Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

I ,Marwolaethau Cymry America.I

News
Cite
Share

I Marwolaethau Cymry America. I JONES.—Yn Granville, Ohio, Mehefin 27ain, I 1882 Mr. William T. Jones, yn ymyl 80 mlwydd oed.' Ganwyd Mr. Jones yn Silian, sir Aberteifi. Ymunodd ag eglwys Dduw yn Merthyr Tydfil pan yn 26 oed. Aeth i America yn 1842, a. sefydl- odd yn Granville, lie yr ymuDodd a'r eglwys Gynulleidfaol. Yn 1843, etholwyd ef yn ddiacon yr eglwys, yr hon swydd a lanwodd yn anrhyd- eddus hyd ei farw. Magodd deulu lluosog iawn, ddim llai na 13 o blant. Cafodd y fraint o'u gweled wedi tyfu i fyny i gyd, yn gyfryw ag sydd yn addurn i gymdeithas mewn dysg a moes. Y maent yn ddieithriad yn aelodau crefyddol, ac yr oedd deuddeg ohonynt wedi dyfod i dalu y gy- mwynas olaf i'r hyn oedd -farwol o'u hanwyl dad. Yr oedd y llall yn yr Hen Wlad. Ni fu Mr. Jones yn cadw ei wely ond am amser byr. Yr oedd yn gryf hyd y diwedd, ac yn hynod amynedd gar. Claddwyd ef yn y cemetery sydd ar y Welsh Hills, yn ymyl Granville. Yr oedd tyrfa luosog wedi dyfod yn nghyd i'w angladd. HARRIES.—Mehefin 29ain, yn Cleveland, Ohio, Mr. Richard D. Harries, o'r septecamia, yn 29 oed. Ganwyd ef yn Abercanaid, ger Merthyr Tydfil. Claddwyd ei dad pan oedd Richard yn leuanc iawn. Priododd ei fam yr ail waith, ac y mae hi a'i gwr yn byw yn bresenol yn Abercanaid, sef Thomas a Jane Davies. Bedyddiwyd yr yrnadaw- edig pan yn 13 oed, gan y Parch. John Bvans, Abercanaid, a thyfodd i fyny mewn defnyddiol- deb, a bu yn arweinydd y cor yno am flynyddau. Yn Mawrth, 1881, ymfudodd i Hametown, Ohio, at ei ewythr, y Parch. Iago W. James, ac nid hir y bu'r eglwys Fedyddiol cyn gwybod fod dyn def- nyddiol wedi dyfod i'w plith. Enillodd air da gan bawb. Cwympodd, ychydig fisoedd yn ol, nes effeithio arno yn fewnol. Tua phythefnos cyn ei farwolaeth, aeth i Cleveland, i'r Infirmary, lie y bu farw. Aeth ei ewythr ac ereill yno, a chvmer- asant ei weddillion i Hametown. Cymerocld yr angladd le ddydd Sadwrn, Gorphenaf laf, yn "VVadsworth, Ohio.. rn. WILLIAMS.—Gorphenaf 2il, bu farw Thomas Williams, Scranton, Pennsylvania. Ganwyd ef yn Aberhonddu, Ebrill 16eg, 1810, felly yr oedd pan y bu farw yn ychydig dros 72 mlwydd oed. Symudodd Mr. Williams pan yn bur ieuanc o Aberhonddu i ardal Brynmawr, Mynwy, a bu yno yn gweithio dan Crawshay Bailies am tuag 41 mlynedd. Pan yn 28 oed, priododd a Miss Mary Hughes. Bu iddynt naw o blant. Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid am dros 40 mlynedd; ac o'r 40 mlynedd byny, bu yn gwasanaethu y swydd ddiaconaidd am tuag 20. lua 13 mlynedd yn ol, ymfudodd ef a'i deulu i America, ac yra- sefydlasant yn Scranton, Pennsylvania. Wedi ymsefydlu yn Scranton, gan nad oedd eglwys Wesleyaidd Gymreig yno, ymunodd a r eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Hyde Park, a bu yn aelod o'r eglwys hon o'r pryd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth. Claddwyd ef Gorphenaf 5ed, yn nghladdfa y Cymry yn Hyde Parle. Cafodd gladdedigaeth dywysogaidd a gwir barchus.

ABERGELE.

[No title]

---_._--AT Y EEIKDD.

BEDDFAEN FY NHAD.

OUR TRYSTING PLACE.

Y DYN DEDWYDD.

YR ENETH AMDDIFAD.

Hysbysiad Pwysig i'r Oyhoedd.…

( TTTSTEB Y PARCH. W. EDWARDS,I…

Advertising