Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CWMYRHONDDA.

News
Cite
Share

CWMYRHONDDA. Er fy mod yn gosod Cwmyrhondda uwch ben fy llythyr, eto nid dim sydd yn perthyn i Cwmyrhondda mwy na rhyw gwm arall yw y mater wyf am alw sylw ato yr wyth- 110S hon. Nid oes dim ond cofnodiadau o gyfarfodydd etholiadol i'w gwneuthur yma yr wythnos hon, ac nid oes dim mwy neill- duol wedi digwydd ynddynt na'r rhai sydd wedi eu cynal yn barod, neu y rhai a gynelir yn y dyfodol, a chawn gyfle, ni a hyderwn, i wneud sylw o honynt yn yr wythnosau nesaf. Yr hyn y carem y&grifenu tipyn arno yr wythnos hon yw pwnc y tir. Nid oes un newyddiadur Cymreig wedi rhoddi cymaint o hynodrwydd i'r mater hwn a'r Celt. Ynddangosodd ynddo erthyglau galluog ar y Tir i'r Bobl," a darfu iddynt dynu llawer o sylw a chreu llawer o ddydd- ordeb yn y mater. Mae bwn yn hen bwne jsydd wedi ei ddadleu gan ryw nifer er ys mwy nag ugain mlynedd yn ol, a hyny yn Nghymru. Cof genyf weled ertliygl wedi ei ysgrifenu gan un yn Abertawe, i newydd- iadur Seisnig. Dadleuai yntau dros roddi y tir i'r bobl, ac fe gynygiai fod yr holl deyrnas i gael ei rhanu yn fan ffermydd o ddeuddeg erw i bob dyn pan yn cyraedd pump a'r hugain oed, a chyfrifai fod digon o dir yn y deyrnas i bob un pan yn cyraedd yr oed uchod i gael fferm o ddeuddeg erw. Ond fel y mae yn hysbys ni ddaeth dim o'r cynllun hwn, ac ymddengys ei fod yn bollol anymarferol, a hyny ar fwy nag un cyfrif. Ond er fod cynllun ar ol cynllun yn syrthio i lawr, nid yw y pwnc wedi colli ei bwysig- rwydd a'i ddyddordeb. Ac erbyn heddyw teimlir ei fod yn un o gwestiynau mawr y dydd. Pe dychwelid digon o fwyafrif o Ryddfrydwyr trwyadl i'r Senedd nesaf nid oes ond ychydig o amheuaeth na cherir mesurau pwysig yn nglyn a'r mater yma. Erioed ni bu mwy o alw ar bob Rhyddfryd- wr i dynu allan ei holl ymadferthoedd er sicrhau mwyafrif mawr i'r blaid, nag sydd yn bresenol, Yn ddiau nid amser i gysgu a hepian ydyw hwn. Mae y blaid Doriaidd ar ddihun, ac na fydded i ninau fod yn cysgu. Disgwylia y wlad i bob un wneud ei ddyledswydd yn awr. Ond at bwnc y tir. Pa gyfnewidiadau yr ydym am gael mewn cysylltiad ag ef P Yn 1. Nad oes i un tir feddianydd i feddu ond swm penodol o dir. Mae yr etifeddiaethau mawrion sydd gan nifer luosog yn angbyd- weddol a buddiant ag a llwvddiant y wlad. Yn ol y drefn bresenol a v tiroedd i ddwy- law yr ychydig. Er ys chwe ugain mlynedd yn ol yr oedd nifer y tir feddianwyr yn y wlad hon yn llawer lluosocach nag ydynt heddyw. Gwelais fod un yn dyweud eu bod wedi myned i lawr mewn can mlynedd, dri ehan mil. Yn ol y cyfrif hwn, os ydyw yn gywir, ni byddwn yn hir cyn y bydd'yr holl ddaear yn meddiant nifer fach o ddynion. Er atal hyn dylid cael deddf yn penodi y swm eithaf o dir a all un ei feddu. 