Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Winning Numbers OF the PRIZE DRAWING held at the Farmer's Arms, Cwmbaeh, on July 31st. 1.—254. 2.-113. 3.-172. 4.-218. 5.-159. 6.-23. 7.-100. Drawn in the presence of JOHN ROBERTS. DAVID DANIEL. Eisteddfod Tabernacl, Treforis. YNELIR yr EISTEDDFOD FLYNYDD- C OL eleni fel arfer, yn y lie uchod, ar DDYDD NADOLIG, 1882. Beirniad Eos MORLAIS. Y manylion i ymddangos yn fuan. 2692 Rrips JONES, Ysgrifenydd. PHOTOGrKAPHS. DYMUNA DAVID MORRIS (diweddar o 33, Commercial-street, Aberdar) wneyd yn hysbys i'w gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod wedi agor lie helaeth a chyfleus at wneyd DARLUN- IAU yn 65 a 66, WIND-STREET, ac am brisoedd rhatach. 2684 Eisteddfod Iforaidd Adran Nant-y- glo a'r Brynmawr, Medi 18, 1882. PRIF DESTYN CORAWL, The heavens JL are telling gwobr, 15p. i arweinydd y c6r buddugol, 2p. I'r tri a ganont yn oreu y triawd, 3p. Beirniad,-Ap HERBERT, Llundain. Y programmes yn awr yn barod. 2695 D. BOWEN, Abercarne, Ysg. "i& AT GERDDORION. ALLAN O'R WASG, y ddau nodiant yn nghyd, pris chwech cheiniog, "'Rwy'n myned adref," citn newydd i DENOR, gan EOS BRADWEN. Pob archebion i'w danfon i JOHN JONES, poin- ter, Llanerchymedd. Telerau arferol i lyfrwerth- wyr. 2694 BWRDD Y GOLYGYDD. DALIER SYL W. — Oherwydd• ein bod yn myned i'r wasg mor gynar, dymunwn yn barchus ar ein gohebwyr caredig i drefnu i ni gael eu cynyrchion foreu dydd Sacl- wrn, am y byddai hyny yn rwyddineb mawr i ni, ac yn sicrhau cyhoeddusrivydd prydlawn i'r eiddynt. Y MAE yma amryw lyfrau i'w hadolygu, y rhai a gant ein sylw mor fuan ag sydd bosibl. GWAWR DYFFRYN ac AMANYDD.— Dylasech anfon eich adroddiadau i fewn yn gynt. RHYSYN JOE.-Annerhyniol. Chwareu teg ar lawr," gyfaill. GLOWR BYCHAN.-Yn y rhifyn nesaf. EIN TELERA U. Danfonwn y GWLADGARWR gydar post ar y telerau canlynol s. c. Un GWLADGARWR, y chwarter 1 8 Dau 2 9 I America, < £ •«., y chivarter 1 8 Taliadau i'w gwneyd bob amser yn mlaenllaw. Danfoner stamps at—WAITER, LLOYD, Gwlad- garwr Office, Aberdare, Ni wnawn sylw o unrhyw ohabiaethau,. &c., fwriedir i'w cyhoeddi, os na chyfeirir hwynt fel y canlyn To the Editor, Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pob archebion, taliadau, a llythyrau masnachol i'w danfon i Walter Lloyd, Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pob llyfran, &c., i'w hadolygu i'w danfon i Mr. T. E. Davies, (Dewi W yn o Essyllt), Pontypridd. f 1 fT ARWYDDAIR FO REYDDID POB GRADD RED NA (, LLADD NA LLID.
