Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

OeSdeutu'r Ddinas.

News
Cite
Share

OeSdeutu'r Ddinas. Bydd amryw gynulliadan Cymreig yn ystod yr wythnos nesaf, ac am fanylion yn eu cylch gwel ein colofnau hysbysebol. < ot Heno (nos Sadwrn), yfory (Sul) a nos Lun, cynhelir cyfarfod blynyddol y Bedyddwyr yng Nghapel Castle Street, pryd y pregethir gan y Parch. Pedr Williams (Pedr Hir), a'r Parch. David Collier, Abertillery. • « Nos Fercber nesaf, bydd cyngherdd blyn- yddol a the yr eglwys Fethodistaidd yn Beau- champ Road, Clapham Junction, yn cym- eryd lie. Aed y Cymry yno'n llu. # » Y noson ganlynol, sef nos Iau, bydd y cyfeillion ynglyn ag Eglwys fach fywiog St. Padarn, yn cynhal cyngherdd mawreddog yn y Queen's Hall (y neuad fach). Y mae yr anturiaeth hon yn haeddu cefnogaeth. » Yr un noson hefyd (nos Iau) cynhelir gyng- herdd blynyddol a the yr eglwys yn Shirland Road; a chan fod digon o Gymry yn Llun- dain i lanw neuadd fach y Queen's Hall a Chapel Shirland Road i'r ymyion, diau y bydd y ddau yn llwyddiant perffaith. Ar yr un noson eto, cynhelir cyfarfod ordeinio'r Parch. G. Havard, B.D., yn Wilton Square. Caed cyrddau da iawn ym Mile End Road, y Sul diweddaf. Pregethwyd gan y Parch. John Hughes, M.A., Lerpwl, a'r Parch. Elfed Lewis, Capel Harecourt. Cafwyd oedfeuon gwresog iawn hefyd yn City Road. Y Parch. Thomas Jones, Aber- tawe, ydoedd eu prethwr hwy. Cwrdd Ilawen iawn gafodd aelodau y Cym- deithau nos Sadwrn diweddaf i agor tymhor yr Undeb. Mawr oedd yr ymgomio uwchben y shaden," yn enwedig ymysg y rhianod teg eu pryd; ond, o ran hyny, yr oedd yr hogie mewn mwy o hwyl nag arfer. < Ar ol boddio'r corph awd i loni'r enaid a chan a cherdd. Y peth cyntaf ar y rhaglen oedd araeth y cadeirydd. Fel y gwyr lluaws, Mr. Ernest Rhys-y lienor ad- nabyddus-ydyw Kywydd yr Undeb am y tymor hwn, a dyddorol ydoedd ei glywed yn traddodi haner ei anerchiad mewn Cymraeg glan gloyw. » Yr oedd rhai o'i sylwadau yn amserol iawn, ac yn werth eu dwyn i ymarferiad; a phan yn son am y priodoldeb o ymweled a lleoedd o ddyddordeb hanesyddol, dywedodd, pe bae rhyw ddeugain o Gymry ieuainc yr Undeb yn ei gyfarfod ef ar y iaf o Dachwedd-sef nawn Sadwrn-y buasai'n bleser ganddo fyned a hwy i'r Amgueddfa Brydeinig ac egluro iddynt rai pethau o ddyddordeb. m 9 Sicr yw y bydd llawer yn barod i fanteisio ar y gwahoddiad yma, oblegid nid yn ami y ceir cyfle i fynychu Amgueddfa gyda gwr o alluoedd Mr. Rhys; ac fel y dywedai yn ei anerchiad, ga llasern Gymry ni Llundain, wneyd llawer er ein lies ni ein hunain pe y manteisiem fwy ar ein cydwladwyr addysgol, a chael ganddynt ein cymeryd am dro drwy y lleoedd cyhoeddus hyn. < Y mae talentau newydd yn dod i'r golwg bob blwyddyn yn y cyrddau hyn; ac felly eleni, sylwasom un neu ddau na welsom mo honynt o'r blaen. Mr. Pughe ydoedd un, yr hwn a gynrychiolai Gymdeithas y Tabernacl Cymraeg. Tenor ydyw hwn, yn addaw yn dda, a deallwn ei fod wedi bod am gwrs o ymar- feriad o dan Mr. Wilfrid Jones, Wrecsam. Diau y cawn ei glywed ef eto cyn hir. Nos Wener, yr wythnos ddiweddaf, cafodd