Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Fel hyn y can ws hen lane wedi clywed fyaed o Xeinion drosodd i wlad machlud, neu godiad haul. Wfll, do, bu Keinion ar ei hynt, Yn myn'd am flwyddi meithion A'i ben yn chwareu yn y gwynt, A'i draed a'i ddwylaw'a rbyddion; J Am dano sonid gyda gwen Pel cadben hen laneyddion, Ond mewn caethiwed hyd yr en Y rwan gwelir Keinion. Welt do, bu'n hir yn filwr iawn Yn myddin yr hen lanciau, A bernid ef yn medrlu dawn I drin en hamgylchiadau; Ond rhyw feddalu'n ddigrif wnaeth 0 dan ddylanwad swynion, Ha, ha, a welwch chwi mor gaeth, Mae Ruthie'n cadw Keimon. Wei, Kuthie yn ei thro a aeth 1 gasglu tywysenau, Ac fel rhyw angel siriol daeth I feusydd yr hen lanciau Ae yno cyn pen amser hir I guro'r aeth ei chalon, A lloffa bu, waeth d'weyd y gwir Nes iddi loffa Kemion. Fel Ruth i Boaz bydded hi Yn dyner iawn i Keinion, Y ddau fo'n tyfu'n fawr ew bri A'u lienw da dan goron 4 A byth na ddeued gwyntoedderch Na 'stormydd blin, na gana', I aflonyddu breuddwyd serch, Hoff deulu bach Keinionfa. PAN.
[No title]
News
Cite
Share
Oherwydd gadael dau o'r penillion hyn allan 4rwy araryfusedd, yr ydym yn eu cyhoeddi yn gyflawn.
MOESAU'R MAWRION.
News
Cite
Share
MOESAU'R MAWRION. [GAN Y PRIFATHRAW M. D. JONES.] Er euholl ymffrost mewn rhagoriaeth, mid rhyw ry wyliadwrus mwy nag eraill y mae goreugwyr ein gwlad wedi bod am gadw ydeng air deddf a ysgrifenwyd a bys Duw ar fynydd Sinai, pan Jefarodd efe wrth feibion Israel o'r nefoedd, a phan welsant y taranau a'r mellt, a'r sain udgorn, myhydd yn mygu, ac y ciliasant, ac y safasant o hirbell. Pan y mae yr Arglwydd yn gorchymyn, na fyddet it dduwiau eraill ger fy mron i," gellir dyweud am lawer o'r pendefigion eu bod yn addoli Mammon, duw golud, neu Bachus, duw'r gwin, neu Gwener, duwies prydfercfhweh, neu Mawrth, duw rhjfel, ac y mae ambell i foneddwr yn addoli pob un o honynt ar yr un pryd, neu yn hytrach y maertt heb dduw yn y byd," duw y rbai yw eu bol, a'u gogoniant yn eucywilydd." Pan y dywed Duw, Na chymer enw'r Arglwydd dy Dduw yn ofer canys nid di- euog gan yr Arglwydd yr bwn a gymero ei enwef yn ofer," eto y ffasiwn yn mhlitb rhyw ddosbarth o foneddigion yw tyngu, rhegi, a chymeryd ei enw ef yn ofer yn barhaol ae ni theimlant eu bod yn ddynion iawn heb roddi amli reg, Dysg ein Gwar- edwr yw, "nathwng ddim, nag i'r nef, canys gorseddfa Duw ydyw nac i'r ddaear, canys troedfainc ei draed ef ydyw; nac i Jerusalem, canys dinas y Brenin Mawr ydyw. Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, I Ie, ie, Nage, nage,' oblegid beth bynag sydd dros ben hyn o'r drwg y mae." Pany dywed Duw, "Cofla y dydd Sab- both i'w sancteiddio ef. Ghwe' diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waithond y seithfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy Dduw; na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; oherwydd mewn chwe diwrnod v gwnaeth r yr Arglwydd dy Dduw y nefoedd, y 9 ddaear, a'r mor, a'r hyn oil sydd ynddynt, ac a or. phwysodd y seithted dydd; am hyny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth ac a'i sancteiddiodd ef," eto dyma y diwrnod penaf i lawer o gyfoethogion ein gwlad i gario yn mlaen bob chwareuaetb ac ofera, ac i gynllunio gwaith yr wythnos ddyiolol, a thrwy