Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y Bwrdd Cymodol.—Y Cyfarfod…
Y Bwrdd Cymodol.—Y Cyfarfod yn Merthyr. Fel ag y gallesid dysgwyl yn naturiol, yr oedd y gostyngiadau mawrion yn nhafien gylweddedig y Bwrdd Cymodol yn dra thebyg o gymeryd ein glowyr by surprise, ac ,y felly y bu. Teimlid anfoddlonrwydd mawr i'r gostyngiadau yn mhob cyfeiriad, ac yr -oedd son a sibrwd am strike fel yr ydym yn deall yn dyfod o wahanol fanau. Yn Nyffryn y Rhondda a sir Fynwy, mae gost- yngiad yn y glo tai yn gymaint a 30 neu 33 y cant, ac fel y gwyr y cyfarwydd y mae hyny yn gwneyd bwlch pwysig iawn yn y bunt. Yn Nyffrynoedd Aberdar a Merthyr, nid yw y gostyngiad ond tua chwarter cymaint. Yr oedd gweithwyr y glo ager, wrth gwrs, yn derbyn eu gostyngiad i fesur yn ddirwg- nach pan y gwelent ei fod mor drwm ar dorwyr y glo tai. Ond yr oedd yr olaf yn grwgnach yn gryf, ac yn haner os nad tri .chwarter bygwth ignorio y 'Bwrdd Cymodol, a threio eu siawns goreu y gallent gyda y meistri, gan ymddiried a gobeithio yn symudiadau cyfnewidiol y farchnad. Yn gweled felly fod y murmur yn dra chyffredin- ol, penderfynwyd galw cyfarfod o gynrychiol- wyr y gwahanol lofeydd, er deall teimlad y miloedd o barthed i Bwyllgor y Sliding Scale, ac ymgynullwyd dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, yn y Cross Keys Inn, Merthyr, pan y daeth yn nghyd rhyw ddau cant a haner o ddirprwywyr, yn cynrychioli rhyw 35,800 o lowyr neu 11,835 o lowyr glo tai, a. 23,977 o lowyr glo ager. Llywyddwyd gan Mr. Joseph Price, Aberdar; a'r is-lywydd ydoedd Mr. James Rogers, Rhondda. Ys- grifenyddion Mri. W. R. Jones, Cefn, a Joseph Watkins, Aberdar. Daethpwyd yn mlaen yn fuan at brif bwIic y cyfarfod, sef cael teimlad a phleidlais y glofeydd gyda golwg ar ddyfarniad y Bwrdd Cymodol. Yr oedd cynrychiolydd pob glofa i gyhoeddi nifer y dynion a gynrychiolai, a pha fodd y dy- munent bleidleisio, a chafwyd y canlyniad fel y canlyn :— Anmhleidwyr, 8403 dros sefyll at y dyfarniad, 18,475 dros roddi rhybudd i dynu yn ol 8,934. Gwelir felly fod mwyafrif mawr dros sefyll at ddyfarniad y Bwrdd Cymodol. Yna cynygiwyd a char- iwyd y penderfyniadau a ganlyn :— 1. Ein bod ni fel cyfarfod yn gwasgu ar ein cydwladwyr i dalu y chwe cheiniog levy at dreuliau y Bwrdd Cymodol mor gynted ag y byddo yn bosibl i Mr. Williams, Bute Arms, Aberdar, trysorydd. 2. Fod y cyfarfod hwn yn gwasgu ar Mr. David Morgan i gadw ei sedd ar y Bwrdd Cymodol. Wedi rhyw gymaint o berswadiaeth cyd- xmodd Mr. David Morgan i beidio tynu yn ol. Apwyntiwyd prawf-chwilwyr i fyned trwy gyfrifon y Bwrdd Cymodol, ac yr oedd yn ddealledig yn y cyfarfod nad oedd gweith- wyr y glo tai i gael hawl i roi rhybudd i dynu yn ol oddiwrth y sliding scale heb gydsyniad gwyr y glo ager. Gwelsom hanes fod glowyr Waunarlwydd allan ar strike mewn canlyniad i anfoddineb at weithrediadau y Bwrdd Cymodol.
