Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

UNDEB Y CYMDEITHASAU DIWYLLIADOL.

News
Cite
Share

UNDEB Y CYMDEITHASAU DIW- YLLIADOL. CYFARFOD AGORIADOL. ERNEST RHYS YN SIARAD CYMRAEG. Nos Sadwrn diweddaf y cynhaliwyd y cyfarfod hwn, yn neuadd Capel Castle Street -man canolcg a chyfleus iawn i gynulliadau o'r fath; ond, os oes He i weled diffyg, neu- add ganolog eangach sydd yn eiseu, oblegid idaw gwyr a merched ieuainc o bob cwr o'r ddinas i'r cyrddau hyn, ac y mae angen am le eangach na neuadd un o'r capeli, os am iddynt fcd yn gartrefol. Y mae hwn yn ben gwyn, ac hwyrach y cawn ni neuadd Gymreig i'n boddhad cyn hir. Gan fod yr bin yn hynod anffafriol ar hyd y dydd ddydd Sadwrn (ond gwellhaodd dipyn erbyn yr hwyr) ofnid mai cynulliad gwael a gawsid; ond nid felly y bu, oblegid daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a hardd oedd yr olwg arnynt. Fel arfer, cymerodd y cyfarfyddiad y ffurf o de a chyngherdd. Cawsom gyfle da, wrth yfed te a bwyta brechdan, i sgwrsio tipyn gyda'n gilydd a mawr oedd y clebran. An- bawdd fuasai peidio bod yn Hawen ymysg y bobl ieuainc hapus hyn. Gellid dysgu llawer oddiwrth eu hymddiddanion gweddus a llawn o'r chwaeth oreu rhai yn son am nentydd, cymoedd a mynyddoedd yr Hen Wlad lie y buont yn treulio eu gwyliau, ereill yn son am yr hen gewri—pregethwyr grymus, cantorion enwog a beirdd anfarwol-uwch ben beddi pa rai y buont yn gollwng deigryn yn ddi- weddar. Wrth wrando fel hyn, ar hwn a hwn, yn dyweyd yr hanes, cawsom noson yn Hawn o ramant. Y mae'n lies i enaid dyn fod mewn cwmni mor ddifyrus ac adeiladol; ac i'r Cymdeithasau Diwylliadol yr ydym yn ddy- ledus am y fath ddiwylliant ymysg ein pobl ieuainc, ond i Gyfarfod Llenyddol bach y pentref yr ydym yn ddyledus am y Gymdeithas Ddiwylliadol, fel y dywedwyd un tro gan y diweddar a'r anwyl T. E. Ellis, A.S.—Hywydd cyntaf yr Undeb Ar ol bod yn siarad ac yn yfed te am ys- baid go lew, aethom i loni'r enaid gyda chan, &c. Yr oedd rhaglen gyda 13 o items wedi ei pharotoi; ac wedi canu'r emyn agoriadol, cododd y Jlywydd-Mr. Ernest Rhys, y lienor adnabyddus—i anerch y gynulleidfa. Tradd- cdodd y rhan gyntaf o'i anerchiad yn y Gym- raeg a chan nad oes rhyw lawer o amser er pan y dechreuodd Mr. Rhys ddysgu yr iaith, bydd ei eiriau Cymraeg, fel eu siaradwyd, yn ddyddorol feallai. Y mae'n galondid mawr i bob Cymro iaithgarol weled gwyr fel Mr. Rhys yn gwerthfawrogi ein hiaith. Dyma fel y siaradai:— u Nid yw noswaith fel hon—noswaith i ,gerdd a chan—yr oedfa i wneyd araeth hir. Y mae llawer o nosweithiau ereill gyda Chymdeithasau yr Undeb i glywed y pre- gethwyr a'r areithwyr. Ond heno, y mae genym ddechreu tymhor newydd," a rhaid i ni ystyried am foment ein sefydliad. Yr ydych yn cofio yr hen ddiareb Gymraeg-yr lion geir yn hen lyfr ein tadau, llyfr Gruffydd Hiraethog a Gwilym Salesbury: 1 011, Synwyr Pen Cymro ygyd -Dauparth gwaith i ddech- reu, Un gair ynte, am y dechreu, ac un gair eto i esbonio y gair cyntaf oblegid ystyr un gair gyda'r areithwyr politicaidd yw, ugain neu deugain o eiriau lWeI, yn awr