ymollyngiad eang oddiwrth yr hen Sabboth Puritanaidd, y mae ein Sabboth Prydeinig ar y ffordd i ddyfod yn wyl chwareuol, fel Sabboth y Cyfandir. "I Na ladd," sydd ddatganiad o'r nef, a dyma bob math o ryfeloedd goresgynol yn cael eu cynllunjo gan ein mawrion, a mil- iynau o fodau dynol wedi eu hyrddio gan- ddynt yn anamserol i fyd tragwyddol i foddio eu rhaib, ond erogant rhyw chwilod o lof- ruddion am droseddu'r gorchymyn. Na wna odineb," sydd orehymyn arall, ac y mae'rllys ysgariol yn cael ei gynal yn mlaen gan gyfoethogion yn fwy na neb, ac y mae nifer fawr o'r dosparth uwchaf mor anniwair a chrwydriaid, ac eraill o odre'r genedl, ac y mae ffieidd-dra y Canaaneaid, a. phechodau i Sodom a. Gomora yn bodoli yn eu plith i raddau, fel y mae profion diweddar yn, dangos. j Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy j gymydog," sydd archiad o eiddo'r net, ac I edliwir i ni'r Cymry, gan Homersham Cox- iaid y Deyrnas ein bod yn euog o anudon- iaeth. Pa beth a ddywedii- am ymosodial. au'r Times ar Parnell. yr hwn y mae Tori- aid Prydain Fawr wedi bod yn ei ategu a'u hollddylanwad a'u cyfoeth. Mae "Parnal. ism and Orime" yn, Himalaya o gelwydd yn codi ei ben i'r entrych uwchlaw holl gelwydd- au'r byd. A ddywedodd Esgob Llanelwy, neu Esgob Llandaff, y rhai sydd mor ymos. odol ar gelwydd Cymry, yr un gair am gel- wydd mawr y Tintes ? Y gorchymyn yr oeddwn am alw sylw fwyaf ato yn awr yw Na ladrata," ac y mae lla.wer iawn o'r pechod yma yn bodoli yn mhlith tirlwyddi ein gwlad yn gystal ag yn mhlith pobl eraill. Nid y math hwnw o ladrad sydd yn gospadwy gan y gyfraith wladol a olygaf, ond lladrad. mwy lleehwr- aidd, ac ar raddfa mwy eang o lawer. Pe byddwn i am osod i fyny'r alwad o leidr clodfawr ymdrechwn yn y fan gyntaf fod yn gymaint o dirfeddianwr ag y medrwn. We&'vn yn Ile dwyn defaid, gwyddau. ieir, hwyaid, merlynod a moch, ymdrecbwn ddwyn cymaint o'r eyffredin diroefid ag y medrwn, ac ymunwn a'm brodyr tirfeddianol i wneud cyfraith lem i gosbi ysgriblwyr fel M. D. Jones a Dr. Pan am fod yn rhy rydd eu tafodau yn traethu eu meddyliau. Ffwl 0 leidr yw'r dyn a berygla ei hun wrth led- rata rhyw fan greaduriaid, pan y gallo fod yn garnleidr, drwy ymdroi yn mhlith ys- weiniaid, a chael ei godi i'r gadair ynadoli gospi rhyw chwilod o ladron man, er dangos ei fod yn bleidiol i rhyw fath o onestrwydd eyf- reithiol. Nid oes neb yn lleidr dehenig, os na fydd yn ddigon o grefftwr i ledrata fel twrne neu yswaiu, heb osodei hun yn agored i gael ei garcbaru. Mae llawer math o ledrad. Golyger fod dyn yn cymeryd gwisg, megis c6b fawr yn ddi.genad, ac yn ei gwisgo am fis heb ym- wybod i'r meddianydd, ae yna yn ei dy- chwelyd, am ei fod yn lleidr rhy ofnas i'w dwyn yn gyfangwbl, eto y mae y weithred hon yn lledrad pur, can belled ag y mae yn myned. Dyweder mai am flwyddyn y gallai y gob bara i'w gwisgo, yna y mae y neb a ledrata ei gwasanaeth, am fis yn ddigenad yn dwyn y ddeuddegfed ran o'r gob. Eto, dyma dirfeddianwr yn gosod fferm am ugain punt o rent, a'r ffermwr yn ei gwrteithio a gwerth ugain punt o galch, neu rhyw wr- taith gwahanol heb gael mwynhad o'r gwell- iant, ac yna yn caet ei droi ffwrdd, er mwyn ei gosod i arall am dd wy neu dair punt o rent ychwanegol, d'yna ledrad gwirioneddoJ,