Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Y GYNWYSIA D
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y GYNWYSIA D Yr Wythnos 1 Dadgysylltiad 2 Yn Eisteddfod Le'rpwl 3 Adgof uwoh Anghof, ganGutyn Ebrill. 3 Gohebiaethau 4 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 5 .y Faauaoh Feddwol a'r Bobl 6 Adgofiou 7 Nodiadau ••• 8 Dolgellau „ 9 o Barlwr y Seren 10 Barddoniaeth 1| OBeayTwr Hysbysiadau 12,1
NEWYDIJION 0 KHARTOUM—EI .HANKS…
News
Cite
Share
NEWYDIJION 0 KHARTOUM—EI .HANKS AM BEDWAR MIS. CYRHAEDDODD amryw newyddion y wlad hon ddydd Llun diweddaf. Eel y mae'n hysbys, yr oedd y Cadfridog Gordon, y Mil. Stewart,. a gohebydd y Times, wedi eu cau i mewn yn Khartoum er's amryw fisoedd, hyny ydyw, yr oedd pob cyfrwng cymundeb wedi ei gadw rhagddynt er Ebrill 21ain. Ond yn awr, y mae cyfres o genadwriaethau wedi dy tod i law, y rhai a. roddant fanylion y dygwyddiad IU o Ebrill28 hyd Gorphenaf 31, terfyniad y pumed mis o'u gWarchaead. Ychydig sydd wedi sylweddoli y ffaith fod Khar- toum yn cael ei gwarchae er dechreu y flwyddyn, nac ychwaith ei bod mor dyn ag y dangosir yn awr ei bod. 0 Ebrill 16 hyd Mai 7 ymleddid yn bi-rhaus gyda'r gwrthryfelwyr; ac yn wir, o Mawrth 17 hyd ddiwedd Gorphenaf, ni phasiodd di- wrnod na orfodid hwy i danio. Cyn i Khartoum gael ei chwbl gau, darfu i haner y boblogaeth—rhwng 8,000 a 10,000 roddi eu hunain at wasanaeth y gelyu, a gadawyd y diffynwyr gyda hyny owenith a biscuits fydd at eu rhaid am tua 4 mis, sef diwedd A wst. Yr oedd y gwarchaead mor agos, fel y cyrhaeddai bwled y gelynion at y palas, ond dosbarth- odd y Cadfridog Gordon fwngloddiau o amgylch a amddiffynasant y ddinas yn effeithiol, ac a waaethant wasanaeth dir- fawr pan y daeth y gelyn mor teiddgar i symud yn mlaen. Pan gododd y Nile, anionodd Gordon ei longau arfogedig a'l gychod mawrion i fyny yr afon, a llwydd- 'Wyd i ddystrywio amryw o gaerfeydd y gwrthryfelwyr. Ychydig o ddefnydd fu y milwyr Aiphtaidd, bu un marchogwr Arabaidd yn alluog i wneud i dros 200 ddianc. Hyd ddiwedd Gorphenaf, nid oedd holl golledion y Cadfridog Gordon 'Wedi cyrhaedd 700 o laddedigion, a newydd enill ei fuddujoliaeth fawr yr; oedd y pryd hwnw, achaelstoc oluniaeth 1 i mewn. Ar y 25ain o Mehefin, caniat- awyd i'r Cenadydd Prydeinig yn Berber i fyned i Khartoum i adrodd am gwymp Berber, ac yr oedd i'w anfon drachefn i Kordofan. Ddiwedd Gorphenaf, yr oedd pob gobaith am waredigaeth oddiwrth Loegr wedi ei roddi i fyny; ond wrth gwrs, ar ol hyny derbyniwyd y newydd am yr ymgyrch ar y Nile, a thrwy hyn, y mae yr holl sefyllfa wedi cyfnewid a theimla holl breswylwyr Khartoum yn dawel.
