh ragor o sibrydion y tro nesaf,
PENRHYNDEUDRAETH.
News
Cite
Share
PENRHYNDEUDRAETH. Ar yr 28ain a'r 29ain cynfisol, cynaliodd yr Annibynwyr yn y lie hwn eu gwyl bregethu flynyddol. Y gweinidogion oeddynt y Pavchn. Thomaa Jones, Tabor; D. S. Davies, Bangor; a H. Ivor Jqnes, Llanrwat. Cawsom gyfarfod rhagorol iawn. Non Fawrth dilynal, pregeth- odd y Parch. R. Powell, Drefnewydd; n nos Weneryroedd y Parch. J. H. Hughes (Iauan o Leyn) yn pregetho yno. Ymddengys mai galw ar eu teithiau ddarfu y ddau wr parchedig diweddaf. GOHEBYDD.
YMWELIAD A THREFRIW.
News
Cite
Share
YMWELIAD A THREFRIW. Nid yw yn rhyfedd yn y byd fod y fath gyrchu i'r llanercb. hyfryd ac iachus hwu, nid yn unig am fod 'Dwfr y Caecoch' yn gryf ac yn feddyg- iaethol dioa ben, ond mae yr awyr i'w theimlo nior dymherus a meddal, nes peri i'rymwelydd feddwl a chredu ei fod yn bwyta iechyd yn dameidiau bob boreu. Mae yr olygfa ar ddy- ffryn Conwy, a'r gelltydd coediog sydd o bob tu iddo, yn ddigon brou i chwi anghofio gwlad eich genedigaeth. Tai newyddion wedi eu hadeiladu, y rhai sydd yn ymddangos fel palasdai, a rhod- feydd a b'odau, a'r rhai hyny yn perarogli hyd yn mhell o gylch yr aneddau, ac oddifewn wedi eu dodrefnu yn addas i dderbyn ymwelwyr o'r dosbarth uchaf os bydd eisieu. Mae yma Eg- lwys Blwyfol mewn order da o ran adeilad, ond mae y fynwent yn cael ei gadael yu lied after. Aethum i'r fynwent, ac wrth ddarllen enwau lluaws o farwolion, daethum ar draws ciatfaen, lie dodwyd y talentog a'r duwiol, y Parch. Evan Evans (leuan Glan Geirionydd). Yr oedd y bedd, a ratling o amgylch iddo, wedi eu gosod yn hirgrwn, ond dyna oedd yn ddrwg genym, yr oedd coeden fawr ganghenog yu tyfu yn ei ymyl, a hono yn dyfeiu ar ben y beddfaen, nes oedd wedi amharu y gistfaen i'r golwg, ond gwyddwn fod gwell cofgolofn wedi iddo adael ar ei ol, a fydd yn perarogli Cymru am oesau lawer. Fe- allai y carai darllenwyr y DYDD weled ei ysgrif- en fedd— Sacred to the memory of REV. EVAN EVANS, (IeuaH Glan Geirionydd), Incumbent of lthyl, who brought a life of bardic distinction, and ministerial usefulness to a happy close on the 21st day of January, 1855, in the 60th year of his age. Yr oedd cof am ei dad un ochr i'r gistfaen, a chofnodiad am ei fam yr ochr arall. Symudais gam o'r fyuwent, gwelwn addoldy hardd dros ben gan yr Anuibyuwyr, wedi ei adeiladu yn addurn i'r ardal-ei front wedi ei weithio yn dda o'r galchfaen, ac o gynllun hynod o chwaethus. Yr oeddynt yn cynal cyfarfod pregethu ddoe ynddo, pryd y pregethodd y Parchn. Dr. J. Thomas, Llynlleifiad; D. Roberts, Wrecsam; a T. Nicholson, Dinbych. Yr oedd yno bregethu daathorfluosogyu gwrando, a'r olwg arnynt eu bod yn mwynhau llawer o'r nefoedd drwy weinidogaeth y brodyr uchod. Cawsant ddiwr- nod braf. Yr oedd addoldy y Methodistiaid wedi ei adeiladu mown congl, anhawdd i'w gan- fod, a He tl afaelus i ddringo ato, a phont haiarn Iled gul, ond bod canllaw diogel, dros hen gor- nant mwya'i dwrw ond yr oeddwn yn deall fod yno eglwys gref, a phobl ymdrechgar a llafurus gyda yr achos yn ei wahanol ranau. Ni welais yr un dyn ag arwyddion diod feddwol arno o gwbl.—Ydwyf, Abermaw. HEN GERFIWR.