Mr. Clark, Dowlais, ar Fasnach…
Mr. Clark, Dowlais, ar Fasnach Hai- arn a Dur Prydain a Gwledydd Tramor. Mewn cyfarfod pwysig o Gymdeithas Hai- arn Prydain, a gynaliwyd yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, pan yr oedd lluaws o brif fasnachwyr y deyrnas yn nghyd, traddod- odd Mr. G. T. Clark, y cadeirydd, araeth alluog, sylwedd yr hon a roddwn yma. Dywedai fod y Gymdeithas yn gynwysedig o ddynion a gynrychiolent un o ganghenau mwyaf llafur masnachol Prydain, yn defnyddio cyfalaf aruthrol, ac yn rhoi gwaith i filoedd o oersonau. Amcan y gymdeithas ydoedd i sicrhau cyfrwng trafnidiaeth rhwng masnach- au haiarn a dur Prydain Fawr ar bob materion yn dal cysylltiad a buddianau masnachol y sefydliadau hyn, i fynu a chylchdaenu ystad- egau manwl o fasnachau haiarn a dur gartref ac mewn gwledydd tramor; i ymdrin a phob mater cysylltiedig a phrisoedd tramorawl, trafodaethau masnachol, a gwaith Seneddol a fyddai yn dal cysylltiad a sefyllfa masnach haiarn a dur, gan gau allan gwestiynau o barthed cyflogau neu o nodwedd hollol leol; ac yn gyffredinol i fabwysiadu pob mesur priodol erhwylysu buddianau masnach Laiarn a dur Prydain yn ei holl gangau. Ni fy Hent i ymyraeth a chymdeithasau lleol, a phan gyfodai cwestiynau mawrion byddai y gym- dymdeithas i fod o gynorthwy mawr i'r man gymdeithasau hyn. Yr oedd gwladlywiaeth gyffredinol prif wledydd Ewrop a'r Unol Dalaethau yn cryf ogwyddo tuag- at amddi- ftyniad, ac yr oedd yr effaith wedi bod ar y fasnach haiarn i fesur mawr i gau allan haiarn Prydain o Ffraillc, Belgium, Germani, a'r Talaethau, ac ymddangosai Rwsia fel yn dilyn yn yr un cyfeiriad ac yr oedd ganddynt amcan i brofi i lywodraeth y dydd lie /r oedd gwarafuniadau niweidiol yn cael eu gosod ar eu llaw-weithwyr, (Clywch.) Yr oedd cwest- iynau yn dal perthynas a masnach haiarn yn dod o flaen y Senedd bob blwyddyn, yn fynych yn cael eu dwyn gerbron gan Undebau Crefftol, a thrwy nerth y farn gyhoedd, y rhai, pan yn anwybodus o'r amgylchiadau, oedd yn gy- ffredin yn erbyn yr haiarn-weithwyr, a byddai yn ddyledswydd arnynt i edrych ar ol y materion hyn. Yr oedd y gymdeithas yn ddoeth wedi penderfynu cau allan gwestiynau o barthed rbeoleiddiad y cyflogau, neu o nod- wedd leol, y rhai y byddai yn well eu gadael i'r cymdeithasau lleol; ond yr oedd yr holl gwestiynau hyn yn suddo i dinodedd, pan ddynesent at gwestiwn mawr cyflogau llafur. Yr oedd cyfuniadau ar ran y dosbarth crefftol wedi cyfodi, a chan fod Undebau Crefftol ynddynt eu hunain yn gyfreithlon ac yn iawn, gellid casglu cwrs eu gweithrediad, yn hytrach o'u hymarferiad na'u proffesiadau; eu prif amcan oedd cynyddu y cyflogau. Ond wrth wneyd hyn, yr oeddynt yn mabwysiadu moddion oedd yn lleihau cy- nyrehiad trwy gyfyngu nifer y crefftwyr a dderbynid fel egwyddorweision i'r fasnach, trwy fyrhau oriau gweithio, drwy annghefn- ogi darn-waith (piece-work), ac, lie yr ydoedd yn bosibl, ddefnyddiad peirianau; ac yr oedd yn anhawdd dweyd pa un o'r dyfeisiau hyn oedd yn fwyaf gwrthwynebus i egwyddor gadarn, neu i fuddianau cyfFredinol yr holl gyfundeb, (Clywch, clywch.) Gyda golwg ar oriau llafur, addefai eu bod mewn rhai mas- nachau yn rhy hir i gyfartaledd y gweithwyr, a chan belled ag y tueddent i'w dirwasgu yn gorfforol a meddyliol, yr oeddynt yn niweidiol i'r cyfundeb. Yr oedd ymwared ar y pen hwn yn ddiau yn angenrheidiol; ond i wahardd un dyn, beth bynag fyddo ei nerth neu ei fedr, i ddefnyddio y galluoedd hyn er- ei fudd arbenig, braidd y gellid dweyd oedd y ffordd i'w ddwyn oddiamgylch, (Clywch, clywch.) Yr oedd tuedd yn y fath drefn i ddarostwng pawb i wastadrwydd marw. Yr oedd y cyfyngiadau hyn wedi eu gwthio mewn grym drwy bob math o orfodaeth, o ysgymun- iad cymdeithasol i fyny hyd anafau corfforol pwysig, ac hyd yn nod angau. Effaith union- gyrehol yr Undebau oedd i ostwng safon y rhagoriaeth a