Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN Ap CORWYNT & Co. Nos Wener, Awst lleg. Samson.-Er cymaint o ddyn wyf fi, y mae yna ddyn wedi sangu ar dir Prydain, yn ddiweddar, sydd gryn lawer yn fwy na myfi mewn corfforaeth, ac yn fwy cryf yn ei beirianau ystumogawl, ac nid yw hwnw yn neb llai na Mr. John Cetewayo, cyn- frenin y Zuluiaid. Y mae yn debyg nad oes un diffyg treuliad o fewn rhai milltir- oedd i Mr. Cetewayo a'r swyddogion Zulu- aidd—Ambugango, Zimligogo, Whilber- ganga, lacracagingi, a'r urddasolion ereill sydd gydag ef, canys adroddir i ni fel mater o ffiith fod Mr. Cetewayo a'r brodyr uchod yn gallu polisho tri phound o gig eidion yr un ar bryd, a golchi hwnw lawr a whiskey a champagne yn He diod fain neu litter ale. Hefyd, yn lie te, neu goffi, neu goco i frecwast, yr hylif a ddefayddir gan Mr. Cetewayo yw potelaid o whiskey, ac efallai botelaid o champagne ar ei ol! 'Doedd ryfedd yn y byd fod Mr. Cetewayo yn ryfelwr ofnadwy, os oedd mor stymogus a hyn pan yn ei wlad frodorol. Dywedir fod Llywodraeth Prydain wedi rhoddi dwy fil ar ugain o arian poced iddo. Swm go lew, ond yr oedd yn eu eyflawn haeddu am y pen yd o golli ei wlad, a byw mewn caethiwed am flynyddau. Ond y mae yr ymddygiad hwn o eiddo Lloegr yn debyg iawn i'r fam yn euro ei phlentya, ae yna yn rhoddi brechdan fel iddo. Vulcan Fardel.—0 ie, dyn yw Cetewayo sydd wedi cael camdriniaeth yn ddilai, ac nid oedd hyd yn nod y Toriaid am fyned i ryfel ag ef, ond fel y gorfodwyd hwy i hyny rywfodd gan Syr Bartle Frere. Hwnw wnaeth y felldith i gyd. Y mae sicrwydd yn awr fod y brenin du yn cael dychwelyd i'w wlad, ac at ei wragedd duon ac anwyl; ond pa un a adferir ef i'r awdurdod a feddai gynt, nis gwyddom. Nid yw yn debyg y ca fod mor unbenaethol ag o'r blaen, ond y bydd rhyw amod- rwymau neillduol, dan ba rai y ca deyrnasu. Os yw yn bwyta ac yn yfed fel yr oet ti, Samson, yn dweyd, y mae yn rhaid fod ganddo gorff elephantaidd, ac ni fydd yr un mil ar ugain o bunau fawr o dro cyn llifo i lawr yn afonydd o whiskey a champagne, ac yn avalanches o beef i hylwne ddyfnderau ei grombil ofnadwy. Rhaid i Mr. Cetewayo, hefyd, gofio gydag ereill mai nid peth i 'mdopi a hwy (chwedl yr hen frawd hwnw o'r Groeswen 'slawer dydd pan yn son am y diafol) ydynt yr hylifau difrifol a nodwyd. Gwyr cryfion a laddasant hwy; ac er cadarned yw corpws Cetewayo, fe all yr hylifau poethion hyn effeithio yn ddrwg arno. .Agrippa. Fe ddywedir fod Cetewayo wedi ei ddirfawr synu at aruthredd maint- ioli Llundain a'i thrigolion, ac iddo dori allan mewn syndod i ofyn wrth weled y miliynau sydd yn tramwy heolydd y ddinas fawr, Pa le yr oeddynt oil yn cael bwyd ?" Yr oedd y cwestiwn yn eithaf rhesymol a naturiol, ac wedi ei ofyn gan filoedd a ymwelasant a'r Brif-ddinas cyn dyddiau Cetewayo. Dyna ddywedodd un hen frawd o Gapcoch, yr hwn a ddaethai i fyny i Lundain gyda'r Cor Mawr yn 1872; a phan yn sylwi ar y llifeiriant didor o fodau dynol yn y Strand, Oxford-street, Pont Llundain, a manau ereill, yn nghyd a'r cabs, y cerbydau, a'r wageni, "Wei," ebe fe, "dyma'r peth tebyea welais i dragwyddoldeb erioed." Pa le a pha bryd yr oedd y brawd wedi gwel'd tragwyddol- deb, barnweh chwi. Huw Ffradach.