Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLUNDAIN. Y mae negcseuaeth o hyd yn myned yn mlaen, a-, er nad yw y rhagolygon heddyw yn edrych yn oleuach, eto nis gellir dweyd eu bod yn dywyllach nag oeddent ddoe." Dyna swm asylwedd y newyddion a ymddengys y naill ddydd ar ol y llall yn y prif bapyrau parth y -cyfwng Ewropaidd, a hyny er's tro bellach. Y mae Rwsia santaidd yn proffesu bod yn awydd- us am heddwch, a rhydd brawf i'r byd o'i diffuantrwydd drwy beidio a chydsynio i'r holl o delerau afrcsymol San Stefano gael en dadleu gan y Galluoedd Mawrion mewn cynadledd drwv beidio caniatau i'r carcharorion Tyrcaidd ddychwelyd i'w gwlad drwy gadw ei byddin- oedd mewn agwedd bygythiol o amgylch Caer- cystenyn, a gwneyd pob ymdrech i gryfhan ei sefyllfaoedd yno; drwy osod ei phawen ar Roumauia, a llanw y Tywysogaethau a'i mil- wyr ac ystorio ei dinasoedd caerog a chyflawn- der o fwydydd, dillad, a phob math o arlwy rhyfel; drwy ddefnyddio pob ystryw i gael y Twrc o'i thu. a phob cyfrwysdra i hudo a llwgr. wobrwyo Awstria i aros yn dawel; drwy ddar- paru horwlongau i'r perwyl o anrheithio traf- nidiaeth Prydeinig; athrwy wneyd darpariadau rhyfel,ar ar raddfa eangach nag erioed. Y mae Lloegr°ohoni hithau yn datgan ei bod yrun mor awyddus am heddwch a Rwsia. Ac fel pe bvddai am watwar ei rhagrith, ae i ddangos ei bod yn cyflawn wertlifawrogi bwriadau y Mascoviad cyfrwys a dichellgar, y mae ein Llywodraeth wedi danfon amryw o'i llongau rhyfel mwyaf dinystriol i angori gerllaw Caer- cystenyn, ac wedi danfon amryw ereill i For y Canoldir i fod yn barod wrth law pan fyddo eu heisieu. Y mae wedi prynu amryw longau rhyfel newyddion o'r maintioli mwyaf ag oedd wedi eu hadeiladu i genedloedd ereill. Y mae pob Jock-yard yn y deyrnas yn llawn gwaith ddydd a nos yn adeiladu llongau newyddion, ac yn adayweirio a darparu ereill yn barod at wasanaeth, Y mae Woolwich Arsenal, ac amryw weithfeydd arfau ereill yn y deyrnas, yn troi allan bob math o arlwy rhyfel gyda chyflymder arutlirol, ac y mae llongau yn eu prysur gludo tua Malta a Gibraltar. Y mae yr Ol-alluoedd Milwrol wedi eu galw allan, ac y i-R» Q P YU asos pob dyn ohonynt wedi uf uciQ.hau X alladf ac y mae yr Ol-alluoedd Llyngesol eto i gael ett galw allan yn ddioed. Y mae y fyddiS gvntaf sydd i gymeryd y maes eisoes wedi ei tfurfie, ac yn barod i daith ac y mae yr ail fyddtn mewn cwrs o gael ei threfnu. Y mae amryw gatrodau brodorol o'r India eisoes ar eu taitli tua Malta, a dywedir fod amryw gatrodau brodorol ereill yn rhyddgynyg eu hunain i fyried allan I ymladd gydar brwfryd- edd mwyaf. Mewn ychydig wythnosau eto bydd ein gwlad yn fwy parod, ac mewn cyflwr cryfach ac effeithiolach i fyned i ryfel, nag y bu vn unrhyw adeg o'i hanes. Yn ngwyneb yr holl barotoadau mawrion hyn sydd yn myned ■ yn mlaen gan y ddwy wlad ac er mor enbydus a thywyll yw edrychiad gwleidyddol pethau, y mae rhai pobl hyderus eto i'w cael a ganfydd- ant ryw beledryn o obaith am heddwch drwy r cwbl ond y mae y rhan fwyaf o bobl bellach, ar y Cyfandir yn gystal ag yn y wlad hon, wedi dyfod i edrych ar y rhagolwg am ddealltwriaeth i gymeryd lie rhwng Rwsia a Lloegr fel peth anobeithiol, a