gythaeddid gan ddiwydrwydd Prydeinig, i waethygu ansawdd, i leihau swm, ac i gynyddu traul, ac i wneyd hyn trwy wahardd rhyddidJpersonol a chroesgyfyrio ewrs naturiol llafur i gyfeiriadau celfyddydol. Yr oedd yn well gadael y pwyntiau hyn a'u cyffelyb i gael eu penderfynu gan ddeddfau naturiol. Yr oedd y system hon o ymyriadau a deddf naturiol wedi cynyrchu ei heffeithiau yn Lloegr trwy y cynhyrfiad a roddai i gy- nyrchiad mewn gwledydd ereill. Yr oedd cyflogau yn y wlad hono lawer yn is nag yma, a thraul bywoliaeth rywbeth yn debyg. Yr oedd llai o esgus dros y policy hunan-laddiadol nid yn unig yn Belgium, ond hefyd yn Ffrainc a Germani. Yr oedd y cyflogau yn is, a safle y crefftwyr yn llai manteisiol nag yn y wlad hon. Yn Lloegr yr oedd ymborth, dillad, a llety mor rhad, os nid yn rhatach, nag ar y cyfandir, a gallai gweithwyr diwyd, darbodus, a medrus, ar hyn o bryd wneyd yn well drostynt eu hunain yma nag erioed yn yr Unol Dalaethau. Nid oedd y crefftwr yn well ei gyflwr, fe ddichon, yn un man na Lloegr, oddigerth yn Holland a Switzerland. Yn Switzerland, ymddangosai fod yn ddyledus i fwy o gynildeb ac absenoldeb annghymedr- oldeb. Tra yn rhoddi pwys, dyladwy ar rinweddau rhagorol gweithwyr Prydeinig, nis gellid gwadu fod ymddygiad eu hundebau crefftol .wedi bod yn wrthsafol i egwyddorion rhydd-fasnach a rhydd-weithrediad. Er y buasai yn dra annymunol i'w cymdeithas ddyfod yn faes gwrthddadleuaeth, eto, nis gellid gwadu y byddai ganddynt i ddelio a chwestiwn cyflogau llafur, ar benderfyniad pa un y dibynai ffyniant eu masnach eu hunain, ac i fesur mawr eiddo eu gwlad eu hunain, (Clywch, clywch.)
Y 'Double Shift' yn Morganwg
Y 'Double Shift' yn Morganwg Un o'r pethau anhawddaf i ymgymodi ag ef yn nglyn a thori glo, i deimlad y glowr Cymreig, yw y gyfundrefn. elwir y double shift. Gwnaed ymdrechion egniol i ddwyn y dull hwn o weithio i rai o lofeydd y Deheu- dir flynyddau yn ol, ond gwrthwynebwyd ef yn hyf a phenderfynol gan y gweithwyr, a llwyddasant i'w gadw yn mhell draw. Mae y dull hwn o weithio yn gyffredin yn nglo- feydd gogledd Lloegr, ac y mae yn naturiol i ddynion o'r rhanbarth hono o'r wlad, pan yn ymfudo i'r Deheudir, ddwyn gyda hwy rai estron-arferiadau. Hysbysir ni fod ymgais yn cael ei wneyd i gael gan y gweithwyr i dderbyn y double shift yn mhwll Ynysowen, ger Troedyrhiw, eiddo Mri. Nixon. Yn fynych mabwysiadir y dull hwn ar gychwyniad glofeydd newydd- ion, a dyoddefir ef hyd nes y byddo y gwaith wedi ei agor yn briodol. Aeth y swn ar led fod yn mwriad perchenogion y gwaith i weithio y lofa yn barhaus ar y double shift; a chan fod hyny mor groes i deimlad y gv. eith- wyr, penderfynwyd ffurfio dirprwyaetti i fyned i siarad a Mr. Brown (un o brif swydd- ogion y cwmni) ar y pwnc. Hysbysir -ni i'r ymweliad gymeryd lie dydd Sadwrn diweddaf, pryd y datganodd y gweith- wyr eu annghymeradwyaeth drwyadl hwy a'u cydweithwyr i weithio ar y double shift; ond cynygiasant weithio dwy shift ar yr headings, ac un ar y talcenau hyd nes yr agorir y gwaith yn briodol; ond y carasent wybod beth oedd bwriad y cwmni yn nglyn a'r dull o weithio y lofa yn barhaus. Dywedodd Mr. Brown fod yn rhaid parhau ar y double shift, megys y gweithir yn Ngogledd Lloegr, a manau ereill, -sef dwy shift ar yr headings, a thair ar y talcenau. Deallwn hefyd fod rhybudd wedi ei osod ar ben pwll Ynysowen fod yn rhaid i bawb o weithwyr y lofa hono dderbyn y double shift, neu ynte ymadael. Mae y cyfnewidiad pwysig hwn yn cael ei gynyg ar adeg pan mae miloedd o weithwyr yn haner segur yn y glofeydd; a diau y creda y meistri fod digon o ddwylaw i'w cael i ym- gymeryd a gorchwylion tanddaearol gan nad ar ba ddull y dygir hwynt yn y blaen. Diau y bydd i'r achos hwn greu cryn gyffro, ac y gwelir y glowyr yn cael eu hailfeddianu gan y teimlad penderfynol fu yn eu nodweddu y blynyddoedd aethant heibio.
