Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
I [Rubbing with Elliman's Eases Pain. I Elliman's Embrocation is the safe and effectual medium for rubbing out '■ Soreness of the Limbs'' after exercise. $Beneficial added to the hot or cold bath- |j Afcer walking—added to the footbath—it re- | lisvcs theacauig of tired feet; also it is good for— j $RHEUMATISM, KEURALGIA, i 41 CRfVMP. from cold, I LUMBAGO. CHEST COLDS, I BACKACHE, CHRONIC g SPRAINS. BRONCHITIS, I CUTS, slight, CHILBLAINS 1 BRUISES, (before broken), I SORE THROAT, CORNS I from co!J, (when painful). | To know how to rub, when to rub, and | whsn not to rub is not. universally known, g To aiiurd such information was the origin of the f now popular | ELLIMAN R.E.P. BOOK. f 3 First Aid and Rubbing Eases Pain Handbook, | g 2,6 flzges, cioiit board covers, illustrated. J 1: The R.E.P. Book treats of Ailments that bring | |S trouble in every household. Also contains First j? m Aid Information, and instructs respecting the | H 44 Hygiene of the Athlete," and Massage. ji I ACHES and PAINS Ji that are amenable to treatment—by judicious massage a —art; commonly relieved by the used Elhman's, which, 3 ■Jl applied early, often checks the development of serious 8 iiiness, as in the case of ailments arising- from taking: jj cold, etc. The REP. Book. 256 pages-, is sent po t £ M free to all parts of the world upon the term- srated f « up >n page 1 of the R. 6. P. Booklet (48 pages' w hivl* ,iS is enclosed in each carton containing Eihm.nV. 5 •B Universal Embrocation, price 1 ij. 2 9 an,1 41- per g bottle (z:9 equals 3 of 4i-equals I ELLIMAN, SONS & Co., Slough, England. I
[No title]
Y mae yn ymddangos fod Tywysog Cymru wedi haner addaw i fod yn bres enol yn Eisteddfod Genedlaethol Llangoll. en, ond gan fod ei alwadau mor liuosog, dichon na cha gyfle i fyned yno.
Pedwar Mis ar ei GaIn.
Pedwar Mis ar ei GaIn. Ysgrifena Mr A. Newton, o Feltham. fel a gantyn Mae e:ch pelenau chwi wedi fy ngvvella i yn llwyr, ar ol bod bedwar mis ar fy nghefn." Gall dyoddefwyr gael eu harian yn ol os na fyddant yn foddhaol ar BELENAU HOLOROYD. Sicrheir iachad sicr oddi wrth Grafel, Poenau yn yCefn, Dyfrglwyf, Gwynt, Anhwyldtrau y Dwfr, Anhwylder yr Arenau, Careg, Gout, Sciatica ar Gewinwst.—Oddiwrth yr holl Fferyilwyr, r.eu yn rhad trwy'r llythyrdy, 12 llythyr- nod. Holdroyd s Medical Hall, Cleck- heaton. DIRGELWCH DIG; NEU, GYFRINACH Y FFERMWR MAWR. Gan SHON Y GWAS. PENNOD XX.-Y Storm yn Torri. Aeth Prys yn lwallgof. Gwynebai ei fab ac yntau eu gilydd—penderfyn- iad tawel, cligynnwrf, yn amlwg yn llygaid y mab, a siomiant dialgar yn berwi yn enaid y tad. Munud pryd- erus oedd hwnnw i Mrs. Prys. Ofnai eu gweled yng ngyddfau eu gilydd. H Cer i rywle, Bob," meddai'r fam. T Ie," meddai Prys, dim awr yn y I ty hyn yto." Awgrymodd Bob ei fod yn barod i gychwyn, ond erbyn hynny, yr oedd ei dad wedi ail-feddwl. "I ble rwyt ti'n mynd? Beth wyt ti'n mynd i neud ? gofynnai. "Mi alia fynd pie mynna i, ma'n debyg, a gneud beth fynna i ar ol i fi fynd." Ofnai Risiard Prys ei fod yn awr yn taflu Bob i freichiau Mary, a phender- fynodd ar gynllun i'w rhoi yn ddigon pell oddiwrthfeu gilydd. Roedd Bob i fyned i'r America, ac i gael stoc dda o ddillad, a deg punt ar hugain yn ei boced, i gymeryd ei siawns yn y wlad bell. Nid oedd i dywyllu drws ty ei dad mwy,oni ddeuai yno fel boneddwr, teilwng o'r dignity oedd wedi arfer bod yn y teulu. Roedd i gychwyn gyda'i dad i Lerpwl nos drannoeth. Cyd- syniodd Bob arunwaith. Wedi i hyn gael ei benderfynnu, aeth Prys allan i geisio eymorth yr awelon i oeri ei dymer ac i feddiannu ei enaid mewn amynnedd. Rwyt ti ym mynd ymhell, machgen i," meddai Mrs. Prys yn ei dagrau, pan oedd Bob a hithau wrthynt eu hunain. Ma pethe'n dwad yn iardderchog," meddai Bob, peidweh a gofidio dim, mam, dyma'r peth gore nath yr hen ddyn hyd yn hyn. Ma'r peth rhyfedda welsoch chiariod ym myndi ddigwydd nawr. Ry'n ni bron a mynd o'r anial- weh, mam."
