Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
POLITICS ::-IR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
POLITICS :IR GAERFYRDDIN. Gwyr y neb sydd yn adnabod Sir Gaer- fyrddin na fu hi erioed yn euog o'r cymeriad much cry and little wool." Pan glywir y whelps" fel y gelwir hwy, yn trystio gellir i bod yn sicr 94r unwaith fod yno wool yn y fargen. Mae y brwdfrydedd a welir yn berwi yr hen sir yn nglyn a'r etholiad agos- haol y fath fel ag i gario yr argyhoeddiad fod wool yn y chwareu. Yr oedd y cynull- eidfaoedd mawrion a'r brwdfrydedd anar- ferol a ddanghoswyd yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd yr wythnos o'r blaen yn dangos yn eglur ddyfnder argyhoeddiad y bobl yn rhagoriaeth Mr Powell ar Arglwydd Emlyn, yn gynrychiolydd iddynt yn y Senedd nesaf; ac i'r rhai sydd yn adnabod y lleoedd y cynhaliwyd y cyfarfodydd ni bydd achos dweyd fod y bobl yn rhai cymwys iawn i farnu drostynt eu hunain, ac i wajianiaethu rhwng yr us a'r gwenith:—Abergorlech, Brechfa, Castell Newydd Emlyn, Cross Hands, Cydweli, Llandyssul, Llansawel, Peniel, Pontargothi, Porthyrhyd, Felingwm. Yr oedd pob olwyn masnach yn yr ardaloedd yna wedi sefyll adeg y cyfarfodydd er rhoddi croesaw calonog i Mr Powell. Canlynid ef o fan i fan o'u gwir ewyllys gan dorf o bobl o'r fath amrywiaeth amgylchiadau, credoau, a safleoedd bydol, fel y teimlem awydd dy- wedyd fel y dywedwyd ar fater arall, Fe aeth yr holl bobl ar ei ol ef; ac yr oedd gweled y fath unoliaeth yn y fath amryw- iaeth yn gwneud i ni edrych yn mlaen am fuddugoliaeth odidog ar Doriaeth, ac na oddef Sir Gaerfyrddin i gymeryd ei galw yn hwy the dark Tory corner of Wales." Ond yn mba beth y mae Powell yn rhagori ar Arglwydd Emlyn? I ddechreu cydmarer Gladstone a Disraeli neu Salis- bury cydmarer yr byn a wnaed gan y pleid- iau i'r rhai mae v naill a'r llall yn perthyn. Ydych chwi, pobl Ymneillduol Sir Gaer- fyrddin, am ddweyd uwchben y degwm, megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd." A ddywedwch chwi amen ar ol y fath fraw- ddeg? Wei, os am gael cydraddoldeb crefyddol, anfonwch Powell i'r Senedd. Mae yn rhan yna o'r sir lawer o weinidog- ion Ymneillduol yn dal tyddynod bychain i gynorthwyo y tal bychan a dderbyniant am eu llafur, onid difrifol o beth yw gweled y rhai yna yn myned i dalu degwm i'r offeir- iaid llyfndew, tordyn. Os am wastadhau y trethi—trethu tir yn ol ei werth fel trethu arian-anfonwch Powell i'r Senedd. Anfon- wch ddyn i'r Senedd a ddygo eich holl bwysau fel rban o'r deyrnas i ddylanwadu ar y cwestiynau yr ydych yn teimlo dyddor- deb ynddynt. Am Arglwydd Emlyn, beth fedrwch chwi ddysgwyl oddiwrtho ? Mae efe naill ai yn offeiriad l neu yn dal swydd yn nglyn a'r offeiriadaeth; ac wrth reswm awydda fyned i'r Senedd er gosod