Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Beirniadaeth Eisteddfod Siloh,I…

News
Cite
Share

Beirniadaeth Eisteddfod Siloh, I Maesteg, Gwener y Groglith. Traethawd ar Ddubenion y Gwyliau IuddewigP Derbyniwyd pump o draethodau, sef eiddo Gomer, Ezra, Tomos Tomos, Morde- cai, a John o German. Gomer -Holwg ieueogaidd sydd arno ef fel cyfansoddwr. Cyffredin yw ei arddull. Gadawa aoirvw wyliau yn ddisylw; ac ychydig o cleani a deflir ar y rhai a drinir gandio. Ezra—Ysgrifena yn weddol daiwall. Rhoida lawer o eglurhad ar rai t'r gwyliau, ond a heibio i rai ereill yn frysiog. Gwna ieuo yn annghydmarus weithiau; buasai yn well traethu ar W. 1 v Newydd Loer a Gwyl yr Udgyrn yn hollol ar wahan oddi- wrth eu gilyrtd, a dyfod a'r man wyliau i mewn rywle tua'r diwedd, ac nid yn nglyn a Owyl y Cymod. Eto, mae llawer iawn o cagoriaethau yn perthyn i'w draethawd. Mordecai.—Anhawdd gwybod beth i'w. dd"evd am gyfansoddiad fel hwn. Ni welsom rtdim erioed yn debyeach i Brofied- ydd Ysgrythyrol y Plirch. J Hughes, L'er- pwl Uynw^sa fwy o adnodau na'r holl draethodau ereill yn nghyd. Ein teimlad yw y buasai yn well cymeryd Beibl yn sylfaen, a chodi yr adnlad a'i ymadroddion ei bun gos-d allan ffeithiau ysgrythyrol mewii gweriu fwy eglur a thraethodol. Tomos Tomos.—Traethawd cynwysfawr wedi ei ysgrifenu yu drefnus a darllenadwy. Mae y rhagarweiniad yn dda, a'r sylw a wna o'r gwahaniaeth a fodola rhwng Gwyl y Saboth a'r gwyliau ereill yn beth nad yw UIl o'i gydymgeiswyr wedi craffu arno. Pe buasai wedi manylu mwy ar y gwyliau, buasai yn debyg o gyrhaedd y fuddugol- iaeth. John o German.—Ymddengys i ni fod John wedi tybied ei fod yn cystadlu am bymtheg punt ac nid pymtheg swllt, neu ynte yn credu y gwirionedd hwnw, sef fod yr hyn sydd yn werth i'w wneyd yn dda. Beth bynag, ysgrifenodd un-ar-bymtheg o dudalenau, a phob un o'r tudalenau hyny yn gymaint, o ran hyd a lied, a dwy o foolscap cyffredin. Un bai yr ydym yn gael arno yw ei waith yn tori geiriau ar derfyn y llinellau yn hater sill, neu lyth yren ddyblyg ac nid yw hwn ond bai di- bwys. Mae yn gyfansoddwr galluog, ac y mae ei draethawd yn bobpeth y gallwn ei ddymuno ar y gwyliau laidewig. Trueni Z3 fod cyfansoddiad mor rhagorol yn myned am bris mor isel. Hyderwn y tyr gwawr -(}yn hir ar fasnach a llenyddiaeth yn Nghymru. Gwobrwyer John o German. Traethawd ar "Hanes y Profficyd Jonah Daeth i law bump o. draethodau yn dwyn y ffugenwau Milton, Myfyriwr Ieuanc, Lord Byron, John Bach, ac Amittai o Gath-Hepher. Hilton.—Ysgrif fel wedi ei gwneyd yn weddol ddiwall; ond nid yw ei chynwys- iad ond ysgafn ac arwynebol mewn cymhar- iaeth i eiddo ei gydymgeiswyr. Myfyriwr Ieuanc.—Mwy tebyg i ddar- lith nag i draethawd. Gwna ormod o ddefnydd o'i anwylair—" dacw fo." Cy- mysga y rhagenwau meddianc4 unig a lluosog. Ond y mae yn olrhain hanes Jonah yn gyson a manwl. Lord Byron.—Y mae gan hwn draeth- awd trefnus a darllenadwy; ond nid yw wedi myned ar ol yr anhawsderau a gyfar- fyddir yn hanes Jonah mor egniol a manwl ag y mae ereill yn y gystadleuaeth wedi gwneyd. John Bach.