.......'v--Manion Hanesyddol.
.v Manion Hanesyddol. Nid oes terfyn ar haerllugrwydd ac fel y cynydda gwybodaeth a dysg, felly hefyd y cynydda ynfydrwydd. Am wn i nad yw hon- iadau yr Ogwyson" hwn yn mhlith yr ynfytaf o'r ynfydion. Dyledswydd pob Cymro ydyw amddiffyn iaith a defodau ei genedl; ond ynfydrwydd meddwl fod yn rhaid ym- fudo i ryw wlad neillduol tudraw i linell y y cyhydedd er cadw yr Omeraeg yn fyw. Nid yw o un gwahaniaeth i ba le yr ymfuda y Cymry os byddant am gadw y Gymraeg yn fyw, ni fydd dim a wna eu rhwystro. Onid oes miloedd o Gymry wedi eu geni yn yr Amerig yn medru cystal Cymraeg a golygydd y GWLAD- GARWR. Faint o feibion a merched Cymru sydd yn nhrefydd a dinasoedd Prydain yn ymwrthod a'r Gymraeg o herwydd balchder ac hunanoldeb—llawer o honynt yn colli eu Cymraeg cyn y byddont wedi dysgu Seisneg. Ffiloreg wirionffol ydyw dweyd fod llywodr- aethwr y bydoedd yn gosod arbenigrwydd ar Hil Gomer mwy na rhyw genedl arall. Beth pe dywedwn wrth "Ogwyson" fod y dyn ag sydd wedi cael ei benodi yn Benllythyrydd y wlad y sonia am dani yn euog o ysgrifenu llythyrau'Seisneg at gyfeillion Cymreig. Yn ngwyneb hyn priodol gofyn yn mha le y mae sel wladgarol a phybyrwch y t&n Cymreig ? Gall "Ogwyson" a minau fod yn dawel parthed cadwraeth y Gymraeg, am y rheswm mai ymledaenu y mae hi yn barhaus, fel nad yw yn debyg y derfydd am oesoedd y ddaear. Seisneg ydyw iaith masnach y byd, a dylasai pawb Cymry ddysgu Seisneg er mwyn enill safle yn y byd; ond cofier, nid ar y draul o esgeuluso ac annghofio y Gymraeg. Cyfeiria fod y mudiad yn cael sylw mwyaf manwl goreugwyr y genedl Gymreig. Rhyfedd iawn Dyma ddarganfyddiad newydd a didroi yn ol, oblegyd mae y doethawr mawr Ogwyson" yn cadarnhau y gosodiad, a phwy fedr amheu ? Ni fuaswn yn ymostwng i sylwi ar ei druth oni buasai i mi feddwl y gallasai ymchwyddo a gwneyd niwed iddo ei hun, ac i minau gael fy nal yn gyfrifol am yr anffawd. Gobeithio bydd y gwres sydd ar ymenydd y boneddwr wedi lleddfu tipyn cyn y delo y nodion hyn i'w law, am na charwn ar un cyfrif i'w gymydogion gael eu gorfodi i'w symud tua Phenybont er dyogelwch. Hoffwn weled gwlad neu drefedigaeth Gym- reig, ond ni charwn weled neb yn cael eu camarwain i le nad yw yn cyfateb ag anianawd y Cymry, a lie nad oes un gobaith am lwydd- iant masnachol. Odid na chawn air eto gan y doethawr "Ogwyson," hyd hyny mi dawaf ar hyn, gan fyned yn mlaen at rywbeth arall a ddaw i sylw. Mewn newyddiaduron Seisnig, fe sylwa un gohebydd fod nifer o Wyddelod American- aidd yn dyfod drosodd i ddadleu am rhydd- had y carcharorion Ffeniaidd. Sylwa nad oes terfyn ar wladgarwyr a gwladgarwch pan fyddo digon o arian wrth law, a bod y tal da a dderbynia llawer yn eu gwneyd yn orselog o wladgarol. Fe etyb y sylw yn eithaf yn mhlith ein cenedl ni, lie mae cymaint o ffugio gwladgarwch, a chymaint yn dyheu ar flaen y tafod am lesiant a llwyddiant y werin bobl. Gadawaf y darllenydd i farnu y pwnc yn y goleu a fyno, ond credwyf fod yn y sylw gyfrolau