Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hoelion Wyth.'
Hoelion Wyth.' Llysieuydd Sengkenydd. I Ddigoll iesin feddyg llysiau-yw'r tirf Britchard, teyrn gyffyriau; 1 Byw eu rhin, gwnaed hir barhau, I lorio ein doluriau. Shincyn Roberts, Abertridwr. Wr sionc iawn wir, Shincyn yw,-hylawen Hen lowr diledryw Llydan, cyfrwysgall ydyw, I ddau fyd yn dedwydd fyw. Arioyr Daioni. Cadeirydd a rhoddwyr Cadair Eisteddfod Tabernacl, Sengbenydd, Mehefin lOfed, 1908.-Dr. James a'i briod. Dedwydd gadeirydd go dirion, -a ffel Yw Philip James lwysfron; Ei gu lafur i gleifion Ddyga llwydd y meddyg lion. A'i wraig anwyl bur gynes-wobrwyol, Briod hawddgar gares Dau sant, eu llwyddiant yw'n lies, A phinacl eu hoff hanes. David Lynn Thomas, cyntaf-anedig Mr. a Mrs. Is¡¡ac Thomas, Commercial street, Senghenydd. Anwylyd drud ei del dras,-etifedd Wyt, David Lynn Thomas; Boed iti, o'th Ri fawr ras Ac harddweh didranc urddas. DEWI AUR.
Clywedion Dyffryn Dar.
Clywedion Dyffryn Dar. Fod mwstwr ofnadw gan rai achos bod y cownsil wedi rhoi y sack i'r menywod priod sydd yn deachers neu yn feistresi yn y scolion. Fod isha teacho rhai i feindo busnes eu hunen, a phido tynu rhacor o drwbwl ar gefan y trethdalwyr, pwr dabs, sy'n gorffod catw paced o segur-swyddwyr a phenshyn- ers digywilydd. a nhwnta wetyn sy fwya eu cheek. Fod lot o'r Labars yn gwed y dyla pob gwr gatw'i wraig, byd yn nod os yw hi'n scwlmishdres Lied dda, dyw'r Labars ddim yn ddwl i gyd, ond trueni bod nhw weitba yn gnithir shwd fwstwr am ddim. Fod dynon yn gwed dyna bert fysa hi sa Mari gwraig Twm yn myrid mas o'r ty trw'r dydd i ddysgu'r cymdocon i olchi peisha a ffryo ham, &c. 1a wir, bysa rhaid i Twm i gatw morwm, a phe byswn i yn i le fa, ceisa Mari dalu'r forwm mas o'i salary hi iel teacher, &c. Fod shew yn ocbri gvda'r mishtresi, pa rai sydd yn well off We1 nawr ta, os i nhw'n well off, be sy isha iddi nhw feeso am gal y sack ? A ma pensiwnyr N.U.T. i ddod iddi nhw, a'u gwyr yn enill dicon o goin-faint racor ma nhw moin ? Fod cwpwl bach teidy wedi mynd am drip i Byrtywa yr wthnos ddwetha, ac yn eu plith sponat a wejan fach neis o street y tai newydd. Nawr, y secret yw y bydd ceffyl a chlysta gwynon yn marcho trw'r street newydd hono ar y Bocsin Day ncsa. Fod lot yn starto off yr wthnos nesa i ddwr y mor a'r ffynona, ac fe geso'i orders da iawn wir. Pan glywchi nhw'n gofyn beth yw prish y shidan wrth y Hath, a plittsh ffansi waiscot, gellweh fentro fod yna durn out a blow out i fod. Fod y menywod yn gwisbgo yn fwy sty- lish nawr nag eriod, ac y caiff y Cardies a'r Shirgars surprise y mish nesa. Ond drwg gen i weid na fydd y grand dresses wedi cwpla cal u talu am deoi nhw, ond bydd y Shirgars diniwad ddim yn gwpod dim am hyny, na'1' Cardies ed. A dyna lie bvdd hi off-Lord Tresamwn. Duke Cwmdar, larll Tydraw, larll Moss, a Gen- eral Greenbach a'u gwragedd, yn arrivo yn u shidana a'u gwasgoti gwynon, a bydd sect amball un yn smelo am filldir, a phawb yn