OCHR Y SIOPWR YN LLYS Y MAN…
OCHR Y SIOPWR YN LLYS Y MAN DDYLEDION. GAN fod y Barnwr B. T. WILLIAMS, Q.C., wedi datganu ei syniadau mor gryf ac mor groew yn ffafr y dyledwr, tybiwn nad yw ond peth cyfiawn i'r credydwr neu !y mas- nachwr gael siarad gair mewn ffordd o amddi- ffyniad i'w iawnderau yntau. Pe byddai ein barnwyr sydd yn eistedd ar faine y County Court yn ddynion profiadol-yn ddynion ag a fyddent wedi bod yn ymwneyd a masnach, ac yn gwybod rhyw ychydig am helbulon, beichiau, colledion, a chyfrifoldeb y mas- nachwr, byddai yn dda genym roddi clust o ymwrandawiad iddynt, ac yr ydym yn sier y byddai eu hystori yn dra gwahanol i'r peth ydyw yn eu sefyllfa bresenol. Nid ydym mewn un modd am haeru nad ydynt yn siarad yn ddigon cydwybodol, yn ol y wybodaeth ymarferol sydd ganddynt am drafodaethau masnachol; ond siarad oddiar ddamcaniaeth (theory) yn unig y maent, a gwyddis fod gwa- haniaeth mawr rhwng y siarad a gyfyd oddiar ddamcaniaeth a'r siarad a gyfyd oddiar ymar- feriad (practice) personol. Oddiwrth y sylw- adau sydd yn disgyn yn awr ac eilwaith oddi- ar y faine farnol, gellid tybied fod y siopwr neu y masnachwr yn gwthio ei nwyddau ar y cwsmer, o dan yr ymwybodaeth a'r hyder fod peirianwaith wrth law er codi ei arian pe gomeddai y cwsmer dalu. Y mae y dyb hon yn un hollol gyfeiliornus. Nid yw y siopwr yn gwthio ei nwyddau ar neb o gwbl, a gellir bed yn ddigon sier mai un o gas-bethau y siopwr yw gorfod ymddangos, er ceisio codi ei arian, mewn llys mor drafferthus a dieffaith iddo ef ag yw y County Court. Arian ar law a ddymunai y siopwr gael, ac os ydyw yn rhoddi coel, ei roddi mae o drugaredd at y cwsmer, yr hwn nad oes ganddo fodd yn y byd i gael tamaid o fara yn un ffordd arall. Yn awr, pe gomeddai y naill siopwr ar ol y Hall roddi coel i'r dyn hwn nad oes ganddo ddimai yn y byd tuag at brynu angenrheidiau bywyd, i ba le y mae yn meddwl troi ei wyneb yn ei gyfyngder ? At bwy y mae yn meddwl apelio am nawdd a chynorthwy ? Ai at y plwy' didosturi, neu aty boneddwr calon- galed sydd yn byw mor foethus yn ei ymyi ? Gan Dad at ba un ohonynt y troai, yr ydym yn sier y gwelai wahaniaeth dirfawr rhwng quantity a quality y fare a dderbyniai oddiar eu Haw hwy i'r fare a fyddai yn arfer ei der- byn mor ddiad-daliad oddiar law y siopwr, yr hwn, wedi ei holl gydymdeimlad a'i garedig- rwydd, y ceisir drwy bob ystranc a thwyll osgoi ei dalu,—M, yr hwn, oherwydd anonest- rwydd ei gwsmeriaid, sydd yn gorfod cyfranu bob blwyddyn fwy o werth arian tnag at ddi- wallu angenrheidiau bywyd ei gydblwyfolion, yn neillduol yn y gweithfeydd, nag unrhyw ugain trethdalwr cyffredin yn nghyd. Nid yw ond peth cyffredin i fasnachwr neu siopwr canolradd i gael ei ysbeilio, ar gyfartaledd, o lOOp. bob blwyddyn; ac eto, y mae efe yn rhwym o gyfarfod a'i ofynwyr ac i wneuthur hyny, ac i lenwi y bylchau hyn i fyny, y mae yn gorfod gweithio yn galed wrth ryw alwad neu broffes arall, neu fyned yn fethdalwr. A pha ryfedd, yn ngwyoeb y colledion mawr a pharhaus y mae yn gorfod eu dwyn oherwydd anonestrwydd, ac yn ngwyneb annghydym- deimiadrwydd barnwyr ac ereill, a'i amgylch- iadau, ei fod yn myned yn