PENNOD XXI.-Mynd i Lerpwl.
PENNOD XXI.-Mynd i Lerpwl. Taenasai y nos ei mantell dros y fro, a gyrrai tri mewn cerbyd i stesion Llanddyrog. Yr oedd Risiard Prys ym mynd i osod ei fab can belled ag y gallai oddiwrtho ef ei hun ac oddi- wrth Mary Lloyd. Aethai William Hughes i'w danfon yn y car. Tra fu Risiard Prys yn codi tocynnau dal- iodd Bob ar y cyfle i ddweyd wrth WilMam Hughes- Rw i am i chi heno fynd i'r ardd wrth dalcen y ty. Y mae yno sached o twbeth o dan y ffenest. Cymerwch hi a cherwch a hi heno i'r Llechwedd. Gwedwch wrth William Jones am beido'i hagor hi, na son dim am dani, na holi dim yn i chylch hi am dri diwmod, ond i chadw hi'n Qfalus hyd nes clywiff e'n mhellach. Peidweh chithe William a holi na gweyd gair am dani." Reit Bob," meddai William. Par- chwyd dymuniadau Bob i'r llythyren gyda golwg.ar y sach. Cafodd Risiard Prys a'i fab le iddynt eu hunain yn y tren. Aethant gryn ffordd heb i air gael ei ddweyd. Edrychai Bob yn hollol hamddenol a digyffro. Efallai mai tybied nad oedd y ddedfryd yn cael yr effaith a ddymunai ar ei fab a wnaeth i'r tad dorri ar y distawrwydd. Ac o dan yr amgylchiadau anodd fyddai iddo ddisgyn ar unrhyw fater heblaw dignity. Nawr, Bob," meddai, ddim nol i Gefengole yta nes byddi di yn dwad a dignity gyda ti." Na," meddai Bob, "ma'n debyg na ddwa i ddim i Gefengole, wath fydd- wch chi ddim yno'ch hunan yn hir yto." Gwingodd y tad dan yr awgrym hwn, ac ychwanegodd— Gan nad ble bydda i Bob, rhaid i ti ddwad yno'n dignified, dim heb hynny." Ma raid i rywun ddwad a dignity atoch chi o rywle, mae e'n brin iawn ble bynna' byddwch chi." "'Dos dim dignity mwn morwn gyf- log, Bob." Rown i'n meddwl fod yna lawer iawn ynddyn nhw ag yn y gweision wrth ych clywed chi'n achwyn arnyii nhw weithe." "'Ðyw e ddim yn perthyn iddyn nhw, Bob gwasa'thynon y'n nhw." "Falle wir, nhad, ma'n dda iawn gen i ga'l mynd mor bell ag sy bosib o'wrth ych dignity chi. Ma'n well gen i o lawer dignity ambell i was ne forwn nag e. Ag os o's rhywfaint o'ch dig- nity chi yn aros yno' i, gobeitho y bydd e i gyd wedi mynd i'r gwaelod yn y lie dyfna sy yn y mor cyn bydda i wedi lando yn New York." "Wyt ti'n cofio," gofynnai'r tad, "faint o arian w i wedi hala arnat ti, Bob ? "Ry'ch chi wedi hala mwy o lawer ar whisci," meddai Bob. "Beth yw hynny i ti, Bob? 'Do'dd hwnnw yn costi dim i ti." Wyddoch chi, nhad, fod yna bym- theg cant o boteli gweigon wedi 'u rhoi o'r golwg yn yr hen seler gefen yna ?" j Beth yw hynny i ti, Bob ? "Liawer iawn, nhad. Rw i yn ddiweddar wedi bod yn adolygu tipyn ar ych gweithrediade chi. Alia i ddim llai na mesur ych dignity chi wrth y poteli yna. 'Dyw e ddim yn rhyfedd fod tad sy wedi gneud cynifer o boteli'n wag wedi bod bron a hala'i I fab i ddistryw." j "'Do's dim yv< vdignified Bob mewn cymered glased yn gyson, dim ond i ddyn gadw'i drad o dano fe fel rw i wedi gneud. Cadw dignity yw'r pwnc, a dyna beth wyt ti wedi anghofio Bob," meddai Prys gyda phwyslais. "Beth yw dignity, nhad?" gofynnai Bob. Dyma un o'r geire cynta glywes i chi'n weyd. Beth yw e? gadewch i fi ga'l sponiad clir gyda chi nawr, cyn mynd dros y dwr." "Urddas, boneddigeiddrwydd yw e," meddai Prys, "y peth sy'n codi dyn i ddosbarth uwch na phobol gyffredin. Pan ma dyn ym mynd yn is na'i ddosbarth, Bob, mae e'n colli 'i ddignity. Edrych i'r lan ddylse dyn a nid edrych lawr." "Dw i ddim fawr callach yto," meddai Bob, pan fydda i'n gofyn i chi beth yw rhwbeth, a chithe'n gneud dim ond rhoi geire Cymraeg yn lie gair Sysneg, rw i yn yr un fan. Beth yw "urddas"? Beth yw "boneddig- eiddrwydd ? "Tyset ti," meddai Prys, "wedi sylwi yn fanylach ar y deffiniad rois i o dignity, ti welset mod i wedi gneud mwy na rhoi geire erill. Mi wedes i taw peth sy'n codi dyn i ddosbarth gwahanol i bobol gyffredin yw e. Falle na ellir ddim i sponio fe, ond ma'n ddigon hawdd i nabod e." Lot o starch sy gyda chi wir, nhad," meddai Bob, "'dyw'ch dignity ddim gwerth son am dano. Tyswn i'n credu fod yna ryw werth ynddo fe, mi ddethwn nol gyda chi yto i ddysgu'n ostyngedig wrth yeh trad chi. Ond 'dyw e ddim gwerth. A pheth arall, nhad, wyddoch chi'n iawn ych bod chithe rhwng whisci a phethe gwaeth wedi ffaelu cadw'ch trad o danoch chi. Ry'ch chi cystal a bod wedi mynd a'ch pen i'r wal. Nawr rych chi wedi gweyd taw edrych i'r lan ddylse dyn a nid edrych lawr. Wyddoch chi taw Mary Lloyd rows yr help cynta i fi i edrych i'r lan. Treio'n nysgu i ganu "I fyny bo'r nod," oedd Mary pan ddath mam a chithe heibo yn y car nos Lun. Pan own ni yn y ffosydd rown i'n ddigon dignified yn ych golwg chi, ond nawr, pan rw i wedi gadel 'yn ffolineb i gyd ag yn treio codi i well dosparth a phurach cymeriad, ry'ch chithe wedi mynd i deimlo nag w i ddim yn addas Ii fod yn yr un wlad a chi. Pun ai mynd lawr neu fynd i'r lan w i wedi bod yn neud yn ddiweddar nhad ?" Siarada i ddim rhagor a ti, Bob, fe fydd yn esmwythad mowr i fi pan fydd mor rhyngo i a ti. Ma gwyneb o bres gyda ti i wleia felna a fi ar ol gwastraffu cannoedd o bunne o'n arian i." K "Ma'r trein ym mynd," meddai Bob, a ma'n deg i finne nawr i ga'l gweyd tipyn o 'meddwl tra fo cyfle, os peid- weh chi nhowlu i mas drw'r ffenest; fel gnath William Jones a'r bachgen fagsoch chi. 'Ry'ch chi'n diall taw nid yr un o lawer yw'r bachgen y'ch chi wedi hala drw'r drws a'r un halodd e drw'r ffenest, "'Nei di fod yn dawel, Bob! medd- ai Prys yn gynhyrfus. Na 'dw i ddim wedi gorffen, ma raid i chi, nhad, ga'l 'ymarn i am ddig- nity. Mae e'n rhwbeth nag o's dim a fynno'r peth y'ch chi'n alw'n class ag ef yn y mesur lleia. 'Do's yna ddim liawer o urddas yn perthyn i rai sy a class, class, ar 'u tafode o hyd. Fe all class fod yn rhwbeth gwahanol iawn i urddas. Allwch chi ddim gweyd nag o's dim urddas yn hwn am i fod e'n glawd, a ma hwn yn urddasol am i fod e'n gwisgo modrw aur a dillad costus, a choleri a chyffs. Nid yn siope'r teilwried a'r jewellers, nag yn y laun- dries y ma nhw'n gneud urddas. Gneud dandies a snobs ma'r pethau hyn. Ma urddas yn rhwbeth sy'n ddyfnach na'r boced, na'r dillad, na'r croen, ac na'r gwad. Mae e—i n ga'l iwso gair mowr —yn gymhlethedig a'r cymeriad—y j character. A phan ma urddas yn rhw- I beth heblaw enw, y mae e fel arogl per y blodyn bach yn gneud pawb yn hoff o hono. Ma rhinwedd yn urddasol gan nad lie ceir e. Os bydd dyn clawd yn onest ag yn bur, yn dda a charedig, mae e'n urddasol, nhad. O'r ochor arall, ys gwedodd y pregethwyr yma, os bydd ffarmwr mowr, ne gentleman farmer, o ran hynny, yn falch, yn hun- anol, yn greulon, yn ddiystyrllyd o blant dynon erill, yn swrth ac yn draws-arglwyddol yn y capel ag ar yr aelwyd, ag yn anfoesol, ble, nhad, ma dignity y rhai hyn ? Heretic, heretic meddai Prys. "Newch chi fod yn dawel am dipyn bach, nhad ? Wyddoch chi pwy ddangosodd i fi beth odd dignitv? Mary Lloyd a William Hughes." Taw, gythrel." "Nawr, nhad, 'dyw'r gair yna ddim yn dignified iawn i ddiacon. Wyddoch chi'n iawn taw ffwl perffeth own i wedi bod cyn i fi weld Mary Lloyd." Yr oedd hyn yn ormod i Risiard Prys. Wyt ti'n tewi, Bob ?" meddai, gan wneud osgo fygythiol at ei fab. 0 nagw, nhad," meddai Bob, 'dw i ddim