Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN. GAN DAFYDD MOBGAXWG. Yn mhob gwlad y megir gleto.'—Diar. ENWOGOION BRENHINOL. GRUFFYDD AB RHYS.-( Parhad.) CAFO D Graffydd gan Esgob Ty Ddewi, a rhai gwyr dylanwadol ereill i fyned i lys Lloegr yn genhadon drosto, y pryd hwaw i ofyn beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyo, ac i ddadleu ei ffyddlon- deb, a dywedir i hyny fod yn foddion i derfyna yr ymryson, ac adfer i Graft- ydd ei feddianau. Wedi marwolaeth Harri I., ac i Stephen eszyn i orsedd Lloegr, honodd Gruffydd ei hawl i dywysogaeth y Deheubarth fel ei eiddo cyfreitblon, gan gvfrif yn sarhad arno ddal tin cwmwd a haner Cantref o dan frenin Lloegr. Tuag at gyrhaedd ei amean o adenill y Deheubarth, efe a aeth i ofyn oy- northwy Tywysog Gwynedd, a thra yr oedd efytlo ar ei neges bwysig, darfa i Gwenllian ei wraig gasglu byddin o'i chyfeillion a'i harwain yn ei pherson ei hun i Gydweli, y rhan. hono o'r De- heubirth a feddianid ar y pryd gan deulu Maurice de JLondres, un o'r marchogion a ddaeth gyda Robert Fitzhamon i Forganwg, ac felly yn un o'r rhai a lywyddent y fyddin Norman- aidd pan orchfygwyd Rhys ab Tewdwr, tad Gruffydd. Yr oedd gwr o'r enw Gruffydd ab Llywelyn yn swyddog dan deulu Maurice, yr hwn oedd yn elyn calon i Gruffydd ab Rhys, ac efe a gasglodd fyddin o Normaniaid, ac a ddaeth yn erbyn Gwenllian, a bu brwydr waedljd rhwng y ddwy fyddin, pryd y syrthiodd Gwenllian a'i mab Morgan, ac y cymerwyd Maelgwn, y mab arall, yn garcharor, ac wedi hyny a ddienyddiwyd. Bu ymweliad Gruffydd a Gwynedd yn liwyddianus beth bynag, a chafodd gan Cad waladr ae Owain (sef yrenwog Owain Gwynedd) meibion Gruffydd ab Cynan, i uno ag ef yn yr ymgais bwr- iadedig. Ymosodasant yn gyntaf ar Gastell Aberystwyth, yr hwn afeddian- id ar y pryd gan Walter o Espec, ac er fod yr amddiflyniad yn hynod gryf a chyndyn, llwyddasant i gymeryd y castell, allwyr orchfyguyr amddiffyn- wyr. Erbyn hyny daeth Hywel ab Mered- Jdd, penaeth Brycheiniog, a Rhys ab ladog, a'u byddinoeddi'w cynorthwyo, ac aethant yn nghyd yn erbyn Castell Richard de la More, gan ei lwyr ddys- trywio. Cymerasant hefyd Gastell Dinerth a Chaerwendres, ac a ddychwel- asant o'r hynt filwraidd yn llwyr orch- fygwyr. Ynmis Medi yr unflwyddyn (1136), darfu i Gruffydd a'i gyngreiriaid blaen- orol, gyda raeibion Caradog ab Iestyn o Forganwg, nno a'u gilydd i wneuth- ur ymgais ychwanegol i lwyr yru y Nor- maEiaid, y Ffleming, a'r Saeson allan o'r Dehenbarth. Yr oedd y Uw/ddiant ag oedd wedi coroni ymdrechion Gruffydd yn y misoedd blaenorol wedi peri iddo gredu nad oedd yn annichon iddo adenill tywysogaeth Dinefwr iddo ei hun fel gwir etifedd. A'r waith hon gwelid ef yn blaenori byddin gref, yn cynwys 6,000 o wyr traed, a 2,000 o wyr meirch, yn erbyn Stephen, ceid- wad Aberteifi, Robert Fitz Martin, meibion Gerald de Windsor, y rhai oeddynt yn blant i'w chwaer, a Wil- liam Fitz John, a chymaint o'r Nor- maniaid, y Ffleming, a'r-Saeson ag a allent gasglu. Ac yn yr ail wythnos yn mis Medi y flwyddyn a nod wyd, cyfarfu y byddinoedd rn agos i Aber. tern, lie yr ymladdv,ii brwydr ffyrnig, yn yr hon y Ilwyr orchfygwyd y Nor- maniaid, ac y collodd 3,000 o honynt I eu bywydau. Wrth fod ereill o hon- ynt yn diane dros bont Aberteifi, torodd y bl nt o danynt, a syrthiodd llnoedd o honynt hwy a'u meirch i'r afon, lie y boddasant. Cymerwyd llawer iawn o honynt hefyd yn garcharorion. Ar ol y frwydr, darfu i Cadwaladr ac Owain gasglu cymaint a allent o'r arfau, gyda lluaws mawr o feirch y Normaniaid, y rhai oeddynt o'rrhywogaeth oreu, ac a aethant a hwy gyda hwynt yn yspail rhyfel i Wynedd. Trwy y frwydr hono daeth Gruffydd yn benaeth ar y Deheubarth, adychwel- odd y tiroedd i'w gwir berchenogion, y rhai a ddygwyd oddi arnynt gan y Normaniaid. J. Yn fnan ar ol hyn, anfonodd y bren- in Stephen at Gruffydd i'w wyso i ym- ddangosynei lys ef. Ondyn lleufydd- hau, arweiniodd y gwron ei fyddinoedd drachefhiBenfro a Cheredigion g an ym y Normaniaid o'r parthau hyny gyda Uaddfa fawr. Ar ol y buddugoliaethau nodedig hyn, efe a gynaliodd wledd fawr yn Nghaetell Dinefwr, yr hon a barhaodd am ddeugaia niwrnod. Gwahoddodd bawb trwy Gymru ag oedd yn hedd- ychol ag ef i ddyfod i'r wledd, ac yn mhlith ereill ag oedd yno, yr oedd Gruffydd ab Cynan a'i feibion. Cysegrodd Gruffydd yr yehydig oedd yn ngjweddill o'i oes i ddiwygio ei ddeiliaid, trefnu y wlad, ac adnewyddu Cyfreithiau Hywel Dda i'w grym cyn- henid. Dywed Caradog o Lancarfan am dano mai efe oedd y gwrolaf, y doeth- af, y trugarocaf, a'r cyfiawnaf o holl dywysogion Cymru. Bu farw yn 1137, ar ol ymdrechion celyd ond tra liwydd- ianus dros ei iawnderau ac ar ei farw- olaeth gadawodd ar ei ol etifedd yn deilwng o'i wrolder ei hun yn mherson ei fab Rhys.

- « Y GOLOFtf AMERICANAIDD.

GWEITHFAOL.

MARWOLAETHAU.

CROMWELL.

HUNANLADDIAD GER ABEK-TAWE.

TAN MEWN BLOFA.

,ANEBOHIAD 0 GYDYMDEIMLAD

REHEARSAL CYMANFA GERDf* OROL…