RICHARD OWEN YN LE'RPWL.
News
Cite
Share
RICHARD OWEN YN LE'RPWL. Medi 28ain-Ei destun oedd Salm xlvi. 1. Nid oes dim digon o ddarllen ar y Beibl gan y rhai sydd yn darllen mwyaf arno. Dylem fyfyr- io arno, ei gofio, a rhoddi lie iddo yu ein calon- au. Y mae arnaf eisieu peth mawr," meddai y dyn; wrth ddarllen y Beibl y ceir hyny, gan ei fod yn cynwys y meddwl Dwyfol wedi ei grynhoi i ychydig iawn o Ie, fel y mae yn fan- teisiol i'r darlleuydd. 0 ran maint, gallasai y y Duw mawr chwyddo y Gair i lond gwagen o lyfrau, pe buasai y maint yna, buasai meddwl am ei ddarllen yn faich i ni. Y mae yr Ar- glwydd yn dweyd ei fwriadau wrth ei blant yn y Beibl, "A gelaf fi oddiwrth fy ngwas Abraham yr hyn yr ydwyf yn myned iV wneud?" meddai yr Arglwydd. Fel y mae y tad yn dweyd ei fwriad wrth ei fachgen bach, Abraham, meddai Duw, yr ydwyf fi yn cael y bobi yn y parth yma mor ddrwg fel yr ydwyf yn bwriadu eu dys- trywio, os caf eu bod yn gwbl fel yr ydwyf yn meddwl eu bod pan yr af yno, ond yr ydwyf am gael dy syniad gyda golwg ar y mater. Beth! meddai Abraham, pe baem yn myned i dreio eu cael i gyfarfod gweddi, a pheth hefyd, pe bydd- em yn abl i gael 40 i'r cyfarfod, a wnaent ti ddim arbed y lie er mwyn y deugain1 yna y mae yr Arglwydd yn dyfod i lawr o hyd tra y parha- odd Abraham i ofyn iddo, ond rhoddodd i fyny i ofyn ar ol dyfod i lawr i ddeg, ouide y mae yn ymddangos, mor bellod ac yr ydym yn abl i wybod, y buasai y dinasoedd yn sefyll hyd y dydd hwn. Y mae dyn yn droseddwr o ddeddf Duw; ac nia gall wneud noddfa iddo ei hun, ond y mae person heb droseddu y ddeddf wedi dyoddef a gwueud noddfa i'r troseddwr. Y mae y flfordd i'r noddfa yma yn uniawn, manteisiol, a dyogel. Pe byddai y rhai sydd yn myned ar hyd-ddi yn ynfydion, ni chyfeil- iornent. Y r oadd y fingerposts wedi eu gosod ar y croestfyrdd oedd yn arwain i'r diuaaoedd noddfayn Israel, a llythyrenau breision yn ar- wain y llofrudd yn mlaen tua'r ddinas, ond byddai dialydd y gwaed yn cael hyd i ami un wedi diffygio y tu allan i'r dinasoedd noddfa hyny, ac yn ei ladd. Y mae y uoddfa yma yn ymyl fel na raid i'r gwanaf fethu os treia. Cafodd y lleidr ar y groes hyd iddi pan yr oedd yn hoeliedig draed a dwylaw wrth y pren. Nid o es dim perygl i'r rhai sydd wedi cael eu hun- ain yn y noddfa, y mae y Salmydd yn dweyd ei brofiad ar ol myned iddi, y mae yn debyg mai yn y seiat yr oedd yn llefaru y geiriau yma, 11 Duvr sydd noddfa a nerth i mi." Y mae yr hen flaenor wedi myned i orfoleddu wrth ddweyd ei brofiad, pe buasai y dyn duwiol yma yn Le'rpwl, cawsem ei weled o yn neidio mewn gorfoledd ar hyd yr