Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
II W. WILUAMS, y |j Watchmaker & Jeweller 29. CASTLE STREET ¡ j SWANSEA. Gymry hoff de'wch at y Cymrtt Os am beirdd fcdrwyau aur; Oriaduron ac awrleisiau, Gemau a chadwycau claer; Y spebtol gelfydd, bin-fyoegydd, Gwres-f'esurydd, cwrrpawd mor. Cair gan Wilhams, Heoi-y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei 'stor.
j (Y Fasnach Lo.
j ( Y Fasnach Lo. Caerdydd, Gor. 18, 1908. Parhau yn gadarn y mae y fasnach yn ystod yr wythnc s. Y mae fod nifer iuosog o'r glowyr ar eu gwyhau wedi lleihaii y cynyrch yn fawr, eto nid hyn sydd i bnod- oli am y fasnach yn gadarn, ond y rhagol- ygon am alwadau mawrion yn y dyfodol agos. Creir pryder mewn rhai swyddfeydd yn herwydd y rhybuddion sydd wedi caec eu rhoi gan y gweithwyr mewn rhai engh. reifftiau, a chan y cyfiogwyr mewn enghreifftiau ereill, i derfynu gweithio ar ddiwedd y mis presenol. Effeithia hyn, os ra ddeuir i ddealldwriaeth ryu di-wedd. F, mis, ar dros 25 000 o weithwvr. Y mae y rhagolygon yn Blaenafon ac Ebb-w Vale yn bryderus, gan fod amryw o'r ffwmeisi wedi cael eu chwythu allan. Y mae y prisoedd ar gyfartaledd v- as a'r wythcos flaenorol, ag eithrjo y gjo tai; yr hwn sydd wedi gostwng 3c y dyneiu Ynol adroddiad y Llywodraeth am ychW!l';) I mis yn diweddu Mehefin 30ain, y mae! cyfanswm y glo a allforiwyd o Brydain [ Fawr am y tymhor hwnw yn 354,000 o dynelli yn llai nag cedd am yr un tymhor y llynedd. Er hyny, nid oedd gymaint a'r gostyngiad a deimlid gan rai gwledydd a allforiant lo. I
Ffederasiwn y Glowyr.
Ffederasiwn y Glowyr. Cynaliwyd cyfaifod o gynrychiolwyr Ffederasiwn Glowyr Deheudir Cymru yn Nghaerdydd dydd Gwener. Yn absenol- deb y llywydd (Mr W Abraham, A S,, Mabon), cymerwyd y gadair gan Mr W Brace, AS. Yr oedd ynbresenol hefyd yn mhlith ereill Mri T Richards, A.S., ys- grifenydd; John Williams, A.S., ac Alfred Onions, trysorydd. Hysbyswyd fod iechyd MrEvan Thomas, goruchwyliwr glowyr dosbarth Rhymni, wedi tori i lawr, a'i fod wedi cael caniatad i fyned am fordaith. Pasiwyd pleidlais un- frydol o gydymdeimlad ag ef. Trosglwyddwyd yr annghydfod rhwng gweithwyr pen pwll glofeydd Llwynpia i gyniychiolwyr Dosbarth Rhif 1 y Rhondda a Dosbarth y Rhondda a Phontypridd. Trosglwyddwyd cwyn gan weithwyr Cil- fynydd, yn Dglyn a bod gweithwyr y nos yn spongio yn eu gweithleoedd hwy, i gyniychiolwyr Dosbarth Rhif 1 y Rhondda i wneud ymchwiliad pellach. Gwithodwyd cais oddiwrth weithwyr Dyffryn Afon am, ranu y dosbarth. Penderfynwyd fod aelodau Undeb y Gweithwyr Nwy a'r LlafurwyrCyffredinoi yn cael eu derbyn i'r Ffederasiwn (wrth gael gwaith yn y glofeydd) ar ddangosiad o'u cardiau trosglwyddiadol. Gosodwyd cynllun a dynwyd allan er perodi goiuchwylwyr cofrestrol ir Ffeder. asiwn gerbron gan y Pwyllgor Cofrestol a phenderfynwyd ei osod o flaen cynadledd unedig a gynelir yn Medi Penodwyd Mri Tom Evans ac Enoch i Morrell i edrych i iewn i annghydfod ya nglofa Bryncethin a glofa Coytrehane yn Nghwmgarw. Hysbyswyd fod rhybuddion wedi cael eu ihoi i atal gweithio yn nglofeydd y Garth ac Obkwood yn Nosbarth Maesteg, a phenod- wyd Mri Winstone a Stanton i wneud ymchwiliad. Trosglwyddwyd amryw annghydfodau yn nglofeydd Cwmtillery a Raseheyworth i ofal y Mri Charles Edwards a William Vyce. I fenodwyd Mri Enoch Morrell a James Manning i ddelio a'r annghydfod oedd wedi codi rhwng Cyfrinfa Glofa Llanhiileth a Dosbarth Mynwy a'r Cymoedd Gorllewinol.
