Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
'PREPAID WANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. t2 words; Once 6d. Three times 1 20 „ „ 9d. „ „ 1/3 28 11 „ t/- „ '/6 36" »• 1/3 »» ft 1/9 44 „ 1/6 ii „ 2/- Every additional 8 words 3d. WANTED, good General, age 20 to 25, good wages, comfortable home.—Apply, 309, Caledonian Road, N. MIL K.- Wanted by respectable young man (Welsh)' M age 18, inexperienced, a Situation in Dairy' Would accept low wages to commence; first-class references.-Apply by letter, "Brython," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. LODGINGS for a respectable Young Man, near the City.—Apply X. Y. Z., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. A WELSHMAN seeks someone to join him in two furnished rooms.—Apply, 14, St. James Street, St. Peter's Street, Islington, N. DYN Parchus yn eisieu i werthu Llyfrau Cymreig. Tal da. Cyfeirier, Box 4, 24, High Street, Carnarvon. YOUNG Lady (Welsh) wants Situation in Dairy, Y look after house and shop, experienced.-A., 95, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.O. BED-SITTING Room and Partial Board required B by Young Man in Kensington. Terms must be moderate.-Apply, "Dyffrynwr," Celt Officce, 211, Gray's Inn Road, W.C. AN experienced Welsh-speaking Nursemaid wanted, Wages £ 18.—Apply Mrs. John, 18, Fitzroy Street, London, W. FURNISHED Bedroom for One or Two Gentlemen. Convenient for railway and 'bus.—Apply, West End," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRY.—Young Lady wanted for Housework and ID assist in the Shop. J. H. Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. COMFORTABLE Home offered Lady in return C for small sum weekly and assistance in light -duties.—J., 3, Rosslyn Crescent, Wealdstone, Harrow. u. DAIRy.-Wanted respectable Young Woman as General and assist in Shop.-Apply N.B., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. ACCOUNTS.—TO DRAPERS, DAIRYMEN, &c— Professional Accountant is prepared to write up and audit Books, prepare Balance Sheets and Profit and Loss Accounts. Terms moderate.—Apply 41 Audit," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. EGGS 1 WELSH EGGS! Finest quality, delivered fresh from best Firm in Wales. Gwledd Gymreig Oddicartref.Apply, "Oeredigion," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. LESSONS IN WELSH by an experienced Teacher. L Pupils visited at their own homes or received in Teacher's residence. Evening lessons at moderate charges, and a thorough course of the language given on the most approved modern method.-Write to Athraw," Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C.
Y Dyfodofm
Y Dyfodofm [ggf Dymunir ar i ysgrifenyddion a tkrefnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ——— Hydref „ 29. Cyngherdd Blynyddol Clapham Junction. „ 30. Cyngherdd Blynyddol Eglwys St. Padarn yn y Queen's Hall. „ 30. Shirland Road. Grand Concert and Tea. „ 30. Wilton Square. Cyfarfod Sefydlu Parch. G. Havard, B.D. Tachwedd to 2 a 3. Cyfarfodydd Blynyddol Eglwys St. Padarn. Pregethwr, Parch. Timothy Davies, vicar Gartheli, Ceredigion. „ 6. Cyfarfod Sefydlu y Parch. Peter Hughes Griffiths yn eglwys Charing Cross Road, W., am 7.30. 6. Cyngherdd yn y Queen's Hall, People's Palace, Mile End Road. 6. City Road. "Coffee Supper." „ 9.10. Gothic Hall. Cyfarfod Pregethu Blynyddol. „ 11. Cyngherdd Blynyddol St. Benet. „ 33. New Jewin. Cyfarfod Cystadleuol. „ 20. Gothic Hall. Darlith gan Mrs. John Evans (Eglwysbach). „ 20. Cyfarfod Te Blynyddol Radnor Street, Chelsea. „ 20. Cyngherdd Blynyddol Capel Stratford. „ 20. Capel Sussex Road, Holloway. Cyngherdd a The Blynyddol. „ 21. Cyngherdd Cwcwll, yn yr Holborn Town Hall. „ 27. Queen's Hall, Cyngherdd Dewi Sant. « Rhagfyr „ 4. Cyngherdd Barrett's Grove yn Shoreditch Town Hall. „ 25 (Nos Nadolig). "Cartref oddi Cartref yn Jewin. 1903 lonawr. „ 21. Holborn Town Hall. Cyngherdd Cor Meibion Gwalia." Chwef. 11 18. Eisteddfod Queen's Hall. Mawrth „ 11. Falmouth Road. Eisteddfod y Plant. 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynol y Gymdeithas Ebrill „ 2. Eisteddfod Capel Sussex Road, Holloway „ 23. Cymanfa y Methodistiad yn Jewin Newydd.
