Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

,;TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

TY'R GLEBER. YMLADD Y BIL CLERIGOL. Swn y gleber sy'n y gwynt. 'Does ond adsain o eiriau a draddodir ar lawr Ty'r Cyffredin i'w clywed ymhob genau. Dyddiau byw yw y rhai hyn, ac mae gweled gwlad gyfan yn gwylio'r gweithrediadau ar lawr neuadd St. Stephan yn arwydd er daioni. Gyda gofal o'r fath, nid aiff yr un blaid i eithafoedd, a dyna nerth ein cynllun o reol- aeth. Dydd Iau, Hydref yr I6eg, yr ail-agorwyd drysau Ty'r Senedd; a chan mai wedi ei ohirio yn ffurfiol yr oedd y Ty, nid oedd angen am un seremoni arbenig ynglyn a'r agoriad. Yn unig, cymerodd y Llefarydd ei sedd, a daeth yr aelodau i fewn o un i un i wylio y gwaith. Yr oedd rhai wedi rhoddi eu presenoldeb yn foreu,-yn wir, cyn toriad y wawr, ddau neu dri o'r aeiodau, am mai yr unig ffordd iddynt gael un math o hynodrwydd, debyg iawn, yw trwy gael eu henwau i lawr fel codwyr bore ond yr oedd nifer yr aelodau yn Uawer llai nag a ddisgwylid, yn enwedig ar feinciau y Rhyddfrydwyr. Beth sydd i gyfrif am hyn tybed ? Ai nid yw'r aelodau Rhyddfrydol eto wedi cael digon o brawf fod y wlad yn ferw gwyIlt yn erbyn y Mesur Addysg, ac mai at y Rhyddfrydwyr yr edrychir am amddiffynwyr cadarn i hawliau y werin ac, yn sicr, nid trwy anwybyddu llais eu hetholaethau a bod yn ddifater dros eg- wyddorion rhyddid a mwynhau eu hunain yn unigedd eu palasau gwledig, y mae iddynt hawlio cefnogaeth ac ymddiriedaeth eu cyd- ddynion. Erbyn diwedd yr wythnos ddiweddaf, nid oedd haner nifer y Rhyddfrydwyr wedi presenoli eu hunain. Yn yr ymraniadau a gymerodd le, ni chaed ar un adeg gant i bleidio plaid rhyddid, a hyny pan y mae'n agos i ddau cant o honynt yn y Ty Nid dyna/r ffordd i roddi ergyd i'r Weinyddiaeth ar wendidau y Bil, a goreu po gyntaf i'r blaid ddihuno i'w chyfrifoldeb. Daeth y Gwyddelod yno yn lied gryno, ond yr oedd ganddynt hwy amcan arbenig drwy hyny. 'Roeddent am alw sylw y Ty ar y dechreu at sefyllfa anfoddhaol yr Iwerddon, a'r unig ffordd i wneyd hyny oedd drwy osod cais yn gynar o flaen arweinydd y Ty am gyfle i drafod a materion Gwyddelig. Gwyddis fod pethau yn hynod o anfodd- haol yn yr Ynys Werdd ar hyn o bryd. Ni chaniateir ond ychydig o gyfarfodydd cy- hoeddus yn y lie, ac ymddygir at y Gwyddelod yn Hawer gwaeth nag yr ymddygai yr hen Kruger druan at ein pobl ni yn y Transvaal. Ond ni cheir cyfleustra i siarad dim ar y pwnc yn Nhy'r Cyffredin. er ceisio a cheisio; ond nid yw hyn ond dechreu gofidiau. Caed engraifft o ffyrnigrwydd y Gwyddelod yn gynar ddydd Iau. Gwrthodai Mr. Balfour roddi diwrnod at eu gwasanaeth i ddwyn eu cwynion ger bron, ac er fod tua deg o'r aelodau wedi eu condemnio i garchar yn ystod gwyliau yr haf am droseddau gwleidyddol, nid oedd wiw gofyn am awr o amser i'r Ty i roddi ystyriaeth i hyny! Gwlad flin yw'r Werddon wedi bod erioed, ac nid yw ei haf- ddydd yn agos chwaith. Y gwr i greu hynodrwydd ar y dechreu oedd Mr. John O'Donnell-aelod Seneddol dros Ddeheubarth Mayo, a gwr ag sydd iddo lawer o ragoriaethau fel gwleidyddwr. Yn un peth, nid yw yn credu yn landlordiaeth bresenol y Werddon, a chan mai mab i ffermwr bychan yw, ac wedi dringo i safle barchus ymhlith tenantiaid ei ardal, mae ei farn ar y sefyllfa bresenol yn haeddu sylw. Am gynhal cyfarfodydd gwleidyddol yn ei etholaeth y mae Mr. O'Donnel wedi ei dded- frydu i dri mis o garchar. Cyhuddwyd ef am siarad dair o weithiau ar bwnc y tir a chaed ef yn euog gan bleidwyr y Weinydd- iaeth yno, a thoddasant fis iddo am bob tros- edd-y naill i ddechreu pan orpheno'r Hall. Dengys ymddygiadau yr ynadon tuag ato, a'r gosp lem a weinyddant arno, eu b jd ar eu heithaf i gael gwared o hono o'r Ty os nad o'r wlad. Ceisiodd Mr. O'Donnell anerch y Ty, ond cododd Mr. Balfour ar ei draed i gynyg y cloadur. Gwnant yr oil a allant er cau safn y gwr, ond mynodd y Gwyddelwr ddangos iddynt