i Glowyr Dosbarth y Rhondda.
i Glowyr Dosbarth y Rhondda. Cynaliwyd troad allan bJycyddol y dos- barth uchod dydd Llun yn y Porth, a got ymdeithiwyd ar hyd yr heolydd gan filcedd lawer o lowyr y dosbarth mawr hwn. Llywyddwyd yn y cyfarfod a gynaliwyd gan Mr Wm Abraham, A.S (Mabon), a chyrorthwywyd ef gan Mr Arthur her.- derson, A.S., cadeirydd Plaid Llafur Syr Alfred Thomab, A.S. Mr William Jones, A.S., Mr W Brace, A.S., Mr Tom Richards, A.S., Mr D Watts Morgan (goruchwyliwr ac ysgrifenydd cyffredinol glowyr y Rhon- dda) Mr W P Nicholas, cyfreithiwr Mr Tom Evans, goruchwyliwr y Rhondda. Ar ol i'r cyfarfod fyned yn miaen am ychydig, daeth Mr Winston Churchill, A.S., Llyw- ydd Bwrdd Masnach, i'r cyfarfod, i'r hwn y rhoddwyd derbyniad crcesawgar iawn.
I Mabon, A.S
I Mabon, A.S Dywedai Mabon mai hwn ydoedd degfed I penbhvydd Ffederasiwn Deheudir Cymru, I yr hon oedd wedi dwyn bendithion i Dde. heudir Cymru, (Cymeradwyaeth) Yr cedd yn flin ganddo, er hyny, fod rhai an undebwyr yn parhau yn eu plith. ac yr j cedd ef am fyw yn ddigon hir i weied yr amser pan y byddai y dymon hyn yn II dysgu parchu eu hunain. Nid oedd yr un hawl gan yr anundebwyr i fyw yn mhlith glowyr Deheudir Cymru. Yr cedd hyny yn ddywediad cryf, ond buasai ef yn profi hyny. Yr oedd y cyfiogwyr, yn eu doeth ineb, wedi ei gwneud yn orfodol ar arweinwyr y gweithwyr i lawnodi cytundeb ar ran yr holl weithwyr, anundebwyr yn gynwysedig, yn y maes glo. Yn mbeUach, nid oedd un dyn yn cael ei ganiatau i fyned i lawr i un glofa oddieithr ei fod wedi Haw nodi y cytuodeb hwnw. Gan hyny, dylasai anundebwyr i fod yn ddigon o ddynion i gynorthwyo y trefoiant oedd wedi dwyn ac yn dali fyny gyflog a fyddai yn anmhosibl mewn modd arall. Yr oedd ganddo ef reswm i gredu y byddai yn well gan y cyfiogwyr i weled pawb yn uno a'r Undeb yn hytrach na chael yr ataliadau parhaus. Wrth drielio a Mesur yr Wyth Awr, diolchai Mabon i'r Llywodraeth am eu gwroldeb yn ei ddwyn i fewn. ac os buasai i'r Rhyddfrydwyr i'w basio, buasent yn gwneud un o'r gweithredoedd mwyaf i Lafur a wnawd erioed yn y wlad. (Cym- eradwyaeth). Yr oedd cynllun newydd o rwvstr, er hyny, yn cael ei arfer er atal pasiad y xVlesur—dull gwrthwynebol a ddy- wedai Mabon oedd yn warthus. Yr oedd nifer o'r rhai hyny a eisteddent ar y Com- ssiwn Breiniol ar Ddamweiniau mewn Glofeydd wedi gwrthod eistedd ar ol amser rhagbryd, gyda'r canlyniad nas gellid cael y nifer digonol i wneud pwyllgor. Yr esgusawd a roddid ydoedd" ei bod yo rby boeth. ond y rheswm gwirioneddol oedd eu bod am atal Mesur Wyth Awr y Glofeydd i gaeS ei basio. (Cywilydd). Dywedai Mabon y gallasai brofi v dywediad hwn, gan fod ganddo yn ei feddiant gopi o lythyr a ysgrifenwyd gan yr Ysgrifenydd Cartref- i o3. yn begian arnynt i roddi eu presenoldeb. Am y rheswm hwn yr oedd y glowyr ya Uongyfarch y Llywodraeth Ryddfrydol am y gwroldeb a ddangoswyd wrth ddwyn y mesur diwygiadol hwn gerbron. (Cym- eradwyaeth). Cynygwiwyd penderfyniad y Pfederasiwn gan Mr W P Nicholas (cyfreithiwr y Ffederasiwn), yr hyn a gynwysai fynegiad o'r farn y dylai pob gweithiwr oedd yn gweithio mewn lie gwael i gael sicrwycd I am isafuod cyflog boddhaol, ac yn croes- awu gweithred y Llywodraeth wrth ddwyn Mesur yr Wyth Awr a'r Blwydd. dal i Hen Bobl gerbron. Eiliwyd meND araeth Gymraeg frwd- frydig gan Mr D Watts Morgan,
ICadeirydd Plaid, Llafur.
