Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR ESTRON.

News
Cite
Share

YR ESTRON. PENOD IX. Er mor sier ydoedd Cadben Caradog Thomas yn ei feddwl ei hun mai ei dad oedd yr enwog Don Carlos Fuentes, gwelai mai annoethineb fyddai gwneyd hyny yn hysbys hyd nes y caffai ychwaneg o brof- ion. Tra yr oedd Caradog yn meddwl am hyn, a'i sylw yn ansefydlog, galwodd yr uwch- gadben synedig arno eto i adrodd ei ystori, yr hyn a wnaeth ar unwaith yn syml a dirodres. Adroddodd fel y cafwyd ef ar fynwes oer ei fam yn ydlan Evan Jones— fel y deallid, oddiwrth ei gwisg, a'r geiriau a barablid gan y plentyn, mai brodores o Ysbaen ydoedd hi-fel y mabwysiadwyd ef yn garedig gan Marged J ones-ei fywyd yn yr ysgol-marwolaeth Marged — a'r wraig newydd. Ychydig iawn a ddywed- odd am greulondeb Mrs. Jones, ond yr oedd yr hyn a fynegodd yn ddigon i brofi ei chalon-galedwch. Rhoddodd air da i Evan am ei dadol ofal; ond yr oedd yn ddigon amlwg beth a'i gyrodd oddicartref. Ad- Toddodd ei brofedigaethau blinderus yn llundaio, a'i ymuniad a'r fyddin a chyf- eiriodd mewn geiriau llawn o deimlad at garedigrwydd ei gydfilwyr ar adeg ei ddyrchafiad annysgwyliadwy. Pan orphenodd Caradog ei ystori, cyf- archwyd ef a banllefau o gymeradwyaeth o bob cyfeiriad. Edrychodd at Don Carlos i weled effaith ei hanes, a chanfyddodd yn eglur fod ei wyneb coch yn awr yn wyn, tebyg i ddyn wedi ei orchfygu gan ei deimladau. Cododd Don Carlos ar ei draed, a gofyn- odd mewn llais crynedig i Caradog, "A ddarfu i chwi erioed ddarganfod pwy oedd eich rhieni ?" Naddo, syr; ond y mae genyf fodrwy a llythyrenau ami, yr hyn, yr wyf yn gobeithio, a'm cynorthwyaf i gyrhaedd y cyfryw amcan." "Ai y llythyrenau "C.F. et M.Y." ydynt y rhai hyny ?" gofynai y Don, tra yr oedd dystawrwydd y bedd yn teyrnasu trwy yr holl ystafell. tynodd Caradog y fodrwy allan o'i logell, a rhoddodd hi i'w holwr. Gydag un byr-edrychiad ami, a chyda'r geiriau Mab fy Maria! fy mab! fy mab!" syrthiodd yr hen wr ar fynwes ei fab, gan lewygu. Yn fuan, adferodd Don Carlos o'i lewyg, a derbyniodd lon-gyfarchiadau pawb ar yr amgylchiad hapus. Fy mab," meddai, gan droi at Caradog, (l efallai y byddai yn well i mi ddilyn eich esiampl, ac adrodd fy ystori inau i'r rhai hyny sydd wedi clywed eisoes eich helynt chwi. Deng mlynedd ar ugain yn ol, mi ddaethum i fyny o'm cartref yn Calabria i Madrid, ar fusnes perthynol i'm hystad. Arosais yn nbý cyfaill i fy nhad—marsiand- wr cyfoethog o'r enw Valdez. Yr oedd gan hwnw un plentyn—merch brydferth, pedair-ar-bymtheg mlwydd oed, a'i henw oedd Maria. Hi oedd y ddynes bertaf a welais yn fy mywyd. Ffurfiasom serch tuag at ein gilydd oddiar y cyfarfyddiad cyntaf. Pan ofynais i'w thad am ei llaw, bu ychydig o wrthwynebiad ar y cyntaf, ond yn fuan, cydsyniodd. Mewn amser .byr, yr oedd fy Maria anwyl yn briod i mi. Am amryw fisoedd, bu ein dedwyddweh a'n bywyd fel breuddwyd-fel ffurfafen yr haf, heb gwmwl ami. Ond yehydig iawn oeddynt mewn nifer, canys daeth y gauaf! Y mae pawb wedi clywed am ysbryd dialgar yr Ysbaeniaid; a syrthiodd i'n rhan i fod yn ferthyron i hyny. Cyn y priod- wyd Maria a mi, ceisiwyd am ei llaw gan amryw benaethiaid y wlad, ond ni lwydd- odd yr un ohonynt. Yr oedd tad y ddynes wedi ei bwriadu i fod yn wraig i un o brif ddynion y ddinas, yr hwn oedd yn fab i brif swyddog yn y sefydliad uffernol hwnw -y Chwil lys Pabaidd. Daethum inau i'r maes, a chafodd y tad a'r dyn ieuanc eu siomi, a Maria ei gwaredu o fywyd adfydus. Yn ei ddigter a'i siomedigaeth, addunedodd C, y gwr ieuanc y byddai iddo ddial arnaf, ac fe lwyddodd yn ei amean yn drwyadl. Un noson, rhuthrodd mintai o ddynion i ystafell wely tad Maria, a llusgasant ef oddiyno i garchar y Chwil-lys, a chymerwyd ei eiddo oddiarno fel pe byddai yn ddrwgweithred- wr cyffredin. Ymguddiais i a'm gwraig (ar fronau yr hon oedd ein mab cyntaf- anedig) mewn man dirgel