o wirionedd a deimlir gan fil- oedd ag sydd yn dewis agor llygaid ar ddull y byd yn myned heibio. Os na fydd i'r llafur- wr ei hun ofalu am ei bethau, nid yw yn debyg y ceir neb arall i wneyd os na fydd elw yn y drafodaeth. Mae yn bosibl dwyn yn mlaen syniudiadau gwladgarol a chyflym gynyddol trwy gydymuniad gweithredol, a phenderfyniad dyfalbarhaol. Aur ac arian yn gysylltiedig a llafur ydyw nerthoedd masnachol y byd,- a phwy ond y llafurwyr allai lywodraethu y byd drwy gyd-dynu wrth raffau cyfiawnder a gwirionedd.—Yr eiddoch, SOLON (ond nid yn Hades).
Cyfarfod mawr o'r glowyr yn…
Cyfarfod mawr o'r glowyr yn Nghwm Rhondda. Y mae yn ffaith ddigon hysbys, bellach, fod corff mawr o lowyr (yn neillduol glowyr y glo tai) yn hollol anfoddhaol i ddyfarniad y Bwrdd Cymodol, ac yn ystyried y gostyng- iadau aruthrol yn gwbl anwarantedig. Cynal- iwyd cyfarfod mawr o'r glowyr yn y Porth (Cwm Rhondda) dydd Llun, a siaradodd amryw yn gryf ac yn groew yn erbyn gweith- rediadau y Bwrdd, gan gondemnio cynrych- iolwyr y glowyr. Pasiwyd penderfyniad fod pob glofa i anfon cynrychiolydd i gyfarfod y dirprwywyr, yr hwn a gynelir yfory yn y Nelson.
Cylchlythyr y Caetlwas Ffoedig.
Cylchlythyr y Caetlwas Ffoedig. Dydd Iau (wythnos i ddoe), cariwyd yn mlaen yn Nhy y Cyffredin ddadl ohiriedig ar y cwestiwn uchod, pan y bu siarad maith a brwd o'r ddwy ochr. Ceisiai Syr John Holker, Twrne Cyffredinol, ddangos a phrofl fod llongau mewn porthladdoedd tramor yn ddarostyngedig i reolau y porthladdoedd hyny, ac i wahanol ddarbbdion tollawl perthynol iddynt. Ond dangosai Mr. Her- schel, o'r tu arall, nad oedd dim o reolau y porthladdoedd neu y gwledydd i ba un y perthynent i deyrnasu yn ein llongau. Er eymaint cyfreithiwr yw Syr John Holker, maeddwyd ef yn deg mewn rhesymau gan Mr. Herschell. Siaradwyd yn dda gan amryw ereill o'r aelodau Rhyddfrydol, megys Mr. Stansfield ac A rdalydd Hartington. Ar ol yr olaf, cododd yr hen gadfridog Disraeli i draethu ei len mewn araeth faith a phur sur- llyd. Baich mawr ei sylwadau ef oedd ceisio profi fod y llywodraeth Ryddfrydol yn 1871 wedi gwneyd yr un peth mewn effaith trwy ei Gweinidog Tramor (Arglwydd Clarendon), ac nad oedd y Rhyddfrydwyr yn awr yn gwneyd dim ond condemnio yr hyn a wnaeth- ant hwy eu hunain flynyddau yn ol. Aeth yr hen wr yn bur daeog cyn gorphen ei araeth :a plian oedd tipyn o swn a chynwrf yn mysg y blaid wrthwynebol, dywedodd, "What is the matter with you?" Dywedai nad oedd yn gwybod dim am y cylchlythyr cyntaf, er mai efe oedd yn gyfrifol am dano. Condemniai yn gryf yr ymgais a wneid i osod y -blaid Doriaidd yn y lleiafrif, a hyny ar draul aberthu enw da ac anrhydedd gwlad- weinwyr blaenorol. Tystiai ef y byddai i'r Ty ategu y Llywodraeth, a thybiai hefyd y byddai i farn bwyllog y wlad gymeradwyo yr hyn a wnaeth o barthed i'r cylchlythyr hwn, ac y byddai pleidlais Ty y Cyffredin y nos hono, hefyd, roddi boddlonrwydd i'r wlad. Wedirhanu y T.9", eafwyd fod gan y Llywodr- aeth fwyafrif o 43.