bowo i'r lords a'r dukes, a bwn shin o Gardies yn scampro off i whilo am gambo i gal 11 gwarad nhw. Fod skitsha brown yn bring iawn yn y pentra, ac fod y rhai 2/11 wedi gwerthu mas i gvd. Wei, dyna fe, sdim rhyfadd fod y pregethwrs yn gwed fod balchder yn byta'r byd lan i gyi. Fod argoelion am dywydd net i'r tour- ists yr wthuos nesa, yn ol y prophets, dim ond i'r Babtists i bido bod yo rhy gryf yn y procession, onte gwlaw trwm fydd hi, ac ni fydd hyny yri fhoi wara teg i'r ostrich ffeddars, y blowses pert, y peisba gwj Bon, y shidana, y skitsha brown, y gwascoti gwynoq, a'r trimmiDs etill too numerous to mention IVel pob lwch i chi, wyr dwr y mor, a gobitho dewch chi nol i gyd mor deidy ag yr etho chi. Fod rhai wedi clwad ta Cardi caws yw y Packman Newydd, ond ma nhw'n cam- synad yn fidir, achos w i wedi gwed o'r blan ta bachan bach o Shir Bembro w i, a don't you forget it. (N.B.—Ma bechgyn da yn dod 0 Shir Bembro. Fod y rhai o'r Gadlys ath lan i Lundea i weld yr Ecsibishwn Fawr yn gwed na welson nhw ddim shwd beth eriod-bild. ings pert, merched pert, petbach pert- wel, pcpath, medda nhw, ya bertach ac yn grandach na dim welson nhw, a Flipi- ty Flap Fawr i fynd a chi Ian i g&nol y sers! Wedi clywad hyna, ma whant arna « fynd lan. PACKMAN NEWYDD.
Bedd Toredig.
Bedd Toredig. Actios Rhyfedcl yn Merthyr. Daeth achos difrifol gerbron Pwyllgor y Mynwectydd, perthynol i Gorfforaetb Mer- thyr, dydd Mercher diweddaf. Ymddengys fod Cyrnel D Lewis wedi ysgrifenu fel y canlyn at glere y dref 1 Y mae digwyddiad gwarthus wedi cym- eryd He yn mynwent Eglwys y Plwff-St Tydfil. Y mae plant wedi tori i fewn i fedd gell yno. ac wedi dwyn i'r golwg ei chynwysiad. Y mae yr heddgeidwaid yn awr wedi eymeryd gofal o'r fynwent, ac wedi sicrhau y clwydi. Y mae sefyllfa y fynwent wedi cael ei dwyn droion gerbron eich Cynghor, dyledswydd yr hwn yw ei chadw mewn trefn Y mae'r gwarthnod felly yn syrthio arnoch chwi. Yr wyf fi fel gwarcheidwad eglwys yn ysgrifenu at- och oblegid fod y digwyddiad anffodus a gwarthus hwn wedi canlyn esgeulusdod eich Cynghor i gyflawnu ei ddyledswydd. Yr wyf wedi ysgrifenu at y Rheithior i ymohebu a'r Swyddfa Gartrefol, ac yr wyf yn hyderu y gwna efe hyny ar unwaith.' Dywedai CleTC y Dref ei fod ef wedi gwadu ei gyfrifoldeb yn y peth. Mewn atebiad, yr oedd Cyrnel Lewis wedi aweyd i warcheidwaid yr eglwys dalu ymweliad a'r fynwent, ac iddynt weled fod y bedd o hyd yn agored, a phengloa (skull) ac es- gyrn yn y golwg. Rhaid oedd i'r Cyng- hor uniawnu pethau ar unwaith. Dywed- ai Cyrcel Lewis y gwnai efe osod v mater o flaen y Swyddfa Gartrefol, a gofyn idd- ynt am eu cynorthwy hwy. Sylwodd yn mbellach fod gwarcheidwaid yr eglwys yn hawlio nid yn 1 nig ar fod y Gorfforaeth i adgyweino'r fynwent, ond hefyd i adgyw- eirio ffenestri toredig yr eglwys. Y Maer Bydd iddynt, un o'r dyddiau nesaf, wneud i ui dalu'r offeiriad Efallai y gwna warcheidwaid yr eglwys ddweyd wrthym sut y daeth yr esgyrn i'r fan lie y