I Cadeirydd Plaid, Llafur. Mr Arthur Henderson, A.S., cadeirydd y Blaid Lafurol, pan gododd i siarad, a gafodd roesawiad twymgalon. Dywedodd fod y troad allan hwn o'r gweithwyr yn un o'r rhai mwyaf ardderchog a welodd efe erioed. Gofidiai efe am ymddygiad rhai oV rhai hyny a berthynent i achos Llafur a Sosialiaeth, yn dweyd fod dydd defnydd- ioldeb undebaeth crefftol wedi pasio. Yr oedd yn fynegiad gwrthun. Nid oedd neb o'r arweinwyr yn beiddio dweyd hyny, ond yr cedd rhai dynion ieuainc mewn brys yn teimlo ei bod yn bryd cyhoeddi ar ben- au y tai fod nerth Undebaeth wedi gweitb- io ei hun ailan. Maentumiai efe nad oedd cofgolofn. mwy a gwell gan y dosbarth gweithiol nag Undebaeth Grefftol, a thrwy ba un yr oedd ganddynt allu nerthol i ymladd yn y Senedd. Dylasant ddiolch hefyd am y gwaith a gyflawnwyd gan Mr Burt a Mabon o blaid Undebaeth, ac i beidio bychanu yr achos rhagorol hwnw. Yr oedd efe (Mr Henderson) hefyd am longyfasch gwaith Pfederasiwn y Glowyr yn ymuno a Phlaid Llafur, a gallasent ed- rych yn mlaen yn hyderus at y dyfodol. Gan gyfeirio at Pesur yr Wyth Awr, dy- wedai eu bod yn benderfynol o geisio gwneud eu goreu i'w gaet wedi ei basio drwy y Senedd y fiwyddyn hon. (Olywch, clywch).
Mr Winston Churchill.
Mr Winston Churchill. Dywedai y Gwir Anrhydeddus Winston Churchill, yr hwn a gafodd dderbyniad twymgalon, ei fed wedi clywed llawer iawn am lowyr Cymru, ac yr cedd ef wedi bed yn ceisio talu sylw i rai o'u pethau Yr oedd ganddynt ddyledswyddau pwysig i'w cyflawni yn nadblygiad politicaidd y wlad. Yr oedd amryw fesurau, yn mha i rai y cymerent ddyddordeb neillduol, ar hyn o bryd yn tynu sylw y Senedd. Yn gyr taf oil yr oedd Mesur Wyth Awr y I Glofeydd (cymeradwyaeth). Yr cedd ef yn teimlo yn neillduol gyda golwg ar y Mesur hwn, o herwydd, fel yr oeddynt yn gwybod feallai, yr oedd ei dad, y diwedd- ar Arglwydd Randolph Churchill (cymer- adwyaetb), bob amser yn ei gefnogi yn mbell cyn iddo gyrhaedd y fath nerth poblogaidd cedd tu ol iddo yn awr, ac yr cedd ef yn eithaf sicr y byddai yn Haw- enydd ganddo i roddi ei gefnogaeth er in gyru y mesur yn mlaen i ddeddf-lyfrau y wlad (cymeradwyaeth). Yr oedd y Blaid Doriaidd wedi newid eu barn yn nghylch y Mesur hwn. Arferent feddwi mai Mesur ydoedd y buasai yn anmhoblog- aidd ynddynt i'w wj:'U-hwynebu. IYn awr, I er hyny, yr oeddynt yn dechreu meddwl T gallasent wneud rhyw gyfalaf allan o'u gwrthwynebiad i'r Mesur. Gwyddai hyny I am ei fod wedi gorfod cael brwydr ethol- I iadol yn Manceiniol1 ychydig amser yn ol. Gwnawd ymosodiad cryf, y pryd hwnw. I ar y Llywodraeth, ac arno ef ei hun G. herwydd y Mesur hwn, yr hwn a ddy- ] wedwyd wrth y pleidleiswyr tlot-af oecd I ya myned i fod yn niwed mawr iddynt hwy yn eu byw)d beunyddiol. Os oedd- | ynt am basio y Mesur yr oedd yn rhaid iddynt i wylio y fath bethau a'r rhai hyn. I Mae yn rhaid iddynt i gael moddau | effeithiol i egluro ystyr y Mesur i'r bob! yn y dinasoedd mawrion, ac i ddangos maint iawnder eu hachos. Wedi cyfeirio at y