Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Masnach yr Haiarn a'r_ Glo.

News
Cite
Share

Masnach yr Haiarn a'r_ Glo. ?AJs iya Durham, ,Clevdand/.a Newcastle, yr ^ythnos ddiweddaf, cefais.arddeallnadoedd sefyllfa masnach y glo wedi newid dim.. er w-eli fy airoddiad yr wythnos d'di- Weddaf. Mae rliii mana-ul-lle y frweitliia y Qiwirwyr o chwech i saith. diwrnod bob PytliefnoS; yn y glo dosbarth yr ail a'r irydydd. Y iEuth yw, y mae masnach mewn sefyllfa mwy marwaidd nag y bu e1"s ugaln mlynedd. Mae rhyw obeithion yr egyr y Baltic yn fuan, ac y daw § masnach ychydig yn fwy bywiog. Ychydig ddyddiau yn ol y iriae gostyngiad wedi cacl ei, wneyd yn nihris :glo tai sydd wedi cael ei drosforio o'r Tyne, Wear, a Hartlepool. Maent yn ei werthn yn awr am 10s. 6c. i lis. y dunell. Nid oes yn Y cylchoedd hyn nemawr cysur i'r morwyr, 'druain, oblegyd fod pris cludiad drossy mor yn isel. Yn WORKINGTON, "cefais fod masnach yr haiarn bwrw yn byw- hau, ïe, yn fwy bywiog na'r wythnosau "-blaenorol, er nad i'r graddau y dymunid. Mae y todd-dai a'u gwaith yn lledgaraf^oad mae melinau haiarn bwrw yn gweithio yn fywiog.. Mae pethau yn lied ddigaka yn siroedd Lancaster, Efrog, a Derby, am fod pethau yn parbau yr un fath ag oedd yr wythnosau blaenorol. Y marchnadoedd yn parhau, yn hynod slac, a masnach mewn modd cyffredinol Siewn sefyllfa hynod o wael, a llawer o Werthu dan ledlaw er sicrhau archebion. Mae glo tai yn hynod isel, a glo ffwrnesi heb ond o'r braidd dim gaty am dano. Mae gostyngiad cyflogau wedi dyfod yri ffaith drwy holl weithfaoedd glo a haiarn Lloegr, yr hyn, fel y mae mwyaf y trueni, yn peri gwelwdod i wynebpryd y gweithwyr. Wedi i mi, dydd Gwener diweddaf, gyrhaedd Cymru o drefi Lloegr, a theithio rhanau o siroedd Mynwy, Morganwg, a dyfod i ABERTAWE, F* 1 R cefais allan mai ychydig o fasnach oedd yn cael ei wneyd yn y cylchoedd hyny yn y prif weithfeydd haiarn, a masnach yn ei holl ranau yn hynod o wael. Nid oes dim galw am haiarn, nac, mor bell ag y gallaswn i gael gwybodaeth, dim archebion am dano yn y farchnad. Mae y prynwyr a'r gwerthwyr yn dysgwyl am delerau mwy iselbris, yr hyn y dywed y gwneuthurwr ei fod yn annichon- adwy. Nid oes dim gostyngiad ychwanegol wedi cael ei wneyd yn y cyflogau. Y mae cyfiawnder o lo i'w gael am bris digon isel. Mae digon o alw am lo mor a glo tai, ond fod y pris yn druenus o wael, fel mae y perchen- Ooion ar eu colled. Mae y liong-orsafoedd yn orlawn o longau, fel y mae diwrnod cyfan yn cael ei dreulio i gymeryd Ilollgau allan i'r mor, ar ol iddynt gael eu llwytho, a thrwy hyny lawer o golled yn cymeryd lie. Yn NGHAERDYDD, boreu heddyw (dydd Llun), yr wyf wedi cael ar ddeall fod y glowyr yn nghylchoedd Cwm Rhondda, gydag ychydig eithriadau, yn ym- aflyd yn eu gwaith dan safon newydd .gweithio, sef y Sliding Scale, er fod cryn an- foddlonrwydd yn bodoli yn barhaus. Yn ATERTHYR TYDFIL, o'r hwn le yr wyf yn anfon y llythyr hwn, mae yn foddus genyf ddeall fod y rhybudd a roddwyd gan Gwmni Glo Plymouth, sef fod eu holl byllau yn cael eu hatal ond dau, yn mhen mis, wedi cael ei newid, ac ail rybudd wedi cael ei roddi mai yn niwedd mis Mawrth y bwriedir i. hwnw ddyfod i weithrediad. Coleddir gobeithion y caiff y dwylaw oil waith, er y dywedir mai gobaith mewn niwl tew ydyw. Am Cyfarthfa, nid yw pris haiarnbwrwyfath ag a wna syiiibylu Mr. Crawshay i ad-danio ei ffwrnesi; eto, gobeithia y gwna hyny, os gall gael archebion sylweddol am haiarn. Yn RHYMNI, mae gwaith yn rhai o'r glefeydd wedi ei lwyr :atal, tra y mae ereill yn gweithio yn rhanol. 'Mae yr hauliers a'r hitchers yn nglofeydd glo tai yn hawlio 4s. y dydd, yn lIe 3s. 3c. a 3s. 6c., y cyflog a ganiateir iddynt ar ol tynu y per centage cyffredinol. Yr wyf yn metliu •deaU paham y dysgwyliant hwy gael eu ffafrio yn fwy na'r gweithwyr glo. Mae yn drueni meddwl fod lluaws mawr o ddynion, y rhai ydynt yn bryderus am weithio, yn cael eu Thwystro i wneyd hyny gan yr ychydig, y rhai, oblegyd eu bychander, a dybiant y gallant gael beth bynag a darawo yn eu sioi- 411. Mae y gweithfeydd haiarn yn gweithio yn rheolaidd, a mwy o archebion, yn benat Indiaidd a Swedaidd, wedi eu derbyn yn yr ardal. Mae y gweithwyr haiarn yn dawel, ac yn dangos awydd;. wneyd y goreu o horn, gan wybod y buasai unrhyw gynyg o u heiddo i newid sefyllfa pethau yn troi allan yn anffrwythloii hollol. Gan fod y llythyrgod -ar gychwyn, daw cynwys y llythyr a ader- byniais o wlad tu draw i'r mor gyda y llythyrgod nesaf. > Chwef. 29, 1876. MASNACIIDEITlIfWR.

Advertising