fethdalwr ? Ac yn gyffredin iawn, pa un bynag ai picnic, excur- sion, neu danchwa a fyddo yn cymeryd lie, y siopwr sydd yn gorfod dwyn y baich. Y mae yn gorfod talu rheut drom am ei anedd-dy a'i fasnachdy, ac yn gorfod talu trethi plwyfol a .gwladol fel ereill, ac at hyny, yn gorfod dwyn holl feichiau anonestrwydd cwsmeriaid drwg eto i gyd, ni cheir cymaint a gair o gydym- deimlad o lys na swyddfa, fel pe byddai y nwyddau ymae yn eu gwerthuyntyfu ohonynt eu hunain yn ei ardd, neu fel pe byddaiganddo chwarellle y gallai eu cloddio allan yn rhad ac am ddim, pan, mewn gwirionedd, y mae y nwyddau sydd ganddo yn ei fasnachdy yn costio yr un ffigiwr iddo ef ei hun, o fewn i haner coron y bunt, ag y maent yn gostio i'r cwsmer sydd yn eu prynu ganddo ac eto, dyma y person y dywedir wrtho yn fynych gan awdurdodau y County Court, Paham y darfu i chwi roddi coel cyn belled ?" Ond y mae hwn yn gwestiwn hawddach i'w ofyn na'i ateb—yn ddrwg hawddach i'n rhybuddio rhagddo nag i'w osgoi a'i ochelyd,-ac yn gwestiwn ag sydd ar unwaith yn profi mor lleied a wyr gwýr yr arian rhwydd-c-gwýr yr uchel-leoedd—oddiwrth drafodaethau mas- nachol, ac am yr hud, yr hoced, y twyll, a'r mil dyfeisiau a chastiau a arferir gan bobl i dynu nwyddau oddiwrth y siopwr, gyda'r bwriad a'r amCnll o beidio talu byth am danynt. Aed y siopwr i'r clawdd neu y ffos, i'r tlotty neu y lunatic asylum, ni waeth ganddynt hwy, ac ymddengys i ni nad yw yn rhyw waeth lawer gan neb arall ag yr ydym yn talu yn ddrud iddynt am amddiffyn ein hawliau a'n hiawnderau. Ymddengys i ni nad oes yr un feddyginiaeth rhag yr an- onestrwydd masnachol y cwynwn o'i blegyd ond yn unig drwy gyduno o holl siopwyr gwlad a thref i beidio rhoddi coel i neb, ac yna, ni fyddai yn rhaid wrth y fath beirian- waith costus a thrafferthus ag yw y County Court, nac yn rhaid wrth farnwr, cofrestr- ydd, na chlarcod ychwaith, canys ni fyddai dim iddynt i'w wneuthur wedi hyny, ac fel canlyniad, byddai miloedd meithion o bun- oedd, mewn ffordd o gyflogau, yn cael eu harbed bob blwyddyn,—y cwsmer, hefyd, yn fwy cymedrol a chynil, a'r siopwr yn fwy didrafferth a dedwydd. Pwy na ddymunai weled y gyfran hon o'r Milflwyddiant yn dyfod i fewn ? Dywedai rhyw lowr neu lafurwr yn ddi- weddar wrth y Barnwr dysgedig nad oedd efe yn enill mwy na 10s. yr wythnos ar gyfartaledd A ydyw yn bosibl fod neb yn gallu credu ystori mor annhebyg i fod yn wir ? Gallwn sicrhau i'r Barnwr dysg- edig na enillwyd, ar yr amser fwyaf wasgedig ar fasnach y glo, lai nag o 16s. i lp. yr wyth- I nos a gellir sicrhau fod pobl yn enill mewn rhai glofeydd, ar y pryd presenol, o lp. 10s. i 2p. yr wythnos a gellir yn hawdd porofi fod un penteulu yn y gweithfeydd glo a haiarn yn gwario mwy na deg swllt yr wyth- nos ar ddiodydd meddwol a thobaco yn unig. A gallem sicrhau yn mhellach, y gallai pob llafarwr pwy bynag dalu ei ffordd y dyddiau hyn, oni b'ai afradlonedd ac an- nghymedroldeb ac y mae yn resyn meddwl fod y masnachwr yn gorfod dyoddef, nid oherwydd tlodi, fel y camdybia rhai, eithr oherwydd annhrefn ac annghymedroldeb yn unig. Down at y pwnc hwn mewn rhifynau dyfodol eto.
Y RHYFEL YN YR AIFFT.