2. Dylid dileu deddfau yr etifedd. Gwir y gall perchenog tiroedd a thai wneud ewyllys a rhanu eu holl eiddo oddieithr eu bod yn entail. Ceirlluaws o etifeddiaeth yn disgyn yn ol i'r etifedd. Mae y rhai hyn wedi eu trefnu gan ryw berthynas sydd yn y bedd er ys oesoedd. Ond y mae nifer ereill o etifeddiaethau y mae eu perchenogion yn alluog i'w dosparthu yn ol fel y gwelynt yn oreu rhwng y plant i gyd. Cyfraith galed yw cyfraith yr etifedd. Ac y mae hon wedi gwneyd mwy o niwaid nad allwn yn rhwydd gredu. Dyma y rheswm fod cyfoethogion y wlad mor selog dros y fyddm a'r Hynges &'r eglwys sefydledig. Yn un o'r rhai hyn y ceisir gosod y plant nad oes dim o'r etifedd- iaeth i ddyfod iddynt. Gan nad yw y rhieni yn gallu darparu cylchoedd digon anrhvdeddus i'r bechgyn sydd wedi bod mor anffodus a dyfod i'r byd ar ol eu hamser rhaid edrych am le i nifer yn y fyddin a lie i un neu ddau o'r rhai mwyaf diymenydd yn yr eglwys a rhyw un yn y llynges. Rhaid hefyd edrych na byddo cyfnodau o heddwch yn rhy hir onid e ni bydd lie am ddyrchafiad. Fel rhwng pob peth mae deddfau perthynol i'r etifedd yn rhai drud a chostus i'r wlad, heblaw eu bod yn dy- Ianwadu yn nerthol i ddwyn y tiroedd i ychy- dig o nifer. 3. Mae yn ofynol i gael cyfraith er rhydd- bau yr etifeddiaethau sydd yn awr yn entail a galluogi eu perchenogion i'w dwyn i'r farch- nad os byddant yn dewis gwneyd hyny. Ber- nir fod nifer o foneddwyr yn dyoddef yn drwm oblegid eu bod yn analluog i werthu eu tiroedd. Ac y mae y wlad yn dyoddef hefyd mewn canlyniad i hyn.' 4. Sonir llawer yn y dyddiau hyn am gael deddf i rwyddhau gwerthiant tiroedd. Achwynir yn fawr yn awr ar y treuliau mawrion sydd yn myned ar y rhai sydd yn gwerthu ac yn brynu tiroedd. Cawn lawer o Doryiaid yn gystal a Ehyddfrydwyr yn barod i gydweithio er gwneud gwerthiant tiroedd yn fwy syml a hwylus. Paham nad ellid gwerthu darn o dir mor rhwydd a di- gost a gwerthu anifail neu rhyw nwyf arall. 5. Byddai yn fanteisiol i fuddiant y ffermwyr a'r wlad yn gyffredinol i gael pryd- lesi (leases) am ugain i ddeng mlynedd ar hugain. Pa sawl ffermwr diwyd a da sydd wedi gorfod dyoddef codiad yn ei rent a hyny yn fwy nag unwaith a hyny oblegid ei weith- garwch ei hurt, Gwyddom am lawer nad ydynt yn ceisio gwrteithio llawer o'n tiroedd am eu bod mewn ofn naill ai gael rhybudd neu godiad yn eu rhenti. Pa egni a ellir ddysgwyl i ddynion o dan yr amgylchiadau hyn i daflu i wella eu tiroedd. Rhodder iddynt brydiesi am ugain neu ddeng mlynedd ar hugain, a theimlent eu hunain yn ddynion rhyddion a'u bod mewn cyflwr yn yr hwn y bydd yn fanteisiol iddynt i wneud eu goreu er gwrteithio eu tiroedd. 6. Dileer deddfau helwriaeth. Mae y rhai hyn yn ddeddfau mwyaf anheg ao anghyfiawn a gwasgent yn drwm ar nifer luosog o ffermwyr ym mhob parth o'r wlad. Ceir boneddwyr, os teilwng o'r enw, yn gwerthu gwerth canoedd o bunau yn flynyddol o game, wedi eu magu ar draul ei deiladon. Mae yr hyn a elwir y ground game o'r mwyaf dinystriol ac y maent yn difa y ffordd maent yn cerdded. Mae bell- ach ar ein Haw ni i fyny y cyfnewidiadau anghenrheidiol yn y deddfau tirol. Dywed- wn oil y mynwn hwn mewn ffordd gyfreith- lon. m PWY A WYR.

Advertising

HYN A'R LLALL O'R GOGLEDD