ond prin dechre yto. Welwch chi hwnna, nhad-y communication cord yna ? Os nag y'ch chi'n ishte lawr i rondo, mi roia i blwc bach i hwnna, a fe arosith y trein arunwaith, a fydd rhywrai ddim yn hir cyn dwad yma i glymu'ch dwylo chi o'r tu ol i'ch cefen chi nes awn ni i Lerpwl. Fydd dim golwg urddasol iawn arnoch chi felnv." Gwelodd Prys nad oedd dim i'w wneud ond gwrando ar ddoethineb ei fab goreu y medrai, a chwysai wrth feddwl am y pethau a ofnai a deflid i'w wyneb. Anesboniadwy iddo erbyn hyn, sut y daethai ef i fod dan y fath orthrwm. Yn sicr, yr oedd y byd ym myned o'i le yn gyflym. Aeth Bob yn ei flaen-- "Wyddoch chi, nhad, beth ddysg- odd Mary Lloyd i fi ?" Ma'n ddrwg gen i orfod ych adgofio chi fel hyn am Mary. Ond yng ngwyneb y pethau y'ch chi wedi weyd am dani, a'r enwau y'ch chi wedi roi ami, ma'n deg i chi ga'l clwed yr ochor arall. t, Mary'n nysgodd i gynta i garu mam. Chi ddylse fod wedi gneud hynny, ond nethoch chi ddim. Chas mam delim I liawer gyda chi ond ych dignitv di- werth chi, a'ch gwarth chi ar hyd y blynydde. Gyda Haw, i ble ma rhai ugeine, os nad rhai cannodd, o'ch arian chi wedi mynd, heblaw y rhai ath am boteli ? Chi allwch gocni ddylsech chi fod wedi gwrido cyn hyn. A odich chi yn fwy dignified na'r rhai y torsoch chi 'u cymeriade nhw ? A all "canpunt a thaw" guddio gwarth fel ych gwarth chi ? Yn ddiweddar y ces i agoriad llyged ary pethe hyn. A Duw a wyr,onibai i Mary Lloyd ddwad ar draws 'yn llwybyr i, falle byswn i wedi mynd i feddwl fel chithe fod dig- nitv yn y pethe hyn. Rw i'n crynu weithe wrth feddwl am y dibyn own i wedi'n arwen ato. Ond, nhad, dyna olygfa oedd Mary Lloyd yn Nghefngole. Rown i wedi arfedd gweld y bechgyn a'r merched ym mynd fel llygod o'wrthoch chi, nes own i wedi mynd i feddwl mai felny, a felny yn unig y dylse pethe fod. Pan ddes i adre yn yr haf, bygwth rhoi cernod i Mary odd un o'r pethe cynta 'nes i, fel yr oech chithe wedi bygwth, ac wedi gneud yn ddiame i lawer fu yno o'i blan hi. Ddethoch chithe i'r ty fel blaidd, a finne nawr odd y pechadur mowr. Fi odd wedi'ch gneud chi yn ddyn clawd. 'Doech chi'n cofio dim am y dryge oech chi wedi'n annog i iddyn nhw. 'Doech chi'n cofio dim am danoch chi'n cynnyg unrhyw beth i fi am roi llyged duon i William Jones heb iddo wbod pwy own i. Ond fues i fawr o dro cyn diall nag oech chi ddim cyment o arglwydd yng Nghefngole ag oech chi'n arfedd bod. Mi ddialles yn fuan iawn nag oech chi ddim yn gallu edrych yng ngwyneb Mary Lloyd. A dyna felus i fi nawr oedd i gweld hi'n gallu edrych gyda dirmyg arnoch chi, a'i chlwed hi'n gallu canu pan oech chi'n rhuo. Ag eto mor dyner a charedig odd Mary i mam." "Nawr, ry'ch chi'n mynd i alltud- io'ch mab am i fod e'n cam un sy wedi dysgu cyment iddo. 'Dyw e ddim yn dignified, meddech chi, yn'o i mod i'n caru Mary yn anrhydeddus. I Odi hynny, nhad, ddim yn fwy digni- fied, na phe bawn i wedi dilyn ych esiampl chi ? On' fasech chi wedi distrywio purdeb a chymeriad Mary pe baech chi wedi ca'l ych ffordd ?" Celwydd, celwydd." "Nage, nhad, ishteddwch lawr un- waith yto, 'dyw Mary byth yn gweyd celwydd, nag yn rhagrithio chwaith. A nid hi yw'r unig un, ma'n debyg, sy a phethe tebyg i weyd am danoch chi. Wyddoch chi, hefyd, taw Mary Lloyd ddangosodd i fi gynta fod yna rwbeth pwysig mwn crefydd. Roech chi wedi nysgu i i gymeryd crefydd yn sport, er ych bod chi'n flaenor. Na wedsoch chi ddim falle, ond ma gweithredoedd yn I!efaru'n uwch na geire. Beth gwell oech chi o ganu, a gweddio, a llefen yn y set fowr, a byw fel oech chi'n byw ? Beth gwell oech chi