ynte, gadewch i ni frysio i osod yr un gair allan,- a dyma fe: 'Chi yn cofio mai diffyg yr hen wlad yn yr hen amser, ie, a thrwy'r oil o'n Ibanes hir cwbl i gyd,' yw unoliaeth. Y mae diffyg Undeb ar y Cymry. Os yw fel hyn, y mae'n hwyr ei gydnabod; ac yr wyf yn meddwl mai dyma yw gwaith ein Hundeb ni —Undeb Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig Llurdain gwaith arwyddcl, fel arwydd o Un- deb C)n:ru,—gw!ad, ptb], a phcb un oddi- fewn i'r Hen Wlad i gyd." Pan yn taflu awgrym pa fodd i ddwyn hedd- weh sc undeb cddiamgylch, Beth s)dd wedi ei ysgrifenu meddai, yn awdl fach y bardd Islwyn ar y 4 Cyrrry Newydd Gvell genyf dy hanes diweddar fy ngwlad, Na'th hanes henafol i gyd; Gwell genyf yr heddwch ddilynai y gad Y tangnef ddilynai y llid.' Heddweh ac unoliaeth Dywedai, fel y mae amryw wedi dyweyd o'r blaen I gario allan yr amcan a'n haweiniodd ar y cyntaf i sefydlu y Cymdeithasau-pa un a all wasanaethu yn fawr er hyrwyddo ein hundeb yn Llundain, ac undeb yng Ngbymru-feallai mai ein hangen jn y lie cyntaf yw Sefydliad Canolog Cym- reig. Ac wrth sylwi fod eisieu gwr arianog ynglyn a'r Ty o gydgordiad Cymraeg hwn, cyfeiriodd at Carnegie a'i haelfrydedd, ac fel y gwithododd pobl Marylebone dderbyn y rhodd o library a gynygiedd iddynt. Yr oedd ef (Mr. Rhys) yn credu na fuasai'r Undeb yn gwrthod rhodd o'r natur yma. Soniodd hefyd am y cyfleusderau sydd yn Llundain i Gymry ieuainc ond i'r Undeb gymeryd mantais o honynt, drwy drefnu partion i ymweled a lleoedd o ddyddordeb hanesyddol, megis y Twr, yr Amgueddfa Brydeinig, yr Oriel Genedlaethol, a South Kensington, a studios yr arlunwyr Cymreig hyny sydd yn Llundain. Dywedai fod dyled y Saeson i'r Cymry mor fawr ynglyn a cherddoriaeth, barddoniaeth a chrefydd, fel yr oedd ef yn barod i ddal fod yn rhaid fod gan bob Sais-oedd wedi gwneyd rywbeth mewn celf a cherddoriaeth-daid Cymraeg; bu cryn chwerthin wedi'r honiad yna. Wedi hyny, g-wahoddai Mr. Rhys 40 neu 50 o aelodau'r Undeb i'w gyfarfod yn yr Amgueddfa Brydeinigary iaf o Dachwedd- nawn Sadwrn-a rhoddai yntau ei wasanaeth iddynt am y prydnawn. Wedi ychydig eiriau ychwanegol, terfynodd ei anerchiad gyda'r llinellau canlynol o waith ein lyric, Ceiriog:— Cerddi Cymru sydd yn byw Trwy'r blynyddau yn ein clyw Sibrwd ein halawon gynt Mae cwynfanau trwm y gwynt: Dwyn yn ol lais mam a thad, Mae hen donau pur ein gwlad." Yna awd ymlaen gyda'r rhaglen, a chawd caneuon gan y rhai canlynol :-Miss Sarah Roberts, Castle Street; Miss Maggie Evans, Falmouth Road Miss Mary Jenkins, Hollo- way Miss S. D. Richards, Hammersmith; Mr. W. J. Pughe, Tabernacl; Mr. David Parry, Wilton Square Mr. J. Harries, Dewi Sant a Mr. David Jones, Jewin. Adrodd- iadau, Mr. Robert Jones, Willesden Green; Mr. Eddie Evans, City Road; a Mr. D. J. Davies, B.A., Shirland Roed. Cyfeiliwyd gan Miss Maggie Ellis. Cynygiwyd diolchgarwch i'r IIwydd ar y diwedd gan Mr. Knoyle, Hammersmith, ac eiliwyd gan y Parch. Machreth Rees. Yna terfynwyd cwrdd difyrus iawn trwy ganu « Hen Wlad fy Nhadau," Mr. W. J. Pughe yn arwain.

BwreSii j * Celtm9

Advertising