cymaint o rwystrau ag aalloar ffordd y gwelliantau y teimlwch chwi ddyddordeb ynddynt. Yn mhellach, a chasglu oddiwrth yr hyn a fu ei Arg- lwyddiaeth yn y gorphenol, gellid meddwl nad yw yn ei elfen yn y Senedd, neu fod gandiio ormod o ddyledswyddau eraill yn galw am dano yn rhywle arall, canys tra y bu Mr Powell yn bresenel yn y Ty mewn 1086 o raniadau, ni fu ei Arglwyddia,eth yn bresenol ond ar 291 o raniadau yn yr un amser. Nid yw ond dyn ieuanc prin 40 oed, tra y mae Mr Powell dros 60. Ond pa ddyddordeb ellid ddysgwyl iddo gymeryd yn Nghymru? Ysgotyn yw y dyn Q waed a theimlad. Ha.na Iarll Cawdor o gangen ieuanc o deulu Campbeliaid, Ysgotland, a thrwy briodas y daethant i feddiant o'u tiroedd yn Nghymru. Mae tad Arglwydd Emlyn yn dal 101,657 erw o dir rhwng sir- oedd Penfro, Aberteifi, Caerfyrddin, Inver- ness a Nairn, am yr hwn y derbynia £44,662 o rent. Daeth tiroedd Penfro iddynt trwy i un o'r teulu briodi Miss Lort, etifeddes Stackpole Court. Ni oddef amser heddyw i olrhain y drefn y cafodd hwnw feddiant o hono. Yn ddiweddarach priododd mab i'r teulu ferch Lewis Pryse o Sir Gaerfyrddin. Pan ystyrir eangder eu tiroedd, pa ryfedd iddynt drwy y blynyddoedd ddal sedd yn y Senedd fel Toriaid dros etholaeth Rydd- frydig. Hyderwn yn awr fod Arglwydd Emlyn fel y Last Rose of Summer i gael ei symud o'i swydd fel yr olaf o greiriau Sen- eddol y Feudal System. PAN.
[No title]
News
Cite
Share
Yn ysgrif y Parch. 0. R. Owen, Glandwr, yn y Dysgedydd ar y Parch. Simon Evans, Hebron, ceir, yn mysg pethau eraill, ddau brawf arbenig o dduwioldeb anghyffredin Mr Evans :— 1. InDO WRTHOD ANFON HANES Y CWRDD CHWARTER I'R CELT.' 2. IDDO WRTHOD GADAEL I MI BREGETHU YN El GAPEL ODDEUTU TAIR BLYNEDD YN OL. Gwel y Celt Mawrth 16, 1883, tudalen 9. Mae yn debyg mai dyma y profion am- lycaf o dduwioldeb Mr Evans y gwyddai Mr Owen am danyut. Tybed fod y profion hyn yn bwysau yr ochr draw ? Da genyf feddwl mai mewn cysylltiad a mi y cafodd Mr Evans gyfle i ddangos yn ei fan goreu. Dengys y sylw hwn y teimlad gelyniaethus sydd yn mynwes y Pliariseaid at y Celtwyr -y gwasanaeth uwchaf ellir wneud yw gosod i lawr. Dywedodd lesu fod y dydd iau yn dod pryd y tybia pwy bynag a'ch lladdo ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Mae yn amlwg fod yn ngeiriau Iesu gyfeiriad at y syniad a geir gan Mr Owen am y Celt a minau. E. PAN JONES.