Y FRWYDR ADDYSG.
Y FRWYDR ADDYSG. Er cymaint y beio sydd wedi bod ar y blaid Ryddfrydol yn y gorphenol, nis gall neb sydd yn hoffi rhyddid ac iawnder, lai nag edmygu yr ornest alluog a gerir ymlaen y dyddiau hyn ar lawr St. Stephan. Un o frwydrau mawr y ganrif yw, a sicr y bydd ei dylanwad yn cyrhaedd ym mhell wedi y collir pob adgof am dani yn nadleuon y Senedd ei hun. Brwydrau fel y rhain sydd yn gwneyd cened], a sicr yw y bydd Ymneullduwyr Prydain ar derfyn yr ymgyrch yn allu cadarn- ach ac hyfach o lawer nag erioed o'r blaen yn ei hanes. Nid brwydro drcs, nac yn erbyn addysg a wneir, er mai brwydr addysg yw; eithr rhyfel rhwng yr Ymneullduwyr a'r Eglwyswyr yw. Hyn sydd yn eglur ddigon i'r mwyaf pwl ei olygon. Mor bell ag y mae a fyno'r pleidiau ag addysgu'r werin, y mae'n eithaf posibl fod y naill blaid fel y llall ar hyd y blynyddau wedi gwneyd eu heithaf dros gyflwyno gwybodaeth i blant y ddynoliaeth, a gwnant hyny eto; ond y peth a'u poena ar hyn o bryd yw pa blaid sydd i gael y meddiant cryfaf o ysgolion ein gwlad fel ag i'w defnyddio at eu hamcanion enwadol hwy eu hunain. Y mae'r Eglwyswyr eisoes wedi llwyddo i gael cyfres foddhaol ddigon o ysgolion, ac wedi cael hyn, ceisiant eto am gymaint ag sydd yn bosibl o arian y cyhoedd er eu galluogi i gario y gwaith yn ei flaen. Os mai plaid yr Eglwys a lwydda yn y frwydr, y mae'n eglur ddigon y gwna ddefn- ydd aruthrol o'i safle yn y dyfodol agos. Hyd yn ddiweddar y mae cryn ddifrawder wedi bodoli yn y cylchoedd swyddogol eglwysig, ond unwaith y gwelir fod dorau newyddion i gael eu hagor ynglyn a'r Bil presenol, y mae'n eglur ddigon y daw adfywiad pwysig i fysg y frawdoliaeth, ac y ceir y fath gyfun- drefn o glerigaeth a'i gwna yn anioddefol eu goddef yn ein plith. O'r tu arall, os mai Ymneullduaeth a orfydd, y mae He i gredu yr ymdrinir yn bur hallt tuag at rai ysgolion enwadol sydd hyd yma wedi bod yn wrth- wynebol i ardalwyr Ymneullduol yng Nghymru, ac y bydd raid apelio byth a hefyd am gynorthwy y Bwrdd Addysg yn Llundairt er rhoddi iawnder rhwng y pleidiau. Mae'r frwydr yn cael ei chario ym mlaen mewn ysbryd hynod o foddhaol hyd yn hyn, a gwel y Weinyddiaeth bellach mai nid pwnc i gellwair ag ef yw pwnc addysg, eithr fod yma luoedd o fan byllau y rhaid osgoi rhag syrthio iddynt ar y daith ac yn hytrach na difria Mri George ac ereill o blaid y Rhyddfryd- wyr, y mae cefnogwyr y mesur yn ddyledus iddo am amryw awgrymiadau a gwelliantau er gwneyd y Bil yn ymarferol dda, ac yn rhydd oddiwrth wallau a cham gasgliadauc Hyd yn awr y mae pob gwelliant sydd wedi ei dderbyn wedi dangos fod yn amhosibl gwneyd Bil cyflawn ar y pwnc; a'r unig gyn- Ilun i setlo yr holl helynt yw trwy ymarfer ag ysbryd Rhyddfrydol, a rhoddi perffaith gyd- raddoldeb cydrhwng y pleidiau enwadol ym mhob sir. Fel y saif pethau yn awr, mae gwaith mawr eto i'w gyflawni, ac os ceir brwydr dda ar lawr y Ty yn ystod yr holl helynt ni fydd angen i ni ofni mai plaid rhyddid fydd ar ei cholled yn y pen draw.