gwaith ardderchog a I wnawd yn y cyfeiriad hwn yn Mancein- ion gan Mr Brace, dywedai nad oedd j etholiadau lleol o bwys mawr mor bell ag j oedd a fynai Ty y Cyffredin a hyny, ond yr oeddynt o bwys mawf mor bell ag yr oedd a fynai Ty yr Arglwyddi a hwynt. Ni fuasai y Ty hwnw yn hoffi dim ya well, na thaflu Mesur yr Wyth Awr i Lofeydd allan-os meiddiant (chwerthin a chymer- adwyaeth). Yr oedd ganddynt i gadw yn mlaen i ddangos Dad oedd yn weith iddvnt i feiddio. Anogai hwynt i ar- graffu ar eu cydweithwyr yn y dinasoedd mawrion, pa rai nad oedd un cysylltiad rhyDgddyDt a'r gweithiau glofaol. fod eu hachos yn gyfiawn. ac nad oedd un niwed I wedi dyfod i neb yn y byd allan o iawn. der (cymeradwyaeth) Rheswm arall paham y dylent fod yn wyliadwius o'r I Mesur ydoedd am Dad oedd yn sefyll wrtho ei hun. Yr oedd yn rhan o'r symudiad cyffredinol oedd yn cymeryd lie dros yr holl fyd i gymodi oriau a c-hyflyr- au llafur a deddfau iechyd a gwyddon- iaeth (cymeradwyaeth). Gan eu bod wedi eu huno yn dda ac yn gryf yr oedd y glowyr yn alluog i osod eu hachos yn effeithiol o flaen y wlad, ond yr oedd ypa ereill heb fod mor gryf ac heb fod mewn undeb, a dylasent hwy, gan eu bod yn gryf i fyned yn m]aen a gwneud ffordd lydan a dirwystr ar hyd pa un y gallasai y gwanaf gerdded (cymeradwyaeth). Gol- ygai ef y dylent geisio profi y ffaith fawr hon, sef Dad oedd llai o oriau yn golygu niwed i gynyrch (cymeradwyaeth). Oriau priodol a iheolaidd o lafur iachus oeddynt yr UDjg sylfeen ar ba rai y gallai cynllun diweddaraf diwydiaeth sefyll amynt, Os gallect ddangos i'r bobl yn yr jchydig flynyddau nesaf rad oeddynt wedi dy- oddef with sefydlu diwrnod o wyth awr i'r glowyr, ODd ar yr ochr arall, eu bod ( wedi gwella buaseDt yn taro ergyd mawr I Did iddynt eu hunain yn umg, ond i ddynoliaeth )n gjffredicol (cymeradwy- aeth).
Caerdydd. -....
Caerdydd. Young Helpers League. Dydd Mercher diweddaf, cynaliwyd 'Garden Pal tv tuallan i Bronwydd. palasdy Syr Alfred Thomas, A.S., yr hwn yn ol ei garedigrwjdd arferol, cedd wedi rhoddi y maes at wasanaeth y pwyllgor lleol dan reolaeth Miss Jeckins. Gwas- anaethwyd yn y gwahanol babelli gan fon- ed digesau o gapeli Plasrewydd a Clifton Street. Gan fod y tywydd yn y boreu yn aiiffafriol Uuddiodd presenoldeb amryw oeddynt wedi bwriaau bed yn bresenol, er hyry, danfonir amryw bunoecd i GSltrefi Dr Bainado.'
Gwihieithiau. t
Gwihieithiau. t Dydd Sadwrn diweddaf, talodd plant ysgol Salem, Canton, ymweliad a Sully ar wibdaith, a mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol. Da genym weled Mr Gwilym Hughes South Wales Daily News') gyda'r achos yn yIle mewn llawn gwaith, Hefyd, i'run lie, talodd plant ystafell gecadol Fitzroy Street, yr hwn sydd o dan nawdd capel Plasnewydd ymweliad a'r lie, pryd y mwynhaodd yr oil i ber- ffeithrwydd, Gweithiwyd yn galed i wneud y wibdaith yn llwyddiant gan y Misses Bef s, a Misses Phillips (wyresau y diweddar Thomas Phillips, CaDon Street, Aberdsr), ac amryw foreddigesau gweith- gar ereill.