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT BERTHYNASAU Y DIWEDDAR BARCH. ISAAC WILLIAMS, PANTTEG. NOS Sabboth, Tachwedd laf, pasiodd eglwys i\ Annibynol Ebenezer, Llanelli, y penderfyniad canlynol:—" Ein bod fel eglwys yn dymuno datgan ein cydymdeimlad a'r Parch. D. Williams, Rhyd- ybont (brawd), a Mrs Williams, Pont Richard Eynon (gweddw) ac a phlant y diweddar Barch. Williams, Pantteg, yn eu galar dwys ar ol y pre- gethwr efengylaidd, y cymeriad pur, Vr cyfaill Ily didwyll, Mr Williams, yr hwn, yn nghyd a'r Parch. D. C. Jones, Priordy, a sefydlodd ein heglwys. Llafuriodd drosom, a bu yn gymorth mawr i ni yn ein hanfaateision ar ein cychwyniad fel eglwys." W. T. DAVIES, Gweinidog. THOMAS WILLIAMS, JOHN EVANS, > Diaconiaid. THOMAS LEWIS, ) PRIORDY, CAERFYRDDIN. MEWN cyfarfod eglwysig gynhaliwyd yn y He RJL uchod, Hydref 14eg, 1885. penderfynwyd i roddi cymhelliad a chefnogaeth i Pareh. D. Trevor Davies i ail ddechreu pregethu yr efengyl. JOHN LLOYD, DAVID DAVIES, HENRY LLOYD, REES JONES, DANIEL JONES, MORRIS JONES, JOHN DAVIES, DAVID EDWARDS, THOMAS ALBAN, JOHN WILLIAMS, Diaconiaid, Trysorydd, ac Ysgrifenydd. DOLYDDELEN. NID yw yn gyfleus derbyn Pregethwyr ar ganol yr wythnos heb ohebu yn ughyntaf ag [ R. R. LLOYD, Ysg. [ R. R. LLOYD, Ysg.
CYMANFA DDIRWESTOL GOGLEDD…
News
Cite
Share
CYMANFA DDIRWESTOL GOGLEDD CYMRY. AT GYFEILLION DIRWEST YN NGOGLEDD CYMRU. ANWYL GYDWLADWYR,— Ymddengys fod bron bob plaid yn ein gwlad wedi dyfod yn ffafriol i Ddewisiad Lleol gyda golwg ar y fasnach feddwol, ond nid yw pawb yn rhoddi yr un esboniad ar yr hyn a feddylir wrtho, ac y mae o bwys mawr ein bod yn deall yn eglur yr hyn yr ydym yn ei geisio a'r hyn a addewir i ni mewn cysylltiad a'r Etholiad presenol. Cydsynia rhai a Dewisiad Lleol gyda golwg ar gau y tafarnau ar y Sabboth, ond nid gyda golwg ar ddyddiau eraill yr wythnos. Ni byddai hyny yn rhoddi dim ychwanegol i ni ya Nghymru, gan ein bod eisioes wedi cael cau y tafarnau ar y Sabboth, os na byddem yn wir mewn perygl o golli rhyw gymaint o'r hyn a gawsom, pe cymhwysid hyn at Gymru. Wrth Ddewisiad Lleol" meddylia eraill fod yr awdurdod i drwydd- edu yn cael ei gymeryd oddiar yr ynadon a'i gyf- lwyno i Fwrdd o gynrychiolwyr dosbarthiadol neu sirol. Y mae yn hysbys fod y Llywodraeth Rydd- frydig ddi weddar wedi parotoi mesur i roddi llywodraethiad lleol trwy Fyrddau o'r fath, i ba rai y bwriedid cyflwynoyr awdurdod i drwyddedu, yn nghyda materion eraill, ac y mae yn ddiddadl y bydd pa Lywodraeth bynag a ddaw i awdurdod ar ol yr etholiad yn cynyg rhywbeth eyffelyb. Ond wrth ystyried hyn yn bwyllog, ceir ei fod yn dra anefteithiol i roddi atalfa gyflawu a therfynol ar y fasnach feddwol. Yn un peth, bydd y cyfryw Fyrddau yn cael eu hethol i amryw o wahanol ddybenion, fel na bydd pwnc y trwyddedau yn cael ei ddwyn i'w benderfynu mewn ffordd uniongyrchol gan y trethdalwyr. Heblaw hyny, bydd yr elw a dderbynir oddiwrth y trwyddedau yn dyfod yn graig rhwystr i Fwrdd y bydd ysgafnhad y trethi yn un o'i brif amcanion. A bydd cylch y Byrddau hyn, pa un bynag ai dosbarthiadol ai sirol a fydd- ant, yn rhy eang ifarll pob plwyf ar bwnc pwysig y fasnach feddwol gael y lie priodol