- Y mae hi yn dra'd moch Bha'r Parliament yna eto rhwng my Lords a'r Cyffredinwyr. Y Tori coch o Salisbury wedi hacio a llurgynio Ysgrif 01-renti William Gladstone, nes ei throi yn o chwith glan. Dyn penstiff a hunanol ofnadwy yw Salisbury; a chan fod ganddo fwyafrif wrth ei gynffon yn Nhy yr Arglwyddi, meddylia fod yn rhaid i Dy y Cyffredin, sydd yn cynrychioli pymtheg miliwn ar ugain trigolion Prydain Fawr a'r 'Werddon, blygu i'w ewyllys Doriaidd ef. Ond y mae wedi whech arno, fe all fentro, ac fe ga brofi hyny, fel y dangoswyd yn Nhy y Cyffredin, dydd Mawrth diweddaf. Fe gododd yr hen gawr diguro Gladstone, ac mewn araeth fel y flamingo, fe gynyg- iodd wrthodiad gwelliantau y Lords oddi- gerth rhyw un neu ddau o bwyntiau byehain nad oeddynt yn ymyraeth ag amcan mawr arweiniol y mesur; ae os ydych* chi yn y fan yna, fe basiwyd holl gynygion Gladstone gyda mwyafrif dym- chwelawl, ac yn awr, dyna'r mesur ddoe yn cael ei ddanfon yn ol i my Lords i gael eistedd uwch ei ben, a gosod eu bysedd rhwng eu danedd mewn synfyfyrfod arno, a meddwl am yr humiliation o orfod plygu eto i ewyllys cynrychiolwyr y bobl. Y mae llawer o bethau da yn rhai o my Lords; ond pan osodant ea hnnain fel bwei ar ffordd blaenfynediad mesurau diwygiadol, myn rhecsyn i, mae pobol yn dechreu d'od i fyfyrio a meddwl yn ddifrifol ar y cwestiwn o briodoldeb parhad bodolaeth T, yr Arglwyddi. Felly, os ydynt hwy yn gall yn eu cenedlaeth, gwelant mai ofer iddynt wingo yn erbyn y symbylau. Ond i gael y Coleg yma heno fel tomen teiliwr, ticyn o bobpeth, mi ddywedai'r stori hono wrthych chi am yr hen frawd hwnw o'r Groeswen y cyfeiriodd un ohonoch ato, ychydig yn ol, fel y clywais hi gan frawdfardd pur adnabyddus o Bontypridd. Ymddengys fod yr hen wr hwnw (nid wyf yn cofio ei enw) a bwlch yn ei wefus, wedi cael hyny trwy ddamwain, fe ddichon, a hen frawd pur odd oedd efe, fel yr oedd llawer o'r tadau. Pan yn y cyfarfod gweddi, arferai efe basio remarks cymera- dwyol neu annghymeradwyol yn gyhoeddus yn y cyfarfod, a hyny pan fyddai y gweddi wyr yn anerch yr Orsedd Fawr. Un tro, pan oedd un brawd ar weddi, ac yn trin y diafol yn o arw yn y weddi, gwaeddodd yr hen frawd gwefus-fylchog Well i ti beidio 'mdopi llawer a hwna." Dyna fel y cefais i hi, a dyna hi i chwithau. Ap, 'rwyt ti yn bur ddystaw heno. Ap Oorwynt.