Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Advertising
f I WILLIAMS WATCHMAKER AND JEWELLER: 29, Castle Street, Swansea Gjnmry hoff! dø'wch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur:1 Oriaduron Be awrleisiau, Gemau a chadwynan claer; Yspectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-^arydd, cwmpawd mor, Gteir gan Williams, Heol y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei stor.
I..II-YR WYTHNOS.
I..II YR WYTHNOS. Am 5 o'r gloch boreu dydd lau, bu farw y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone yn 88 mlwydd oed. Mewn colofn arall, ceir adrodddiad cyf- lawn o hanes ei fywyd, ei waith, a manyl- ion ereill" parthed ei farwolaeth a'i angladd. Yn herwydd parhad y streic, y mae can- oedd o deuluoedd yn y Deheu yn dyoddef angen ymborth, a daw adroddiadau par- haus i law am ddiffyg trysorfeydd i gyfar- fod a threuliau y Soup Kitchens. Cofnodir marwolaeth Mr, W. J. Morris, yr hwn a fu am adeg ar ugain o flynydd- oedd yn Ysgrifenydd i Glafdy Abertawe. Y mae cryn siarad yn awr yn nghylch yr undeb soniedig gan Mr Chamberlain mewn araeth ddiweddar, rhwng Prydain a'r Amerig. Ymddengys fod y frwydr rhwyg Ysbaen ac America wedi arafu am ychydig, ond proffwydir am ymiaddfa lyngesol ffyrnig yn fuan. Hysbysir fod Mr Arthur Guest, ca ieir- ydd Rheilffordd y Taff Vale, yn gorwedd yn glaf yn nhy ei chwaer yn Llundain, nc mai ychydig obaith sydd am ei adferiad. Yn ystod y tnis presenol, y mae trefn- iadau wedi cael eu gwneud i allforio can' mil a haner o dynelli o lo o Awstralia i San Francisco, America. Y mae Mr. Lloyd George, A.S., yn bwr- iadu sefydlu yn hollol yn Llundain, ond hysbysir na fydd iddo dori ei gysylltiad a Bwrdeisdref Caernarfon. Bydd Brawdlys nesaf Morganwg yn 4echreu yn Abertawe ar Orphenaf 31ain. Boreu dydd Sadwrn, bu farw Mr. John Randell, Llanelli, yn 47 mlwydd oed. Cleddir gweddillion Mr. Gladstone yn Westminster Abbey, a chodir cofgolofn iddo ar draul y wlad. Mewn cyfarfod o Bwyllgor y Meistri, yr hwn a gyfarfu yn Nghaerdydd, dydd Sadwrn, dan lywyddiaeth Syr W. T.Lewis, penjlerfynwyd gwrthod cyfarfod a phwyll- gcr y dynion, oddigerth eu bod yn meddu llawn hawl i derfynu'r annghydfod. Dydd Mercher, cafwyd corff dyn sengl o'r enw David Thomas, 38 mlwvdd oed, ger ei breswylfod, y Ram, Llanbedr-Pont- Stephan, gydag ellyn yn ei ochr. Yr oedd yn un o'r streicwyr, a chredir iddo gyf- lawau hunanladdiad. Yn herwydd y streic yw mhlith y maswn- iaid yn Abertawe, y mae y dynion wedi pende fynu ffurfio Cymdeithas Adeiladu Gydweithredol. Y mae holl ddirwestwyr y deyrnas yn awr yn cynal cyfarfodydd ami i hyrwyddo Mesur Cau y Tafarndai ar y Sul yn Lfloejr. Dydd Sul, yn Jefferston, Sir Benfro, bu farw Mrs Phoebe Allan ychydig wythnos- au yn fyr o fod yn 103 oed. Yn Nhredegar, yr wythnos ddiweddaf, rywfodd cymerodd y patches lie y ces- glir glo gan y streicwyr dan, a chafwyd cryn anhawsder i'w orcmygu. Boreu dydd Sul, ceisiodd un Thomas Cowling foddi ei hun mewn llyn yn Nghwmtileri, a chafwyd ei fod yn wallgof. Cymerwyd ef i'r Asylum yn Abergavenny. Mewn brwydr gyda'r gwrthryfelwyr brodorol yn yr Aifft, yr wythnos ddiwedd- af, clwyfwyd eu harweinydd, Osman Digna, ond llwyddodd i ddianc. Yn y National Liberal Club, Llundain, anrhegwyd Mr Tom Ellis, A.S., ag oriawr aur, yn nghyd a gemau i'r foneddiges sydd i fod yn briod iddo. Sibrydir