Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CRYBWYLLION AM BERSONAU".

News
Cite
Share

CRYBWYLLION AM BERSONAU". Hysbyiir fod Mr Brinley Richards i gael ei an- Tbydeddu yn fuan a'r teitl o Farchog. Mae y boneddwr anrhydeddus hwn yn haeddu rhyw gyd- nabyddiaeth am ei lafur maith a theilwng yn nglyn a cherddoriaeth, a derbynir y newydd gyda llawen- ydd gan ei gydwladwyr. Dydd Mercher bu yr Hawlydd ar ymweliad a Chaerdydd, a thraddododd anerchiad yn y Music Hall i dyrfa luosog. Areithiodd yn yr un lie nos Iau. Nid teilyngdotl yr araeth ond hynodrwydd yr areithiwr oedd yn tynu mwyaf sylw. Rysbysir am farwolaeth Mr W. Eliot, Wey- mouth, yn 92 mlwydd oed. Efe ydoedd y Rhydd Faswniad hynaf yn y byd, gan iddo ymuno a'r urdd hono 70 mlynedd yn ol. Cynygiodd Mr Samuel Smith wobrau i weithwyr am ateb gofyniadau yn y llyfr enwog, 4r Smith's Wealth of Nations." Yr arholydd ydoedd y Pro- :ffeswr M'Cunn, o'r Athrofa Genedlaethol. Saer o'r enw Campell a enillodd yr £ 20, a saer arall o'r enw J. Huddlesten a enillodd y £10. Dywedodd John Cash, ffeniad sydd newydd gyraedd Hamilton, America, mai efe oedd gyr- iedydd y cerbyd a gariodd y llofruddion i gyflafan Pho»nix Park. Dr Temple, Esgob Exeter, sydd wedi ei benodi ja Esgob Llundain. Cyflawnodd Mr Tom Nash, y bar-gyfreithiwr enwog o Manceinion, huuanladdiad yn Llundain dydd Mercher diweddaf, trwy saethu ei hun. Sonid .am ei enw fel ymgeisydd Ceidwadol dros Stockport, ond tynodd ei enw yn ol yn ddiweddar. Yr oedd yn hynod fel dadleuydd yn Ilysoedd barn y deyrnas. Bu Richard Coyle, paentiwr o Bridgeport, Con- -necticut, farw o afiechyd hynod. Yr oedd wedi bod yn glaf er's dwy flynedd, ac ymddengys fod ei eagyrn wedi troi yn chalk. Torasai ei fraich amryw weithiau yn ddiweddar wrth iddo ddim ond ei 4hodi oddiar y gwely. Yi Kingsbridge, ger New York, y dydd o'r blaen, ganwyd plentyn i Mrs Charles Tracy, yn pwyso un-owns-ar-ddeg, a dim ond chwe' modfedd o hyd yr oedd ei ben o faintioli afal bychan, a'i geg mor fechan fel yr oedd yn rhaid rhoddi llaeth iddo gyda phibell o drwch gwelltyn. Dydd Tau, yn Esflwys Crist, Llerpwll, priododd y Parch. S. E. Gladstone, ficar Penarlag, a mab y Prifweinidog, gyda Miss A. C. Wilson, merch y meddyg adnabyddusoAbercromby Square, Le'rpwl. Cafodd Mr Gladstone, y Prifweinidog, a'r teulu. dderbyniad brwdfrydig a thywysogaidd. Clwyfwyd y General Stewart, a lladdwyd dau ohebydd rhyfel yn y frwydr wrth Metemmeh, dydd tLlun cyn y diweddaf. General Wilson a benod- wyd yn lie Steward i gario pethau yn mlaen, a gwnaeth ei waith yn deilwng. Yn awr mae'r drafnidiaeth yn ngored rhwng byddin Stewart a'r -Cadfridog Gordon. Anrhydeddir Stewart gyda -theitt am ei wrhydri gan ein Grasusaf Frenhines. Nos Iau, bu Mr John Bright a Mr Chamberlain yn anerch eu hetholwyr yn Birmingham. Yr oedd tyrfa aruthrol yn gwrandaw arnynt, a thraddod- asant anerchiadau grymus a thanllyd, Yr wythnos ddiweddaf, saethodd James Oliver, peirianydd, ddynes ieuanc o'r enw Ophelia Lloyd, gyda yr hon y bu yn byw. Y r oedd yn eiddigeddus ° honi, a phan welodd hi ar yr heol, taniodd ergyd- ion ami dair gwaith o'i lawddryll, a nfweidiodd hi mor drwm fel yr ofnir am ei bywyd. Gyda chryn drafferth cymerwyd ef i'r ddalfa. Dywedir mai Ffrancwr o'r enw Ollivier Pain sydd yn arwain y gwrthryfelwyr yn Metemmeh, a bod ganddo 13,000 o dano yn y lie. Mae Mr Richard Moon, cadeirydd Cwmni Reil- ffyrdd y London a'r North Western, wedi ei wahodd i ddod yn ymgeisydd seneddol dros Crewe a Nant- wich. Traddodwyd Robert C. Hodgson yn Croydon i sefyll ei brawf am saethu at ferch ieuanc gyda bwriad o'i niweidio. Hysbysir fod Joseph Shill, a gondemniwyd i farw am lofruddio ei wraig yn Windsor, yn wallgef, a bod dedfryd ei farwolaeth wedi ei thynu yn ol. Rhoddwyd derbyniad tywysogaidd i Ardalydd ac Ardalyddes Ripon ar eu cyrhaeddiad i'w cartref jn Ripon ddydd Mawrth. Mewn atebiad i lwnc- 4estyn, dywedodd yr Ardalydd mai y swydd o Raglaw India ydoedd yr anhawddaf ei chyflawni o holl swyddi ei Mawrhydi. Hysbysir fod Arglwydd O'Hagan wedi marw boreu ddydd Llun. Cafodd gystudd maith. Bu yn enwog iawn fel gwiadgarwr, a gweithiwr difefl dros yr Iwerddon. Efe oedd y Pabydd cyntaf a ddyrchafwyd i'r swydd o Arglwydd Raglaw yr Iwerddon.

f CRYBWYLLION DIRWESTOL.

ICRYBWYLLION" AMRYWIOL.