Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
MYNACH CLYNOG.
News
Cite
Share
MYNACH CLYNOG. Yn hen Fonachdy Clynog gynt 'Roedd mynach duwiol iawn yn trigo, Aeth allan un prydnawa ar hynt A darllen oedd ef wrth ymrodio A phan y gwelodd fod un dydd Yn ngolwg Duw fei mil o flwyddi, A mil o flwyddi fel un dydd Bu i'w synwyrau lwyr ymddyrysu. Yn grwydryn rhyfedd aeth y dyn,- Anghofio'r byd a wnaetli am amser, Hyd nes ei galwyd ato'i hun Un nawn gan dinciad cloeh y Gosper; Yn frysiog curodd wrth y ddor, Ac estron iddo roes dderbyniad, Ond yn ei frys i uno'r cor, Fe aeth heb ofyn am esponiad. Yn mlaen fe aeth i'w sedd ei hun, Ond arall oedd yn llanw hono, Edrychodd ar y c6r bob un, Estroniaid oeddynt bob un iddo Y c6r ryfeddai at y dyn, A holent beth oodd enw y "digri," Fu'r un o'r en.w medd pob un Er's pum can' mlynedd yma'n canu. Yr olaf fu o'r enw hwn A ddaeth, wrth grwydro'nffol, i'w ddiwedd, Cas yw yr enw byth mi wn- Y mynach aeth i deimlo'n rhyfedd Ac eglur oedd wrth lyfrau'r ty Fod pum' can' mlynedd wedi pasio Oddiar yr adeg pan y bu Efe ar eiriau Duw'n myfyrio. Och, gwelwch, 0 mae'i wallt yn wyn, Ei anadl sydd a'i gnawd yn pallu, Ond sibrwd rhywbeth mae er hyn- Gwrandewch ei gyngor wrth ddiflanu "Na wthiwch ddim i'r pethau cudd, Gwrandewch yrhyn ma. Duw yn siarad, Pum cant o flwyddi iddo sydd Pel un mi wn fy hun drwy brofiad." J. ALDEN.
YN AMERICA-ONEIDA.
News
Cite
Share
YN AMERICA-ONEIDA. [GAN Y PARCH. E. PAN JONES, PH.D.] Gyda phriodoldeb gellir dyweud mai yr hyn oedd Athen i Groeg a Groeg i Ewrop fu Utica i Oneida ac Oneida i Gyfandir Am- erica, yn y cyfnod diweddar. Nid yw hanes Cymry Utica yn myned y tu ol i 1795, neu 1797. Deuent o Efrog Newydd ifynygyda-'r afon i Albam ac yna ar draed neu gvdag afon fechan arall, ond cymerai iddynt yn y cyff- redin o wyth i ddeng niwrnod i wneud y dalth. Cymaint o amser yn mron ag a gymer yn awr i fyned o Lerpwl i Utica. Dywedir mai pobl o Sir Benfro oedd y rhai cyntaf i fyned i'r lie, ac er fod y ddaear o gylch Utica yn baradwys hwy a droisant eu cefnau ar y tie a dringasant i fryniau uchel oerion a chymharol. ddiffrwyth Steuben, I gwlad digon tebyg 1 gylcboedd y Freni Fawr vn Sir Benfro. JYlae hanes en telthmu a'u symudiadau o fan i fan lawn mor fardd- onol a dyddorol a banes ymdaith Abraham yn ngwlad yr Addewid. Gan fod yr hen bererinion bron myned i gyd yr oeddwn yn teimlo yn ofidus na buasai genyf amser i gofnodi eu treigliadau. Cydymaith i mi yn myned i America yn 1870, oedd Mr O. P. Jones, Trelech. Aeth- om ill dau yn mlaen i Oneida, ac yn mysg lleoedd ereill ymwelsom a Tug Hill a Turin, ac arosodd efe yno yn weinidog. Yr oedd yno ar y pryd ddwy eglwys fechan lewyrch. us, ond eleni hyspysid fi fod un o'r ddau gapel wedi ei gau os nad wedi ei werthu a'r Hall bron yr un fath. Mae Bethel, lie oddeutu pedair neu bum' milltir o Remsen, yn dal yn gryf ac yn gal- onog. Mae y Parch. Edward Davies, golyg- ydd y Cenhadwr, yno yn weinidog, a ehyd- nabyddir ef yno fel tywysog en Israel. Morris Roberts, Brynllin, fel y gelwid ef oedd cychwynydd yr achos yno oddeutu 1837, ac yn 1839, adeiladwyd yr addoldy, yr hwn yn bresenol sydd un o'r rhai mwyaf taclus yn y sefydliad. Mae yno gynulleidfa gref y rhan fwyaf o honynt wedi eu geni yn y wlad ac eto yn dal mor Gymreig a phe yn Trawsfynydd neu Lleyn ie, wrth son am Leyn,—mae yno gymeriad o Leyn, H. Hughes yr wvf yn meddwl. Cymeriad gwreiddiol, dyn yn meddu talent naturiol ond heb gael rhyw lawer o gaboliad celfydd- ydol oddigerth y caboliad mae gras wedi I wneud arno. Aeth i America yn 1831, ac er na fu byth yn ol yn yr "Hen Wlad" gwyr ei hanes lawer yn fwy manwl nag odid un o bob deg Annibynwr yn Nghymru. Owyr y cwbl sydd i'w wybod am holl sym- udiadau yr enwad, ei ystoruiydd, ei dywydd teg, yr eglwysi, y gweinidogion, y colegau a'r myfyrwyr, a dywedodd i mi newyddion o Gymru. Mae