Y RHYFEL YN YR AIFFT. Newyddion o Alexandria, dydd Iau, a'n hysbysant fod pethau yn dawel iawn yno y diwrnod hwnw. Yr oedd ein ham- ddiffynfeydd yn Ramleh wedi eu gwneyd mor gryf fel nad oedd ond ychydig yn rhagor i'w wneyd, tra, can belled ag y gellid gweled, nid oedd dim yn myned yn y blaen yn llinellau y gelyn. Yr oedd yr oil yn rhagddarogan y tawelwch dir- wasgol sydd yn rhagflaenu ystorm. Cyrhaeddodd y gludlong ysblenydcl Orient yno, gyda'r Dug o Connaught a'i staff ar y bwrdd, a bataliwn o'r Scots Guards. Talodd ei Uchelder Breninol a'i staff yrnweliad a'r Llyngesydd Syr Beau- champ Seymour ar fwrdd yr Helicon yn union ar ol cyrhaedd, ac ar ol hyny, ym- welodd a Syr A. Alison ar y lan. Nid oedd y Guards eto wedi glanio, ac yn ol y trefniadau, yr oeddynt i aros ar fwrdd yr Orient hyd dranoeth. Derbyniasid newyddion hyd y 6ed o Cairo, fod pobpeth yn dawel yno. Yr oedd Osman Bey a Refaat Bey wedi cyr- haedd yno o'r brif-ddinas, ac yn ol eu hadroddiadau hwy, er fod y ddinas yn dawel, eto yr oedd llofruddiaethau yn parhaus gymeryd lie yn y pentrefi cylch- ynol. Ar un amgylchiad, gwelsant Sais yn rhedeg i'r looking-office yn Benah, er dianc rhag ei ymlidwyr. Daliwyd ef yno, a lladdwyd ef. Ca Arabi gryn drafferth i gadw yn mlaen drafnidaeth ei reilffordd. Metha gael digon o lo, ac y mae annghydfod yn mysg swyddogion y rheilffordd. Ychydig ddyddiau yn ol, darfu i Arabi ddiswyddo Mr. Garwood, arolygydd yr ager-beir- ianau, gan osod yn ei le ei ddewis-ddyn Ismail Bushnag. Ar hyn, ymadawodd yr holl swyddogion Ffrengig, gan adael Arabi i weithio y traffic goreu y gallai gyda'i ganlynwyr brodorol. Ar y dyddiad uchod, apwyntiwyd Raouf Pasha gan y Khedive yn Lywodr- aethwr Suez yn lie y llywodraethwr blaenorol, yr hwn oedd yn ddilynydd cryf i Arabi, Bu Raouf o'r blaen yn Lywodraethwr Suez, ac felly ni fydd yn estron i ddyledswyddau y lie. Darfu i for-filwr o r enw Johnson, yr hwn a glwyfwyd yu yr ymgyrch ddydd Sadwrn, farw y nos flaanorol. Y mae y lleill yn parhau i ddyfod yn mlaen yn ffafriol er holl anfanteision yr hinsawdd. Hysbysir fod tri arall wedi marw oddi- wrth niweidiau a dderbyniasant yn yr ymgyrch ddydd Sadwrn, sef J. Broad, J. Mann, a Spiers. Y mae y lleill o'r clwyfedigion yn parhau i wella. I fyny hyd ddydd Gwener, yr oedd pethau yn dawel iawn yn ein llinellau yn Ramleh, ac yr oedd pethau yn yr un cyflwr yn mlaen-linellau y gelyn, ac ym- ddengys ei fod ef yn foddhaus ar y daearweithiau a daflodd i fyny yn barod. Dywedir eu bod wedi eu cynllunio a'u cario allan yn dda. Naill ai y mae Arabi yn beirianydd milwrol o gryn allu, neu y mae ganddo gynghorwyr da. Dug Connaught oedd yn tynu sylw yn Alexandria dydd Gwener, ac aeth ei Uchelder Breninol yn foreu i fwrdd yr Helicon, lie y brecwastiodd gyda y Llyng- esydd Seymour. Ar ol hyny, ymwelo i y Dug a'r safleoedd Prydeinig yn Ramleh, a datganai ei edmygedd at y medr a ddangosasid wrth godi gwrth- glawdd y tywod o flaen Ramleh yn linell amddiffynol o'r radd flaenaf. Y mae adg-yfansoddiad y Weinydd- iaeth Aifftaidd ar gymeryd lie. Cherif Pasha fydd y Prif-weinidog, Soliman Pasha fydd a gofal Adran Addysg, tra y bydd Sherca Pasha yn Weinidog Cre- fydd. o Port Said, hysbysir ni fod pobpeth yn dawel yno. Eto, credir ein bod ar drothwy dygwyddiadau pwysig. Y mae Llywoclraeth Prydain newydd gwblhau pwrcas pwysig, sef gwesty mawr a berthynai yn flaenorol i'r diweddar Dywysog Henry o'r Netherlands. Medd- ylir mai