gnelwyd hwsnt. Dywedodd clerc y dref "oad oedd y Cyughor Trefol yn gyfrifol am yr hyn a gymerodd le. Y maer a ddywedai drachefn iddo ofyn i'r Surveyor i wneud ymchwiliad t'r mater, a chyfarwyddo clerc y dref i ymohebu a'r heddgeidwaid. Dywedai y Surveyor iddo wneud ym- chwiliad yn mynwent St Tydfil, a chafodd fod y elwydi wedi eu cloi a chlo newydd. Yr oedd y Cynghor wedi darpar cloion fwy nag unwaith oddiar pan y codwyd y rheil- iau a'r clwydi newyddion. 0 berthynas i lythyron Cyrnel Lewis a Superintendent Gill. cafodd allan :fod penglog ac esgyrn i'w gweled o dan gareg bedd. Yr oedd y priddfeini wedi eu rhyddhau, a'r bedd fe ddichon wedi ei ymyraeth ag ef gan blant direidus. Credai efe, todd bynag, nad oedd y gweddillion a welwyd yn perthyri i'r bedd dan sylw, ond eu bod wedi dod o fedd arall mewn canlyniad i'r gwelliantau a wnawd yn y fynwent rai blynyddau yn ol. Dylai y priddfeini rhyddion fod wedi cael eu gosod yn ol gan y rhai a berchen- ogent y bedd. Gwelodd hefyd fod rhai o ffenestri'r eglwys wedi eu tori, yn debygol gan blant drwy daflu ceryg atynt. Wedi cael tystiolaeth bellach gan beir- ianydd y fwrdeisdref, dywedodd y Maer nas gallai y Cynghor reoleiddio y clwydi, gan fod gwasanaethau yn cael eu cynal yn yr eglwys. Penderfynwyd i osod y bedd yn drefnus ar y tir fod y peth yn warthnod cyhoeddus ar y Ue, ac nas gellid caniatau iddo barhau felly, ac i hysbysu gwarcheidwaid yr eg- lwys nad oedd y Gorphoraeth yn myned i wneud eu gwaith hwy, oddieithr eu bod yn cael eu talu am hyny. Darfu i weithwyr Corphoraeth Merthyr, dydd Iau, i ddwyn y gwarthnod yn nglyn a mynwent yr eglwys i ben, am y presenol, beth bynag, trwy adeiladu i fyny y beddrod oedd wedi ei dori gan y plant wrth chwar- eu. Archwiliwyd y He gan brif swyddogjon y Gorphoraeth cyn i'r gwaith gael ei wneud. Cafwyd y beddrod oddeutu 14 troedfedd oddiwrth fur gogleddol yr eglwys, yn nghanol amgylchedd diffaeth ac esgeulus. edig. Ar y maen ar ben y beddrod yr oedd yr ysgrifau caniypol: — Er coffadwriaeth am Susanna, gwraig Edward Gregory, o Waith Haiarn Plym- outh, yn y plwvf own, a ymadawodd a'r fuchedd hon Rhagfyr 10, 1827, yn 46 mlwvdd oed. Hefyd am Nathaniel, mab y dywed- edig Edward a Susanna Gregory, yr hwn a fu farw Ebrill 7, 1827, 'Hefyd am Nathaniel Thomas, Susan- ¡ na Rachel, a Margaret, eu plant, a fuont farw yn eu babacdod. I 'Ac hefyd am William, eu mab, a fu farw Mai 10, 1830, yn 16 mlwydd oed. 4 Hefyd am Mary, gwraig Robert Bird, merch yr E. a S. Gregory a enwyd uchod, a fu farw Ebrill 7, 183,0 yn 33 mlwydd oed.' Yr oedd priddfeiui ar un ochr wedi cael eu gwthio i fewn, ac mewn ceudwll 15 modfedd oddiar y ddaear gellid gweled casgliad mawr o esgyrn dyao!. Gosodwyd y rhai hyn allan yn barc.hus gan y gweith- wysr, ac archwiliwyd hwynt gao y swyddog meddygol. Gwelwyd mai esgyrn ce-esau o leiaf bump 0 beisonat: oeddynt, ac eiddo un a ehoesau ceimioo ydoedd un. Yr oedd penglog a ddygwyd allan yn ddau ddarn, ac yr oedd twll yn un