alis, fel y ceir hanes am dano yn gwneud, a'i elynion yn ei watwar. Y rhai sydd yn Nghrist sydd yn y dyogelwch. Pan y mae y dyn wedi cael ei hun yno, y mae pob peth y mae yn ei wneud yn cael eu cymer- adwyo. Yn flaenorol i hyn y mae fel y dywed yr aposol, "Pe porthwn y tlodion Wm holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i'm llosgi, nid ydyw o ddim lles&d i mi," ond yn awr y m'le y gwasanaeth annheilwng a'n gweddïau gwael yn 1 9 gymeradwy yn ngolwg y nefoedd. Y mae yn ddrwg genyf orfod dweyd na ddaeth dim atebiad oddiwrth y gynulleidfa boreu heddyw pan y gofynodd Mr. Owen yn y seiat a. oedd neb wedi eistedd fel arwydd eu bod yn dyfod am y tro cyntaf i'r seiak, ond y mae yn dda bod dau wedi aros ar ol yn nghapel Cross- hall St. yn ystod yr wythnos, un nos Fawrth 23ain, a'r Hall nos Iau 25ain. Gobeithio bod rhai wedi dyfod mewn lleoedd eraill yn ystod yr wythnos ac y bu Mr. Oweri yn cynal naoddion ynddynt.
"I' LLANGOLLEN.
News
Cite
Share
I' LLANGOLLEN. Llwyddiant Athrofaol.- Ychydig w/thnosau vn ol, llongyfarehem Mr. Richard Ellis Williams, Senior Student Coleg y Bedyddwyr yn y lie uch- od, ar ei Iwyddiant yn Mhiifysgol Llandain. Yn awr, y mae genym i ddatgan ein llawenydd ar ei lwyddiant yn enill Exhibition yn Mhrifysgol Bangor,ac yn mhellach ar ei etholiadar y Ward's Trust, gwerth yr hwn fydd oddeutu J655 am 5 mlynedd. Brodor yw Mr. Williams o Lanuwoh- llyn, nai fab chwner i'r diweddar Hybarch Ellis Evans, D.D., Cefnmawr, ac mae'r ffeithiau hyn yn sierhau na bydd iddo fod yn ol o enill safle anrhydeddus yn mysg ei gydgenedl. Dymunwn lawer o lwyddiant iddo yn y dyfodol. Lem.
i .'_____________ i MANION.
News
Cite
Share
MANION. Dywed daearegwyr y dihysbyddir holl wyth- lenau glo y byd mewn 10,875 o flynyddau. Yn ninas New York yn unig, y mae ugain mil o bersonau yn'dilyn yr alwedigaeth o wneud cigars. Cyfrifir fod y dwylaw mewu un ffactri sengi yn defnyddio 3,000,000 o cigars yn flyn- yddol, trwy gynilo y tybaco allan o'r dogn a roddir iddynt, ac fel hyny nid ydynt yn costio dim iddynt ond yn unig eu llafur. Profa ystadegau fod troseddwyr dan ddedfryd o garchar am eu hoes yn byw yn hwy na phobl sydd yn gorfod gweithio am eu bywoliaeth y tu allan. Rhoddodd tafarnwr yn Reading, Pa., beint o o whisci i un Christian Bowman, gan ddywedyd wrtho am ei yfed, ac os na laddai ef, y rhoddai ragor iddo. Yfodd Bowman ef, a boreu dranoeth cafwyd ef wedi marw. Dywed y meddyg enwog Dr. Koch mai mewn glanweithdra a chymedroldeb y cair y goeheliad goreu rhag y cholera. Dywed yn mhsllach hefyd fod ofn yr afiechyd yn gwneuthur dynion yn fwy tueddol i'w gael.