fod priodas Mr Ellis wedi ei gohirio yn herwydd mar- wolaeth Mr. Gladstone. Y mae 17 o Brif Weinidogion wedi marw yn ystod y ganrif bresenol, ond dim ond pump o honynt sydd wedi cael cofgolofnau cyhoeddus. Cyhoeddir mai Canada yw yr unig wlad yn y byd gwareiddiedig lie nad oes Llys Ysgariaeth. Y mae glofa Frystone, Swydd York, wedi bod yn segur am flwyddyn yn herwydd annealldwriaeth. Arferai 800 o weithwyr weithio yno. Bwriada y cwm- ni yn awr brynu peirianau i dori y glo Yn yr Hotel Cecil, Llundain, Mehefin y 3ydd, cynelir yr hyn a elwir yn Anglo- American Dinner." Cymerir y gadair gan Arglwydd Coleridge. Pan esgynodd y Frenines Victoria i'r orsedd, yr oedd mwy na 45 y cant o bobl Lloegr yn methu ysgrifenu eu henw. Yn awr, nid yw y nifer ond 6 y cant, Y mae M. Deibler, y dienyddwr Ffreng- ig, wedi gwneud ffortiwn o 500,000 francs, ac y mae yn codi ei fab at yr un gorchwyl. Yn Llundain, cyfrifir fod yno o bump i chwech mil o Anarchiaid, y rhai sydd wedi croesi o'r Cyfandir, er trigianu yno. Bwriada tair tref yn Ngogledd Cymru ymgeisio am Eisteddfod Genedlaethol 1900, sef Rhyl, Pwllheli, a Gwrecsam. Cymerodd damwain le ger gorsaf Cas- tellnedd, ar reilffordd y Great Western, dydd Llun, a chafodd William Williams, Guard, ei niweidio yn ddifrifol. Prydnawn pydd Sadwrn, yn Dowlais, bu Mrs Ann Thomas, gweddw, 51 mlwydd oed, farw yn sydyn iawn, Trigiannai yn 23, Mary Ann Street. Y mae Cynghor Dosbarthol Merthyr wedi penderfynu rhoi gwaith ychwanegol i nifer o'r streicwyr, trwy ddiwygio yr heol rhwng Troedyrhiw ac Aberfan. Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs James, priod y Parch. Isaac James, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Abercan- aid. Nid oedd ond 36 mlwydd oed. Cleddir Mr Gladstone dydd Sadwrn aesaf yn "Westminster Abbey, Llundain. Bydd gweddillion arwr y ganrif yn gor- wedd yn Eglwys Blwyfol Penarlag oil hyd 5 dydd Mercher nesaf.
--Y NEWYDDION DIWEDDARAF.…
Y NEWYDDION DIWEDDARAF. w Cervera wedi ei Gorneli. Llyngesau America yn Cau o'i Gwmpas. Parheir i gredu fod Llynges y Llynges- wr Uervera yn Santiago, i'r hwn le y mae y Llyngeswr Sampson yn ageri gydag arfor- dir deheuol Cuba, a Commodore Sehley gyda'r arfordir gogleddol. Yn y modd hwn fe fydd i'r Ysbaeniaid i gael eu dwyn i'r ddalfa rhwng y ddwy Lynges American- aidd a'u gorchfygu neu eu gwarchau.
Dewey i gael ei Adgyfnerthu.
Dewey i gael ei Adgyfnerthu. Y mae y Monitor Monterey wedi eu harchebu i forio am Manila ar unwaith, a disgwylir iddi wneud y fordaith mewn haner cant o ddyddiau. Credir yr anfonir ugain mil o filwyr i Manila. Y mae un fil ar ddeg wedi glanio yn barod yn San Francisco, a disgwyliwr pum mil yn rhagor. Y mae pump o drosglvvydd-longau wedi cael eu neillduo at y gwaith, ac y mae yr adran gyntaf o filwyr i ymadael am Manila yn y City of Pekin y dydd Mawrth presenol.
IWedi Talu Ei Ddyled.
I Wedi Talu Ei Ddyled. Ceisiwyd gan Colonel Roosevelt, traf- noddwr yn yr U nol Dalaethau, yn Brussels, i gymeryd rhan weithgar yn y rhyfel ag Ysbaen, ond y mae wedi gwrthod yr an- rhydedd. Yn Rhyfel yr Ymwahaniad derbyniodd Colonel Roosevelt ddeuddeg o glwyfau, ac ystyria, gan hyny, ei fod yn rhydd o bob ¡ dyled i'w wlad. Dywedodd wrth un mewn awdurdod—" Yr wyf wedi talu fy nyled i fy ngwlad. Nid yw yr Americaniaid byth ya talu yr un ddyled eilwaith."
Y PWYLLGOR RHAGDDARBODOL.
