Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BREUDD WYD.I

News
Cite
Share

BREUDD WYD. I Gwelais fyrdd o oesau'n llithro, Megys mellt drwy'r gwagle mawr, Minau'n unig wedi'm gado, I gael claddo teulu'r llawr; Myn'd wnai'r ddaear daa chwyrnellu,— Chwelid pob peth hyd ei sail, Eto cadwen oedd am dani I'w ctiysyllta wrth yr haul. Ar y gadwen pan yn sylwi, Drysodd fy nheimladau'i gyd- Pont ddolenawg o oleuni Daflodd engyl dros y byd; Saugais arni'n syn ac ofnog, 'Nol edrychais,-Och, y fi Megis pel drwy'r Llwybr Llaethog Neidio'r oedd ein daear ni. Dyma gorn y lloer o ddifrif,- Pwy sydd acw'n codi'i ben ? Galileo'n arolygu Gogwyddiadau'r lleuad wen; Dyma Sadwrn, er fy nychryn- Pwy yw'r pedwar gwron lleyg ? Howel, Owen, Rhys, Llewelyn, Yn cynllunio Plaid Gymreig." Wedi llwyr anngliofio'm gofid Yn nghwmpeini'r teulu hyn, Estyn iddynt faner rhyddid, Wnaed gan law rhyw angel gwyn Pan ar ganol ei dadblygu, Taflwyd dryswch ar bob peth Drwy i ryw drychiolaeth waeddi,— "Wnewch chwi heddyw dalu'r dreth ?" Ffwrdd fe aethom drwy'r hinsoddau, Nes ar Iau'r eistedd'som lawr, Ond YII. llanw'r holl gomedau, Caem dreth-gasglwyr Prydain Fawr Telwch rent, a threth, a degwm, Glywem fel aflafar floedd, Nes gwneud engyl nef yn groenllwm,- Och, 0 diolch, breuddwyd oedd J. ALDEN.

EGWYDDORION RADIOALIAETH.