Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
6yd y Iplllll Ban. c/
6yd y Iplllll Ban. c/ Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] "DINYSTR POMPEII." Dyma enw y darn, am ganu pa un y bydd y corau meibion yn ymgeisio am wobr yn Eisteddfod bwysig y Queen's Hall, hefyd yn Eisteddfod Genedl- aethol Llanelli. Bu y pwyllgor yn ddoeth i gael yr un darn i gystadlu arno ag a geir yn yr Wyl yn Llundain, a thebyg y bydd y mwy- afrif o'r corau fyddant yn canu yn y naiil Wyl yn canu yn y llall. Gan ei fod yn ddernyn gwobrwyol yn Eisteddfod Merthyr, y mae hyny ynddo ei hun yn ddigon obrawf o'i deilyngdod, heb i ni fanylu ar ei wahanol ranau. Hwyrach y bydd yn fwy buddiol i'n darllenwyr yn gyffredinol pe dodem yma eiriau y darn: gwelant felly y fath gyfle sydd ynddynt i ddesgrifio ar gan —o ba gyfle y mae'r cyfansoddwr wedi man- eisio i'r eithaf eisio i'r eithaf Symudiad laf. Y mynydd oedd yn oysgu, Ac yn breuddwydio'n drwm A natur yn mwynhau ei hun Ar hyd y creigiau llwm. Diddial oedd ei fynwes, A siriol oedd ei nen A chanai'r awel hyd yr hwyr Ei salmau ar ei ben. Ail symudiad. Y ddinas gynhyrfus i lawr wrth ei odreu Ymlonai yn ddifyr heb galon yn nin Llawenydd a glywid 0 fewn y palasau, A'i moethus benaethiaid yn feddw gan win Gweryrai y meirch ar heolydd o f armor, A'u ffroenau yn mygu, eu llygaid yn dan Gogoniant Italia, ei balchder a'i thrysor, Lie dawnsia ysbrydion gorfoledd a chan. 3ydd Symudiad. 0 gyndyn ddinas! dy anuwioldeb mawr Seliodd dy dynged, a daw dy rwysg i lawr. Prysuso mae'th ddiwedd, a chyn toriad dydd, Vesuvia ffiamia I a, Pompeii mwy ni fydd. 4ydd Symudiad. Ust! mae cynhwrf yn y mynydd, Crynu mae ei galon gref: Y mae angeu ar y creigydd, Ac mae difrod yn y nef. 5ed Symudiad. Mae'r storm yn curo'n gynt yn gynt Fel oawod danllyd ar ei hynt. Ffown! rhag y tan a'r distryw, Ffown rhag y marwol ddiluw. 6ed Symudiad. Rhy hwyr y tan sy'n trechu, Rhy hwyr! ein nerth sy'n pallu. EPILOGUE Mae soriant yr lor tuhwnt i bob dirnadaeth, Ofnadwy Ei lid, a'i farnau yn farwolaeth Mae'r ddinas yn fud, yn lludw aath ei choron, Ei balchder a'i chlod orweddant yn adfeilion! 0 dynged ddu I Ofnadwy Farn Y mae egluro y geiriau rhagorol hyn o eiddo Dyfed, ar gan, yn orchestwaith, fel y cydnebydd y darllenydd ac i'n tyb ni, y mae'r gerddoriaeth yn ddeongliad byw o'r farddoniaeth. Edrychwn ymlaen at yr adeg pan y cawn wrandaw ar ddadganiad o'r darn hwn yn y Queen's Hall, a chynghorwn bawb, ag a allant, fanteisio ar yr un cyfle. RUSKIN FEL CERDDOR. I lawer, bydd yn syndod clywed fod y beirniad celfyddydol coeth hwn yn gerddor; ond, yn ol yr hyn a ddarllenwn yn Good Words, yr oedd Ruskin yn un o ddilynwyr cywir Duwies y gan. Pan yn Oxford, byddai yn cymeryd gwersi mewn cerddoriaeth; ac ni roddodd hwynt i fyny ar ol gadael y Brifysgol. Yr oedd yn meddu llais soniarus, yr hwn oedd o dan reolaeth dda. Hoffai donau digrifol. Unwaith mynai i Syr Edward Burne-Jones fyned gydag ef i wrandaw ar y Christy Minstrels, a rhaid oedd aros hyd y diwedd, gan fel y mwynheid antics a chanu y gwyr ducn ———— Ar ol difyrwch cerddorol, gofynai am ryw- beth mwy sylweddol mewn cerddoriaeth. Hoffai hen alawon Seisnig, Ffrengig ac Ys- gotaidd; hefyd, gerddoriaeth llillrnynaidd. Haydn a Mozart a ddosberthid ganddo gyda'r Italiaid: a Handel gyda'r hen standards oedd- ynt i'w hedmygu. Mendelssohn nis gallai ei oddef. Nis hoffai chwareuad di-deimlad; ec ni chaffai y brilliant young lady pianist" groes- awiad ganddo. Am y cyfansoddwr Corelli meddyliai yn uchel, a phrynai yr oil a allai gael o'i gerddoriaeth ef; ond druan o Corelli, y mae bron wedi ei anghofio, er cymaint ydoedd hoffder Ruskin o hono I Oddeutu'r flwyddyn 1880, ac am ysbaid o ddeng mlynedd ar ol hyny, byddai Ruskin yn cyfansoddi man ddarnau; ond er ei holl ymgais, ac er ei fawr hoffder o gerddoriaeth, nid oedd yn y gwr mawr hwn ronyn o dalent y cyfansoddwr.