Y PWYLLGOR RHAGDDARBODOL. CYNADLEDD ARALL I GAEL EI GALW. Cynaliwyd cyfarfod llawn o Bwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr yn y Park Hotel, Pontypridd, dydd Sadwrn. pryd yr oedd yn bresenol-Mri W Abraham, A.S., yn y gadair; yr Henadur D Morgan, T Richards, J Williams, P D Rees, J Davies, E Thomas. Alfred Onions, T D Isaac, D Thomas, J Woodward, D. Morgan, glo careg; J Thomas, J Eynon, T Beynon, a Lewis Miles, ysgrifenydd. Eisteddodd y pwyllgor hyd n*»s oedi wedi pochv&r o'r gloch, pryd y cafwyd y mynegiad swyddog- ol a ganlyn Yn dilyn, danfcmwyd y lly-thyr dyddiedig ar y 18fed cyfisoi, yn nghylch dyfarniad y gynadledd ddiweddaf ym Nghaerdydd, a galwyd ar Mr Abraham a Mr Miles i bre- senoli eu hunain yn Nghaerdydd i roddi eglurebau neillduol, fel y dengys yr hyn a ganlyn:— Caerdydd, Mai 18, 1898. Wedi i Mr Dalziel, ysgrifenydd y meistri dderbyn Ilythyr Mr Miles, dyddiedig y 18fed cyfisol, cyfarfyddodd a Mr W Abraham, cadeirydd. a Mr Lewis Miles, ysgrifenydd Pwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr, yn Nghaerdydd, heddyw, ac hysbysodd Mr Dalziel fod y cyflogwyr yn awyddus i gael eglurhad o berthynas i'r llythyr ar y pwyntiau canlynol:— 1 Ni ymddengys fod 4 cynrychicl vyr o I' bob un o'r glofeydd wedi eu penodi. (a) A yw y meistri i dybio nas gall y cynrych- iolwyr hyn fod yr un a'r rhai oeddynt yn bresenol yn y gynadledd gynaliwyd yn Nghaerdydd ar yr 16eg a'r 17eg cyfisol ? (b) Fod yn bosibl na lydd i aelodau y Pwyllgor Rhagddarbodol gael eu penodi yn mhlith y cynrychiolwyr hyny ? 2-(a) A ydyw yn gynygiedig y bydd i lawn awdurdod gael ei roddi i'r cynrych- iolwyr hyn, tra y bydd y Pwyllgor Rhag' ddarbodol presenol, yr hwn a gynygir ar- j wain yr ymgynghoriadau, heb y cyfryw awdurdod ? (b) Os mai hyn yw'r safla gwirioneddol, ai nid yw yn anngbywir i ddesgrifio Pwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr, yn nghyd a'r cynrychiolwyr o bob glofa, yn y termau y gwneir yn llythyr Mr Miles, sef y cyfansoddiadau aicdur- dodedig hyn ?" 3—A chaniatau fod gwahaniaeth rhwng y cynrycbiolwyr a'r Pwyllgor Rhagddar- bodol, ac awdurdod yr olaf yaunig i ddad- leu y cwestiwn gyda'r meistri wedi ei ben- odi yn unig at y cyfryw ymdriniaeth, a gwasanaeth y pwyllgor yn gyfyngedig i hysbysu, a derbyn cyfarwyddiadau oddi- wrth gynrychiolwyr awdurdodedig y gweithwyr, y mae y meistri yn awyddu i wybod pa beth yw y dull pendant o weith- redu arno a awgrymir gan y Pwyllgor Rhagddarbodol er hyrwyddo dealldwr- iaeth yn yr annghydfod ? 4-(a) Byddai y meistri yn falch i wybod pa un a yw yn wir, fel y mynegid yn yr adroddiad o gyfarfod y cynrychiolwyr ar y 17eg cyfisol. fod, yn gysylltiedig a phenod- iad cynrychiolwyr o bob glofa, y telerau fod 10 y cant o godiad mewn cyflogau yn cael ei lynu wrtho neu (b) a fydd i'r aw- durdod llawn roddie i'r cynrychiolwyr fod yn rhydd o unrhyw delerau ? 5—Yn absenoldeb unrhyw wybodaeth pendant ar y pwyntiau hyn, byddai yn gynygiad cynamserol i ofyn i'r meistri benodi dyddiad y cyd-gynadledd. W. GASCOYNE DALZIEL. Wedi i'r cwestiynau uchod gael eu rhoddi i Mr Abraham a Mr Miles, hwy a atebasant fel y canlyn— 1—Y mae y cynrychiolwyr yn awr yn cael eu penodi gan y glofeydd, a derbynir eu henwau a'u cyfeiriadau yn Mhontypridd erbyn yfory. (a) Ni fyddant o angenrheid rwydd yr un cynrychiolwyr. (b) Y mae aelodau y Pwyllgor Rhagddarbodol yn dal eu penodiad i gyfarfod y cynrychiolwyr ar yr 16eg a'r 17eg cyf., ond nid ydynt wedi eu penodi fel cynrychiolwyr unrhyw lofeydd, ac ni chyflwynlr eu henwau