o son am yr hyn odd ych ceffyle chi a'ch gweision chi wedi neud dros yr achos, wrth godi'r capel newydd, a chithe'n gwbod taw er mwyn ca'l ych gweld oech chi'n gneud y cwbwL Tysech chi ddim ar y blan yna, fyse dim perygl i chi neud dim; mi fysech wedi mynd i'r Eglwys, ne ryw gapel arall ys liawer dydd, run fath a Dafi Dafis, Dyna odd 'yn syniad i am eglwys Ainon hydiyn ddiweddar-taw rhyw ffarm grefyddol t>dd hi dan ych gofal chi. Wel ma well i fi beidio gweyd dim am ych ymdrech chi ga'l priodas rhwng Elen Evans a finne; ma'r castell hynny newydd ddwad ar ych pen chi. Ma'ch bywyd chi wedi bod yn un bennod o waradwydd, a llyg- redd, a brynti, a rhagrith. 'Dyw'r lluaws ddim wedi gweld dim liawer ond y masc, ond ry'ch chi'n gwbod nawr fod rhai o honon ni yn gwbod beth sy o'r tu ol iddo. Dyma beth o'r gwir yn y'ch gwyneb chi. Nhad, odi hi ddim yn bryd i chi droi dalen ? 'Dyw hi byth yn rhy hwyr i wella." Scowndrel," meddai Prys. Pun o honon ni yw'r scowndrel, nhad ?" Ti." Eisteddodd Bob yn ol yn ei sedd, a I dechreuodd edrych allan drwy'r ffenestr ar brydferthweh natur wrth oleu'r lloer. Yr oedd y nos yn oleu a chlir. Teithiasai y ffordd honno lawer gwaith ar ei ffordd i Glasgow ac yn ol, ond ychydig o sylw a wnaethai o'r wlad. Y noson hon gwelai bopeth yn hardd. Rhyfedd fel y mae popeth yn newydd i ddyn newydd. Gwelai ambell i ffrwd fechan fel llinyn arian ym mhelydrau'r Iloer. G-welai ambell goedwig dywell fel pe ar ei goreu i, wneud ei hun yn amlwg, ac yn ym- falchio fod cerddorion y dydd yn huno yn ei mynwes. Yr oedd llwydni Hydrefol y meusydd yn oreuredig gan wawl y nef, a'r bryn- iau yma ac acw yn estyn eu cysgodau esmwyth fel pe i gofleidio'r meusydd. Gwelai'r defaid, wedi eu dychrynu gan swn y tren, yn rhedeg i ganol y cae, ac yn edrych yn ol yn syn ar aflon- yddwr mawr y nos. Gadavrent fryn- iau a chymydd culion Cymru y naill ar ol y Hall, a thangnefedd yn orffwys- edig ar bob peth. Nid oedd Bob wedi gweled cymaint o swyn, tynerwch, a gogoniant y nos .erioed o'r blaen. Braidd na ddymunai yn awr-" 0 na byddai'n nos o hyd." Ond trodd Bob a gwelodd ei dad. Roedd nos arall ar wyneb hwnnw—yr unig nos. Dechreuodd teimlad o dosturi at ei dad ei feddianu. Ceisiodd ddarllen rhyw arwyddion er daioni yn ei wynepryd. Caledwch oedd amlycaf yno. Credai fod yno hefyd ryw gysgod o deimlad cywilyddgar, llwfrr i'w ganfod yng ngollyngiad ei weflau ac amrantau ei lygaid. Yn gymhleth- edig a hyn, gwelai yn ei lygaid, ac yng nghrychni ei dalcen, ryw radd a- anfoddogrwydd—nid anfoddogrwydcl o herwydd unrhyw ffaeledd ynddo ef ei hun, ond am feiddio o neb awgrymu fod ynddo ef ddim nad oedd yn hollol urddasol a chanmoladwy. Deallai Bob mai ofer fyddai tosturio wrth ei dad, ac ymollyngodd i gysgu. Pan ddeffrodd, yr oeddent wedi gadael mynyddoedd a dyffrynoedd Cymru, ac yn rhuthro dros wastad- eddau Lloegr. Syrthiasai ei dad erbyn hyn i drwmgwsg. Arosodd y tren yn yr Amwythig, ac yr oeddent i newid yno. Cymerodd Bob y pethau a berthynent iddo ef, ac aeth allan gan adael ei dad yn cysgu. Ymhen tipyn, aeth un o'r porters at Prys, a rhoddodd iddo ysgydwad gan ofyn yn awdurdodol-" Where for ?" Liverpool, Liverpool," meddai Prys. "Look sharp then, look sharp,the Liverpool train is due out." Pan ddeffrodd Prys yn iawn gwelai fod Bob wedi diflannu. Casglodd y porter ei bethau at eu gilydd, rhoddodd hwynt yn y tren yr ochr arall, a gwth- iwyd Prys i fewn ar eu hoi a chauwyd y drws. Chwibanodd y guard, cododd y lamp, yna-" hergwd a phwff"; yr oedd y tren ar ei daith a Phrys ym. mynd i Lerpwl heb ei fab.