- W el, y mae yn anmhosibl i ni siarad bob un yr un pryd, ac yr oeddwn yn gwrandaw yn astud ar y pynciau dydd- orol a drinid genych. Y mae pethau pwysig yn cymeryd lie yn y byd y dyddiau hyn, ac un o'r pwysicaf ydyw rhyfel yr Aifft. Yn nghanol gwres y dyddiau diweddaf yma, ehedai fy meddwl yn fynych iawn at ein milwyr sydd yn yr Aifft dan wres mwy angerddol. Y mae yn rhwym o fod yn galed arnynt i ymdeithio, gwylio, a thanio ar y gelyn. Llawer o son sydd, ac y mae y Toriaid lawer ohonynt wedi bod yn pwnio yn galed ar Gladstone a'i Weinydd- iaeth am fyned i ryfel yr Aifft; ond gallwn feddwl fod yr hyn a lefarodd efe yn ngwledd Arglwydd Faer Llundain, dydd Mercher diweddaf, yn hollol anatebadwy. Dywedai Mr. Gladstone fod yr Aifft yn awr wedi dyfod yn borth mawr rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Yr oedd masnach y byd yn dibynu ar y fynedfa trwy y porth hwnw yn fwy nag ar unrhyw un man ar wyneb y ddaear. Yr oedd yn hanfodol i ddiwydrwydd ac anturiaetb dynolryw fod y porth hwnw i gael ei gadw yn agored. Nid oedd yn llai hanfodol i'r wlad yn mha un y lleolwyd ef fod yn wlad heddychol a threfnus, a than lywodraeth deyrngarol. Yr amean oedd genym mewn golwg, er y gallai y baich a'r anrhydedd o'i gyflawni syrthio arnom ni, oedd yn waith hanfodol angenrheidiol i bob gwlad yn Ewrop ei wneyd. "Bydded iddo gael ei ddeall yn dda," meddai Mr. Gladstone, "am ba beth yr ydym yn myned, ac am beth nad ydym yn myned, i'r Aifft. Nid ydym yn myned i'r Aifft i wneyd rhyfel ar ei phobl, ond i'w gwaredu oddiwrth ormes a gorthrwm milwrol. Nid ydym yn myned i wneyd rhyfel a'r grefydd Fahometanaidd, canys y mae yn mysg neillduolion uchel Cristion- ogaeth ei bod wedi sefydlu goddefgarwch anhysbys mewn amserau ereill yn hanes dynoliaeth, ac y mae yr holl rai hyny a wyddant yr egwyddorion ar ba rai y mae Llywodraeth Seisnig ynseiliedig yn gwybod yn ddigon da mai un parch a hawliwn i ymarfer ein hargyhoeddiadau cydwybodol a estynwn i gredinwyr pob ffydd arall. Nid ydym am osod i lawr dyfiant rhyddid Aifftaidd. I'r gwrthwyneb, dymunwn yn dda iddynt, canys y mae genym fuddiant yn yr Aifft, fel nas gallwn lai na dymuno am i'r Aifft fod yn llwyddianus. Y mae yn wir, a chredwyf y gwyddid ei fod yn wir, fod Lloegr yn myned i'r Aifft gyda dwylaw gl&n, heb fod ag un amcanion diralaidd, heb fod a dim i'w guddio oddi- wrth genedloedd ereill y ddaear, ond i'r gwrthwyneb, gyda'r dymuniadau goreu a chyda'r ymwybodolrwydd fod genym hawl i hawlio oddiwrthynt yr hyn a gredwyf oeddynt yn barod i'w roddi, ac wedi ei roddi—eu hyder, eu hewyllys da, a'u dymuniadau calonog am lwyddiant cyflym ac effeithiol i'r arfau Prydeinig." Dyna eiriau cryfion Mr. Gladstone, a dylent roddi taw ar faldordd anwybodusion.

Advertising

Beirniadaeth ar Gyfansoddiadau…

Fferylliaeth Pethau Cyffredin.

[No title]

Briwsion o Bell ac Agos.

[No title]