Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CWYN YR AFIACH. !
News
Cite
Share
CWYN YR AFIACH. Ni fu undyn dan fwy o wendid,—na Neb mor wael ond odid; Ow! heb wres na gwyneb wrid, Y n afiach dan fawr ofid. Pesweh, a salwch isela-fy ysbryd A fy asbri gollaf; Anghysur hen gur a gaf A phoenau nes gorphenaf. 'Rwy' beunydd dan rhyw benyd-yn ochain, Ynnychu drwymywyd; 'Auaf a'haf, rwyf o hyd Tan fachau tyn afiechyd. Ow llawer o flinderau-a gofid A gefais yn ddiau; Hyn yw y gwir, ni wna gau Roi arwyddion ar ruddiau. Oer alaeth fy awr olaf—sy'n nesu Yn nes, yn nes ataf; Gan boen yn wir gwn byw ni wnaf, Yn y bedd yn union byddaf. Marw yn dda nghymeriad, Fy nghadw gan fy Ngheidwad, Clirio yn d6g glorianau Duw, Hyny yw fy nymuniad. Llandderfel. THOMAS ROBERTS.
AT FFYLIAID CYMDEITHASOL CYMRU.
News
Cite
Share
AT FFYLIAID CYMDEITHASOL CYMRU. Gyda phriodoldeb y gellir dywedyd mai lleng yw ein henw am fod llawer o honom. O'r 900,000,000 pobl sydd yn preswylio gwyneb y ddaear, mae, a dyweud y lleiaf, 991 0 bob cant o honom yn wallgofiaid ym- arferol. Gwyry neb a fu yn ymweled a gwallgofdy y bydd y trueiniaid braidd yn ddieithriaid yn tybio eu bunain yn eu pwyll, ac yn gresynu yn enbyd dros eu eyd. ddioddefwyr. Bvdd mewn gwallgofdy gan- oedd felly yn gorfod talu yn ddrud am gael dyfod i'r ty, a bydd yno ryw ddau neu dri o swyddogion yn cael cyflogau mawrion am eu cadw mewn trefn a than reol. Un gwall- gofdy mawr yw y wlad hon i gyd, a ni, y dosbarth gweithiol, yw y gwallgofiaid, a orfodir i ni dalu yma symiau anferth am gael lie i osod ein troed i lawr, a dyna lie mae y lords a'u cynffonwyr yn cael cyflogau anferth am ein cadw irewn trefn, druain o honom Fuoch chwi erioed yn rhyfeddu fel y bydd un swyddog yn gallu cadw trefn ar gant neu ddau 0 wallgofiaid, ond ar yr un eiliad yn teimlo ei fod yn gallu am ei fod yn ei bwyll a hwythau allan o'u pwyll. Ond mi ddywedaf i chwi ddau neu dri o bethau sydd lawer yn rhyfeddach na hyn yna. Mae lawer yn rhyfeddach i mi fod un dyn vn gallu cynhyrfu bechgyn glandeg Cymru a Lloegr i fyned yn filwyr, i fyned i ladd pobl na welsant mo honynt erioed, ac na wnaethant ddim drwg iddynt hwy na'u teuluoedd. Cynhyrfu y bechgyn i ymladd dan enw amddiffyn eu gwlad pan nad oes a wnelo ein milwyr ddim a'r wlad hon mwy na rhyw wlad arall y dichon iddynt aros ynddi. Nid oes ganddynt yma, nag oes led troed, o honi ar eu helw, ac i'r rhai sydd heb led troed o ddaear eu helw, nid yw o un gwahaniaeth pwy fydd yma yn ben. Ond rhyfeddach fyth, bydd rhieni, brodyr, a chwiorydd yn uno i roddi Cyflogau anferth, ac anrhegion difesur i'r bobl iurweiniodd, neu agynhyrfodd, eu hanwyiiaid i fyned i faes y gwaed, o'r lie na ddychwelant byth. Al nid y rheswm am hyn yw fod y swyddog- ion yn eu pwyll a'r bechgyn a'u perthynasau druain yn wallgof ? Pan gladdwyd mab y Frenhines dywedid fod yr holl genedl yn galaru-galaru am ei bod cael arbed talu .£10,000 y flwyddyn, ai nid gwallgofrwydd yw peth fel yna? Dywedir yn awr fod yr holl genedl, yn llawenhau am fod merch y Frenhines yn myned i briodi, yr hyn sydd gyfystyr a gosod yn agos .£40,000 y flwyddyn nesaf, a X6000 bob blwyddyn tra fyddo byw, o faich ar eu cefnau. A oes rhywun heblaw pobl wallgof a wnelai beth fel yna ? Yn sicr, mae dweud fod y genedl yn llawenhau am gael talu miloedd yn ychwanegol i gynal teulu nad oes neb o honom yn alluog i ddy- weud i beth y maent da, yn arwydd o wall- gofrwydd lied eithafol. Byddwn ni yn y wlad hon yn meddwl ein hunain yn ddoeth- ion, yn son am y Cyfansoddiad Prydeinig, yn ymffirostio fod yma fwy o ryddid, mwy o gyfiawnder, a, mwy o grefydd nag yn un wlad dan haul, ac fel yr arfera gwallgofiaid wneud, mawr y gresynu y byddwn dros drueiniaid gwl«dydd eraill, a byddwn yn rhyfeddu fel y bydd gorthrymwyr yn cael eu goddef yn y gwledydd pell (?). Byddwn yn rhyfeddu fel y goddefwyd y Pab a'i giwaid am gyaifer o ganrifoedd i