o honyrit, wedi ei ac yr oedd twll yn un o honyrit, wedi ei dori gan bicas mae'n debyg. Nid oedd y j gweddillion wedi eu gorchuddio gan bridd, ac yr oeddynt ya gorwedd arochr orllewin. ol y beddrod. Ar haner ddwyreiniol y beddrod, yr oedd Hawer iawn o esgym, a llawer o ludw berwedydd. Credir, pan fuwyd ya adgyweiiio ac yn helaethu yr eg- lwys oddeutu 13 mlyr.edd yn ol, fod y beddrod wedi syrthio i sefylifa ddirywiadol, a bod yr esgyrn wedi cael eu symud trwy i nifer o feddau gae! eu tori yn y canol. Tybir fod y beddau wedi cael eu tori felly oddiwrth y ffaith fod yr esgyrn a welwyd yn ergyrn ccesau i gyd, gyda'r eithriad o un asgwrn ysgwydd a phenglog. Ymddengys fod y beddrod dirywiadol hwn yn le cyt- addas i dderbyn vr esgyrn a gafwyd, ac am hyny gosodwyd yr esgyrn ynddo, gan osod y priddfeini heb gymrwd yn ol. Tebyg mai liudw o dan yr eglwys oedd y lludw.
David rStrong, Cymdeith. aswr"
David rStrong, Cymdeith. aswr Ystorm drwy y cwm Noa ddifrod chwerw, Ar wely isel llwm J Ei dad sy'n marw Bygythion celyd d daw Fe gryna'r llan c gan fraw, Paagenfydd godi'r Haw Sydd wan a gwelw. Am oriau enbyd gynt, Ei gorff dolurus, Ddiig adgof lawer hynt Fod hon yn felus Cael aros wrth y mur A gwel'd ei dad dan gur Yw gwaredigaeah wir Rhag myn'd yn glwyfus. Dyfcead bron ei dad A'i chwyth diweddaf, Yw cyraedd nefol wlad Y fiaith ryfeddaf; Mellditbio gwrthrych tlawd A'i fyd yn llawn o wawd Heb deimlo ar ei rawd Ond dial penaf. Fel meibion ereill byd Bu hwn ar brydiau, Nid da, nid drwg i gyd Ond rnanu'r goreu I Y cof nid perffaith yw Tra mewn gwendidau'n byw, Gan dd'od tu hwnt i'r briw A'r brau bleserau. Dan ocheneidiau oes A diod gadarn, Darparodd tad ei groes Wrth allor rhagfarn; Oyn gwynu gwallt ei ben Ehedodd hwnt i'r Hen Lie na bydd dig na sen A'u harfau haiarn. Gall fod trafieithion byd Yn meddiant rhywrai, Ei ddioddefaint drud Yn dod o'n drysau; Trueiniaid filoedd sydd A'u hiraeth am y dydd, Tyn deulu Duw yn rhydd Eu cyffion hwythau. Dan y Derw.
Gadewch i blant by chain ddyfod…
Gadewch i blant by chain ddyfod ataf Fi. Clyw fy mhlentyn am ryw fynud Eiriau teg yr lesu glaa, Tyred ataf, ti gei fywyd A chei feddu Salem lan; Ti gei rhai yn dod a rhwystrau I'th wahardd rhag myn'd ymlaen, Cerdda'n ddewr a dal dy gamrau Cadw'n glir oddiwrth bob 'staen. Os am deimlo'r dwylaw anwyl Yw dy awch ar hyn o bryd, Bendith arall gei heb ddisgwyl Fe a'th ddwg i'w fynwes glyd; Dyma gysur i rieni Fod 'na gyfaill i'w rhai bach, Hwn a'u dwg hwynt o'u trueni Draw i'r bywyd pur ac iach. Cofia blentyn fod y dwylaw Fu'n bendithio'r anwyl rai Eto'n gynes yn ei groesaw I'th gofleidio er dy fai; Hwn yw cyfaill goreu'r plentyn Ni fu'n son fod rhaid i'r wlad Gymryd gofal plant yr un dyn Daeth i enill calon tad. • Fe ddangosodd i rieni Werth y plenty n bychan pur. Pe baem ninau'n efelychu Er cael mamau at y gwir Cariad, cariad, nid gorfodaeth, Dyna ddeil ein byd i'r lan, Am y cariad boed ein hiraeth, Cariad Iesu yn mhob man. Peoydaren. DEWI.
