Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y GLO TAI A'R SLIDING SCALE.

News
Cite
Share

Y GLO TAI A'R SLIDING SCALE. MR. GOL.—Yr wyt ti, y GWLADGARWR, wedi bod yn gyfaill i'r gweithwyr yn eu hawddfyd a'u hadfyd, ac wedi bod yn gyfar- wyddyd gonest a chall pe buasid yn gwrando ar dy laia oncl er ein gofid, nid felly y bu. Mynodd y rhai a ystyriant eu hunain yn ar- weinwyr y bobl eu ffordd, a chewch glywed beth y maent wedi ei wneyd clrosoni. Yr oedd yn amlwg i bob dyn ag oedd yn dewis gwybod, fod pris y glo wedi gostwng ddechreu y flwyddyn ddiweddaf, a bod gofynion y meistri yn rhesymol; ond yr oedd ein blaen- oriaid Undebol yn barnu yn wahanol, a. chynlluniwyd llwybr i gario eu golygiadau i -weithrediad, trwy waeddi arbitration! Heb fyned i fanylu, digon yw dweyd iddynt ein harwain i strike nad annghofir yn fuan, o herwydd y mae y wlad yn goddef yn bresenol oddiwrthi; ac y mae pob ymdrech o eiddo y glo-feistri yn methu eilill yfasnach a gollwyd yn ol hyd yn hyn, a thebyg mai felly y parha pethau am dymor o leiaf. Ar ddiwedd strike hir-gofiadwy 1875, trefnwyd i gael "Bwrdd Cyflafareddol," a chewch glywed beth y mae y bwrdd uchod wedi ei wneyd i ni, gweithwyr yr house coal. Yr ydym wedi cael gostyngiad o dros chwech swllt y bunt ganddo. Nid yw gwaith glowyr y glo mor byth yn myned gyda chysondeb a gallaf eich sierhau na fydd cynyrch diwrnod caled o waith yn yr house coal, o dan deleran y sliding scale, ddim dros bedwar swllt a dwy geiniog yn y dydd, a barned y wlad os ydyw hyny yn clal dyladwy, a chymeryd i mewn ei beryglon ac annghy- sondeb gweithio. Bu Mr. Abraham yn Llan- fabon yn Tachwedd diweddaf yn pregethu pregeth y bwrdd, ac yn ein hanog i fod yn ffyddlawn wrth ei gefn, y byddai y bwrdd yn sicr o fod yn fantais annhraethol i ni; fod codiad yn dyfod i ni yn ol pris y glo yn y farchnad y pryd hwnw; ond rhyfedd, pw, ond Mr. Abraham oedd un o'r pump fu yn arwyddo cytundeb fod yn rhaid i ni gymerjd gostyngiad o yn agos i saith swllt y bunt, a phris y glo yn cael ei gymeryd o'r mis ag y dywedai ef fod codiad yn ddyledus. Onid yw y ffaith uchod yn dangos anwybodaeth neu anallu anfaddeuadwy ynddo ef a'i gymdeithion i fod yn flaenoriaid. Eto, y mae yn hen gy- tundeb gan lowyr Mynyddislwyn, pan fyddai y glo yn y farchnad yn 8s. y dynell, fod y glowr i gael Is. 6ch. am ei thori, ac am bob swllt fyddai y glo yn godi dros wyth swllt y y dynell, fod dwy geiniog i'r glowr. Gallasem 1 1-1 gael y telerau yna heb yr un bwrdd ond cymerasom ein harwain at y bwrdd, a dyma beth a gawsom, gostyngiad 0 8-ftc. y dynell. Tori tynell o lo am Is. 5|c., a'r glo yn gwerthu yn y farchnad am lis. 3c. y dynell. Yn ol yr hen gytundeb a fodolai, fel y crybwyllais, dylasai'r glowr gael 2s. y dynell pan fyddai y glo yn gwerthu am lis. Hefyd, yr oedd y glowr ,i gael;2g. o godiad am bob swllt o I godiad yn y pris gwerthu, pan, dan amodau y bwrdd, ni chaitt' ond 7 i y cant, hyny yw, lte. y dynell. Gwelwch fod yr house coal colliers wedi cael eu crogi gan y bwrdd cymod- lawn. Buasai yn llawer gwell i ni adael at ewyllys y meistri, ni fuasent hwy byth yn cynyg yr hyn a gawn yn bresenol; ond wedi i ni ddewis dynion i'n cynrychioli, daeth gallu ein moistri i ymosod ar eiddilod, ac y mae yn amlwg eu bod yn medru eu harwain i'r man y mynent,. a gwneyd a hwy fel y mynent. Ac yn awr y maent yn erfyn am gynorthwy glowyr y glo ager i gadw y cortyn am ein gyddfau. Anwyl frodyr, na fyddwch mor greulon os na chynorthwywch ni, na rwym- wch ni. Os ydyw y bwrdd wedi ein gwerthu, gadewch i ni geisio enill ein rhyddid unwaith eto. Y cwyn sydd genym yn erbyn y bwrdd yw ei fod yn eeisio ein rhwymo i gymeryd 5e. y dynell o ostyngiad yn fwyna'r hyn yr arferem gael heb y bwrdd, gan fod pris gwerthu y glo yn lis. 3c. y dynell. Hefyd, pan ddaw y rhod i droi, a'r farchnad i godi, dim ond a gawn gan y bwrdd o godiad am bob swllt o godiad yn mhris y gwerthiad, tra yr arfer- em gael 2g. am bob swllt. Barned y wlad os ydym yn cael chwareu teg o dan gyfamod y bwrdd. Buasai yn llawer gwell i ni roddi ein hachos yn llaw tyfreithiwr neu accountant na'i ymddiried i'r personau yr ymddiriedwyd ef iddynt.—Yr eiddoch, GOHEBYDD.

GLOWYRTREHERBERT A PHYNC-IAU…

EISTEDDFOD LLWYNYRONEN A'R…

GOHEBIAETH 0 L'SRPWL.

[No title]

Ysgoldy Brytanaidd Clydach.

Advertising

EISTEDDFOD PONTNEWYDD.