allan o grafangau ° oy 'I y dyn fileinaxdd hwn, hyd nes y caem gyfleusdra i ymfudo i Loegr. Symudasom i'r mor-draeth; a phan o fewn can' liath i'r llong oedd i'n cludo i ddiogelwch, cylch- ynwyd ni gan lu 0 ddynion arfog. Er i mi ymladd fel llew, cawsom ein gorcbfygu. Tra y cludid fy ngwraig a'r plentyn ymaith mewn un cyfeiriad, cefais inau fy nghludo i mewn i gerbyd, a'm llygaid wedi eu rhwymo a llisin, With fy ochr, eisteddai dyn a Uawddryll yn ei law, yr hyn a ddeallais trwy ddyfod i gyffyrddiad â'r offeryn yn ddamweiniol. Gyrwyd y cerbyd vmaith yn ofnadwy o gyflym am oddeutu chwech awr, ac yna stopiodd yn sydyn. Yn fuan, clywn dwrdd arfau yn agoshau at y cerbyd, yna agorwyd y drws, a llusg- wyd fi allan gan ddau filwr cyhyrog. Yn mhen ychydig, clywais ddrws cadarn yn cael ei ddadgloi gyda thwrw a brofai ar unwaith fod clo ac allwedd trymion wedi dyfod i gyffyrddiad a'u gilydd. Wedi fy ngwthio yn drwsgl i fewn trwy y drws hwn, deallais fy mod yn un o fynedfeydd culion ac hyll y carchar. Gyrwyd fi trwy y fynedfa dywell hon am gryn bellder, ac yna troais ar y deheu, yn cael fy arwain or hyd gan bedwar milwr arfog, ac esgynais risiau ceryg, y rhai oeddynt yn hynod o uchel a throiog. Wedi cyrhaedd pen y grisiau hyn, arweiniwyd fi drwy ystafell eang. Or ystafell hon, dygwyd fi drwy fynedfa isel a chul eto i ystafell fechan, yn mha un y clywais ocheneidiau annaearol dyn fuasai newydd gael ei boenydio. Yn nesaf, cymerwyd fi o'r ystafell hon i lawr dros risiau troiog i'r dyfnder o haner can' llath. Wedi cael fy nhraed blinedig ar y gwaelod, gorfu i mi wthio fy hun trwy ddor bychan, digon mawr i un yn unig fyned trwyddo, yn cael fy mlaenu gan un o'r milwyr. Yr oeddwn yn awr, yn ol fel y gallwn gasglu, yn un o'r celloedd tan- ddaearol afiach a dioleu hyny lie y poenydid troseddwyr i farwolaeth. Gorchymynwyd arnaf i sefyll yn y gyfryw gell, a chredais ar unwaith nad oeddwn i fyned yn mhell- ach, ac fy mod i gael fy mhoenydio i farw- olaeth yn y fan a'r pryd ond wedi i'r olaf filwr ddyfod trwy y drws bychan, gyrwyd fi drwy fynedfeydd dyryslyd ac oerllyd hyd nes cyrhaedd drws haiarn. Wedi dadgloi hwn, eymerwyd fi i gell oedd yehydig yn fwy na'r un blaenorol. Wedi cloi y drws tufewn, cymerwyd y lliain oddiar fy llygaid. Yr oedd y lie erchyll hwn yn hollol dywyll, ac nid oedd cael rhyddhad i'm golygon yn fawr o hwylusdod i mi ddarganfod unrhyw beth. Yn ddisymwth, teimlwn ddwylaw cryfion yn rhwymo rhaff am fy nghanol; ac wedi gorphen hyn o orchwyl, clywais lais dwfn a chwerw yn dweyd Tynwch,' a chyda'r gair, codwyd fi fyny ychydig droedfeddi oddiar y llawr. Barnwch chwi pa mor gynhyrfus oeddwn yr amser hwn. Pan yn hongian fel hyny, clywn gareg anferthol o fawr yn cael ei symud yn gelf- ydd o danaf. Erbyn hyn, cynefinodd fy llygaid a'r tywyllwch; ac wrth edrych tua'r llawr, 0 Pr fath fraw a'm meddianodd pan welais fy mod yn awr yn hongian uwchben pwll dwfn ac erch. Ymdrechais am fy mywyd, ond atebwyd fy ymbiliadau gan chwerthiniadau fy llofruddwyr. I lawr ag ef,' taranai yr un llais ag o'r blaen, a rhyddhawyd y rhaff. Rhoddais ysgrech dychrynllyd ac yn fy anobaith, crafangais yn ymyl y gareg symudedig wrth syrthio i'r pwll. Ar hyn, neidiodd un o'r filein- iaid yn mlaen, a chan regu, sathrodd ei droed ar fy mysedd. Gyda nerth dyn ar fin ei fedd, crafangais yn ei goes. Syrth- iais i lawr, gan ei dynu ef i lawr gyda mi. Cydiodd y rhaff oedd yn fy nal yn ochr y pwll, a buom yn hongian yn y canol am ychydig fynydau mewn dirboen. Yn y diwedd, torwyd y rhaff gan un o'r dynion oeddynt i fyny, a syrthiais yn bendram- wnwgl ar gorff gwaedlyd ac anymwybodol un o'm gelynion. Clywais y gareg fawr yn cael ei symud yn ol i'w lie priodol ar enau y pwll, a gadawyd fi yn y pwlldrew- llyd a thywyll i farw (I'w barhau).

"Carchariad am Ddyledion,"

[No title]

Bywyd ac Anturiaethau Cadben…

DARWINIAETH.

[No title]