ger bron y glo feydd i'r pwrpas hwnw. 2—(a) Fel y saif y penodiad yn awr, nid oes gan y Pwyllgor Rhagddarbodol yr un awdurdod llawn ag a fydd yn meddiant y y cynrychiolwyr dros bob glofa, ac nid yw y pwynt eto wedi cael ei ystyried, ond pe ceid allan el bod yn angenrheidiol i'r pwyll- gor feddu llawn hawl i setlo vn ogystal a'r cynrychiolwyr, yna byddai yr awdurdod I roddid i'r cynrychiolwyr yn eu galluogi i drosglwyddo eyffelyb awdurdod i Bwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr, pe dewiseut wneud hyny. Rhaid i'r atebiad hwn gael ei ddarllen yn gyswllt a'r atebiad i gwest- iwn 3. (b) Os bydd i'r cynrychiolwyr dros- glwyddo llawn awdurdod i Bwyllgor Rhag- ddarbodol y Gweithwyr, fel yeyfeirir ato uchod, hyny fydd yr atebiad i'r cwestiwn hwn. 3. -Dymuniad y gweithwyr, fely myneg- wyd yn nghynadledd y cynrychiolwyr ar yr 16eg a'r 17eg cyfisol. ac hefyd o eiddo Pwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr,^yw pa un a fydd y Pwyllgor Rhagddarbodol yn arfogedig neu beidio gyda llawn hawl i setlo a'r meistri, y dull i weithredu arno ddylai fod cynadledd yn cael ei galw, yn yr hon y dylasai fod yn bresenol gynrychiol- wyr y meistri, Pwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr, a'r cynrychiolwyr cyffredinol penodedig gan bob glofa, fel ag i alluogi y cynrychiolwyr olaf i glywed, ond nid i gymeryd rhan yn yr ymdriniaeth a all gymeryd lie rhwng cynrychiolwyr y meistri a'r Pwyllgor Rhagddarbodol. Wrth gwrs, byddai i Bwyllgor Rhagddarbodol y Gweithwyr gymeryd yr hawl i ymneill- duo gyda chynrychiolwyr y gweithwyr cyffredinol, er cydymgynghori, ar unrhyw bwynt yn ystod y ddadl. 4.-(a a b) Yr oeddyngyfarwyddyd oddi- wrth gynadledd y cynrychiolwyr y byddai i'r cynrychiolwyr penodedig gan y gwahan- ol lofeydd hawlio codiad o 10 y cant, ond y byddai rhoddi llawn awdardod iddynt yn eu galluogi i fyned tuhwat neu dan yr hawl mewn dadl, ac fod awdurdod gan y cyn- rychiolwyr i weithredu yn ol eu barn ar y mater hwn yn gystal a phwyntiau ereill. 5.-Gobeithia Mr Abraham a Mr Miles y bydd yr atebion rhagsouilidig yn foddhaol i'r'meistri, fel ag iddynt gydsynio cael cyd- gynadledd. Gan fod y Pwyllgor Rhag- ddarbodol i gwrdd a chynrychiolwyr y gweithwyr cyn cwrdd a'r meistri, awgrym wn y dylid galw y gydgynadledd ar ddydd Mawrth nesaf. y 24ain cyfisol, neu y dyddiad cyntaf posibl ar ol hyny, gan mai y dyddiad dan sylw yw yr un mwyaf agos a chyfleus i'r gweithwyr. Arwyddwyd, WM. ABRAHAM. LEWIS MILES.
Cynadledd y Glowyr.
Cynadledd y Glowyr. Y mae y Pwyllgor Rhagddarbodol cyhoeddi y rhaglen a ganlyn, ac wedi salw cynadledd arall i'w chynal yn y Cory I •; Caerdydd, am 10.30 o'r gloch foreu 1\ Iau nesaf, Mai 26aiu., Gydweithwyr,—Wedi ystyried yn ofalus vr atebiad uchod oddiwrth y meistri, y mae yu amlwg i'r Pwyllgor Rhagddar- hadol.- (1)Na fydd i'r meistri unedig gyfarfod a'r gweithwyr oddigerth o'u glofeydd eu hun- ain, na chydag unrhyw gorff o gynrychiol- wyr na feddant lawn awdurdod i setlo, yn ogystal ag i ymdrin y materion mewn dadl. (2) Eu bod yn foddlon cwrdd a nifer o ddynion cyflogedig, ac yn gweithio yn uniongyrchol odditanynt hwy, ac felly gau allan oruchwylwyr y glowyr, prawfbwys wyr, &c., neu y maent hefyd yn foddlon, fel ewrs arall,i ddelio a chorff o gynrychiol- wyr wedi eu penodi yn rheolaidd gan y gweithwyr, tebyg i'r Pwyllgor Rhagddar- bodol presenol, gyda llawn awdurdod i setlo. Gofynir i'r glofeydd dderbyn y rhybydd hwn fel un swyddogol. ac ar i bob glofa, undebol neu arall, i anfon cynrychiolwyr i'r gynadledd.