farchog- aeth y bobl, eu cneifio a'u blingo, tra yn goddef i babau byehain cartrefol ein march- ogaetb hyd y dydd hwn. Rhoddodd Harri help Haw i daflu y Pab oddiary cyfrwy, ond cyn i'r bobl orphen llawenhau am y wared- igaeth dybiedig, yr oedd Harri ei hun wedi neidio yn ei Ie, ac yn awr tra yr ydys yn cynyg taflu ymaith olynwyr Harri, mae yna lu o fan Babau yn mhob enwad ciefyddol mewn blys cymeryd ei le yntau os na fydd y bobl; ie, y BOBL wyf yn feddwl, a'u llygaid yn agored bydd y drwg diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Byddwn yn gresynu at y Chineaid fydd yn addoli yr eilun Josh," ac yn pi-offesu eiddigedd duwiol wrth weled neu glywed am yr alanastra a wna olwynion Jugger- naut ar fywydau yr addolwyr. Swyddog- aeth Josh yn nghrefydd y Chineaid, os wyf yn cofio yn iawn, yw gofalu am dywydd teg, cynhauaf da, a thamaid o fwyd, a sicr- hau i'r addolwyr ffafr y duwiaa mwyaf. Josh y wlad hon yw'r offeiriaid, os bydd eisieu cardod, eisieu elusen blwyfol, eisieu swydd i'r mab neu y ferch, neu eisieu tyddyn, ewch i'rlla.n, os nad ewch yno yn rheolaidd, ewch yno ddigon mynych i gadw Josh yn foddlon, a pha stiward neu land- lord omeddodd dyddyn i'r amaethwr a gymeradwyid gan yr offeiriad? Ac i mi Dy ymddengys y galanastra a wna olwynion Juggernaut lawer y n llai gwrthun na'r galanastra a wna landlordiaeth ar y bobl yn Nghymru, bydd yr addolwyr yn myned o'u gwir ewyllys o dan olwynion yr eilun, ond lletha landlordiaeth y bobl yn groes i'r teimladau mwyaf cysegredig-, eto, y mae rhywrai yn ddigon gwirionffol i gredu nad oes wlad dan haul wedi ei thrwytho mewn rhinwedd fel Prydain. Pwy ond gwallgof- aid a ddywedai y fath ffiloreg ? Yr ydym yn byw mewn ynys, wedi ein cau i fyny fel mae rhyngom a'n cymydogion gagendor wedi ei sicrhau, fel nas medra y rha,i a. fynai o hgnom dramwJ oddi yma atynt hwy nag oddi yno atom ni. Tra y gall y Ffrancwr ymweled a Spaniard, Italiad, Swissiad, Germaniaid neu Belgiaid cyn boreufwyd, a, deall pob un o honynt mor rwydd ag y dealla pobl Clawdd Offa y ddwy iaith," maent yn gymydogion, tra, y mae rhyngom ni a'n cymydogion agosaf I gagendor ddaublyg, y mor a'r iaith. Bydd llawer o ymwelwyr hafaidd yn myned i'r Cyfandir, ond yn dychwelyd mor ddiamcant am natur pethau yn y gwledydd hyny ag y bydd y Saeson ar ol ymweled a Chymru. Mae America, lie y gallem gymdeithasu a'r bobl, yn rhy bell i ni fyned yno i gael gweled ffordd y maent yn byw a dychwelyd; pan elo pobl i America i weled y lie, yn hytrach na dychwelyd i geisio gwella'r aM- gylchiadau dewisant anfon am eu cyfeillion ar eu hoi. Gwyr rhai. o honom am yr anhawsder sydd i ddwyn gwelliantau i mewn i bentref- ydd gwledig ac anghysbell, neu 1 drefniadall amaethyddol llanerchau, lie y byddo y bobl fel y Sidoniaid yn trigo yn ddiofal heb negesau rhyngddynt, ag odid neb; felly yn union mae yr anhawsder i ddwyn gwell- iantau i mewn i Brydain am nad oes genym gymydogion y gallwn wneud eu negesau hwynt yn y pethau. y dylem fyned yno i'w gweled. Pan ddyweda rhywun welodd wledydd eraill nad oes gymaint o orthrwm ac annghyfiawnder mewn un wlad yn Ewrop ag yn Mhrydain, chwardda y Cymry am ei ben, a gwawdiant ef fel un am ddangos ei hun. Dywedodd rhywun yn y Senedd yn 1884, fod yn Ffestiniog, Llandudno, a lie- oedd o'r fath, lu anferth o wallgofiaid, nad oedd yn Ewrop, y tu fewn na thu.allan i'r gwallgofdai ddosbarth o bobl mor eithafol wallgof; eu bod yn troi yr anialwch yn ddoldir, y corsydd lleidiog yn erddi par- adwysaidd, ac yn talu crogbris am gael adeiladu tai yn ol cynllun y landlord, ae o'r gwerth fyddo yn geisio, ae wedi gosod allan fan hono enillion oes o gynildeb eu bod gynted y byddo y He wedi ei orphen yn daclus yn ei roddi i fyny am ddim i'r land- lord. Beth yn fwy afresymol allai gwall- gofiaid sydd o'r tu fewn i'r gwallgofdai wneud? Byddai y caethfeistri yn gofalu am dai ac ymborth i'w caethion, ond y mae