ynddynt. edrychant ar fuddiant cyffredinol eu dosbarth neu eu sir, ac nid ar les pob plwyf yn arbenig. Y cyfan a ellid ddisgwyl oddiwrthynt fydd rheoleidd- iad a lleihad rhanol, ac nid ataliad effeithiol a therfynol. Y mae llywodraeth ein gwlad wedi ceisio rheoleiddio y fasnach er ys canoedd o flynyddoedd, a than y cyfryw reoleiddiad y mae wedi cynyddu mor aruthrol nes difa ein llwyddiant a pheryglu ein bodolaeth. Ac wrth ystyried y trueni sydd yn ei chanlyn, yr afiechyd a'r heintiau a achosir ganddi, y tlodi a'r troseddau sydd yn ffrwyth iddi, a'r costau dirfawr y m^e yn achlysuro, y mae yn hen bryd bellach i'r trethdalwyr gael y gallu yn eu dwylaw eu hunain i roddi atalfa effeith- iol arni, pa le bynag y byddont yn barnu hyny yn briodol. Nid oes dim a wna hyny ond rhoddi i'r trethdalwyr lais arbenig ar y mater hwn, mewn ffordd o ataliad uniongyrchol (direct veto). Yn awr, yn yr etholiad presenol, y mae genym gyfleusdra i wneud yn hysbys i'n cynrychiolwyr pa beth yw ein barn a'n teimlad ar y pwnc. Yr ydym yn galw yn ddifrifol, gan hyny, ar holl garedigion sobrwydd yn mhob dosbarth etholiadol < yn Ngogledd Cymru, i roddi dealltwriaeth eglur i'w cynrychiolwyr, ac i wasgu yn y modd mwyaf difrifol arnynt, na wnai dim ein boddloni ni yn Nghymru ond cael hawl a gallu yn ein dwylaw i roddi terfyn effeithiol ar y fasnach hon yn mhob plwyf a thref. Beth bynag a wneir yn Lloegr, gadewch i ni ddangos ein bod ni yn galw am hyn a dimllai; ac os na bydd Lloegr yn aeddfedihyn, ein bod ni yn Nghymru yn galw am dano yn ein plith ein hunain. Ond cael hyn, bydd y Senedd wedi gwneud ei gwaith yn gyflawn, ac ar y treth- dalwyr ar ol hyny y bydd y cyfrifoldeb o barhau y fasnach yn mhob man. Y mae y cyfleusdra yn awr yn ein dwylaw, ac ni cheir mohono eto am flynyddoedd. Bydd boddloni ar lai na hyn yn awr yn peri y bydd raid i ni oil ymdrechu eto am flyn- yddoedd i gael y ffordd i roddi terfyn ar y drwg sydd yn ein handwyo. Yn awr am dani gan hyny; y mae dyledswydd o'r fath fwyaf pwysig yn galw arnom i weithredu yn gryf, yn unol, a phenderfynol; ac ond i ni wneud ein dyledswydd yn awr bydd y fuddugoliaeth yn eiddo i ni, a'r adeg yn agoshau y bydd teimlad a chydwybod y wlad yn gwneyd defnydd o'r gallu fydd yn ei dwylaw i roddi terfyn llwyr a hellol ar y fasnach feddwol. Ac yn awr ar flwyddyn Jiwbili yr achos dirwestol, nis gallwn wneud dim mwy ardderchog a bendithiol, a mwy teilwng o goffadwriaeth y tadau a ymdrechasant mor rhagorol, na sicrhau i'r trethdalwyr yn union- gyrchol y gallii i ddileu y blotyn du sydd wedi bod cyhyd yn anu/ddo ein gwlad. LLEWELYN TURNER, Llywydd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd. DANIEL ROWLANDS, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol. J. EIDDION JONES, Ysgrifenydd. Hydref 22, 1885.