Advertising
GOLD MEDAL. Oubbin Ni chewch traed gwlyb os defnyddiwch DUBBIN DALE. Maeyn Waterproof ardderchog i Esgidiau ac Harness. Ystwytha a chadwa y lledr. Arogl hyfryd Gwobrwyon uwchaf yn 22 o Arddangosfeydd Tins, 2e, 6c. Is, 28 6c Ar werth gem Gryddfon, Saddle. 3 Ironmongers, J Pob Gwr a Gwraig Drwy yr holl wlad a ddylent fod yn wyliadwrus rhag y clefyd peryglus, Dropsy Ddwfr A Dropsy Wynt Yn eu holl ganghenau, oblegyd fod car: Or dd; yn colli eu bywydau yn flynyddol drwy y clefydau peryglus hyn, ac befyd adylenfc fod yi wycyddu? o'r Feddyg- iniaeth lwyddianug ar eu cyfer, sef HUGHES'S Dropsy Pills Mae Ila mawr drwy y wlad wedi eu hia.chau o'r clefyd hwn, ac y mae yn syndod mor effeithiol y maent er iachau y Gravel, Diffyg Dwfr, Diffyg Anadl, Gwynt, Chwydd yn y Traed, Coesau a'r Bol, Asthma, Curiad y Galon, Cramp, Poen Cefn, Tewdra Afiach, Gwynt yn y Stumog, Penysgafnder, Poen yn y Pen, Corfb-wymedd, Arenau Afiacb, Nid oes dim i'w cymharu a hwynt yn eu hefteithiolrwydd at y clefydau hyn, Dar. llener a ganlyn Anhebyg o Fyw. Anwyl Syr,—Y mae yn dda genyf ddwyn* tystiolaeth i rhageroldeb eich Dropsy PHls tuag at wyr iachau y Dropsy. Ba fy nhad yn dyoddef oddiwrth yr anhwyl- der hwn chwech mis ac yn anhebyg o fyw, ond pan gymerodd eich Pills fe lwyr well- haodd yn fuan, a bu yn alluog i weithio air 10 mlynedd. D. JONES. 12 Brynmorfa, Coowy. RHODDI FYNY T DOCTOR. Syr,—Ar ol derbyn eich Hughes's Dropsy Pills" mi a benderfynais rhoidf heibio medd yginiaeth y Doctor, fel ag i roddi prawf tag ar eich Pills chwi. Yr wyf- wedi bod yn dyoddef yn enbyd am hir am- eer gan chwydd mawr yn y cluniau, aren- au drwg, grafei, diffyg anadl, a phoen cefn. Wedi bod dri mis tan law doctor, yr wyf yn profi fod eich "Pills" chwi wedi gwneuthur mwy o les mewn un wythno& na holl foddion y doctor. Mae'r chwydd wedi cwbl ddiflanu, ac yr wyf yn bur ddi- olchgar am y waredigaeth hon. Ydwyf, G. HUNTON. Nolan Place, Stockton. Fe ddylai pob dynes eu cymeryd yn achlysurol. Yn ddioed danfoner am Hughes's D ropsy Pills. < & ..i) RHYBUDD. En mwyn sicrhau pawb rhag twyll, go- faler gael y Trade Mark hwn, sef an Diamond a'r ge ri \tt Dropsy Pills cddi. fewn ar bob blwch, ac enw Jacob Hughes ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth drwy yr holl deyrnas am lilt, 2/9 a 4/6; trwy y post, 1/3, 2/9, a 4/6, oddiwrth y Perchenog,— Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. & s YM Y Fe gafwvd o bvd. i F«ddygiy?= ag ;ó. Yû y ailu y %,wadi, y ,KFr«st a'r Ysgyfaint, yr hwn mewn undeb a'r Extracts o lysiatt nodedig ar lan mor y Pacific, a. wna i fyny y feddyginiaeth mwyat lwyddianus a wel- odd y byd erioed. Y mae yn awr yn cael ei wneud i fyny mewn potelau ac yn cael ei alw wrthfyr enw Sea Weed Lung Life Fe wellha yn uniongyrchol y Peswch ac Anwya, Bronchitis, Asthma,Crygni, Dolur Gwddf, Group, Whooping Gough, neu Y Pas, Diphtheria Catarrh, yn dra affeithol i ragflaenu y DARFODEDIGAETH. Gan y Chemist, neu unrhyw Batent Medi- cine Dealer am 2/9 a 1/11. Sea Weed Lung Life. Mynvvcii gael yr enw yn llawn ar'bob potel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall. Os bydd trafferth i'w gael dan foner Stamps am 3/- neu l/3at JACOB HUGHES Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff
Advertising
WILLIAMS I Castle Street, Swansea Largest Stock in Wales. MCTY^ OLD WET i -3NG RINGS 18C1 GCLD KEEPERS STNGLISH ■pAlLNT T EVER IL X AJWATOBES BRAZILIAN CRYSTAL gPECTACLES
RHYFEL YSBAEN AC i AMERICA.
RHYFEL YSBAEN AC i AMERICA. j Bodola peth amheuaeth yn meddyliau Llyngeswyr hyddysg gyda golwg a ydyw y Llynges Ysbaenaidd yn Santiago, ond cy- tuna yr holl fod brwydr gerllaw. Y farn yn Washington ydyw nad all y Llynges Ysbaenaidd ddianc heb ymladd. Cawn fod yr Awdurdodau Llyngesol yn Washington, yn talu sylw neillduol i Havana a Cienfugeos. Dydd Sadwrn, moriodd Senor Polu de Bernabe. diweddar Llysgenadwr Ysbaen- aidd yr Unol Dalaethau, am Ewrop, yn un o agerlongau llinell y Dominion. Y dydd arall, cyrhaeddodd y newydd West Key parth y cynlluniau Ysbaenaidd o ddyfod a'r Llynges Warchodol yn Havana i safle o berygl. Y mae cyfflongau wedi cael eu hanfon allan o'r harbwr, y rhai ydynt o ran ymddangosiad yn debyg i fadau torpedaidd, ac y maent yn cael eu lliwio i'r diben o hud-ddenu y llongau Americanaidd o hyd cyrhaedd cu magnel- feydd