BETHESDA.
BETHESDA. Chwef. 21ain, traddododd y Parch. Gurnos Jones, Talysarn, ddarlith alluog iawn ar "Offeiriad Aaron ac Offeiriad Harri," yn Methesda, i dorf luosog. Cymerwyd y gadair gan y Parch. R. S Williams. Brysied Mr. Jones yma eto.-Un oedd yno.
N ANT- > ARED13.
N ANT- > ARED13. Chwefror 8fed, wedi hir gystudd, bu farw Mary Hinds, Rwythfawr, Nantgaredig, yn 9 mlwydd oed. Hynodid hi gan brydferth- wch, ac anwylid hi yn fawr gan bawb o'i chyd- nabod ar gyfrif ei diniweidrwydd a'i ffraeth- ineb. Claddwyd hi yn mynwent Siloam, Pontargothi, Chwefror lleg, pryd y gwein- yddwyd. ar yr achlysur gan y Parch. D. C. Jones, gweinidog y lie. Ergyd trwm i'r tad a'r fam a'r teulu oedd colli Mary fach, ond defnydd eu cysur yw ei bod ar gael yn y nef. Ar wely manblu' mewn ystafell glyd, Gorweddai Mary fach dan bwys afiechyd, Ac yno tad a mam a brawd a chwaer, A ddyfalwylient ami yn ei chlefyd; Ond ni wnai cariad tad na mynwes mam, Na serch y brawd na chusan cliwaer anwylaf, Na dyfais meddyg doeth, ei chadw'n hwy Rhag bod yn nod i saeth y gelyn olaf. I Ond tra'r oedd dorau amser arni'n cau, Y'pyrth trag'wyddol ymagorent iddi, Tra wylai ei pherth'nasau uwch ei phen, Angelion nef chwa.reuent oil am dani; Y byd a'r nef am hon ymryson wnaent, A Duw yn ddoeth gyfryngodd rhwng y ddwy blaid, Gan roi i fynwes byd ei hanwyl gorff, A rhoi i fynwes nef ei hanwyl enaid. —Yr Ehedydd.
TREDEGAR.
TREDEGAR. ELIM.—Ychydig fisoedd yn ol, daeth i feddwl y cyfeillion sydd yn ymgynull i addoli i'r capel uchod i adgyweirio a phaentio eu haddoldy. Cymerwyd at y gwaith saer gan Mr. David Vaughan, a'r paentio gan Mr. David Williams, ill dau o Dredegar. Codwyd y oriel, a gosodwyd y ffront o cast iron prydferth, yn lie coed; ac y mae Elim yn awr yn un o'r addoldai mwyaf prydferth a chyfleus i siarad a gwrando a fedd ein tref. Ar y dyddiau Sul a Llun y 20fed a'r 21ain o Chwefror, cynaliwyd y cyfarfodydd ail-agor- iadol, pryd y gwasanaethwyd yn yr holl gyfarfodydd gan y Parchn. John T. Evans, Caerfyrddin, a William E. Jones, Tref oris. Yr oedd y casgliadau yn haelionus, y cynull- eidfaoedd yn lluosog, y capel yn orlawn, a llawer yn gorfod troi yn ol o ddiffyg lie, y genadwri yn cael ei thraddodi gyda nerth a dylanwad, a'r gwrandawiad yn astud a difrif- ol, a phob lie i gredu nad yw hen ystori y groes a phen y bryn wedi colli ei dylanwad ar feddyliau hen genedl twymaddolgar y Cymry. Yr ydym yn dysgwyl pethau mawr- ion fel ffrwyth naturiol i'r eyfarfodydd hyn. Casglwyd yn ystod y eyfarfodydd y swm o 270 3s. 8c. yr hyn oedd yn mhell uwch- law dysgwyliad pawb; ac yr ydym yn dys- gwyl cyn hir y bydd yr Elim brydferth bresenol, trwy gydweithrediad y gynulleidfa a'r dref yn gyffredinol, yn rhydd o ddyled.