Gwragedd fel Ysgolfeistresi…
Gwragedd fel Ysgolfeis- tresi yn Aberdar. Penderfyniad y Pwyllgor Addysg. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Addysg Aberdar, dydd Mercher diweddaf, dan lywyddiaeth Mr T Walter Williams, daeth. achos yr ysgolfeistresi priod gerbron, y rhai sydd wedi derbyn rhybuddion i ym- adael o'u gwahanol swyddi, a therfyna y cyrryw rybudd ar Orphenaf 31ain. Darllenwyd gobebiaeth arwyddedig gan weinidogion ac offeiriaid dyffryn Aberdar, yn deisyf ar y pwyllgor i ystyried canlyn- iadau difrifol y rhybuddion. Nid oedd- ent, er hyny, am roddi unrhyw farn pendant ar y pwnc, ond yn hytrachyn gwasgu ar y ddwy blaid i geisio dyfod i ddealldwriaeth boddhaol a therfynol i't ddwy ochr, heb fod unrhyw ysgolfeistres briod yn cael un cam. Awgrymir yn y ddeiseb y dylid cael math o gydgynadlodd, ac os methid cj tuno yno, yna i osod y mater i gyflafareddiad. Arwyddwyd y ddeiseb gan y gweinidog- ion canlynol: — Parchn. J O'Reilly, C A H Green, M.A., Ficer Aberdar; D Silyn Evans, J Mills, R Will ams, J Robertson, M.A., M Powell, Ficer Aberaman; J Mor- gan, Ficer Hirwaun; Thos Thomas, God- reaman J B Davies, Abercwmboi; J T Roys, Godreaman; W J Rowlands, Hir- waun; J M Jones, M.A., J Griffiths, W Cynog Williams, Tree non M Jenkins, Abercwmboi; W E Harris, Aberaman J Morgan, Trecynon; J L Jenkins, B.A., a M Evans. Darllenwyd llythyr a dderbyniwyd oddi- wrth y Cynghorwr E Stonelake, ysgrifen- ydd Cynghor Crefftol Aberdar, yn hysbysut fod y cyfryw gynghor wedi pasio pender- fyniad yn hafr rhoddi rhybuddion i'r ysgolfeistresi priod. Cynygiodd Mr 0 Powell fod y llythyroa i orwedd ar y bwrddr Dywedodd ei fod yn argyhoeddedig fod 80 y cant o dreth- dalwyr Aberdar yn ffafr gwneud i ffwrdd ag ysgolfeistresi priod. Eiliwyd gan Mr D J Thomas. Cynygiodd Mr L N Williams, Y.H., welliant, sef i osod y mater i gyflafaredd- iad. Dywedai fod penderfyniad y pwyll- gor yn frysiog, anystyriol, ac annghyfiawn. Eiliwyd gan Mr D P Davies. Wedi dadleuaeth boeth a maith, cariwyd y cynygiad, sef—dros yn cynygiad, 9; dros y gwelliant, 8. Cyfarfod yn Nkrecynon.
[No title]
Nos Fercher diweddaf, cynaliwyd cyfar- fod liuosog o drigolion Trecynon a'r cylca yo y Neuadd Gyhoeddus, dan lywyddiaeth. y Parch R J Jones, ILA., er protestio ya erbyn peoderfyniad Pwyllgor Addysg Aber- dar i wneud i ffwrdd a'r ysgolfeistresi priod. Sylwodd y cadeirydd y dylasai y pwyllgor ail ystyried y cyfryw beoderfyn- iad. Bu tipyn o gynhwrf yn y cyfarfod hwn, ac hawdd cejd dead fod dosbartht eaug yn rhanedig ar y pwnc, ond beth byuag am hyny, pasiwyd penderfvniad ya tfafr awgrym y cadeirydd.
----.,.----,.-Perthynas Foesol…
Perthynas Foesol Cyfalaf a Llafur o Safbwynt Crlstlonogaeth. I (Parhad). Beth yw'r agwedd ysbryd genhadlir gan y syniad hwnw? Y mae'r agwedd ysbryd genhedlir ganddo yn dwvn delw y syniad ei hun. Y mae y sawl ga ei hun yn nosbarth y meistri, fel eu gelwir, yn cael ei feddianu gan ysbryd uchelfrydig a thrahaus. Lie byddo'r ysbryd hwaw yn cael ei ffordd yn ddirwystr, gwelir ef yn mhob osgo, a chlywir ef yn mhob ym- adrodd a goslef. Y mae yr osgo yn chwyddedig, a'r ym- adrodd yn sarhaus a thrahaus. Y mae y sawl ga ei hua yn nosbarth y gweithwyr, o'r tu arall, yn tueddu i gael ei feddianu naill ai gan ysbryd yswatiol a gwareidd- iol, sydd yn ddinystriol i hunan-barch, neu ynte gan ysbryd gwgns a herfeidd- iol. Hawdd gweled pi deimladau gynyrchir gan agweJdau ysbryd fel yna. Ar y naill law y mae eiddigedd creu- lawn ar y Hall, cenfigen ffyrnig. Y mae gan y naill fuddianau, a safle, a rhagorfreintiau i'w hamddiffyn; y mae gan y Hall hawliau i ymladd am danynt sydd wedi eu hir nacau iddo, a chamwri i'w uniawni sydd wedi ei hir ddioddef ganddo. Y mae'r teimladau ddaw i weithrediad ar y naill du lawn mor ddi- nystriol a'r rhai ddaw i weithrediad ar y tu arall. Y mae balchder, a thraha, ac eiddigedd y meistr lawn mor niweidiol i'r hyn sydd oreu mewn dyn ag yw'r ys- bryd cenfigenllyd a herfeiddlol sydd mewn perygl o feddianu 7 