amcan ein Llywodraeth yn y pryniad hwn yw troi yr hotel yn glafdy yn ystod y rhyfelgyrch presenol. Y mae nifer ein rhyfel-longau yn Port Said yn cynyddu yn ddyddiol. Ni ddysgwylir yn awr y bydd i un mudiad pellach gael ei wneyd yn erbyn y gelyn hyd nes y1 glania Syr Garnet Wolseley a'i staff yr hyn yn awr a gymer le yn dra buan. Pellebryn o Alexandria, yn hwyr nos Sadwrn, a'n hysbysa fod glaniad y Dug o Oonnaught a'r Guards wedi creu cyffro mawr yn mysg y boblogaeth Ewropaidd, ac wedi rhoddi boddhad neillduol i'r Khedive. Y diwrnod cyn hyny, yr oedd yr Orient wedi dyfod i'r porthladd gyda'r Scots Guards, y Batavia gyda'r 2nd Grena- diers, a'r Iberia gyda'r 2nd Colddreams. Glaniodd y Scots Guards a'r Grenadiers prydnawn Sadwrn er myned yn mlaen i Ramleh, Ymdeithiodd y ddwy gatrawd o'r dociau i Sgwar Mehemet Ali-un yn cael ei blaenori gan y fife and drums, a'r llall gan y land cyfiawn. Wedi eyihaedd y sgwar, aeth y ddwy gatrawd i'w gwa- hanol fanau, ond y maent eto i gyfarfod yn Ramleh. Yr oedd miloedd o Arab- iaid ac Ewropiaid ar ochrau'r heolydd. Yr oedd y brodorion yn synu wrth yr olygfa o gorff o ddynion mor wahanol me-wn maint ac ystum i ddim a welsent o'r blaen. Yn mysg Ewropiaid nid oedd ond un farn gyda golwg ar ymddangos- iad milwrol y corffluoedd ardderchoo- hyn. Ymddengys fod y Dug o Connaught wedi enill serch ac edmygedd y Khedive yn fawr, yn nghyd a'r gynghorfa is- raglawiaethol, trwy yr ymweliad a dalodd a'r milwyr clwyfedig Seisnig ac Arab- aidd. Gadawyd argraff ar feddwl y Khedive o'r penderfyniad a'r cydym- deimlad a ddangosir gan Loegr, ac ystyria fod y ffaith fod y Guards yn cael eu llywyddu gan fab y Frenines yn brawf nodedig o ddyddordeb Lloegr yn yr Aifft. Y mae amryw gynghorfeydd rhyfel wedi eu cynal oddiarglaniady Caclfridog Adye. Dysgwylid y Calabria dydd Mawrth, ac ar ei bwrdd Syr Garnet Wolseley a'r Life Guards. Y mae y Sultan wedi cyfarwyddo i ychwanegiad gael ei wneyd at y pro- clamasiwn yn cyhoeddi Arabi yn wrth- ryfelwr oddigerth yr ymostynga, ar y tir ei fod wrth wrthseiyll yn gweithredu yn groes i wersi y Koran. Cysylltir cryn bwysigrwydd a hyn. Hysbysir y Central News fod y Pwerau mawrion yn ddieithiiad yn ategu demand y Saeson am i Arabi gael ei gyhoeddi yn wrthryfelwr. YMWARED I FRODORION YR AIFFT. Yn ngwyneb fod y newyddion wedi cyr- haedd y wlad hon fod cryn lawer o blinder a chaledi yn mysg y brodorion yn Aiexaudria, Port Said, a'r Aiffc yn gyffredinol, y mae y St. John Ambulance Association wedi anfon allan gylchlythyrau yn apelio am wirfoddol- ion o blith boneddigesau yn dal tyst-ysgrifau y gymdeithas i fyned allan fel ymwelwyr yn mysg y tlodion. Y mae'l' Is-iarlles Strang- ford wedi cydsynio i fyned allan i ofalu am danynt, ac y mae y Cadfridog Burnaby, A.S., wedi gwirfoddoli ei wasauaath i gynorthwyo, gyda boneddigion ereill, yn y gwaith o drefnn materion lleol yn yr Aifft. NEWYDDION DIWEDDARAF Prydnawn dydd Sal diweddaf, pan oedd Arglwydd Charles Beresford, yn nghyd a pharti o forwyr a mor-iilwyr, ynllygad-olrhain Ireconnoitering) pentref cymydogaethol, gwoaeth catrawd gyfan o Bedouiniaid a bataliwn o regulars Arabi eu hymddangosiad tu ol i dywodfryniau ar y tu gorllewinol, gan ddynesu o fewn 1,000 o latheni i'n gallu bychan. Yr oedd Arglwydd Oharles Beres- ford i fyny i'r achlysur. Gollyngodd ychydig rounds o'r seven-pounders atyut, yr hyn a'u gwasgarodd yn fuan gyda cholliarl bywydau, fel y bernir. Ni laddwyd ac ni chlwyfwyd un o'r cwmni Prydeinig, Cyrhaeddodd y cludlongau Orantes a Hol- land Alexandria boreu dydd Llun diweddaf. Yr oedd ar fwrdd yr Orantes rangorft' o'r 1st Life Guards, yn nghyd a'u ceffylau. Ar yr agerlong Holland oedd y 79th Cameronian Highlanders a llinell-fataliwn. Cyrhaeddodd y Guards yn eithaf iach eu cyflwr. Pellebra gohebydd y Morning Post yn Alexandria fod Arabi Pasha yn wael iawn ei iechyd.