nad oedd ef yn wr i aros yn ddistaw. Gwaeddodj allan ei araeth, ac er mwyn bod yn agos i Mr. Balfour cerddodd o'i sedd a safodd o flaen arweinydd y Ty gan ddyweyd wrtho, yn bersonol, ei farn am dano ef a'i blaid. Bu cynhwrfam fynud neu ddwy ac ofnai rhai yr &i'r holl Wyddelod dros y tarfyn, ond ni wnaed hyn ac ar ol i'r areithydd dewi, cynyiodd Mr. Balfour eu bod i roddi wythnos o wyliau i Mr. O'Donnell am ei ymddygiad afreolaidd. Cytunwyd ar hyn, a chiliodd y terfysgwr allan ar ol gweled fod ei holl ym- drechion yn fethiant. Dywedir yn awr ei fod wedi dychwelyd i'r Iwerddon i weithio allan ei dri mis o garchariad. Y mae'r ymddygiad anheg hwn tuagat gynrychiolwr Deheubarth Mayo wedi ei wneyd yn ffafrddyn y genedl, a sicr yw y ceir clywed rhagor oddiwrtho wedi iddo ddod yn ol o'i gell unig yn ei ardal enedigol. Adran yr 8fed o'r Bil Addysg oedd dan ystyriaeth ddydd Iau. Yr oedd y rhan fwyaf o'r Mesur wadi ei benderfynu hyd ddiwedd y 7fed Adran ond y mae dau neu dri o bethau wedi eu haddaw eto ynglyn â rhyw ran o'r adranau hyn. Gwneir hyny fel yr elir ymlaen a'r gwaith, am fod cysylltiadau pwysig rhwng rhai o'r adranau olaf o'r Mesur a'r adran gyntaf. Pan ddygwyd y Mesur ger bron ddydd Iau, yr oedd yn awgrym ar unwaith i Mr. Lloyd George i godi ei lais. Rywfodd neu gilydd mae'r Bil hwn i Mr. George yr un peth a cadach coch i darw gwyllt; a'r peth cyntaf a wnaeth oedd cynyg fod yr holl adran i gael ei gohirio yn gyfangwbl. Ei reswm am hyn oedd, fod Mr. Balfour wedi dyweyd pethau ym Manceinion, y dydd o'r blaen, nas deallir mo honynt yn ol y geiriad presenol. 'Roedd ef yn awgrymu ar i'r adran gael ei hail-eirio yn unol a'r eglurhad a roddai Mr. Balfour; ond gwrthod y cais a wnaed. Caed engraifft dranoeth o aneglurder yr adran. Yr oedd rhai aelodau yn ei deall fel hyn ac ereill fel arall; ac wedi cryn siarad, addawodd Mr. Balfour roddi geiriau ychwan- egol i fewn a eglurai waith y gwahanol bwyll- gorau a rheolwyr. Y gamp fawr ar yradran oedd cwtogi galluoedd y rheolwyr fel ag i ddileu yr agwedd glerigol mor bell ag sydd bosibl. Yn ol fel y safai ar y cyntaf, yr oedd y pwyllgor lleoi i gael rhyddid i wario arian y cyhoedd fel y mynent, tra na adewid i'r pwyllgor sirol ond i dalu yr hyn a ofynid gan y rheolwyr lleol. Yr oedd un blaid i godi'r dreth a'r Hall i'w gwario. Dyna un o anghys- onderau ac anghyfiawnder y Mesur. Gwnaeth yr aelodau Cymreig eu gwaith yn rhagorol ar y cychwyn. Yr oedd Mr. Lloyd George mewn hwyl ymladd, ac wedi cael ysbrydiaeth o'r newydd yn ei ymweliad a gwahanol ranau o'r wlad. Gwelai frychau ymhob brawddeg, a mynai gael eglurhad ar bob cyfeiriad cuddiedig yn areithiau pleidwyr y Mesur. Yn ei gefnogi, yr oedd Syr William Harcourt gyda'i fedr dihafal; ac yn Mr. M'Kenna, y mae gan wyr Mynwy aelod sydd yn gweithio ei hun i enwogrwydd. Weithiau torai Mr Herbert Roberts i fewn yny ddadl, a cheid Mr. Humphreys-Owen yn dra awdur- dodol ar rai pynciau-deuai fel math o gym- edrolwr rhwng y naill blaid a'r llall. 0 gylch y Mesur hwn a'r Mesur Dwfr i Lundain y bydd y frwydr boethaf yn ystod y Senedd-dymhor. A rhwng y naill a'r llall, diau y llwyddir i gadw'r helyntion Seneddol yn dra bywiog. GWLEDDA GYDA BALFOUR. Ymhob rhyfel, y mie ambell i awr o hamdden, ac yn rhyfel Seneddol y Bil Addysg caiff y faner wen ei chodi nos Fawrth nesaf, mor bell ag y mae a fyno'r aeiodau Cymreig a'r frwydr. Mae Mr. Pryce Jones yn myn'd i roddi ciniaw benigamp i'w gyd- aelodau, a daw Mr. Balfour ei hun ynghyd ag amryw ereill o fawrion y blaid Doriaidd i'r wledd, as y mie y rhan luosocaf o'n hael- odau wedi derbyn gwahoddiad Mr. Pryce- Jones. Wrth gwrs, awr lawen fydd hon, ac alltudir pob culni gwleidyddol o'r wledd. Bydd yn ddyddorol i weled a Iwydia yr aeiodau i argraphu ar farn Mr. Balfour syniadau uwch am y blaid Gymreig a'i chenhidaeth. Os oes rhyw les mewn ciniawau, dylai hon wneyd cymaint a hynyna.

EMYN DIOLCH

[No title]