YMWELIAD CYMRO A'R AMERICA.
YMWELIAD CYMRO A'R AMERICA. Yn y Chicago Journal am y 24ain o Fedi, ceiryrerygl isod, yr hon, yn ddiau, a ddar- llenir gyda bias gan lu mawr o edmygwyr Mr. Williams yn y Brifddinas :— "A BRITON'S BOAST. u Mr. Howell J. Williams, member of the London County Council, is a guest in the city. The English alderman merits at- tention. "Mr. Williams has given an interview to the press in which one feature stands out conspicuously-his pride at being a member of a city council. Mr. Williams is a builder of reputation and a man of wealth and position. But his chief boast is that he is a county councilman. He evidently believes that an honour which overshadows all else. The London County Council, the governing body of the metropolis of England, has come to be regarded as second only to the House of Commons. Membership in the council is regarded as proof of worth, ability, and popularity. The aldermen draw no pay. They consider the honor of the office sufficient compensation for their public services. "We have Mr. Williams' word for it that bocdlirg is unknown in the English municipal legislature. Applications for franchises are decided upon their merits. The nuestion is not What is there in it for us ?" but What is the best for London ?" Mr. Williams has been taught to believe that it is a great honour to be a member of the council. At home and abroad he holds his head higher because he is such a member. "But in Chicago it is different. Only a few years ago it was considered a reproach to be an alderman. Even to-day, under the greatly improved conditions, it is not con- sidered any exceptional honour to sit in the city council. A certificate of election to Chicago's council is not in itself an invitation into good society. Yet the Chicago council rules a city of 2,000,000 souls-a city greater in wealth and power than some nations of the old world. Why should it not be as great an honour to sit in the council of Chicago as in the governing body of London ? Why should not the council of Chicago be as free from suspicion as the council of London ? Are the men of Chicago not as good as the men of London ? Should not interest in the public good be as great in Chicago as in London ? Should an Englishman have more cause to boast of his certificate of election than a Chicagoan ? 11 Wake up to your duties and opportunities, Mr. Good Citizen. Lead the way yourself. Do not leave to others what you are unwilling to do yourself. i( The city council offers a field for the most abl,"
[No title]
Mae tair rhan o bedair o boblogaeth Cymru yn byw yn y Deheubarth. I Lerpwl yr ymfuda Cymry'r Gogledd fel rheol, tra mai i Lundain y tyra gwyr y Sowth. Amgylchiad pwysig yn y byd cerddorol yr wythnos ddiweddaf oedd ymddangosiad Mr. Edward Lloyd, y tenorydd byd-enwog, yn yr Albert Hall, Llundain. Os gwnaeth streic y glowyr golled i fasnach America, mae'n eglur ei bod wedi bywiocau cryn lawer ar fasnach Cymru. Cwyno mae'r amaethwr y dyddiau hyn eto ar y tywydd er hyny, cafodd gynhauaf da iawn eleni. Nid yr Ymneullduwyr yn unig sydd yn cwyno yn erbyn y Bil Addysg, ond mae nifer o Eglwyswyr gonest yn gweled ei anhegwch, ac yn barod i'w gondemni hefyd. Mae'r Daily News wedi gweithio yn galed ar ran chwarelwyr Bethesda oddiar gychwyn- iad y streic a'r dyddiau hyn, mae eu hym- drechion ar eu rhan yn dwyn ffrwyth lawer. Cwyno mae pobl arianog Deheudir Affrica am fod trethoedd wedi eu gosod ar aur- gloddiau y wlad. Daw'r arweinwyr Boeraidd ar ymweliad a'n gwlad eto, er cael siarad a Mr. Chamberlain am gyflwr truenus eu cydwladwyr ar ol y rhyfel.
Advertising
EGLWYS DEWI SANT PADDINGTON. A GRAND Evening CONCERT AND MALE VOIOE CHORAL COMPETITION PRIZE £50 AND A GOLD CORONATION MEDAL, The Gold Medal value C7 7s. will be presented by Messrs. Elkington & Co., Ltd., 22, Regent Street, London, Goldsmiths and Silversmiths to His Royal Highness the Prinoe of Wales. WILL TAKE PLACE AT THE QUEEN'S HALL, LANGHAM PLACE, LONDON, (Under the Patronage of T.R.H. The Prince and Princess of Wales). ON NOVEMBER 27, 1902. TEST PIECES- (a) The Word went forth "-Mendelssohn. (b) The Long Day Closes" -Sullivan. For particulars apply to Secretary, DAVID JONES, 42, Oxford Gardens, Notting Hill, W. MR. MADOG DAVIES, A.R C.M. GIVES LESSONS IN Voice Production and Solo Singing ADDRESS— 156, PRINCE OF WALES ROAD, HAVERSTOCK HILL.