Oriel Celf,
Oriel Celf, Y mae yn bleser genym locgyfarch Miss Bionwen Griffiths, merch Mr a Mrs Gr ffitbs, Ysgol y Pare, ar y tri darlun syda yn cael ei arddangos yn yr Oriel hon dan nawdd Cymdeithas Gelfyddydol Gymreig. Nid dyma y tro cyntaf y mae dailuniau Miss Griffiths wedi cael vr an- rbydedd o gael eu 'crogi.' Y tri darlDn I ydyw B-ulidcg," 'Apple Blossom Avenue,' a Goiygfa yn ages i LI an gran og, Cere- digioD. Llwyddiant pellach ydyw ein dymuniad.
Advertising
W, Williams, ¡ CASTLE STREET SWANSEA. — 4»~ Largest Stock in Wales. Engagement Rings, taa Carat Gold Wedding Rings 18 Carat Gold Keepers English Patent Lever IB fetches, Brazilian Crystal Spectactles.
Yr Wythnos.
Yr Wythnos. 0 flaen y Senedd, yr wythnos hon, y mae 14psur y Trwyddedau, a gellir yn naturiol odrlisgwyl y bydd yna ddadleu pceth iawn drcs ac yn erbyn. Nos Iau; bu farw Mr David Howells, Jenkin's Arms, Glyncorrwg. Cydymdeim- lir yn fawr a'r weddw yn ei galar, Yr wythnos ddiweddaf, yr cedd Harry Watkin Lewis o flaen yr ynadon yn Merthyr am guro ei wraig yn barhaus. Maent yn briod er's pum' mlynedd, a phan fcriodasant nid oedd y wraig ond 15 mlwydd oed, a'r gwr yn 17. Penderfyn- wyd eu bod i fyw ar wahan i'w gilydd, a'i tod ef i dalu 10s yr wythnos tuag ati. Dydd Sadwan diweddaf, hwyliodd Hong allan o Sydney, Cape Breton Island, ac ar ei bwrdd yr oedd nifer o bobi yn myn'd mewn "ymehwil am y Pegwn Gogleddol. Dywed un o'r darganfyddwyr ei fod yn fjenderfynol i dreulio tair blynedd, os bydd angen er ymdrecbu dyfod o hyd i'r pegwn. Creda fod mwy o bosiblrwydd dyfod o hyd i'r pegwn yn awr nag yn flaenorol. Cynaliwyd trengholiad dydd Gwener yn Merthyr ar gorff Janet Baily, 37 mlwydd oed, o Bridge street. Cafwyd hi yn farw yr y gwely boreu dydd lau. Priodola Dr Earnest Ward y farwolaeth i glefyd y galon, a dychwelwyd rheithfarn i'r perwyl hwn. Erbyn hyn, y mae cyffro etholiadol Sir Benfro yn mhlith y pethau a fu, a'r Rbydd- frydwr wedi rhoddi curfa ddisamsyniol i'r Ceidwadwr, et cymaint ydoedd baldordd yr hen beisiau stwrilyd o Lundain. Yr oedd y ffigyrau fel y canlyn- Boch (Rh.) 5,465 Lcrt Williams (C,) 3,293 Mwyafrif 2,172. Prydcawn dydd Salwrn diweddaf, tra yr oedd nifer o lowyr ar vaelod y pwll yn <lisgwyl am eu tro i esgyn yn nglofa Aberaman, syrthiodd un David James, Jubilee road, Godreaman, i lawr yn farw.! Yr cedd yn adnabyddus iawn yn y gym- ydogaeth, ac yn aelod o Gor Meibion Dar. Dydd Gwener diweddaf, bu farw geneth fechan ddwy fiwyddoed o'r enw Christiana Maloney, Lombard street, Barry Dock, mewn canlyniad i ysgaldanau a dderbyn- iodd y dydd lau blaenorol. Y mae yn yrrwdargos fod chwaer i'r eneth wedi myned i arilwys cwpanaid o de pan y daeth i fewn o'r ysgol. Aeth Christiana i ymryson a'i cbwaer am y cwpanaid te, ac wrth wneud hyny, syrthiodd i fewn i fwcedaid o ddwfr poeth oedd ei mam newydd dynu oddiar y tan Ysgaldanwyd hi yn fawr, ac er pob ymdrech o eiddo'r meddyg. bu farw boree dydd Gwener. Nos Sadwrn diweddat, agorodd y Meth cdistiaid Calffnaidd gapel newydd hardd yn Maesteg. Awd drwy y seremoni agor- iadol gan y Pardh W. H. Thomas, y gweimdog, yr hwn a draddododd y bregeth gytitaf nos Sadwrn. Cynaliwyd cyfarfcci- ydd pregethu yno ar y Sul, pan y gwasan- nethwyd gan y Parch J. Hughes, M.A., Lerpwl, a W. Prydderch, Abertawe. Mae y capel newydd wedi cael ei adeiladu ar