Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
MYFYRDRAITH DOCTOR DUWINYDD-IAETH.
News
Cite
Share
MYFYRDRAITH DOCTOR DUWINYDD- IAETH. Ehif 143. Glanyrafon. M. 17 (2 8). Casgliad Mri J ones a Stephen. D.D., o dyma deitl mawr i mi, A'm oyfyd byth yn frawd o fri; 0 dir Amerig daeth un dydd, Tra yn y byd dwy bluen wen I harddu'm pen yn fwyn a fydd. Plu, plu, 0 bobtu'm pen yn swynol sy' Yn addurniadau cywrain cu Eu lliw a'u llun iy lloni'n llawn A wnant, er gwaethaf gwyn a gwawd Tuchanwyr tlawd, drwy'm byr brydnawn. Rhag 11 aw, Cyfarchiad imi'n ddel a ddaw, Mewn llan a llys wrth ysgwyd Haw A plilyga glin a gostwng pen, Wei Doctor, O mor hardd yr y'ch, Byth byddwch wych, amen, amen." Daw, daw, Holl loi y bobl oddi draw Yn lluoedd lion er llyfu'm llaw, A brefu Doctor yn g-ytun Nes clywo creigiau Cymru gu, A drwy'r D.D. 'rwy'n fwy na dyn. LIef, LIef, A glywais megis taran gref Y mae Doctoriaid yn y nef," Ymadrodd anwyl, freiniol fraint 'Rwy'n gwel'd yn awr y byddaf fi Byth yn D.D., yn mhlith y saint. Cais, cais, O'r galon wna'm dolefus lais, Na thybied neb y dreth yn drais, Cyfoder mynor lech i mi A cherfier dwy lythyren gron Ar dalcenhon, sef y D.D. Hwre, Yw bloedd y Glymblaid yn mhoblle, D.D. y llawr, D.D. y re', Un mawr yw hwn a mawr a fydd, Crwnaed salach un eyn hyn yn dduw, Ein brenin yw os bu yn grydd." BARDD Y BWLCH.
DIWRNOD Y RHENT YN NGHTMRU
News
Cite
Share
DIWRNOD Y RHENT YN NGHTMRU Bdrycha amaethwyr Cymru yn mlaen at, a -darparant ar gyfer diwrnod y rhent gyda mwy o bryder nag y darparant ar gyfer dydd y farn. Mae yn rhyfedd mor ddwfn yn n glial on amaethwyr Cymru, y mae y ddyled- awydd (?) o dalu y rhent wedi ei cherfio. Nid oes dim o gylch y ty yn rhy gysegredig i'w werthu neu i'w drethu i gael arian y rhent at eu gilydd. Y syniad am rent gynt onite, oedd, fod i'r amaethwr ranu a'r land- lord ar ol iddo ef gael ei fywoliaeth ond ymddengys yn awr fod y drefn wedi newid, talu y ewbl i'r landlord yn gyntaf yw hi yn awr, yna bvw ar ddim eich hun. Pe na "thalasai un amaethwr y rhent eleni, ond a cedd ganddo weddill, gorfodicl ein landiords yn fuan i ddyfod i'w synwyrau, yn lie talu o'r hyn fyddo dros ben, tala y rhan fwyaf o'u hangen. Mae diwrnod y rhent yn ddiwrnod o gneifio neu flingo eyffredinol. Os bydd gan yr hen bobl fab neu ferch yn rhywie yn gweini, neu yn America wedi dyfod i amgylchiadau cysurus, rhaid eu cofio mewn pryd iddynt gael anfon eu cyfran i helpio talu y rhent. Os bydd yno blentyn neu wyr bychan wedi cael blwch bach dan yr enw "cadw ti gei," rhaid ei agor a chymeryd o hono yr ychydig geinio-au oedd wedi dderbyn gan berthynasau, a'u tros- glwyddo i dalu y rhent er brased" dagrau y bychan uwch eu pen, os bydd yno swllt wedi ei osod o'r neilldu ar gyfer y Gymdeithas Genhadol, neu y G-ymdeithas Feiblaidd, neu ar gyfer rhyw amcanion crefyddol, rhaid i bob peth roddi ffordd, canys y mae y rhent fory." Os bydd yno rywbeth i'w werthu, ebol, neu oen llyweth, ymaith ag ef pe yn gorfod ei werthu allan o amser a than anfantais. Yn fynych wedi troi pob careg fel hyn bydd y rhent yn fyr a rhaid benthyca, ond un o'r pethau mwyaf anhawdd i ddyn mewn angen ywcael benthyg arian. Yna eesglir yr oil a ellir hebgor, man anrhegion oedd yn eu meddiant er y dyddiau dedwydd yr oeddynt yn caru, hwyrach freichled neu fodrwy, clust-dlysau neu gadwen, a hawddach dychmygu na. darlunio y teimladau a gyn- yrchant yn mynwesau y ddau, a chymerir hwynt i'r gwystlydd (pawnbroker), a rhydd hwnw arnynt. ychydig bunoedd am grogbris y 11 i orphen gwneud i fynu y rhent. Pa nifer o amaethwyr Cymru gafodd wybod am y profiad tanllyd hwn yn ystod y deuddeg mis diweddaf. Mae bwrw golwg ar y beichiau anferth uniongyrchol, rhent, degwm, treth, heb son am y trethi anuniongyrchol sydd yn ein llethu yn barhaus, yn ddigon i wneud i ni ryfeddu ein bod wedi eu dwyn mor dawel cyhyd. Mae fod y landlords wedi denu yr amaethwyr i gyraeryd y fath ddyddordeb