Ti yw y Crist.
Ti yw y Crist. Cyd-deithio yn ddistaw mae'r cwmni Myfyriant y cynghor mewn pryd, I ochel pob rhagnth ddaw fyny Ond ceisio gwinonedd o hyd Cael coffa am wyrthiau rhyfeddol Cael cwmni yr Awdwr ei hun, A certha y cwmni'n feunyddiol A geiriau mor felus a gwin. Yn dycer yr Iesu ofynodd Beth farnai y bob] o'r wlad Fu'n gwledda o'r bara a roddodd lfiloedd a hwnw yn rhad Dywedunt pwy ydoedd y dynion Yn credu am dano yn awr, f Ond ni fu'r dystioiaeth yn ddigon f I lanw ei galon mor fawr. Yn awr fy nghyfeilllon pwy dybiwch Wyf Ei yn eich golwg eich hun ? Atebwch yn union nac ofnwch Rwy'n caru ch.i.'Jj gywir bob un; 0 wele y gv/ron yn iieidio Dan Ddwyfol sp.ncteiddrwydd ei Dduw, A'i galon a'i enauyn tystio Ti ydyw y Crist dynolryw. Fe gafodd oleuai o'r nefoedd I weled Iacbawdwr y byd, Do, teimlodd y Dwyfol gyfrinoedd Cyn rhoddi tystiolaeth mor glyd ITcwmni yn cisgwyl yn ddistaw A syndod i'w weled yn glir, Pa ryfedd os oeddent yn ddifraw Yn nghwmni'r ardderchog a phur. A'r Iesu yn edrych yn graffus A'i gaion yn llawn o hedd Wrth glywed y frawddeg mor felua Ac yniau yn ymyl ei fedd OPedrwr tanbaid ei dymher Ei frawddeg a erys yn fyw, I galon s. D oilawn o bryder I'w godi daw'r Crist dynolryw. Or dioich fod He genyf gredu Y gailaf gael nefoedd i lawr, I'm calon yn union trwy garu Y Crist sydd yn caru mor fawr Trwy hwnw caf finau fy neithu A'm heuaid i fyned at Dduw, Cael calon a genau i ganu Ti ydyw y Crist dynolryw. Dewi. Cyfansoddwyd yr uchod ar ol clywed y Parch Peter Price yn pregethu ar gyffes Pedr
Cwrdd Cadeirio Glan ¡'Cynon,…
Cwrdd Cadeirio Glan ¡' Cynon, Aberdar. (Parhad). Ar ol Ilafurio'n galed, Daw Ilawer un i'r Ian, A dyma un o'r cyfryw— Y cyfaill barddol' Glan.t Nid heb lafurio llawer Daeth Glan i glod a bri Yn uwch yr elo eto Yw fy nymuniad i. L Yr awen fo yn wlithog, Aed rhagddo yn ddilen, Hyd nes cael baddugoliaeth,, A choron ar ei ben. 4, Henry street, Sarah Ann Harries. Aberaman. Hwre i'r bardd Glan Cynon, Am enill cadair hardd, Yn 'Steddfod fawr y Mawrthgwyn, Oes rhywun a'n gwahardd ? Ardderchog waith celfyddyd, O'r derw gore'i ryw, Hon geidw clod Cwmaman A'r bardd tra byddo byw. Na fydded braw yn agos I'th gal on, Cynon fad, Wrth eistedd rhwng y Hewed,' Nid y'nt yn cynllwyn brad Ond cadw dyogelwch I feirdd cadeiriol gwlad A Hew o fardd eistedda Rhwng rhai'n mewn pur fwynhad. Iago Myrnach. Glew'n caiiu bu Glan Cynon-i 'Muller,' Nawdd miloedd plant tlodion; A geiriau'r gerdd i'r gwron, Gyda'r hawl i'r gadair hon, Y gadair a'r gerdd a geidw-moliant Ein Muller rhag marw A Glan Cynon Ion, gwnawn lw, Wynodd am byth ei enw. Meithyrfab. Tra byddo marchnad Aberdar, A Hyfrau gar ein gwron, Tra byddo blewyn ar