arfordirol. Cafwyd ar ddeall fod y cyfflongau hyn yn cario cryn swm o ddy- nameit yn amlwg yn y gobaith y deuai ryw long yn eu herbyn, ac felly i beri ffrwydr- iad ag a fuasai yn dyfod a galanas ar y llong ymosodol. Y mae dwy o'r cyfflongau hyn wedi cael eu soddi gan ergydion o hir bellder. Brysneges o New York a fynega fod yna si ar led fod y Llynges Ysbaenaidd wedi gadael Santiago. Disgwylir brwydr yn fuan. Y mae y rhuthrgyrch ar Cuba yn debygol o fod wedi ei oedi hyd yr Bydref ar gyfrif y tywydd gwlawog. Teyrnasa arswyd a dychryn yn Havana warcheuedig. Y mae y Journal yn un o'r argraffiadau neillduol sydd yn cyhoeddi brysneges o Kingston, yn mynegu fod un o erlyn-longau y Llyngesydd Sampson wedi dwyn i'r ddalfa un o gyflegr-longau yr Ysbaeniaid. Dywed Cadben un o longau America ei fod fod wedi gweled gwiblong Americanaidd yn llonglusgo y cyflegr-long oddiar Cape Marpi. "i-2" Mynegir o Havana fod y Llynges War- cheuol Americanaidd wedi cael ei hadgyf- nerthu ddydd Gwener diweddaf, drwy yr ychwanegiad o amrai o longau. Y mae yr ymosodiad a wnawd gau y llongau Ameri- canaidd ar Gerantanamo yn cael ei gad- arnhau, ond nid oes hyd yn hyn fanylion o'r frwydr wedi eu derbyn. Cyhoedda y Wasg erthyglau balchus yn canmol medrusrwydd y Llyngesydd Cervera ar ei waith yn llwyddianus hwylio ei Lynges i Santiago, ac aros am y ne- wyddion parth ei symudiadau gvdag am- ynedd. JDywedir fod y terfysgwyr Cubaidd wedi datganu ( laid Ysbaen, a'u bod yn awryn Z, ymuno yn galonog gyda'r Ysbaeniaid yn erbyn yr Americaniaid. Taenir y newydd fod Llynges y Llynges- ydd Cervera wedi gadael Santiago de Cuba. Y mae yr agerlong Arkadia, o Port Rico, yr hon sydd newydd gyrhaedd New York, yn hysbysu ei bod hi yn Uongborth San Juan, yn mhen deuddydd ar ol y tan- beleniad. Lladdwyd o bymtheg i ugain o Ysbaeniaid, a chlwyfwyd oddeutu tri ugain. Cafodd llawer o dai eu niweidio. Ni chan- iatawyd yr Arkadia i ddyfod a'r mails o San Juan. Creda y Cadben fod yn San Juan bymtheg mil o dynelli o lo, ond ych- ydig gad-ddarpariaeth.
Gorchfygiad Cervera yn Anocheladwy.
Gorchfygiad Cervera yn Anocheladwy. Coleddir y syniad yn lied gyffredinol y bydd i'r Llyngesydd Cervera gael ei gadw yn Santiago i gywiro ei longau a'u cyflenwi a glo, hyd nes y cyrhaedda Sampson a Sehley oddiar y Uongborth a'i warchae neu eu orfodi ef i ymladd, ac os y digwydd peth felly, y mae yr Americaniaid yn siwr o gael buddugoliaeth.
Am y Phillipinee.
Am y Phillipinee. Hysbysir o Cadiz y bydd i'r Llynges Ysbaenaidd sydd yn morio dyfroedd Ewropeaidd i gychwyn yn union am y Philippines.
Prin o Lo.
Prin o Lo. Hysbysa agerlong sydd wedi cyrhaedd Port au Prince o Curacao, fod y Llynges Vsbaenaidd a gymerodd lo a lluniaeth yno yn neillduol brin o'r naill a'r llall. Y Terfysgwyr Cubaidd yn Anfoddog. Cawn ar ddeall fod Is-arlywydd Cuba, Domingo Caper Capote, wedi cyrhaedd Jamaica o Cuba. Bwriada fyned i Wash- ington a hawlio cytundeb fod yr American- iaid i ymadael o Cuba pan y byddo'r rhyfel drosodd a chyhoeddi ei hannibyniaeth. Y mae y Llywodraeth Cubaidd Barato- awl yn anfoddlawn gyda golwg ar agwedd America parth annibyniaeth Cuba, a chreda fod yna duedd i anwybyddu y terfysgwyr. Hysbysa y brysnegesau o Havana fod Gomez yn wrthwynebol i unrhyw feddian- tau o Cuba gan yr Americaniaid. Y mae'r tueddiad hwn o'i eiddo i'w briodoli i'r iaith anmharchus ddefnyddwyd tuag ato yn New York.
Gweithfaol a Masnachol.
Gweithfaol a Masnachol. SEFYLLFA Y FASNACH LO. Caerdydd, dydd Sadwrn, Mai 21, 1898. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, ychydig o fusnes a wnawd yn y glo ager. Eto, am y rheswm mai ychydig o lo sydd yn y farchnad y mae y prisoedd yn parhau yn gadarn. Llwythwyd yn ystod yr wyihnos ddiweddaf 110,000 tynell. Tra yn cymer- yd i ystyriaeth nifer fechan y pyllau sydd yn gweithio y mae y ffigyrau uchod yn dweyd rhywbeth. Llwythiad arferol y porthladd ydyw rhwng 300 a 350 o filoedd o dynelli. Bydd penderfyniad y meistri yn gwrthod cyfarfod a'r gweithwyr yn sicr o gadarnhau y pri_,oeddd am. yr wythnos hon. Gwerthwyi yn ystod yr wythnos ddi- weddaf am y prisoedd canlynol-Matham goreu o lo ager, 24/- a 25/- ail, 21/- a 22/6; glo goreu Swydd Fynwy, 17/- a 18/ ail, 14/ glo sych goreu, 15/6 i 16/6 No. 3, Rhondda, 18/- i 19/- No 2, Rhondda, 12/- i 12/6 glo man, 9/- i 10/ ail, 7/9.