safle yr hen gapel, a gelwir ef yn Tabor tiewydd. Mae yn ddigon mawr i eistedd 750 o bob!, sc mae'r uraul o'i adeiladu yn apc-s i R3,500 Digwyddodd anftawd flin yn I.tanhilleth dydd Sadwrn. Yr oedd William Evans, Bryn terrace, Aberbeeg, yn teithio ar ei olwyneg i gyfeiriad Crumlin, pan y collodd iywodiaeth arei beiriant. Cafodd ei da flu oddiar yr olwyneg, a disgynodd ar ben blaenllym railings, a chodwyd ef i fyny yn anymwybcdol. Niweidiwyd ef yn fawr o gwmpas ei ben a'i wyneb, ac ofnir y cyll <idefnydd un o'i lygaid. Dygwyd ef i glafdy Casdewydd, ac hysbysir ei fod yn well nag a ddisgwylid ar y cyntaf. Yn New Yoik a'r cylchoedd, yr wythncs ddiweddaf, bu y gwres mor eithafol fel y syitliiodd amryw bersonau i lawr yn farw ar yr heolydd. YmweJodd ystorm ddi. cysttiol o fellt a tharanau a gwlawogydd yr un adeg a Philadelphia, gan wneud di- fiod arswydus i aEedd-dafr ddirjas. Ycbydigamser yn oj, aeth hogyn o dref Abertawe ar goll, er mawr ofid i'w rieni. Y dydd o'r blaen, derbyniodd ei dad lyth- vr oddiwrtha yn dweyd ei fod yn Glouces- ter, ac yn trafaehi gyda circus. Y mae i'w obeithio y cyrhaedda cod uchel yn ei brofesiwn newydd. Tra yr oedd merch ieuanc o Langadog yn rhodio ar y traeth yn Gower, y dydd o'r biaen, cododd o'r Ilawr ddarn bychan o bren a dybai oedd yn bencil, ond trodd allan i fod yn firwydryn, a niweidiodd ei Uaw yn ddifrifol trwy iddo ffrwydro pan gydiodd ynddo. Nos Fercher, Gorphenaf 15fed, cafarfu Mr A T Painter, Gethin terrace, Porth, a'i ddiwedd mewn modd truenus yn ngorsaf Barry Dock. Ymddeng,, s i rai, meddir, ei weled yo taflu ei hun o flaen y peiriant, a thorwyd ei ben ymaith yn union. Bu ef yn dafarnwr am rai blynyddau.
Aberdar.
Aberdar. Cynaliwyd trengholiad yr Aberaman, Aberdar, dydd Llun, ar gorff David James, Jubilee Terrace, yr hwn a fu farw yn sydyn yn nglofa Aberaman, dydd SadwrD. Gwyliwyd yr achos ar ran Ffederasiwn Glowyr Deheudir Cymru gan Mr W Thomas, cyfreitbiwr. Dywedai Heniy John Rees, bacbgenyn, tra yr oeddynt yu gorflen gweitbio fod y tranc- edig yn estyn ei got ond syrthiodd ar ei wyngb.
Jerusalem, Splott.
Jerusalem, Splott. Dyddisu Sul a Llun diweddaf, cynal iwyd cyfarfcdydd blyDyddol yr eglwys ben He y mae y Parch Walter Daniel (gyrt o Cwmaman, Aberdar), yn gwasan- aethu yn llwyddianus er's dros ddeng mlynedd. Gwasanaelhwyd ar yr achlvs- ur gan y Parchn H Barrow Williams, Llandudno, a Phillip Jones, Llandeilo. Cafwyd pregethau dylanwadol gan y ddau wron.
---___---.--------,.-------Achos…
Achos Cyffrous yn Mhont. ardulais. Yn llys heddgeidwadol Abertwe, dydd Mercher, Gorphenaf 15fed, dygwvd Evan Jones a David Jones, brodyr (glowyr), ger bron yr ynadon ar y cyhuddiad o fod wedi achosi ni weidiau corfforol difrifol i Wm Hughes, Pontardulais. Dywedodd y Super- intent Williams fod y dynanffodus wedi marw mewn canlyniad i'r niweidiau a gaf- odd. Credai ef y dylid newid y cyhudd- iad yn erbyn y ddau garcharor. Y clerc Bydd i chwi yn awr ynte eu cyhuddo o lofruddiaeth wirfoddol ? Superintendent Williams: Nid ydym wedi eu cyhuddo felly eto. I Y clerc Bydd yn well i chwi eu cy- I huddo yn awr. Yna aeth Sergeant German i'r box, a chyhuddodd y ddau garcharor yn dawel o jlofruddiaeth wirfoddol. Wedi hyny, go. hiriwyd yr achos, ac yn y cyfamser deall wn fod trengholiad yn cael ei gynal ar | gorff Wm Hughes, y trancedig.