mewn talu y rhent yn anesponiadwy, talent o flwyddyn i flwyddyn symiau mawrion o arian na chawsant mohonynt erioed o'r tir a ddalient, ac wedi cael einiaw a dau wydraid o gwrw ant adref dan waeddi hwre i "meistr," -1 hen ddyn iawn yw e, ond .edd e'n jolly, mae yn rhoddi einiaw iawn," heb gan neb reswm dros yr hyn awna. Mae yn llawn bryd i amaethwyr Cymru ddechreu gofyn i ba beth y bu y golled hon? Am ba reswm vr wyf yn taflu ymaith y fe-th symiau o arian? Beth wyf yn gael am danynt? Nid wyf yn credu dim mewn cynorthwyo pobl i dalu rhent, ac ni fyddai defnyddio elusen i'r perwyl hwnw amgen camddefn- yddio caredigrwydd. Pa reswm i bobl ofyn cymorth gan eu cyfeillion a'u cymydogion tlodion i gasglu swm mawr o arian iddynt hwy gael eu gosod yn llogell y landlords ? Os nad yw amaethwyr Cymru yn barod i'r No rent policy," cymered y tenant ffordd arall i ddyfod i gytundeb a'i feistr. Gwnaed ei gyfrifon i fynu am y flwyddyn, a goseded y fantolen o flaen y landlord, a rhaned y ddan rhyngddynt yr hyn a fyddo yn ngweddill. A.r yr un pryd nid wyf yn credu dim mewn talu rhent i un dyn am y ddaear, yr hon a'i holl gyflawnder sydd yn eiddo yr Arglwydd, i gynyrchu yr hon ni roddodd yr un landlord, mwy na'r tenant help llaw na dimau erioed. Pa le yr oeddit pan sylfaenais i y ddaear ? Taler rhent am bob peth y bu llafur wrtho, ae y gwar- iwyd arian arno. Yr unig hawl sydd gan ddyn i'r ddaear yw ei fod yn byw arni ac yn ei defnyddio i lesoli ei gyd-greaduriaid. Yn ol y syniad Prydeinig am gyfiawnder, gellid meddwl fod Duw wedi bwriadu i'r rhai ddaeth i'r byd yma gyntaf gymeryd medd- iant o'r ddaear ac nad oedd yn gofalu i'r rhai diweddarach gael lie i osod i lawr wadn eu traed. Pan oedd y feudal system yn ei gogoniant yn y wlad hon ni chaniateid i'r un llanc gymeryd gwraig, heb gael cydsyn- iad ei lord a thalu dirwy am ei ryddid. Yn bresonol mae i'r neb a fyno roesaw i gymeryd gwraig heb dalu dim na gofyn cenad neb ond y ferch ei hun. Wel, dyna ryddid, onite ? Gwir ond druan o hono nid oes ganddo hawl i fyned a hi am awr i le yn y byd heb dalu i'.r landlord, os na adawa hi ar y ffordd, a phe unai landlords unrhyw gymydogaeth gallent yn hawdd foycotio y dyn a fynent o'r ardal, a gwneir hyny yn fynych a phersonau fyddo yn gas gan stiw- ardiaid. Pe gallwn i gredu fod Duw wedi bwriadu i'r rhai ddaeth i'r ddaear gyntaf gael mwy o reolaeth y ddaeer na'r rhai di- weddarach, nis gallwn lai nag edrych arno fel bod creulon ac annghyfiawn. Pan fydda. i yn darllen dammeg y winllan, Math. xx.,ac yn gweled syniadau "y rhai a gyflogasid gyn- z,Y taf," yn meddwl y caent fwy na'r rhai olaf, mi fyddaf yn meddwl, dyna yspryd y land- lords, ond pan y mae Arglwydd y winllan yn ateb, "yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi iTr olaf hwn megis i tithau," yr wyf yn gweled cyfiawnder Duw yn ymddanges mewn goleuni ardderchog. Mae Duw yn ewyllysio yr un chwareu teg i'r hwn a enir o fewn deng mlynedd i ddydd y farn ar hwn a enir ddeng mil o flynyddoedd cyn y farn. Y teitl hynaf, cryfaf, a mwyaf anrhydeddus am dir yn Brydain yw y Gorehfygiad Nor- man&idd, teimla y neb sydd yn dal teitl o'r cyfnod hwnw mor ddyogel a phe byddai ei deitl wedi ei arwyddo gan Dduw yn y "Cynghor bore, o'r Norman Conquest, ond pe deuai yr Americaniaid neu y Rws- iaid yma a gorchfygu y wlad, a chymeryd y tir oddiar y landlords presenol, ai ni byddai y teitlau a geid drwy yr America neu y Russian Conquest lawn mor onest, ac an- rhydeddus a theitlau y Norman Conquest? Dywedir fod yr oes hon yn rhy 01euedig i neb i fyned i yspeilio ei gymydog. Gwir, ond y mae yn rhy ole hefyd i oddef i ladron ddal eiddo lladrad, fel y mae yr yniresymiad yna yn tori bob ochr. Mae y frwydr am y tir wedi dechreu o ddifrif yn y wiad hon ac nid yw yn debyg y gorphwysir nes cael buddugoliaeth. Nid ydym yn credu mewn min cledd, blaen bidog a phlwm hyd nes y byddo pob gallu l moesol wedi methu. Yr ydym yn cydym-