CYFARFOD MIS0L DOSBARTH Y…
CYFARFOD MIS0L DOSBARTH Y GLO CAREG. Cynaliwyd yr uchod yn y He arferol, dydd Sadwrn a'r Llun diweddaf, Mai y 14eg a'r 15fed, dan lywyddiaeth Mr Mor- gan A. James, Gwauncaegurwen. Yr oedd hefyd yn bresenol Mr William Abraham, A.S., a Mr. David Morgan, Rhos. Yr oedd 39 o bersonau yn y cyfarfod yn cynrychioli 34 o lofeydd. Derbyniwyd tair o lofeydd newyddion i fewn i'r undeb ar y telerau arferol, sef Cv mgors, Dynevor a Panty- celyn. Ar ddymuniad Mr William Abra- ham a Mr David Morgan, Rhos, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol- Pod yr oil o lofeydd y Dosbarth i ddanfon y codiad diweddar o ddeg punt i'r Central Fund yn Mhontypridd, a bod y cyfryw i'w talu yn uniongyrchol o'r gwahanol lofeydd ac o'r gwahanol daliadau ar ol y 14eg cyf., sef dyddiad y cyfarfod. Hefyd,—Fod y cyfarfodydd o hyn allan i ddechreu am un-ar-ddeg o'r gloch, yn lie haner awr yn ddiweddarach, fel mae'r ar- feriad wedi bod hyd yma. Rhaid cydym- ffurfio a hyn i'r diben o derfynu y gweith- rediadau yr un dydd. Penderfynwyd hefyd,—Fod y Mri Wm. Walters, Abercrave, a William Griffiths, Hendreladis, i wneud ymchwiliad i'r ym- ryson sydd yn nglofa Waunclawdd, a'u bod i roddi adroddiad o'r cyfryw i'r cyfarfod misol nesaf. Penderfynwyd—Fod y rhybuddion sydd wedi eu rhoddi i fewn gan weithwyr Caw- dor i'w tynu yn ol, er eu galluogi i gydym- ffurflo a Rheol y Dosbarth. Bod y cadeir- ydd-Mr Morgan A. James, i wneud ym- chwiliad i'r mater, ac i geisio dwyn y cwbl i derfyniad heddychol. Yn y Cyfarfod Misol blaenorol, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol-Fod Mr Abraham i fyned i Hendreforgan i geisio heddychu rhwng y pleidiau sydd mewn ymryson. Dymuna'r Ysgrifenydd hefyd hysbysu mai ei ddiofalwch ef ei hun yw na fuasai y cyfryw benderfyniad wedi ymddangos yn y Wasg yn flaenorol i hyn. Hefyd, penderfynwyd-Fod glofa Ys- tradfawr i ddyfod allan a'u hoffer, ac i gyd- ymffurfio ag hawliau y glofeydd cylchynol sydd allan ar streic er ys pedwar mis. Rhaid bellach gael un screen ac un allow- ance i'r rhan hwn o'r Dosbarth. Penderfynwyd-Fod Cyfreithiwr a Thry- sorfa'r Dosbarth at wasanaeth ein cyd- weithwyr a erlidir gan un o'r meistri yn herwydd y gwasanaeth a wnaethant yn ddiweddar i'w gwlad a'u cenedl. Penderfynwyd-Fod Cyfarfod Cyhoedd- us o holl lowyr perthynol i'r glofeydd hyny sydd allan ar streic yn rhan ddwyreiniol y Dosbarth i'w gynal ar y 17eg cyfisol, yn y Colbren Junction, fel y man cyfarfod mwy- af cyfleus i weithwyr Cwmnedd, Cwm Dulais, a Chwm Tawe. Taer erfynir ar i bawb ddyfod os yn bosibl. Dymunol fydd- ai hysbysu y Dosbarth drwy gyfrwng y Wasg y penderfyniad y daethpwyd iddo yn unfrydol. a'r hwn sydd fel y canlyn- Ar daer ddymuniad ein llywydd, Mr Wm. Abraham, yr ydym ni fel cyfarfod cyhoedd- us o lowyr, yn boddloni iddo ef mewn un- j deb a'r pwyllgor i geisio terfynu y cwest- ) iwn sydd mewn annghydwelediad yn y 1, rhan hwn o'r Dosbarth, a hyny ar y llin- ellau y darfu iddo ef ei hun eu hawgrymu yn v Cyfarfod Misol diweddaf. J J. MORGAN, Ysg.
AINGHYDFID Y GLe.