[No title]
Nid oes neb eto wedi llwyddo i benderfynu pwnc y tir yng ngwlad y Gwyddel. Dywed rhai amheuwyr nas gellir byth foddloni'r Gwyddelod ag unrhyw ddeddf dirol; ond, yn sicr, nid yw'r gwr o'r Werddon mor anhawdd ei drin a hynyna. Yn ol pob hanes, ein dall- ineb ni sydd gyfrifol am yr holl anes- mwythder. Collodd y Rhyddfrydwyr yn Devonport sedd yr wythnos hon. Mr. J. Lockie (U) a etholwyd, gyda mwyafrif o 28. Un o ddilyn- wyr Rosebery oedd ymgeisydd y Rhyddfryd- wyr. Daeth mil a haner o lowyr allan ar streic yng Ngloddfa Abercam, ddydd Mercher, fel protest yn erbyn i naw o wyr, nad oeddent yn aelodau o Undeb y Glowyr, gael gweithio ar lan y pwll. Dywedai un o arweinwyr y Bauwyr, mewn cyfarfod y noson o'r blaen, fod enw Mr. Lloyd-George mor andnabyddus yn Neheudir Affrica ag enw Kruger ei hun; ac yr oedd y Bauwyr yn teimlo yn ddiolchgar i wyr fel Mr. George am eu cydymdeimlad. Y mae cyfarfod mawr, i brotestio yn erbyn y mesur Addysg, i gymeryd lie yn Alexandra Palace ar y laf o Dachwedd, pryd y llywyddir gan Arglwydd Carrington, a siaredir gan Syr Henry Campbell-Bannerman, Mr. Asquith, Mr. Richard Bell, Mr. Corrie Grant, a Dr. Clifford. Cafwyd amser tra bywiog gyda gwyr yr Ynys Werdd, yn Nhy y Cyffredin, yn ystod yr wythnos. Yng nghwrdd y Cymmrodorion yn Hanover Square, y noson o'r blaen, hysbysodd yr ys- grifenydd fod y cyfieithiad o un o weithiau Dante i'r Gymraeg newydd ddod o'r wasg.
Y CRISTION.
Y CRISTION. Yn ein byd pa le ceir arwr Fel y Cristion didwyll pur, A'i gymeriad ar sylfeini, Egwyddorion dwfn y gwir ? Gyda Christ yn Nuw mae'i fywyd, Er feallai'n druan tlawd, Ar orseddfainc y gogoniant Iesu yno yw ei frawd. Cartref Iesu yw ei galon Lie teyrnasa dwyfol hedd, Gysegredig i'w wasanaeth Yw pob dawn a chyneddf fedd. Ni wna cystudd a thrallodion Ond ei loewi'n fwy o hyd, At berffeithrwydd mae yn cyrchu, Delw Iesu yw i'r byd. Milwr dewr a chledd yr Yspryd, Drecha bob gelynol gawr, Gwyrddlas bren ger disglaer ddyfroedd, Wisga fiodau per eu sawr CSangen fyw o'r wir Winwydden Llawn o ffrwythau drwy ei oes, Darddant oil 0 hunan-aberth laehawdwriaeth fawr y Groes. CwcwLri.