gTeithiwr. Pell ydym o honi ein bod yn yr hyn sydd wedi ei nodi allan genym wedi dangos holl achos yr ymddieithriad a'r aDghytundeb ffyna rhwng cyflogwyr a gweithwyr; ond credwn ein bod wedi cyfeirio at rhai o'i brif wreiddiau. Yr ydym hefyd wedi cyfyngu ein hunain at y math o achos i'r drwg hwn ag sydd yn briodol i un yn cynrychioli eglwys Crist wneud ymchwiliad iddo, a'r gorchwyl nesaf ydyw awgrymu modd i gael pen amo. Os mai dyna'r achos, ynte, beth yw'r feddygioiaeth ? Yn gyntaf oil, dylid gwneud i ffwrdd, unwaith am byth, a'r syniad cyfeiliornus fod uchafiaeth a isaf- iaeth naturiol ac angenrheidiol yn gwa- hanu y ddau ddosbarth yma y naill oddi wrth y Hall. Yn hanfodion y natur ddy- nol y maent yn gydradd. Dvlai y cyfiogwr, gydnabod fod ei weithiwr yn ddyn—ie, yn ddyn, ei fod wedi derbyn natur ddynol s/n gydradd yn ei holl hanfodion i'w eiddo ei hunan, a byny o law y Duw nad yw yn derbyn wyneb neb. Dylai y ffaith fod ganddo dciyn i ymwneud ag ef gael ei /dtyriaeth fiaenaf a phenaf, ac yna a'r man wahan- iaethau celfyddydol sydd wedi arfer liy- wodraethu ei ymddygiad at ei weithiwr i .ymguddio o'u golwg mewn cywilydd bythol. Y mae y ffaith fod y sawl sydd ganddo i ymwneud ag ef yn ddyn mor anrhaethol bwysig, fel y dylid yn ymyl hyny anwybyddu ystyriaethau bychain, megis gradd ei ddiwyiliant, pwys ei logell, a'i safle gymdeithasol. Dylai y gweithiwr gydcabod y dy- yn y meistr hefyd. Nid anghenfil sydd ar y naill du, ac nid anifail sydd ar y tu arall, ond dyn sydd ar y naill du a'r llall. Yn rubob ymdrafudieth, gan hyny, rhwng cyflogwyr a gweithwyr, dylai fod yn daeailedig hollol, a dylai'r ystyriaeth o hyny gael mynegiad yinarferol, mai dyn t sydd ar y naill ocar a'r llall, a'u bod yn hanfodion eu natur ar safle o gydraddol- di-b hollol. Yn nesaf, yn mhob ymdrin- iaeth rhwng y ddau ddosbarth yma, dylid cydnabod yn ddigel ac yirarferol fod j llafur y cyflogedig ruor angenrbtidiol a chyfalaf y cyflogwr. 1 Prin y cydiiab/ddir hyry eisoes me^ I damcaniaeth, end prin y mae y gydna- j byddiaeth hoco yn caol mynegiad ymar- j ferol yn y cytuadebau wneir rhwng y naill blaid a'r liali, ohlde byddai enillioa j y Daiii yn agosidh fod yn gydradd i elw y llall. Hefyd, dylid cydyabod nid yn imig fod llaíur y gweithiwr yn anheb- gcroi, ond yn drwyadl urdd?sol yn ogys- iai, a bod man a safle pob math 0 weith- iwr mewn bywyd mor anrhydeddus a rhan a safle y cyflogwr. Tueddwn i ddweyd, nid yn unig fod llafur yn urdd- asol; oLd fod pob math o lafur yn yr ystyr ddyfnaf yn un mor urddasol a'u gilydd. Cysylltir weithiau mwy o urddas a rhai mathau o lafur na'u gilydd. Yn gyffredin, y mae gradd yr urddas gysylltir a math neillduol o lafur yn cyfateb 1 raddau y meddwl aiff i'w gyflawni. Ond, fel y dangoswyd eisoss, y mae pob llafur yn gofyn ILeddwL ac y rnae'r llafur y tvbir ei fod yn gofyn lleiaf o feddwl yn galw am fwy o hono nag a ganiateir yn ami. Ar yr un pryd, yr hyn y dylid edrych arno yn benaf yw, nid y llafur ei huu, ond y dyn sydd yn ei gyflawni. Y mae y ffaith fod dyn yn cyfi^wni unrhyw lafur ycddi ei hun yn rhoddi urddas ar y llafur hwnw. Nid y llafur ddylai ben- derfynu gwerth y dyn yn hollol, ond y dyn yn hytrach ddylai benderfynu gwerth y llafur; a dylai pob llafur goneat ddwyn i ddyn fodd a chyfle i fyw fel dyn. Hefyd, y mae pob llafur yn derbyn ei urddas o'r ffaith ei fod yn cyfranu i anghenion a chysuron cymdeithas. Y mae llafur y cloddiwr mor anhebgorol i anghenion a dedwyduweh cymdeithas ag yw llafur y Prif Weinidog, a gellid ychwanegu fod liawer cloddiwr yn cyflawni ei waith gyda deheurwydd ac effeithiolrwydd daflai waith ambell brif weinidog gafwyd genym fel gwlad i warth bythol. Yn sefyllfa bresenol gwareiddiad, y mae yn gwbl ofynol i ni bwysleisio yn drwm ar urddas llafur, ac yn enwedig ar urddas yr hyn a elwir yn llafur corfforol. Y mae cynydd addysg a diwvlliant yn tueddu i ddwyn llafur coifforoi i anfri, ac oblegid hyny t cryfha y duedd i'w osgoi fwy fwy. V mae I yn hyn berygl moesol a