ei ben, Tra'n curo ei wen galon, 'Rwy'n meiddio dweyd a meddwl rhydd, Glew'n canu bydd Glan Cynon. Gwyddonwy. Hwre • a lion orhoian-i arwr Cadeiriol Cwmaman; Tyst o nerth a gwerth ei gin Yw deri'r' Aberdarian. TEL. Glew iawn y cenaist, Glyn CynoB,—' bedd- Gyhoeddwyd, ac weithion [wch Eistedd ar dy sedd, yn son Am danat y mae dynion. Swyn melus enw Muller- wnaeth danio Iaith dy enaid tyner; Boed odlau byw dy awdl ber Yn loew am flwyddi lawer. A. C. Dy wobr, frawd twymgalon, Awengar gwir, Glan Cynon, Am Awdl Muller, Proffwyd Duw, Y gadair yw dy goron. Byw gaffot i heneiddio, A'th awen fo'n blodeuo, A doed ei ffrwyth o'r gadair gaeth, O'r Genedlaethol eto. R. Morgan. 0 galon canaf Hwre, Glan Cynon!' Maeddaist, ti wthiaist i'r Gadair weithion Yn atteg arall, myn eto goron, Yna cei gwrdd wrth fwrdd y prif feirddion. Dy ddawn fo'n fwyd i ddynion,-a braich Rhi' I dy noddi ar rawd awenyddion. 1 Gruffydd Dyfed. I sedd fawr bri'r Eisteddfod-y canodd Glan Cynon gerdd hyglod Awen ber ynddi'n barod I swyno'i dy sy' yn dod, Da iawn y bu d'awen ber-ar faes un Pur foes a duwiolder; A barddonol, gwrol, ger Fro am heulog fri Muller. Gwilym Nedd. Am olau gerdd i Muller—we'e frawd Hawlia fri a chader; — I Yn addas iddo rhodder Odlau heb ball—diiiau per. Aberaman. 11 DEWI AERON. Car hynaws, cawr awenydd—yw Cynon, Canwr byw a newydrl Aberdar by gar a rydd Wir folawd i'w ddarfel/dd. Ei felus gerdd i Fwller—a erys Yn arwydd 0*1 geinder A gem i farddas Gomer;—bri'i enw Yn hir a geidw-arwr y gader E. B. Mmsis. Ar danau swyn y awen lan Ysbryuion can sy'n denIo, A'r GIan' yn frenin yn ein nlith, A bendith Dyfed arno, Yn arwr cerid y rnesur caeth, Heb un amteuaeth heno. Ei awdl sydd mor ber a'r gwin, A'i rin yn ysbrydoli; Nid Robin' yw, ond Eos' dIos Yn cedfar nos yn canu, Ar uchelderau coeth ei ddawn Am Muller gawn yn moli. Naturiol iawn i'r gornant lan j Ar reiau man yw canu Naturiol jawn i'r Hoer uwchben A'r seren wen yw gwenu, Naturiol hefyd can i'r GIan 0 anian i farddoni. Rhwng breichiau'r gadair rhoed ei bwys I orphwys o'i bryderon, Yn gwylio drosto mae dau lew Yn ddyfal, glew, a ffyddlon; Doed cadair uwch a choron hardd Yn londer i Lan Cyron. Aberaman. EURFAB. 0 lwyn cdn i Lan Cynon, Tori wes, mawl Catrin Mon Urddas yw i'r farddes hon Lunio can i Lan Cynon. Eilun cAn yw Glan Cynon, I Ei dderw sedd ddaw a'r son Iddo gael buddugoliaeth Ar wron y ceinion caeth. Ffrwvth ei awen ffiaefch hoyw, Fel gwin peraidd, balmaidd, byw, Enyn hwyl am egwyl man Rydd drem i'w heuraidd drumau, J O'i Heilp hi, mal egwyl per, Suai'r mawl j Sior Muller, Ac am emau Cwmaman I 'E dynir gwefr dannau'r gan » Bair i dorf yn Aberdar Folawdu'n ber fel adar. CATRIN 0 FON.