Cymdeithas Ddiwylliadol Shirland Road ddadl gyntaf y tymhor, ac yr oedd y nifer luosog a ddaeth ynghyd yn ddigon o brawf fod gan ddadl atdyniad mawr. Testyn y ddadl y tro hwn oedd, Pa un ai gwella ai dirywio mae yr Ysgol Sabothol ?" Dadleuai Mr. Da vies, St. Mark's, a'i ganlynwyr mai dirywio yr oedd yr Ysgol, tra y dad- leuai Mr. Ben Griffiths a'i ganlynwyr mai gwella yr oedd. Cafwyd ymdriniaeth frwd a rhesymau ced- yrn o'r ddwy ochr, a hawdd oedd gwel'd y buasai y bleidlais ar y diwedd yn bur agos; ond wedi symud y ddwy ochr ynghyd, cafwyd fod y mwyafrif wedi dod i'r penderfyniad mai gwella y mae; ac unodd yr oil ar y diwedd i ganu Clod i Dduw am dani. # Drwg iawn gan y frawdoliaeth yn eglwys Walham Green, goHi dau o'r aelodau mwyaf gweithgar a selog, sef Mri. James Davies a John Jenkins (ieu.). Brawd i Faer Fulham yw Mr. ''Jacques," oblegid wrth yr enw Ffrancaidd hwn yr adnabyddid ef ym mas- nachdy ei frawd. Mab i Mr. a Mrs. Jenkins, Wandsworth Bridge Road a brawd i Mrs. Timothy Davies ydyw Mr. Jenkins. Mae y ddau wedi bod o wasanaeth mawr i'r eglwys yn y He hwn. Mae Mr. Jenkins wedi bod yn arweinydd y gan er pan ddechreuwyd yr achos, ac y mae Mr. Jacques wedi profi ei hun yn wir ddefnyddiol fel ysgrifenydd y gronfa adeiladu. Mae y ddau yn bwriadu agor masnachdai ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Mr. Jacques yn East Ham a Mr. Jenkins yn Bromley, Kent. Nos Iau diweddaf, daeth nifer o gyfeillion Mr. Jacques ynghyd i ddymuno llwyddiant iddo yn ei gartref newydd, ac fe'i anrhegwyd a "side-board" gwerthfawr. Cyflwynwyd y dodrefnyn hardd i Mr. Jacques, ar ran y rhai oeddynt wedi casglu tuag ato, gan y Parch. J. Tudno Williams, M.A.; a chaed anerch- iadau gan Mri. John Thomas, North End Road a John Jenkins ac ereill. Duw yn rhwydd i'r ddau frawd yn eu preswylfeydd newyddion medd ein gohebydd. "Yr ydym yn trosglwyddo Mr. Jacques i ofal y Parch. Wilson Roberts, a Mr. Jenkins i fugeiliaeth y Parch. Silyn Roberts, M.A." Nos Fercher y isfed o Hydref, cafwyd papyr ar Wir fawredd," gan Mr Ben Evans, yng nghyfarfod Cymdeithas Lenyddol y lie hwn, sef Walham Green. Yn ei nodiadau arweiniol. dywedai Mr. Evans nad oedd yn teimlo yn alluog i wneyd cyfiawnder a'r testyn oherwydd amgylchiadau a byrdra yr amser, ond ceisiai osoi ei law ar latch y drws, a hyderu y byddai yr ymdrafodaeth ar y diwedd nid yn unig yn foddion i sicrhau agoriad y drws, ond hefyd fynediad helaeth i mewn i bob congl o'r testyn hwn. < Profwyd yn eglur fod uchelgais neu fawr- edd yn naturiol i bob dyn—am ei fod wedi ei greu ar lun a delw Duw,—ei fod wedi ei osod yn "arglwydd ar y greadigaeth," ac hefyd fod olion y mawredd yma i'w ganfod yn eglur mewn pob dyn, hyd yn oed yn ei ddirywiad. Dangoswyd fod uchelgais yn beth gwir gyf- reithlon os y byddai yn cael ei gyfeirio ar hyd linellau iawn a phriodol, oherwydd fod y Beibl wedi cymeryd mantais o'r teimlad yma sydd mewn dynion fel gallu er dylanwadu er daioni ar bawb o'u cwmpas. < < a Wei, yn awr," meddai, 11 Beth sydd yn gynwysedig mewn gwir fawredd ? Nid cyfoeth, I talentau, swyddau