MR. GLADSTONE YN YSGOTLAND…
News
Cite
Share
MR. GLADSTONE YN YSGOTLAND A'l DDYCH- WELIAD A: KEF. Cafodd Ysgotland y dyddiau diweddaf y fraint o dderbyn ymwelwyr urddasol, neb llai na dau arweinydd Ty y Cyffred- in—Mr. Gladstone a Syr S. Northcote. Trodd ymweliad y blaenaf a Midlothian yn llwyddiant anfhyffredm; ond mor bell ag y mae a fyno brwdfrydedd cyffredinol a symudiadau cyhoeddus, yr oedd ymwel- iad yr olaf yn fethiant galarus. Llefarodd Mr.Gladstone lawer iawn o bethau pwysig 0 yao ar yr argyfwng presenol, ac fel y deuai ei ymweliad i ben, yr oedd ei iaith mewn perthynas i Dy'r Arglwyddi yn d'od mor gryf, fel y pryderai y Toriaid yn ddyddiol rhag ei weled yn gosod ei hunan yn flaenorydd i symudred er gwella neu ddifodi y Ty Uchaf. Mae yn ymwybodol yn awr mai oferedd yw dadleu a'r Arg- lwyddi yr anmhosiblrwydd i gymeryd yr Etholfraint ac Ad-ddosbarthiad gyda'u gilydd. Yn Perth, ddydd Mercher di- weddaf, ar ei ffordd adref, rhoddodd rybudd pendant i'r Arglwyddi Toriaidd, os dalient i wrthwynebu ewyllys y bobl, y deuai mawr ddrwg i'w rhan. Cychwyn- odd tua Hawarden o Dalmeny, preswylfod Arglwydd Roseberry, boreu Gwener di- I weddaf. Siaradai yn bur vvahanol wrth ddychwelyd. Wrth fyned i'r de, dywed- odd lawer gwaith mai gorchwyl y wlad oedd datgan ei barn ar Fesur yr Ethol- fraint. Yn ei anerchiad yn Carlisle, cad- arnhaodd yr hyn a ddywedodd yn Perth. I Yr hyn a ddylai Ty'r Arglwyddi wneud yn awr, meddai ef, ydyw ystyried y modd goreu i ddarpar rhag i'w Ty gwympo, ac y mae hyn i'w wueud drwy iddynt weith- redu gyda chymedroldeb a doethinab. "Rhoddd. i'r lleiafrif o foneddigion, ydynt ynddynt en hunain yn anghyfrifol," pa un n ai doeth ar eu rhan ydyw herio y wlad a Thy y Cyffredin. Atebodd yn gyflawn hefyd ddadl larll Cowper, nas gall yr Arglwyddi roddi ffordd heb aberthu eu huiddas, drwy bwyntio allan y gallant, gyda gwybodaeth helaethach, yn anrhyd- eddus a chyson wneud yn yr Hydref yr hyn a wrthodent wneud yn Gorphenaf. Dengys y Prifweinidog drwy hyn, y ffordd iddynt gael "heddwch gydag anrhydedd," a'r modd i ddiogelu y Ty. A leddant ddigon o ddoethineb a gwroldeb i gymer- yd y eynghor hwn ? Cyrhaeddodd Mr. Gladstone Hawarden erbyn prydnawn Gwener, wedi cael llawer o anerchiadau a chroesaw digyffelyb. Llawenydd i bawb yn ddiau ydyw deall fod y daith wedi profi yn rhagorol i iechyd y Prifweinidog.
CYMRU A'R ARGYFWNG GWLEIDTDDOL.
News
Cite
Share
CYMRU A'R ARGYFWNG GWLEIDTDDOL. f Llawenydd i ni ywgweled nad ywein cydgenedl yn hollol ddystaw yn y cylch- oedd gwleidyddol. Datgauodd Cymru. yn 1880 ei bod yn irwyadl Ryddfrydig, ac yii awyddus i'r Llywodraetli bresenol gael ei gosod mewn awdurdod er dwyn yn mlaen fesurau dewisiadol yr oeddys mewn angen am danynt. Mesur pwysicaf Gweinyddiaeth Mr. Gladstone ydyw yr Etholfraint. yr hwn yn feiddgaradaflwyd allan gan yr Arglwyddi, er sarhad ar fwy- afrif mawr o gynrychiolwyr y bobL Mae y Deheuwyr yn fynych yn cael cyfarfod- ydd lleol a sirol er datgan eu hymlyniad wrth Mr. Gladstone, a'u condemniad o weithred ffol yr Arglwyddi. Bu Mr. Os- borne Morgan hefyd yn Wrecsam ddydd Mercher diweddaf, yn anerch ei etholwyr. Yr oedd holl don ei araeth yn gyfryw ag a gymeradwyii* yn gyffredinol drwy y wlad os beiddia yr Arglwyddi daflu o'r neilldu eto Fesur yr Etholfraint, a hyny cyn yr etholind cyffredinol. Rydd ded- fryd y wlad yn ddiamwys, meddai. Pan apelir ati, dychwelir i fyny Dy hollol wahanol i'r un presenol, y rhai a orfodir i gymeryd i fyny y mater pwysig o ddi- wygio neu ddiddy mu y Ty Uchaf. Mae'r cwrs yna yn sicr os parha rdalydd Sal- isbury i weitliredu fel y mae yn awr, a dyna y rheswm paham y mae gwleidydd- wyr eithafol yn llawenychu o herwydd ei weithredoedd.—Yn Llangefni, ddydd Iau drachefn, bu Rhyddfrydwyr Mon yn cyn- al cyfarfod mawreddog, pr/d y caed ar- eithiau galluog gan Mri. R. Davies, A.S., Morgan Lloyd, A S, a Mr. Henry Richard, A.S. Siaradodd Mr. Henry Richard gyda'i fedrusrwydd arferol ar sefylla bres- eaoL Mesai. yr Etholfraint, a dyfodol Ty yr irglwyddi. Cymeradwyid yn gryf ei sylwadau nadyrArglwyddi oedd i ly w- odraethu y wlaJ, y rhai nad oeddynt yn cynrychioli neb, ond yn gofalu mwy am en cwn, ceffylau, &c., nag am eu cyd- ddynion. Gwnaeth Mr. Morgan Lloyd ddefnydd rhagorol 0 ddywediad Mr. H. y 0 Vivian, sef, "mai y cwestiwu mawr gyda'l' Etholfraint ydoedd pa un a oedd 46 o'r Arglwyddi i reoli 35,000,000 o bobL"