[No title]
Y MAE yr hen batriarch Gwerydd ap Rhys Bangor, newydd gyrhaedd ei 76ain mlwydd oed y mis diweddaf.
Advertising
Art Union Prize Drawing y Cardiff Castle Coffee Hotel, Aberdar, ER budd i weddw ac amddifaid y diweddar Mr. John James, manager, Fforchneol, gynt o B wll Als. Oymer y Drawing le Hydref 16eg, 1882, dan nawdd prif foneddigion yr ardal (gwel y toc- ynau). A gaulyn yw rhestr y gwobrwyon :— l.-WYTH GINI ( £ 8 8s. Oc.). 2. Patent Lever Watch 8. A good Shawl 3. Chest-of-Drawers 9. Tea Service 4. 4 vols. Encyclopcedia 10. Alarum Clock 5. 20 parts Credoau'r Byd 11. Silk Umbrella 6. 10 yds. Welsh Fiannell2. Meerschaum Pipe 7. 1 doz. Knives & Forks, A 30 o bethau ereilL Tocynau,—OH WIT CHEINIOG yr un. Dychweler llyfrau, yn nghyd a'r arian, i'r Ys- grifenydd cyn, neu ar ddydd Llun, Hydref 2il, 1882. Cyhoeddir y ffigyrau llwyddianus yn y South Wales Daily News, Western Mail, GWLAD- GARWR, a Thanan y Gweithiwr. Cadeirydd-Mr. THOMAS WALTERS. Trysorydd —Mr. WILLIAM THOMAS, 8, Wayne-street, Aber- dare (a hyny yn lle Mr. John Lake, fel y gwelir ar y tocynau. Ysgrifenydd, Mr. GEORGE WIL- LIAMS, 12, Meirion-street, Trecynon, Aberdare. Anfmwch am lyfrau, 2680
Tys tiola etllau Picysig
Tys tiola etllau Picysig I QUININE 15ITTERS GWILYM EVAJSS. Bryiibyfi-yd. ger Abertawe r\'n-wy^ ^y.r- — ydwyf wedi bod yn gwerthu y Sjuimiie am r«,i biynyddau beilach. Y maent wedi gwneyd Lav.-ej o les yn yr ardal yma, ac y mae dytoaiad dysglaer i«?<iyi: r- Yr ydwyf wedi sylwi yn iaaol ar ei; Iioffaish ar waliano bcrsonau, ac yr y, \if wedi gweled rhai o'r dolur- xau gwa^thaf a alJai neb ddych.> mygu yn cael eu llwyr well ha u trwy ddefny-kii., y i^eddrgSyn yma. Y mae plant 0 bob oedran, d vuiou ieiianc a hen, gwragedd a memhed, oil yn ty,tiolaethu i'w heffaith daionus. Y mae yn drueci na ellid en darostwng ychydiy yn eu pris, heb wanychu eu nenaii, gan rod cauoedd o bob! weinion yn sycheda am dieio ei jieil'iiith, ond eto iieb fodd i wneyd hyny.—\ r eiddoch j 11 serehog. "ISAAC OWEN. From Griffith William.?, Llanerchymedd Angle- SCtJ. Syr-Da genyf gi.ei y cvfleusdra i anfon gair o ganmoii'ieth i cu v I: yn daerbymol iawn yn y gymydogaeth hon. Gwertbaw lawer ouonynt yn yst,>d y bivnyddaa diweddax, ac y mae y ga.wa-i arnyut yn parhau ;fs nioauygmiaeih yn debv» iddynt at wekier ysbryd. diiFyg train, .lychlamiad- au y gaioiij a chur yn y pen. \reiddoc!i yn v/i Medi 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS. From iJh. Joh,t Lluujd (loan Cyrjig), Mynydd Syi-Bu'rn vn dyoddef ilawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, lseider ysbryd, ditfyg arch* aeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blinder mawr. PriTiais KS TT M "'Idr-vitJi. iiichard Jenkins^ Kenh,; Hnl, ac ar OL I mi e. chymeryd, teimlais fy ^un.wed' aufeiyd i ni lecnyd arferol, ac vn alluo" 1 ndilyn fv ngfi[wedigaetb. Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i ereul a thystiolaetli y rhai hyny yw ell hod wedi derbyn lies annhraethol trwyddynt, a bvddaf yn ^tei.nlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser lei trysor penaf y teulu. From the Rev. J. ll. Williams (Brynfj.rdd) Head Master of ihe Dowlais Grammar School. To Mr. Gwiiyni Evans. Dear Sir —The wonderful efficacy of your • Qaimne Litters to restore health and vigour after lingering illness and debility, lias beenrecent- sufficiently proved by my family, and elicits this voluntary and conscientious testimony from me for the benefit ot others. From J Ellis Edwards M.R.C.S. L.S A. &c Saint Clears Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,—Having been so frequently asked hx, my patiects as to the desirability of taking your Quinine Bitters, I have for the last two yea~ given it a fair trial, and find it, without exception the most pleasant and effectual means of admin' istermg that remedy. m" (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S. L.S.A. Testimonials of the most flattering nature hav« been recently received from Mr JWnh TJT W. H. Ihomas, Dowlais Mr. John Fran^' rexhaxn Mr. Myrddin DavIes, Swansea; Mr. '-jh G. Hughes, Holyhead; Mr. W Aboraman; Mr. E. P. Wynne, Abervstwvfh' Mr. Jones, St. Asaph Mr. D. Evans,^ CemlS/ Montgomeryshire; Mr. J. P. Jones, Aberayron' all chemists and gentlemen who have every facilitv for testing the respective merits of different nre parations offered to the pubUc by advertisements and other means. 1\fr. Watkin J. Thomas, Chemist, Aberdare, Aug. 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr Gwilym Evans, F.C.S., Manufacturing- and Analytical Chemist, Llanellv. Llangadoek, August 15, 1880. «De«rnS-r-~I ^4.hapl?y-t0 state that sale of the Quinine Bitters "is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects and very lately two very distinct and remarkabi" cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of nvpochoudria, pure and simple. It is one of the few patients I strongly believe in. Yours &c., E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Peny. groes, North Wales. T 1 4. i „ ,AllSust 26th, 1880. .1 "ave taken your "Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arisine therefrom, liie benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. r .v SePt- 27th, 1880. I certify that the preparation known aa "Gwilym Evans's Quinine Bitters "is quite free from mineral, and that the ingredients contained in it are mixed in the most suitable proportions to ensure its success in cases of Indigestion and Debility. (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Office, Tre- lech. AT J a- AUT 1- SePt. 15th, 1880. My dear Sir,-Although you must be overload- ed with testimonials m favour of your now celebrated Quinine Bitters," yet I considered !t my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those o my customers who have truly proved its renovating properties always taka one, two, or three bottles thereof (as the case mav require), every Spring and Autumn, testifyine- that they derive much more benefit thereby than they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many years and find the demand for it in this part continnaUv ncreasing. Tne last supply arrived safely. Sept. 4th, 1880. Mr. O. Isgoed Jones, Chemist, Llanrwst ba, sold grosses of the Quinine Bitters," and iro !j close observation of their effects, can vouch i.« their efficacy as a tonic in case of extrn debility, &c.. being particularly suitably Wi patients recovering froip long Ulnasb.