bod rhyfel rhyngddynt yn an. ocheladwy, oddieithr i rywbeth rhyfedd gymer- yd lie, a hyny yn fuan iawn. Y mae y pwnc mewn dadl rhwng y ddwy wladyn syrnl ddigon, ac mor eglur a goleu ddydd. Y mae Rwsia, er ei hymrwymiad i Gytundeb Paris yn y flwyddyn 1856, a'r Cytundeb a adolygwyd yn Llundain saith mlynedd yn ol, yn honi hawl i benderfynu j Pwnc Dwyremiol, o'r hyn lleiaf, ran bwysig ohono, heb gydsyniad y Galluoedd Mawrion. Tra y mae Lloegr wedi datgan, mewn iaith groew a phendant, na fydd iddi gydnabod un. rhyw fath o Gytundeb na fyddo wedi ei law- nodi gan yr holl o'r Galluoedd Mawrion, ac y bydd iddi fyned i ryfel yn hytrach na chaniatau i Rwsia gael ei ffordd ei hun yn y mater. Y mae Rwsia wedi myned rhy bell i dynu yn ol heb golli urddas, ac nid oes y tebygolrwydd lleiaf y bydd i Loegr hildio yr un iota o'r tir y mae yn sefyll arno. V mae ei hymddygiad mewn perthynas i'r pwnc, yn ein tyb ni, yn berffaith deg a chyfiawn cymeradwyir hi yn gyffredinol ar y Cyfandir, ac nis gall neb yn y wlad hon sydd yn rhydd oddiwrth ragfarn ei chondemnio am y cwrs y mae wedi ei gymeryd. Ond pa un a fydd ein Llywodraeth yn ym- ddwyn yn iawn i fyned i ryfel yn unigol o barthed i bwnc sydd yn dal cysylltiad agosach a phwysicach a gwledydd ereill nag ydyw a hi ei hunan sydd fater arall. Barnwn y dylai ein Llywodraeth, yn ddiymaros, apelio at y wlad er cael llais y bobl ar y pwnc. Y mae rhyw sibrwd y bydd i hyny gymeryd lie, ond pa sail sydd dros hyny nis gwyddom. Er ein bod yn hollol groes i'r wlad hon fyned i ryfel, yn ein byw nis gallwn gymeradwyo yr holl ddifriaeth a'r melldithion a arllwysir ar ben ein Prif- weinidog fyth a hefyd. Nid oes un sail i farnu nad yw yn credu yn gydwybodol mai y policy sydd wedi ei fabwysiadu ganddo yw y goreu er diogelu buddianau, ac i ddal i fyny urddas ein teyrnas. Gellid meddwl, oddiwrth yr hyn a siaredir ac a ysgrifenir gan rai pobl, nad yw yn amgenach na bradwr diegwyddor, neu yufyd. ddyn mwy teilwng o fod mewn gwallgofdy nag yn Brifweinidog. Y mae syniadau felly yn an- hael i'r eithaf. Y mae twylt a hoced Rwsia erioed mewn perthynas i'r Pwnc Dwyreiniol yn berffaith hysbys i'r byd, a chyfrifir Tywysog Gortschakoff yn un o'r diplomatists mwyaf cyf- rwysgall yn Ewrop. Y mae yn amheus a ellid cael gwleidyddwr yn y wlad hon, neu yn unrhyw wlad arall yn fwy cymhwys nag Iarll Beaconsfield i chwareu y game bresenol a'r card- sharper diplomayddol o St. Petersburg. Os aiff Gortscakhoff tu hwnt i'r hen Dizzy, bydd yn llawn bryd i'r gwr drwg ei hun i edrych at ei lawryf. Y mae wedi myned yn ffasiwn yn ddiweddar, gan rai ysgrifenwyr Cymreig a Seisnig, i roddi amlinelliad o fywyd cyhoeddus y Prifweinidog, yn mha un y mesurant ei allu- oedd, y difenwant ef fel person diegwyddor, ac y gwawdiant ef fel gwleidyddwr yn y modd mwyaf haerllug eithr nid yw ymgais y cyfryw bobl, yn ein tyb ni, yn amgen na chorachod yn lluchio llwch yn erbyn pyramid.

CORA U GAF COCH.

AT YSGBIFENYDD EISTEDDFOD…

Cyfarfod Glowyr ^yn Nghwm…

Eisteddfod Siloam, Gyfeillon.

Eisteddfod Pentre, Ystrad…

Eisteddfod Llanilltyd Fardre.

Family Notices

Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwch…

GAIR 0 L'ERPWL.