uchel, nac athrylith; eithr cymeriad rhinweddol, gwir ostyneiddrwydd, gwasanaeth, a hunan-ymwadiad." Cafwyd ymddiddan buddiol iawn ar y diwedd gan y cadeirydd (Robert Jones, Y.H.), a'r Parch. J. T. Williams. Llawenydd mawr ydoedd gweled cynifer o'r bobl ieuainc yn cymeryd rhan yn yr ymddiddan. Mae'r aelodau Seneddol Cymreig wedi dod yn ol yn lied gryno at eu gorchwylion y dydd- iau hyn ac ar y cyfan, gweithiant yn dda iawn. Llwyddodd Mr. Lloyd-George i gael gan Mr. Balfour wneyd nifer o ddatganiadau yn ystod yr wythnos, fel na synem pe ceid peth cyfnewidiad eto ynglyn a phwnc rheol- aeth yr arolygwyr dros ysgolion gwledig. Ot Ynglyn a sefydliad Mr. Llewelyn Bowyer yn weinidog ar eglwysi Anibynol Cymreig East Ham a Woolwich, y mae'n dda genym ddeall fod ei gyd-efrydwyr yn coleddu y parch dyfnaf tuag ato, ac yn edmygwyr try- lwyr o'i alluoedd fel pregethwr. Ymysg y tystiolaethau a roddwyd yn y cyfarfod sef- ydlu, nid oedd yr un yn fwy derbyniol na'r II yth yr canlynol a gaed oddiwrth ei hen gyd- efrydwyr yng Ngholeg Bala-Bangor:- < < COLEG BALA-BANGOR, Hydref 8fed, 1902. AT EGLWYSI WOOLWICH AC EAST HAM. Anwyl frodyr a chwiorydd,-Y mae'n hyfrydwoh o'r mwyaf gan efrydwyr Bala-Bangor fod Mr. Llewelyn Bowyer wedi derbyn galwad oddiwrthych, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Tra. yn y coleg yr oedd Mr. Bowyer yn fyfyriwr diwyd, a gweithiwr cyson, a safai yn uchol yn syniad ei athrawon. Perohid ef gan ei gyd-fyfyrwyr a chan bawb a'i adwaenai. Yr oedd yn gyfaill ffyddlon i bawb, ac ni oddefai i'r gwanaf gael cam. Y mae o gymeriad cymeradwy iawn, o gydym- deimlad eang, o ysbryd addfwyn a chalon garedig, yn barod iawn i wneyd ei ran gydag unrhyw achoa da, pan y byddai galw am hyny, ae, yn madda y cym- hwysderau i wneyd gweinidog da a llwyddianus i lesu Grist. Y mae Mr. Bowyer yn dyfod atoch gyda dymuniadau cynhesaf ei gyd-fyfyrwyr am ei lwydd- iant personol ef a'r eglwysi dan ei ofal. Gan obeithio y bydd bendith Duw yn aros yn amlwg ar yr Undeb I hwn, ac y bydd dyfodiad ein brawd i'ch plith yn fen- dith i chwi a gogoniant i Dduw, Ydwyf ar ran y myfyrwyr, J. W. FFOULKES (Ysgrifenydd). Mr. J. Richards, Chelsea, S.W. » Er fod Mr. Bowyer yn Gymro trwyadl ac yn hanu, o du ei fam, o deulu rhagorol a ffyddlon ynglyn ag achos crefydd, eto, enw Seisnig yw Bowyer. Seinir ef yn Boier. -■;= Am y rheswm fod amryw o gyfarfodydd Cymreig i gymeryd He nos Iau nesaf yn ein plith, y mae cyfeillion City Road wedi newid dyddiad eu swper goffi nesaf, i'r nos Iau can- lynol, sef Tachwedd y 6ed. Cafodd Cymdeithas Ddiwylliadol Eglwys Dewi Sant gyfarfod agoriadol pur Iwydd- ianus, nos Fawrth diweddaf. Rhoddwyd y te a'r danteithion gan Mrs. Watkins, Earl Street, yr hon oedd yn dyfod i fyny a des- grifiad y Salmydd, a'i phlant fel planhigion olewydd o amgylch ei bord," yn feibion ac yn ferched. Gwasanaethwyd yn y cyfarfod gan y Misses Mary Pierce, Dudley Road, a Maggie Davies, Harrow Road; Mri. Emlyn- Edwards, Ted Jenkins, Edward Owen D. Jones (organydd), A. S. Watts, Warden Wil- iams, a chaed anerchiad gan y Llywydd.

Y SEIAT."