Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

Masnach y Ffugdeitlau.I

News
Cite
Share

Masnach y Ffugdeitlau. I [Allan o'r Drych, Utica, U.D.] Ymddengys yn dra sicr crbyn hyn mai ffua deitl a gafwyd i Myfyr Morganwg yn ei henaint, a dylid gwneyd y ffaith yn hysbys er gwaith i'r rhai a gymerasaut ran yn y drafod- aetli ac er dyagu gwers i ereillyn y dyfodol. Beth ddywed yr Archdderwydd Myfyr ei hun ar y mater ? A ydyw ef am ymostwng i wisgo y ffag-deitl twyllodrus o D.C.L., ar bwys dit'loriuL Lladinaidd, a ysgrifenwyd gan haid o ddyhirwyr diegwyddor yn Philadel- phia ? Dyma fel yr ysgrifena gohebydd cyfrifol o Fall River, Wisconsin Ar ol darllen llith J. Davies yn y Drych, galjat hysbysu v cyhoedd nad y w Urddlen Myfyr Morganwg ond jf<ig._ Nid oes gan y Bnf- ys^ol' o'r hon y deilliodd fodolaeth o gwbl, a Sail J. Davies, neu unrhyw un gael teitl— D.C.L., Ll.D., M.A., D.Ph., neu M.D. drwy anfon at J. Buchanan, M.D., Pine Street. Philadelphia. Nid yw yn ddnn ewahaniaeth a wyddant rywbeth am feddyg- iaeth, &c., ai Peidio-«mm yn unig sydd eisien er sicrhau y teitl." W ele hefyd lythyr a dderbyniasom oddiwrth David Jones, Ysw., 306, Redwood Street, Philadelphia, yr hwn sydd yn hen ddinesydd yno, ac yn un y gsllir ymddibynu yn hoiloll ar ei dystiol- aeth "306. Redwood-st., Philadelphia. Caniataer i mi roddi gair o eglurhad l r Parch. J. D. Jones (Eryr Meirion), mewn atebiad i'w nodyn yn y JJrjcli, o dan y pemad "Ffug deit-lau, a Phrifysgol Philadelphia. Nid wyf yn credu iddo ef ysgnfenu fel y fnvnaeth, yn y mssur lieiaf gyda'r dyben o chwydu gwenwyn ar draws enw difrycheuiya ac anrhydeddus Myfyr Morganwg, eithr yn hytvach i'r gwrthwyneb a gallaf sicrhau darllenwyr y Drych, fod pob gc, t'i- a ddyicedudd Mr. Jones yn wirionedd, ac mai tvsyll or duafydyw y diploma a gafioyd yraa i r Arch- dderwydd. Nid oes yr uu Athroia yn y dcun- as hon nid oes yr un yn y Dalaeth ie, nid oes yr un yn y Talaethau Unedig yn meddu hawl vn wirioneddol l roddi y fath diploma Digon gwir fod breiiiteb wecli ei rhoddi flynyddau yn ol gan y Ddeddfwrfa i gyflwyno rhai diplomas, ond mae y freinteb hono wedi ei gwneyd yn ddirym er s dwy fiyn- edd; pa fodd bynag, parhau yny gwaith twyll- odrus mae y giwaid o hyd. Sut y mae cyf- raith Talaeth Pennsylvania yn goddef y fath anfadwaith nis gallaf ddweyd. Anfonais air trwy cyfaill i mi at yr Anrh. Chas. J. Stille, Ll.D.°(Pi"ovost), University Pennsylvania, yr hon sydd ar gongl 34a Spruce St., West Phil- adelphia, i ofyn iddo os oedd un Athrofa yn V ddinas yn meddu awdurdod 1 roddi y fath ddiploma,'a'i ateb oedd, gydar awdurdod 1 ddefnyddio ei enw, nad oedd yr un Athrofa a'r hawl ganddo i gyflwyno teiti o D.C.L. Felly heraf bob un, o Dalaeth Maine hyd n Gulf o Mexico, 1 wnnorou ei Dichon y byddai ychydig o hanes masnach y diplomas yn ddyddorol i ddarllenwyr y Drych. Y cyntaf y mae genym hanes am dano yn gwneyd masnach or fath oedd Proff. Payne, lie yr hwn a saif ar Ninth Street, rhwng Spruce a Locust Sts., wrth yr enw << University of Philadelphia." Bu ef yn cario y fasnach yn mlaen yno i raddau helaeth, ac yr oedd yn gwerthu diplomas i Loegr, Ffrainc, a Germani. Mewn rhai o'r lager- beer saloons yma, daeth llythyr o r Hen Wlad unwaith drwy gamgyfeiriad, a chynwysai y frawddeg ganlynol" Why dont you send me the diploma I have sent over to you the fifty dollars for ? Beth bynag, cafodd Proff. Payne deimlo grym y gyfraith. Y lie nesaf y dechreuwyd y busnes oedd yn y Coleg ar Filbert Street, ond buan y terfynodd yno a'r lie olaf ydyw y fan y cafwyd y diploma i Myfyr Morganwg. Saif yr adeilad hwn ar Pine St., o'r tu uchaf i Fifth, sef 514, Pine Street. Mae yn dair llofft o uohder, Ficitclb roof arno, tuag ugain troedfoedd o led, dwy ffenestr yn y front, gydag enw Dr. Buchanan wrth odre un o'r ftenestri, ac wrth ochr y drws r'welir y geiriau -.—Eclectic Medical Unioe^ity, Museum of Anatomy. Mae enw y Dr. Buchanan hwn yn eithaf adnabyddus yn y Disti-izt Court House. Bu yr haf di- weddaf dan feichiau o fil o ddoleri am ddwyn yn mlaen y fasnach ac yr wyf yn adwain un yma o'r enw Lewis B. Thomas—Cymro o waedoliaeth, a fu mor ffol a myned yno i dderbyn yr M.D., gan dalu am diploma nad oedd vn werth dimai goch. Wele expose arall a ymddangosodd yn y Philadelphia Inquirer mor ddiweddar a dydd Mercher, Chwefror 20fed — 'Dr. Levin D. Dyer, of Baltimore has had his name stricken from the registry of the Health Department as a practicing physician, because he is a graduate of the Eclectic Medical College of this State. He has filed a petition for a writ of mandamus, however, and the case will be settled soon.' Mae papyrau dyddiol y ddinas yn fynych wedi rhoddi pobl ar eu gwyliadwriaeth am y fath dwyll, ond eto mae rhai yn cael eu hudo. Yn sier, y.mae y fath fasnach yn flotyn ar gymeriad hen ddinas y Cymry. J "D. JONES. Y syndod yw fod dynion parehus a ddylent wybod yn well, yn ymostwng mor isel ag i ohebu ac anfon arian i'r "giwaid y soma Mr. Jones am danynt, a liyny ar ol cyhoedd- iad cynifer o rybuddion drwy y wasg yn Lloegr yn gystal a'r wlad hon.

Advertising

YSTRAD RHONDDA.

ABERDAR.,

CWMAFON.

MOUNTAIN ASH.

MAESYOWMMWR.,I

TROEDYRHIW.

NANTYGLO.

CENDL.

BABELL, GER ABERTAWE.

Advertising

CYDWELI.I

CEFN-COED-Y-CYMER.

BARGOED. I

MYNYDDISLWYN.

PENTRE, YSTRAD.

RHYMNI.

[No title]

[No title]