Advertising
\1àøJ,.8Ir AT Y CANTOBION. Pedair Can Newydd Ragorol. (FOUR NEW SONGS.) Bore'rTrydydd Dydd THE RESURRECTION MORN" Gan E. D. Lloyd, R.A.M. (Geiriau gan Homo Ddu). In Keys suitable for Soprano, Tenor, Contralto, and Baritone. Both Notations on same copy. English and Welsh words. Price Is. net. Telynau'r Saint ("THE HARPS OF GOLD") Gan W. 0. Jones, A.U.C.W. (Geiriau gan Bryfdir,) Tenor neu Soprano yn F. Baritone a Contralto yn D. Geiriau Cymraeg a Saesneg i'r ddwy. Y ddau nodiant ar yr un copi, pris Is. net. Y Mab Afradlon ("THE PRODIGAL SON") Gan T. Osborne Roberts (Geiriau gan Daniel Ddu). Tenor neu Soprano yn E. Flat, pris ] s. Baritone a Contralto yn C, pris Is. net. Bedd Glyndwr ("GLYNDWR'S GRAVE") By W. O. Jones, A.U.C.W. (Geiriau gan Bryfdir). English Words by I. N. Crowther. Both Notations on one copy. Price 1/- net Suitable forSoprano, Tenor, Contralto or Baritone. (Prize Song at Liverpool Eisteddfod, Christmas, 1907). NEW QUARTETT. 'Y GWLITHYN' ("THE DEWDROP" For S.A.T.B. Music by ALAW MADOG. Words by PEDROG, &c., &c. English and Welsh Words. Price, O.N., 4d.; Solfa, 2d, Also, taking well in Concerts, &c., as DOUBLE QUARTET. Catalogue Pianos, &c., 56 pages, post free. I'w cael oddiwrth y cyhoeddwr- D. R. JONES (A law Madog) 103, HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. (May be had from all Music Sellers.) DOWN & SONS FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets,, And every Description of HOUSE FURNITUR ftoa Cabinet 1 21, HiCfh ) Ot tq 0^0 Works '■ & Morris Lane, J The Largest and Cheapest Steam Cabinet Mauufactory In South Wales. Illustrated* Catalogues free on application. Immeooe ctock to select from Carriage paid on all Orders above £10, or delivaro free In our own vans. YN AWR YN BAROD. PELYDRAU v ADLONOL SEF DADLEUON A DARNAU BARDDONOL I; Wedi eu casglu p amryw feusydd gan Gr. GRIFFITHS, YNYSLWYD STREET, ABERDAR. T'ris, 6c.; trwy y Post—is., neu ddau am is. [SEFYDLWYD 1869.] Frederick D.E.George, (Late George Jones, formerly Isaac Thomas), Argymerwr a Choffinwr, 24 & 25, Seymour Street, ABERDAR. Dvarooa Frederick D. E. George ddiolch yn wresog 1'r cyhoedd am y gefaogseth y mas wedi ei cMael ya y blynyddoedd a aethant heibio, a dytaat^a hefyd WBeud yn hysbys f1)d idyat bobpeth angenrheldiol at waaanaath angladdol am y prisoedd rkafcat yn y dySryn, P.-Irnhanoo poh math 4) &a. Eboddir rbestr o brisoedd Bricked Graves ar ymofyniadi l1G GYFEIBIAD-2i 25, SEYMOUR STBEET, ABEBDABI COVENTRY CYCLE. Most marvellous bargain ever offered. Gent's high grade 1908 cycle, absolutely as new, ball bearing free wheel, two roller lever rim brakes, silver-plated rims, Pneumatic tyres, not soiled, beautifully enamelled, lined and plated mud guards, and all accessories complete. Cash urgently required. Will sacrifice for t3 12s. Od, worth double. Approval before cash sent.-T, Hus- band, 30, Alma street, Weston-Super-Mare. WHY PAY HEAVY DENTIST'S BILLS for having your teeth stopped, when you cam buy Stopping, which can be easily adapted by any child of ordinary intelligence. Sufficient for 8 or 10 teeth sent with full directions. Post free for P.O. 1/1, to Chicago Dentai Speciality Co., 46, Great Russell Street, W.C.