—Ymddengys i ni fod rhyw- beth yn honiadol yn arddull John. Gellid meddwl ei fod wedi darllen yn hynod o ehelaeth. Gwna gamsyniadau yn ei gyf- eiriadau weithiau; er engraifft, sonia am Sycurgus, deddfroddwr Sparta, diamheu mai Lycurgus a feddyliai. Eto, mae gan- ddo draethawd llafurfawr, ac un sydd yn ddios wedi costio meddwl ac ymchwiliad iddo. Trueni na allesid ei wobrwyo. Amittai o Gath-Hepher.—Mae hwn yn feithach nag un o'r traethodau ereill, wedi ei ysgrifenu yn ddiwall, ac yn rhoddi hanes Jonah yn fanwl ac eglur. A yr awdwr i gyfarfod yr holl anhawsderau a gyfarfyddir yn yr hanes ysgrythyrol, a thrinia hwynt a llaw ddeheuig. Er fod traethodau gor- chestol gan y cyfeillion ereill, nid ydym yn petruso i gyhoeddi Amittai o Gath-Hepher yn oreu. .Dau Englfto i "George Herman, Abertawe." Derbyniasom gynyrehion y pedwar can- lynol:—Erato, Saer a fu yn Sir Fon, Gweithiwr, a Llawlif. Erato.—Mae y linell gyntaf ganddo yn rhy fyr o sill; ac nid ydym yn deall ei feddwl yn y geiriau hyn :— Tai am! iawn yw temlau Ner,—o'u trothwy Er traethu cywreinder Y gemydd Saer a fu yn Sir Fon.—Cynredin o ran syniadau; ac y mae y linell hon heb gy- cghanedd— Hardd deml lor yn Silo rydd. Astudied Yagol Farddol Dafydd Morganwg. Gweithiwr.-Englynion cywir o ran cy- jighanedd, Gweddol o ran syniadau. Buasai enw y gwrthddrych yn well yn yr englyn cyntaf nag yn yr ail. Llawlif.—Mas yr englynion hyn ya ddiwall, ac yn well o ran syniadau nag un o'r tri ereill. Ac iddo ef y dyfarnwn y wobr. Can Farivnadol i "William ac Amy Morris, Siloh." Ni dderbyniwyd ond dwy gan ar y testyn hwn, sef eiddo Wyiwr hallt a'i wallt yn wyn, ac Un tyner o dan y tonau. Wylwr hallt a'i wallt yn wyn—Un bai yn hwn yw ei fod yn newid ei fesur. Cof- ied, pan ddywedir "can," fod y pwyll^or yn wastad yn golygu cael yr holl gyfan- soddiad ar yr un mesur. Mewn pryddest, gall newid ei fesur; ond mewn can, mae yn wahanol. Mae ganddo rai llinellau lied wych, ac ereill yn weinion. Un tyner dan y tonau.— Can dda iawn. Yn llawn tynerwch a theimlad. Efe yw y goreu. Pryddest Goffawdicriaeth i'r Diweddar Barch. D. Henry, Penygroes. Derbyniwyd wyth o bryddestau wedi eu harwyddo a'r ffugenwau Urania, Hanibal, Cof, Un a err8 mewn hiraeth, Hen gyfaili yn ei gofio, Un a pharch i'w goffawdwr- iaeth, Myfyriwr llwm i farw, a Llais o dir Moab. Urania.—Camsilleba y geiriau canlynol: —" disymwyth, cwympio, meddau, an- ibynol, gwenyddu, dilychwn pregethau, gwraedd, a breiffion." Defnyddia ym- adroddion anmhriodol, fel Y pur ogoniant hedd, Croth y wreichionen, Mellt yn ddoeth, ac Oes tragwyddoldeb." Defnydd- ia eiriau Seisnig, yr hyn nid yw ganmol- adwy. Mae yn ddifater o'i sigollau yn y geiriau i r, o'i, o'u," ac yn y blaen. Ac arfera ansoddeiriau heb ychwanegu dim at nerth ei linellau, megys Y pur uniawn dichlynaidd dihalog." Ond er fod ganddo luaws o wallau, ceir rhai llinellau cryfion a barddonol yma a thraw drwy y bryddest. Hanibal.