LLWYDCOED.
LLWYDCOED. HoREB.—CynaMwyd cyfarfod adroddiadol yn y capel uchod nos Lun yr 21ain, cyfisol. Llywyddwyd y eyfarfad gan y Parch. W. S. Davies, gweinidog y lie. Yr oedd y darnau a adroddwyd yn gynwysedig mewn barddon- iaeth, rhyddiaeth, yn nghyd a dadleuon. Dangosodd yr holl adroddwyr gof da, yn nghyd a medr i osod allan yn hyglyw ac adeiladol yr hyn a gofient. Cawsom ein boddhau yn fawr gan gor y lie—canent yn swynol iawn. Yr oedd yn un o'r cyfarfod- ydd goreu y buom ynddo o'r natur hwn; da iawn yr Horebiaid.—Heber.
PONTHENRY.
PONTHENRY. Bwriada y pwyllgor perthynol i'r Ty Coed, yn y lie uchod, gynal eisteddfod fawreddog Llun y Pasg nesaf. Rhoddir gwobrwyon i blant y gan am eu gorchestion. Bydd yr enwog Eos Morlaig yn beirniadu, ac yn I cymeryd y rhan bwysicaf yn y cyngherdd yn yr hwyr. Y mae enw y cerddor talentog hwn mor uchel, fel nad yw ond ffolineb i ganmol dim arno. Yr oil a ddywedwn yw, y gellir dysgwyl cyfarfodydd Uewyrchus drwy y dydd, am y credwn fod digon o attraction yn noniau yr Eos i dynu gwrandawyr o bell ac agos. Dysgwylir hefyd y bydd corau Llanelli, Pontyberem, a'r cylchoedd, yn ymdynu am y gwahanol dorchau. Bydd gwobrwyon o ddeuddeg punt ac isod, yn werth cynyg am danynt. Gwneir pob parotoadau er gwneyd y dyeithriaid yn gysurus. Bydd cerbydau rhad (nid am. ddim yn hollol) yn rhedeg dros y Bury Port, and Gwendraeth Valley Railway y dydd hwnw, er cludo y dyeithriaid yn ol ac yn mlaen. Yn awr am dani, fechgyn; deuwch allan fel un gwr;, gwnewch orchest yn Mhonthenry. Y mae genym bob ymddiried- aeth yn yr Eos y gwna gyfiawnder a phawb. Yn awr garwyr cerddoriaeth-merch anwylaf y nef-dewch i Bonthenry i amlygu eich doniau ac i weled eich tywysoges yn ei gogon- iant.—Carwr Cerddoriaeth.
HENLLAN, AMGOED.
HENLLAN, AMGOED. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. B. SCOURFIELD.-Wedi rhai blynyddoedd o gys- tudd a nychdod, bu farw y cyfaill trwyadl uchod yn mlodau ei ddyddiau, yn ddeunaw ar hugain mlwydd oed. Yr oedd yn amlwg er's peth amser fod ei gyfansoddiad yn dad- feilio, a thua dwy flynedd yn ol gorfodwyd ef gan afiechyd i roddi ei swydd i fyny fel ysgol- feistr yn Glynnedd, lie y gwasanaethodd mewn parch a dylanwad am rai blynyddau. Heb- ryngwyd ei weddillion i gladdfa Henllan ar y 17eg cyfisol, a dangoswyd parch neillduol ar yr amgylchiad gan bob dosbarth o'r ardalwyr, trwy bresenoli eu hunain yn yr angladd. Darllenwyd a gweddiwyd cyn cychwyn gan y Parch. D. C. Jones, Abergwili, a phregeth- wyd yn hynod bwrpasol yn y capel gan y Parch W. Thomas, Whitland. Yr oedd Mr. Scourfield yn meddu ar alluoedd a'i gwnai yn aelod defnyddiol mewn cymdeithas, ac yr oedd trwy ei gyfeillgarwch a'i garedigrwydd wedi sicrhau cylch eang o gyfeilliojsi. Barn gydwybodol ei gydnabod am dano yw, ei fod wedi dianc ar ofidiau a chystuddiau y byd i fwynhau golud gwlad well.—G. G. Nedd.
BLAENLLECHAU.