chymdeithasol. Dylid pwysleisio yn ddiorphwys mai nid ynddo ei hun y gorwedd urddas un- rhvw lafur, ond yn mod dyn yn ei gyf- lawni, a'i fod yn llesol i gymdeithas. Y mae llafur gonest a deinyddiol nid yn unig yn urddasol felllafur, ond hefyd yn foddion dysgyblaeth foesol o'r radd uchaf. Syniai liawer am fywyd urddas ol yw bywyd yn cael ei dreulio mewn cyf- oetk, seguryd, a moethau. Y mae bywyd y gweitbiwr diwyd a Ilafurus yn anrhaethol fwy anrhydeddus nag eiddo y cyfiogwr segur a moethus. Yn wir, nid felly y dylid gosod y mater, Y mae llafur diwyd a gonest mewn unrhyw gylch )n wirioneddol anrhydeddus; tra y mae seguryd moethus, gan nad beth fyddo'r safle gymdeithasol, yn drwyadl ddirmygus. Yn ymdriniaethau cyflogwyr a'r rhai a gyflogir ganddynt, ynte, dylai'r urddas sydd yn perthyn i lafur gael ei gydnabod, a dylai'r llafurwr gael ei barchu yn gyfatebol i'w urddas. Eto, yn ymdriniaethau cyflogwyr a a gweithwyr, dylid rhoddi ystyriaeth i werth cydmarol yr hyn ddwg y naill a'r llall i'r drafodaeth weithfaol Fe bwrid golwg dej ar eu gwerth masaachol yn unig, diau y byddai yn rhaid cydnabod fod rhan y gweithiwr yn gyfartal beth bynag mewo gwerth i ran y cyfiogwr. Fel y crybwyllwyd eisoes, y mae yn ffaith addefedig fod llafur y gweithiwr mor anhebgorol er dygiad yn mlaen y weithfa ag yw cyfalaf y cynogwr. Gan fod llafur, ynte, mor anhebgorol a chyfalaf, dylid caniatau iddo werth masnachol cyfartal. Mewn gwerth moesol y mae cyfran y gweithiwr yn uwch nag eiddo Hawer o'r cyflogwyr. Yn ami iawn yreithaf ddygir i'r farchnadfa weithfaol gan y cyflogwr yw ei gyfalai: a'i feddwl. Ac fel y sylwyd yn flaeaorol, ni chyfrenir gan niter luosog o honynt ond yn wnig eu cyfalaf. Ar gvfer hyny, dwg y gweithiwr i'r farchnadfa lafur corff a meddwl, ac, yn vchwanegol at hyny, yn ami iawn, wrth roddi ei lafur rhydd ei iechyd i ffwrdd gydag ef, ac yn dra mynych abertha ei einioes yn y cySawniad o hono. Yn awr, rhywbeth sydd yn sefyll ar wahan i'r dyn ei hunan yw ei gyfalaf, a dyna yw rhan ami i gyflogwr i'r drafodaetti weithfaol; ond, ar gyfer hyny, rhydd y gweithiwr ei hunan iddi gorff a meddwl; ac y mae ganddo hawl foesol i hyny gael ei gym- eryd i'r cyfrif pan fyddo ei gyfran o'r elw oddiwrth y weithfa yn cael ei phen- derfynu. Pe byddai i'r ystyriaethau hyn oil gael sylw dyladwy yn nghynadleddau cyflog- wyr a gweithwyr diau y gwelid yn fuan gyfnewidiad trwyadl yn agwedd ysbryd y naill taag at y llall, yn ogystal ag yn nhriniaeth y naill a'r llall. Byddai eu cytundebau yn cael eu seilio ar uniondeb a chyfiawnder, a byddent yn esgor ar heddweh a thangnefedd. Yn cgwyneb eu cydraddoideb, deuent iym wneud a'u gilydd fel cydraddolion. Yn yr olwg ar gydraddoldeb y naill blaid a'r Hall yn hanfodion eu natur feddyliol a moesol, a'r rheidrwydd an. hebgorol am lafur y naill yn ogystal ag am gyfalaf y llall, a'r gwerth moesol uchel a berthyn i lafur amgen j gyfalaf deued i deimlo fod y llafurwr yn deilwng o barch llawn cyfartal i'w gyflogwr, ac hefyd o ran gyfartal beth bynag o'r elw, yn enwedig pan nad ydv v yr elw hwaw oad c-ynyrch cyfalaf y Daul, tia y maeyn gyn- yrch mer einioes y llall. DIWEDD.
Advertising
BACK ACHE Is usually the sign of Liver Trouble. The pains may extend up to the shoulder blade, and are often accompanied by other symptoms, such as dizziness, lassitude, sick headaches, want of appetite, a yellowish or bad complexion, consti- pation, &c. Summer heats are more conducive to Liver Complaint than Winter cold. Withi warmer weather greater care should be takea in the selection of food, and in the quantity- eaten. Choose light meals, with little meat, especially during extreme heat. Should any of the above Symptoms appear, get a box at once of Kernick's Vegetable Pills and take them according to the directions. To cleanse the system, clear the complexion, and to relieve the congested liver KERNICK'S VEGETABLE PILLS are unsurpassed as the Best of Herbal Remedies. Sold by all Chemists and Stores in 71cL, Illi and 2/9 boxes.