[No title]
| Dywedir fod y cynhauaf gwair cnewti rhaoau helaetb o'r wlad, eleni, yn well nag y bu er's blynyddatt.
Priodasgerdd
Priodasgerdd Ar uniad priodas Mr Sydney P. Jones, peirianydd, Mountain Ash, a'r gantores swynol Miss L zzie Watts (Y Fron- fraeth,) o'r un lie. Y Fronfraeth swynol ganai Heb bigyn tan ei bron, A chariad a dywynai O'i llygaid duon Hon A'i llais hi swynodd ganoedd- A cheisiodd llawer un (Oedd ar ei llais yn dotio), 1 ddal y Fronfraeth gun. Ond Syd o'r diwedd Iwyddcdd j I ddal y Fronfraeth gain, j Aeth saethau serch o'i lygaid I I w bron fel pigau drain; Argraffu wnaeth ei ddelw f Ar tech ei chalon lan, A seliwyd llw ffyddlondeb A ebusan ac a chan. Pan gafodd Syd y Pronfraeth Fe gafodd berlyn byw, Mewn glendid ac mewn rhinwedd Sy'n goron ar ei rhyw Diwydrwydd a syberwyd Yn reddfol ynddi sydd, A'i rhiniau'n perarogli Fel nef rosynau blydd. Un doeth—didderbyn wyneb, Ac annibynol yw, Yn meddu calon dyner, A hono n ofni Duw Ni welodd yr awenydd Ragorach bun erioed, Ei rhinion sydd fel blodeu Yn harddu ol ei throed. YJpriod-fab sydd hefyd Yn glod i feib fy ngwlad, Mewn doniau a chymeriad Yn addurn Cymru fad Bu'r ddau yn hynod ffodus I enill Daill y llall, Nid gwir yr hen ddiateb— 'Dy'lC' cariad dditnyn ddalL y Bendithied Duw'r bricdas, A boed eu haelwyd glyd, Yn nefoedd fechan ddedwydd, Yn gartre'r gan o hyd; Dymunwn iddynt deulu Fo'n glod i Walia Wen, A'r delyn aur, a'r goron, Mewn gwlad tu draw i'r Hen. Gwyrosydd. f
!Resolven Prize Drawing.
Resolven Prize Drawing. Winning Numbers—3162, 3113, 3014, 4851, 3376. 2744, 264, 249, 581, 3384, 973, 2631 760, 1421. 3262. 1043, 2454, 2957, 1938, 2745, 782, 697, 990, 2239, 1131, 29 29. S ec.
Adolygiad. -
Adolygiad. 1 Y Fasnach Feddwol yn beryg] Cen- edlaethol.' Gan y Parch E W Davies, Ton, Pentre. Pris, 2 geiniog. D)ma lyfryn bychan gwerthfawr- bychan ei faintioli, oDd mawr ei gvnwjs. Papyr ydyw ddarllenwyd o flaen Undeb Bedyddwyr Cymru, yn Sakm, Maesteg, Gorphenaf 25ain, 1904. Mae yr awdwr yn weledydd goleubwyll, ac yn gweled ffeitbiau fel y maent, ac nid breuddwyd- iwr gwyllt. Yma ceir golwg ar niweidiau y fasnach feddwol ar y wlad a dvled- swydd yr eglwys i wrthweithio ei dy- lanwad. Dylai y Hyfr gael cefnogaeth fwyaf gwresog ein eglwysi, a'i ddarllen Pan genedJgarwyr y wlad. Mae wedi ei ysgrifenu gan lenor coeth, sydd a'i fywyd y n ddylaEwad mcesol dihafal yn rhengau enwad parchus y Bedyddwyr. Davies y Ton! dy faes dynol-ài yw DjstewiJr blys yfol; Dos mlaen ar daen dies bob dol I faeddu'r fasnach feddwol.
Llundain.
