Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFADDEFIAD MERCH.

News
Cite
Share

CYFADDEFIAD MERCH. Ymgilio'r oedd yr haul dan leh Pan araf rodiem rhwng y coed, Y gwyll ymdaenai am fy mhen Ond yn arafach nag erioed. A rhwng y cangeu clywid myrdd 0 ber alawon cor y dail, Y ddaear oedd mewn sidan gwyrdd Yn cadw gwyl machludiad haul. Rhyw bradd y teimlwn ar y pryd Ond curai'm calon fel y gwynt, Anwyldeb deimlwn at y byd Fum i erioed fel hyny gynt. Ymgomio wnaem yn ddomol iawn, Am beth, mae wedi mya'd o'm co', Fel mor, digyfor oeddfy nawn, Atebai ef, "Wei, ie, ho." Pan droais fy mhen i edrych draw Gan sylwi fel noswyliai'r dydd, Ei Jaw gyffyrddodd a fy llaw A rhoddodd gnsan ar fy ngrudd; Nis gallswn feddwl tynu'n groes, Cusenais inau ef drachefn, Y tro rhyfeddafyn fy oes, Ond hwyiach gwyddoch am y drefn. i Wel dyna gusan rhyfedd iawn, Mae'n para'n felus ar fy min Mae megis ffynon fechan lawn Lle tardd teimladau pur eu rhin Pe buasai araU yn ei Ie, A wnaethum i gusanu o ? ,:v, A f'aswn i'n ei garu e'? A oedd rhyw dynged yn y tro ? J. ALDEN.

AT YR UN RHAI AG O'R BLAEN.