-Paham y darfu iddo syrthio mewn cariad ag enw mor waedlyd ? Mae yr olwg gyntaf ar y gerdd hon yn ddymun- ol, wedi ei hysgrifenu yn hardd a threfnus; ond mae llawer o frychau yn ei hanurddo. Nid yw ei odlau yn gystal ag y gallasent fod bob amser:— Disgynai fel Moses dros ael serth y mynydd (ydd), A'i galon yn fflamio gan sel dros ei Arglwydd (wydd) Rhydd withddrych i ferf yn dechreu yn ym:— Ac ymgynhyrfent gyda chwi Ei galon ir egys ton. Cyfarfyddir a'r un syniadau yn olynol:— Cliwyddai'r nefol ddylanwadau Dros ei fynwes ar bob Haw, Fel yr afon dros ei glanau, 'N ymchwyddo dan y gawod wlaw. Eto, Cafodydd i'w deimlad fu'r pur ddylanwadau, Nes chwydao ohono ar droion yn fawr. Nid ydym yn sier fod ei syniadau yn gywir bob amser:- Ei enaid a wisgwyd mewn gwisg o gyfiawnder, Yn glaerwyn, yn ymyl ei orseddfainc ef. Credwn fod dyn yn cael ei wisgo cyn cyrhaedd i ymyl ei orseddfainc ef." Yr hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto" ydyw hi arno yr adeg y gwysir ef fr fan hono. Ac er fod ei bryddest wedi ei haddurno a lluaws o ffigyrau, nid ydynt yn cael eu gweithio allan cystal ag y dymunasid. Buasai ychydig o ofal yn gwneyd y gerdd hon yn llawer rhagorach nag ydyw, oblegyd ceir ynddi rai llinellau hapus neillduol. Cof.—Y mae hon yn gerdd naturiol, ac yn Iled lan oddiwrth wallau. Eto, nid oes ynddi ddim yn ddysglaer, ac nid yw yn tynu darlun mor gyflawn o'r gwrthddrych ag y gwna rhai yn y gystadleuaeth. Un a erys mewn hiraeth.—Dygwyddodd amryw o fan wallau arno yntau wrth ysgrifenu ei linellau, ond hawdd canfod mai ffrwyth difaterwch ac nid anwybodaeth ydynt. Nid yw yn son am D. Henry fel gweinidog yn Nghymer a Bryntroedgam, ac nid yw yn aros yn hir gyda'i fywyd, ond brysia yn mlaen at ei farwolaeth. Ym- ddengys y gallasai hwn wneyd marwnad orchestol pe buasai yn cymeryd ychydig ragor o amser, oblegyd mae yr hyn o linellau sydd ganddo yn llawn o farddon- iaeth brydferth a gafaelgar. Hen gyfaill yn ei gono.—Henaidd ydyw ef o ran ei gynllun. Eheda yn ol i Eden a'r cyngbor boreu i gael arweiniad at ei destyn; ond wedi dyfod ato, mae yn ei drin yn dyner a melus. Rhydd ddarlun- iad cyflawn iawn o'r gwrthddrych, ac y mae llawer o'i linellau yr un waed a'r awen wir. Un a pharch i'w goffawdwriaeth.—Dyma bryddest wedi ei hysgrifenu yn hardd a diwall, ac yn llawn teimlad o naturioldeb. Ceir ynddi ambell ergyd sydd yn taro y dagrau o'n llygaid. Yr unig beth ddy- munasem fod yn well yn ei berthynas a hon fuasai ei gweled yn helaethach ar nod- weddion Dafydd Henry fel gweinidog Treulia yr awdwr fwy na haner ei linellau cyn dechreu arno dan y cymeriad o weinid- og. Myfyriwr llwm i farw.—Pryddest yn llawn tynerwch a naturioldebi rMae ysbryd y peth byw yn rhedeg drwyddi o'r dechreu i'r diwedd. Darllenasom hi gyda mwyn- had amryw droion yn olynol; ac oni buasai fod yma un yn dilyn gwahanol nod- weddau cvmeriad y gwrthddrych yn fwy llwyr, baasai yn hyfrydwch mawr genym ei chyhoeddi yn oreu. Llais o dir Moab.—Pryddest faith yn tynu portread byw a chyflawn o'r diweddar Dafydd Henry ger bron ein llygaid. Teimlwn wrth ei darllen mai efe ac nid neb arall ydym yn weled. Mae ei chyd- mariaethau a'i ffigyrau yn newydd a phrydferth. a'i holl linellau wedi eu llwytho a barddoniaeth bur ac anfarwol, yn ol ystyr farddonol y geiriau. Er fod Myfyriwr llwm i farw yn hynod o dda, ystyriwn fod Llais o dir Moab yn llawn cystal o ran ei ddrychfeddyliau, ac yn fwy eyflawn yn ei ddarluniad o'r gwrthddryph, ac iddo ef y dyfarnwn y wobr. Hyn ar air a chydwybod, J. GWRHTD LEWIS. Bargoed, Ebrill 16. 1878

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

NODION O'R RWTHYN BAR1:DOL.

CWMBACH.

YSTRAD-MYNACH.