Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y Diweddar Gwir Anrhydeddus W. Ewart Gladstone. I Ganwyd Rhagfyr 29am, 1809 Bu Farw, Mai 19egt 1898, I MR. GLADSTONE GYDA'R MEIRW. TYWYSOG AC ARWEINYDD, A GWR MAWR WEDI SYRTHIO. DIRGELWCH EI BOBLOGRWYDD, AC YMLYNIAD A FFYDD CYMRU YNDDO. Y PRIFWEINIDOG CYNTAF A GYDNABYDDODD EI CHENEDLAETHOLDEB. -?. —————— GiiT^DEiaWTN." Dyma'r enw ag y mae mwyaf o swyn ynddo o bob euw i'n cenedl ni—'Gladstone,' a'r un mwyaf adnabyddus a phoblogaidd, ac ni chyn- yrcha y newyud heddyw am ei farwolaeth fwy o alar cylfredinol yn un rhan o'r byd nag yn Nghymru. Ni ellid dod o hyd i hen wr na hen wraig yn nghtseiliau y mynyddoedd nad oedd- ynt yn gwybod am Gladstone cystal a'r rhai a drigent yn nghanol dwndwr masnaeh y trefi mawr, a gallai'r Cymro mwyaf anwybodus ac anilythyt: og adrodd ei hanes yr un mor gywir a'r darllfiigar a'r dysgedig yn wir, yr oedd ei enw yn fwy o air teuluaidd yn ein mysg nag yw eidtlo hen freninoedd a thywysogion, ie, mwy felly na chewri ein pulpud a'n beirdd cadeiriol; ac efe oedd Sais cyntaf erioed a gafodd fynediad helaeth i galon Cymru-yr agorodd y genedl ei chalon i'w dderbyn i mewn ac y rhoddodd lawn ymddiried ynddo. Yr oedd rhyw swyngyfaredd yn ei enw yn unig; gwasanaethai ei areithiau fel trydan ar ein cenedl; yr oedd ei holl wladweiniaeth bob amser megys yn atebiad i'w dyheuadau ae, ar ryw olwg, nid oedd yn rhyfedd fod y difeddwl yn ein cyhuddo o addoli yr (Hen Wron' o Benarlag. Camgymeriad dybryd oedd hyny a'r unig reswm ellir roddi dros fod gan Mr Gladstone gymaint o ddylanwad ar Gymru yw, ei fod o'r un feddwl a hi am y pethau mawr a feerthyn i ddyn fel person unigol ae fel aelod o gymdeithas, yn gystal ag o barth hawliau cenedloedd bychain i fyw a dad blygn a cbadw eu nodweddion. Yr oedd yma gymundeb meddwl ac unoliaeth amcan a nod, a dyna sy'n cynyrehu yr undeb tynaf-undeb gwerth yr enw—rhwog dynion a'u gilydd. Welodd Cymru yr un gwleidyddwr erioed cyn Mr Gladstone y gallai ymddiried ynddo, am na fu o'i flaen yr un yn dod i fyny a'idrychfeddwlam wleidyddwr, yn neillduol aelod o Weinyddiaeth gwlad. Yn Mr Gladstone, fe gafodd fwy nag a ddychmygodd gael mewn gwleidyddwr- dosbarth oedd yn ddiareb am eu huchelgais, ac y credid yn lied gyffredinol mai prif nod eu bywyd oedd gwasanaethu eu hunain. Cafodd yn Mr Gladstone yr ysgolhaig gorphenedig; yr areithiwr hyawdl-di-ail mewn dadl; dyn yn meddn ar galon cyn lleted a dynoliaeth; gwleidyddwr ag yr oedd pob gair a ddywedai yn gredo iddo pob pwnc a gymerai mewn llaw yn fater bywyd iddo un y gallai y gwan a'r gorthrymedig ymddibynu arno; un a ystyr- iai gellwair a chwestiwn pwysig yn ddim amgen na chabledd ae uwchlaw y ewbl, cym- eriad difrycheuJyd y gellid edrych i fyny ato a derbyn ysbrydiaeth oddiwrth ei eiriau a'i ysgrifau a'i fywyd.

GLADSTONE, COBDEN, A BRIGHT.

DR. EDWAKDS Y BALA A GLADSTONE'

DYN YR OES.

Y CYNTAF I GYDNABOD CYMRU.

GWNEUD CYFIaWDER A NI.

EIN eQiMiMr mrnmmo* I

TALU GWAROGAETH I YMNEILLDU-ABTK.

IAPWYNTIO CYMRO YN ESGOB.

CHWAREU TEG I'N HIAIT R.

DBDDF CATJ Y TAFARNAU AR Y…

IADDYSG GANOLRADDOL A'R EISTEDDFOD.

GLADSTONE YNTE CHAMBERLAIN?

DYN Y BOBL.

i GLADSTONE A'R BEIBL. I

I WEDI MYN'D. !

MARW FEL ARWR.

Advertising