yn gyfoethcg ond yn garedig a hunanymwadol, ac mor ddiniwed a phlen- tyn, a gallwn feddwl wrth ei agwedd ei hun a'i deulu ei fod yn deall y Sordd i wneud y gore o'r ddau fyd. Yr oedd yno ryw ddynes fechan ddel, ddyddorol, ddigrif, ddoniol, dda, ei gair o Rbosymeirch, yn son yn ddibaid am Dr. Cefni Parry, yr oedd y ddau feddyl- iwn yn gyfoedion, ei thad, Shon Owen, Rhosymeireh, meddai hi, fu yn cydio yn Haw Parry i'w ddysgu neu i'w gychwyn i gerdded fel pregethwr. Yr oedd y ddynes fach o Rhosymeirch, a H. Hughes fel pe buasech yn nghwmni Gildas a Nennius y ddau hen groniclwyr Saxonaidd. Mae Eemsen yn aros yr un fath—fawr ysgwyd yn y lie, ac y mae yn amlwg wrth olwg y lie fod masnach wedi gweled yno amser gwell. Bymtheng mlynedd yn ol yr oedd Morris Roberts yno yn liond gwlad o ddyn ac yn llawa croesaw. Pan ddaethum heibio Remsen wrth ddychwelyd yn 1871, yr oedd y Parch. R. Evans (Trogwy), Maes- glas, newydd gyrhaedd yno a phob peth yn dyweud eu bod am ei wneud yn ddedwydd. Ond lie Morris Roberts eleni oedd yn wag, yr oedd wedi myned adref fel ysgafn o yd yn ei amser, Mae Miss Roberts yn aros yn hoenus a hoeyw fel cynt, yn unig nid yw hi na minau, fel y mae gwaethaf y modd, yn myned fawr ieuangach. Mae fy hen gyfaill Trogwy wedi symud i'r West, i un o'r lle- oedd mwyaf dymunol yn Wisconsin, Osh- kosh. Yn Remsen y mae yr addfwyn a'r caredig y Parch. Seth Jones, yn bugeilio deadell o Fedyddwyr, o wyr y dwr," ond yn fwy priodol gwyr llawer o ddwr," canys yr ydym i gyd yn wyr y dwr i fesur mwy neu lai. Pan oeddwn yn America. gynt yr oedd Mr Jones yn bugeilio yn Dan- ville. Mae yn awr yn preswylio yn ei dy ac ar ei dyddyn ei hun, yn barod i ddyweud ar hyd ffordd uniawn yr arweiniodd efe hi, a hydevaf y gall ddyweud fel Job—" Bvddaf farw yn fy nyth." Bu'm allan gydag ef yn y cynbauaf siwgr yn tylln y coed ac yn fixio y cawgiau i dderbyn yr hylif melus. Gallwn feddwl mai byd dedwydd i weinidog yw cael byw ar ei dyddyn ei hun a than ei ffigysbren ei bun chwythed ystormydd o'r lie y chwythont. Mae Steuben wedi myned drwy lawer o gyfnewidiadau mawrion yn ystod y pym- theng mlynedd. Yr oedd teulu Dr. Everett yr amser hwnw yn lied gyfan ac fel yn cyf- ansoddi teyrnas fechan, y Dr. oedd y brenin a brenin anwyl oedd efe hefyd. Synwyr, amynedd, anwyldeb, a diwydrwydd wedi eu cyfuno a'u gwasgu i le bychan corff gwan eiddilaidd. Yno yr oedd Mrs Everett a'r plant yn union fel y desgrifia y Salmydd deulu dedwydd.
[No title]
News
Cite
Share
Os oes offeiriad yn rhywle heb wybod sut i gadw curad yn rhad, nid yw y gwr clericol a hysbysa yn y Schoolmaster yn mysg y deillion. Dyma fel y dywed yr oifeiriad llygad y geiniog hwn. Yn eisiau Ysgol- feistr trwyddedig yn fuan, i ysgol gymysg (plant neis iawn) mewn ardal hollol amaeth- yddol. Rhaid fod ganddo I bertbyiias fen- ywaidd fedrus at y plant lleiaf a'r gwnio. Ehaid i'r ddau fod yn Uchel Eglwyaig ac yn gymunwyr cyson. Ysgol Sulddwywaith i'r ddau. Yn mynychu yr ysgol ar gyfar- taledd, ynghylch 71. Pasioid y flwyddyn ddiweddaf 96 y cant. Ehaid i'r tystysgrifau, adroddiadau, a'r croen llo fod o deilyng- dod diamheuol. Offeryn-cerdd yn yr egiwys, a gofal y cor gan y rheithior. Ni fydd o un dyben i ddyn ystyfnig (self willed) neu o dueddiadau Iladicalaidd ymgeisio. Cyflog 90p. i'r ddau. Ty da (yn vmyl yr ysgol) a gardd ffrwythlon: yn rhydd o dreth ag ardreth. Cymydogaeth brydferth, I I ynymylymor." Dyma y telerau y mae'r cleriewr b wn yn cael eu gosod i lawr a hyny ynglyn ag ysgol sydd yn cael ei chynal gan I til y llywodraeth. A gwaeth wedyn, os yn bossibl, rhaicl i rieni anfon eu plant i grafangau addysg teyrn offeiriadol fel hyn. 11 Z, Mae mvvy o gamwri yn caelei wneud yn enw addysg yn Nghymru hefyd nag' y mae liawer wedi ei feddwl. Ehaid eaelyr ysgol- ion o ddwylaw y clerigwyr. 0 bob gormes- deyrn, yr un crefyddoL yw y dyhiraf a'r creu- lonaf.