BLAENLLECHAU. OYyGHEBDD.—Oynaliwyd cyngherdd mawr- eddog yn yr Assembly Hall, yn y lie uchod, nos Fercher y 23ain cyf. Yr Artistes oeddynt, -—soprano, Miss Griffiths; Mezzo-Soprano, Miss Clara Rees; Tenore, Mr. C. Videon Harding, Llundain; Bass, Mr. J. George (Llew Tawe). 0 herwydd rhyw amgylchiadau anorfod, methodd Mr. George a dyfod, a chymerwyd ei le gan Mr. T. Williams. Chwareuwyd ar y Delyn gan Dr. Frost, ac ar y Berdoneg gan Mrs. Frost. Nid rhyfedd gyda'r fath enwogion, i'r cyngherdd droi allan yn grand success. Aeth y boneddigesau drwy eu gwaith yn gampus, ac nis gellir dweyd llai am Mr. Videon Harding; ond Mr. Williams oedd arwr y cyfarfod. Yr oedd yr elw yn myned tuag at gapel newydd y Wesleyaid Seisnig. —Rhydderch Glan Rhondda.
----BAD UCHAF.
BAD UCHAF. Cynaliwyd cyfarfod adroddiadol yn Nghapel Carmel yn y le uchod, nos Lun, yr 21ain cyfisol. Llywydd, Mr. Williams (Illtydwyson), a J swydd i foddlonrwydd. Ad- roddwyd a chanwyd tua deugain o ddarnaxi yn dda iawn gan ddeiliaid Ysgol Sabothol y lie, dan arweiniad Mr. Edward Williams. Chwareuid y cyfeiliant ar yr harmonium gan Mr. Edwin Williams, Maesteg, yr hwn, yn ffodus, oedd yn. digwydd bod ar ymweliad a'r lie, a chanodd ddau solo, sef y "White Squall" a "Wellington," yn gampus. Chwar- euwyd deuawd, "The Waterfall," gan Misses Jones a Brown, Porthyglo, yn chwaethus. Canwyd ddwy waith yn ystod y cyfarfod gan barti o'r Groeswen, dan arweiniad Mr. S. Davies. Carasem roddi enwau pawb a gymer- asant ran yn y cyfarfod, ond gwyddom fod eich gofod yn brin, felly ymataliwn gyda chof- nodiy pethau pwysicaf. Cafwyd cystadleuaeth mewn areithio, fel y canlyn :—Araeth ar "Beryglon y Glowr," gwobr 2s. 6ch. (rhodd Mr. Evan Griffiths), ail wobr, Is. 6ch. (rhodd Mr. John Griffiths), goreu, Mr. D. Absalom, Groeswen; ail oreu, Mr. William Lewis! Araeth ar "Ddyledswydd y cymydogion i gydymdeimlo a gweddwon ac amddifaid y trueiniaid a gollasant eu bywydau yn Nhan- chwa Glofa y Llan, Pentyrch, Rhag. 6ed, 1875," gwobr 5s. (rhodd Mr. Evan Phillips), ail wobr, 2s. 6ch. (rhodd Mr. Evan Thomas), goreu, Mr. D. Absalom; ail oreu, Mr. W. Lewis. Bu y ddau ymgfeisydd mor ddyngarol a chyflwyno eu gwobrwyon yn ol i'r drysorfa. Gwnaed casgliad yn y cyfarfod er cynorthwyo ygweddwon a'r amddifaid uchod, a chyrhaedd- oad, rhwng y gwobrwyon dychweledig, y swm ardderchog o bum punt. Lied dda, onide, mewn lie mor fychan a'r Bad Uchaf. Beirn- iad yr areithiau oedd y cadeirfardd Cam Elian, yr hwn yn garedig a ddaeth i lawr o Bonty- pridd er ein gwasanaethu. Pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch gwresog i'r beirniad, llywydd, cantorion, adroddwyr, a'r areithwyr, a therfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf hapus a dyddorol a gawsom erioed. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, a'r brwdfrydedd mwyaf yn cael ei ddangos yn amcan gogon- eddus y cyfarfod.—Gwrandaivr.
[No title]
Y mae Theodore Parker yn dweyd fod gronyn o yd yn well na diamwnd. Gwnai holl ddofednod y wlad, yn ddiameu, gytuno ag ef. Dywedwyd, "Nid ydyw y Sais byth yn hapus ond pan fyddo yn druenus yr Ysgotyn byth gartref ond pan fyddo ar led; y Gwyddel byth mewn heddwch ond pan fyddo mewn rhyfel."