Llundain. Guesiai Cymreig Cyfieus. a Chysurus i I Ymuelwyr a'r Brifddinas. j Y dydd o'r blaen agorwyd gwesty newydd j yn Upper Woburn Place, Llundain, i gym- eryd lle yr adeilad llai ar yr un heol. Gel- wir ef Hctel Gwalia, ac mae dan reolaeth John M. Jeckins, yr hwn sydd yn nai i'r enwog Edward Jerkins o r Gwalia Hctei, Llandrindoa, ac wedi cael profiad helaeth | yn y fasnach. II Mae Gwesty GwaJja yn agos i orsaf j Euston, St. Pan eras a King's Cross, ac y | mae yn gyfieus i gymeryd cerbydau yno i bob rhan o'r brif ddinas. Mae yr adeilad ] wedi ei wneyd o briadfeioi cochion a cheryg j yn ol cynllun Alfred Swash, o Casnewydd, a chodwyd ef gan gwmni Howell J Wil- liatns, Bermondsey street. Mae o wneu- thuriad cadarn ac yn fire proof, ond pob peth yn gyfieus i ddianc pe torai tan allan. Mae y muriau, y lloriau a grisiau y brif fyned fa wedi eu gorchuddio a marmor | Italaidd, ac mae yr ystafell fwyta wedi ei haddurno yn gyffelyb- Mae yr holl ystafell- oedd ar y lloriau isaf wedi eu dodrefnu yn y modd mwyaf destlus gyda chadeiriau a byrddau mahogany ac addurniadau chwaeth us, ac mae yr ystafelloedd cysgu yn dra atdyniadol. Ceir yn Gwalia gysuron Car- tref. Gwesty Dirwestol ydyw, ac mae y J prisiau yn dra rhesymol. Hysbysir fod garddwr yn Worcester Mass., wedi Uwyddo i dyfu pyt-atws a thymatws ar yr un gwlyddyn. Nid yw hyny yn rhyfedd o gwbl, pan y gwelir y Gwerin- wyr a'r Democratiaid yn adeiladu bantoaiau o'r un egwlddoriJ
Advertising
Î I I I ¡ t Yr wyf wedi dioddef poenau mawr gato ty nghun am flynyddau a<fyn parhau felly byd nes i mi ddefynydd i o Gomer's Balm,' yr bwn yn ebrwydd a esmwyth- aodd y boen, a Gwellhaodd y clwyfau yo bur fuan.' Gomer's Balm A Wellha Bawb.' Mae COMER S BALM' yn Eli at bob clwyf, ac yn hynod ac anffaeledig at bob math. o Glefydau allanol y Corfif. A 08. gench Goes Ddrwg ? Y mae GOMER'S BALM yn iachau y Clwyf braidd yn wyrthiol. Hefyd Arch ollion, Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd Ezema. Cedwlr llawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER'S BALM. Y mae yn iacbau Crach ar y ? a GWJD- ebau Plant, Yscaldanau, Piles Llygriadau Plaot a Benywod, M alaethr Tarwden. Traed Chwysedig, Gout, Gwynegoo Scurvy. Blood Poison. Gair at i-amaul Gweicnwyr Haiaro Alcan, Glo, Cerrig Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, CreflFtwyr o bob crtath, ni ellir cael dim mor effeithiol a sicr a Gomer's Balm at bob Archoll a Dam- wain i'r Cnawd, a sicrhad rhag y Blood Poison marwol. Syndod yn Swydd Devon. Syr,—Mae eich Eli, sef Gomer's Balm, yn feddyginiaeth ryfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei yspaldanu yn ddrwg lawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fuan ag oedd yn abl i'w gael ei wisgo, ac yn bur fuan yr oedd ei well had yn drwyadl. A ol hyny fe gafodd fy merch ymoscniiad llym iawn gan y Blast (neu Erysipefes) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefe yddiodd Gomer's Balm yr hwn a'i gwelli I aodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn amhrisiadwy. I Mae yn bity' nad yw pawb yo gwybod am dano. I H. LEWIS, Brixham, Devon. ) Clwyf Gymaint a Saucer. Syr, Ni allaf byth beidio ddiolch am etch j Gomer's Balm, y mae yn iachau fy nghlun j ya gyflym iawn. Mae fy nghlun wedi bod j yn ddrwg iawn am bum' mlynedd, clwyf mawr gymaint a saucer, ac yn boenus iawn, pawb yn rbyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwytnau y poen yn rhyfedd. Vr wy wedi gwario punoedd lawer i ddim dyben, Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale End, DalarstonJ Rhodder Prawf arno. Gofyner am Gomer's Balm. I Na thwyller chwi, mynweh weled enw [ JACOB HUGHES ar bob blwch. i j Ar werth gan bob Chemist neu werthwr Patent Medicine am Is Ifc, neu danfoner Jacob Hughes, I M.P.S., L.D.S., MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH. CARDIFF,