AINGHYDFID Y GLe. Y Meistri a Goruchwylwyr y Gweithwyr. Camddealldwriaetli. Ymgynghoriad Pellach a'r Gweithwyr yn angenrheidiol. A ganlyn ydyw y mynegiad swyddogol roddwyd i'w gyhoeddi yn y wasg gan Mr Gascoyne Dalziel, ysgrifenydd Cymdeithas Glo-berchenogion Mynwy a Deheudir Cym ru, am gyfarfod o'r Pwyllgor Achlysurol gynaliwyd yn Nghaerdydd dydd Sadwrn:- Cyfarfu Pwyllgor AchlysurolJ y Meistri yn Nghaerdydd heddyw, gyda Syr W. T. Lewis, Barwnig, yn y gadair. Bu y Hythyr a dderbyniwyd oddiwrth Mr Lewis Miles, dydd Marcher, o dan sylw, a chyfarwydd- wyd Mi4palziel i ddanfon yr atebiad a ganlyn ato. Anfonwyd y llythyr felly gyda'r tren 1 o'r gloch i Bontypridd.
LCOPI O'R LLYTHYR],
LCOPI O'R LLYTHYR], Cymdeithas Glo berchenogion Mynwy a Dehaudir Cymru, Caerdydd, Mai 21ain, 1898. Mr Lewis Miles, Ysg., PwyHgor Rhag-idarbodol y Gweithwyr, Pontypridd. Auwyl Syr,-Yn herwyid a'jsesoldeb mwyafrif Pwyllgor Achlysurol y Cyflogwyr o Gaerdydd, y mae wedi bod yn anmhosibl i gael tlJlw pellach at fater eich llythyr, dyddiedig y 18fed cyfisol, hyd y boreu hwn, pryd, ar ol yr ystyriaeth fwyaf ofalus, y cyfarwyddwyd fi gan v pwyllgor i'ch hys- bysu eu bod yn analluog i weled eu ffordd i gydnabcd unrhyw gwrs gwahanol i'r tel- erau a ddanfonais atoch bedair wythnos yn ol, ac i'r rhai ni chawsom atebiad. 4 Y mae fy mhwyllgor wedi dal eu huhain yn barod oddiar gychwyniad y streic ar y laf o Ebrill, ac eto yn barod, i gyfarfod unrhyw nifer o weithwyr a weithient yn flaenorol mewn glofeydd perthynol i Gym- deithas Glo-berchenogion Sir Fynwy a Deheudir Cymru, nen unrhyw nifer o gy- nrychiolwyr y cyfryw weithwyr, wedi eu llawn awdurdodi i ymdrin a phenderfynu materion ond nis gallant gytuno i gy. nrychiolwyr gweithwyr glofeydd nad ydynt yn i aelodau y gymdeithas—gyda'r rhai nid oes gan fy mhwyllgor gysylltiad-i fod yn bresenol neu i gymeryd ran yn yr ym- driniaeth fydd yn effeithio ar weithiad y glofeydd cyngreiriedig, fel yr awgrymir yn eich llythyr ar y 18fed cyfisol, nac ychwaith i gydolygu a'r cynygiad fod yr ymgynghoriadau i gael eu harwain gan bersonan nad oes ganddynt awdurdod fodd bynag i ddod i gytundeb. Yr eiddoch yn ffyddlon, 'W. GASCOYNE DALZIEL, Ysg.' Hysbyswyd fod atebiad wedi cael ei ddanfon i Gymdeithas y Peirianwyr, &c.. gan y pwyilgor benodwyd gan y meistri i ystyried V, Apestr ddiwygiedig o'r cyflogau gyflwynwya ger eu bron, ac mai sylwedd y cyfryw atebiad oedd fod Pwyllgor y Meistri yn dal wrth yr atebiad roisaLt i Ddirprwyaeth y Peirianwyr, &c., ar yr 23ain o Ebrill diweddaf. sef nas gallant gymeradwyo y cyflogwyr cyngreiriedig i gytuno ag unrhyw raddfa o gyflogau i'r dosbeirth hyn fydd yn seliedig ar raddfa unffurfiol o gyflogau i bob un o'r dosbeirth hyn, ac nag gallai y pwyllgor ond ail- adrodd yr hyn a ddywedasent yn flaenorol, sef na fyddant yn anfoddlon cyfarfod a dir- prwyaeth i ystyried y mater yn mhellach mor fuan ag y bydd yn gyfleus ar ol i'r streic derfynu. Anfonwyd y llythyr gyda'r termau hyn gan Mr Dalziel at Mr Downs, ysgrifenydd Cymdeithas y Peirianwyr, &c., ac hefyd at Mr Thomas Jones, ysgrifenydd Cymdeichas Peirianwyr Windio y Rhon- dda. CawsoiQ ar ddeall hefyd fod y Pwyllgor Arbenig a etholwyd gan Gymdeithas Glo- Berchenogion Sir Fynwy a Deheudir Cymru, i chwilio i fewn i ddarpariaethau Deddf Cydnabyddiaeth y Gweithwyr, yr hon a ddaw mewn grym ar y laf o Orphen- af nesaf, wedi parotoi mynegiad er ei gyflwyno o flaen y gymdeithas, ac er mwyn cymeryd y cyfryw fynegiad i ystyriaeth, y mae Cymdeithas y Meistri wedi galw cyfar- fod neillduol ar ddydd Sadwrn nesaf. Dylid cofio mai busnes y cyfarfod hwnw fydd cyfyngu ei hun yn hollol at ystyriaeth Deddf Cydnabyddiaeth y Gweithwyr, ac ni fwriedir trin ag unrhyw fater arall.