Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
,, ' RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. E.—Hanes genedigaeth, heb enw a chyfeiriad yr hwn a'i danfonodd. GALARWP,. -Mae yr hanes yn annghyflawn, ac felly yn anfuddiol. COHYN O'R MUR.—Yr ydych wedi tori ein rheol drwy ysgrifenu ar ddau wyneb y ddalen. T. HTRKWYN JONES.-Ateb cywir i ddychymyg Ap Tryfan. J. DAVIES, M.A., (AMERICA.)—Daeth y llythyr a'r archeb i law yn ddyogel. D. THOMAS (MAESTEG.)-Nis gallem gyhoeddi ychwaneg ar y mater. GUVYUEDYDD.—Yn eiu nesaf. ..BATH FAB. —Ydym eisioes wedi cyhoeddi sylwedd eich llythyr. GWEITHIWR TYLAWD.—Yr ydych wedi tori ein rheol drwy ysgrifenu ar ddau wtyneb. y ddalen. DEimYNIWIi-A ddymuna hysbysu Watcyn Wyn mai cangen o Goilrerhos yw Blaendulais, ac nid cangen o Sardis, Ystradgynlais. DERBYNIWYD—Benjamin Lloyd, D. J. (Treorci,) G. Giedd, Pwyllog, &c.
"- - DIWEDD Y FFUGHONWR.
DIWEDD Y FFUGHONWR. Er holl weddiau a bendithion y Pab, ac 1jf yr holl gycorthwyoa dirgelaidd a ddan- fonid i'r gwrtliryfelwyr gan ryw ddynion diegwyèdor yn Lloegr-er v cwbl, y mae achos Don Carlos yn parhau i. golli tir, ac yn ol y newyddion diweddaraf y mae yn ymddangos yn hollol auobeithiol. Y mae y dyn creulawn hwn wedi bod yn blingo Yspaen anffodus er's amryw flynyddau, nid ar gyfrif unrhyw egwyddor o gyfiawn- der cenedlaethol. ond ynunig oddiar.falch- der ac uchelgais personol; eithr y mae yn bur sicr fod cyfle Yspaen wedi dod bellach i'w flingo yntau. Os cymerodd Cromwell fawr arfau i fynu yn erbyn ei frenin, fe wnaeth hyny am fod y brenin yn sarnu ar freiniau cyfiawn y genedl ac am arosod ei hunan nwchlaw pob deddf a phob cyfrifol- deb. Buddygoliaethau Cromwell achub- odd Brydain Fawr, ac a osododd ei chyfan- ansoddiad a'i hiawnderau cenedlaethol ar sylfaen rby gref i na theyrn na phendefig- aeth ei siglo byth. Fe ddysgodd ef wers a wnaeth freninoedd Lloegr yn sobrach a challach dynion byth wed'yn. Nid ani goron yr ymladdodd ef, oblegyd fe wrthod- odd goron: am Ryddid yr oedd Cromwell yn rhyfela, am annibyniaeth y genedl a iawnderau y Ty Cyffredin. Ond am ba beth y mae Don Carlos yn rhyfela? Am Goron yn unig. Nid am ryddid: nid am gyfiawnderr ond am drahauster a gormes, oblegyd y Pab a'i gardinaliaid sydd yn ei grïo ef a'i waedgwr. i'r helfa hyllig, a phe llwyddai i enill yr orsedd fe gylymai Yspaen draed a dwylaw yn nghrafangau ofnadwy yr offeiriadaeth Babaidd: Rhyw olygfa ryfedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gweled dyn yn lladd miloedd o'i gydgenedl ac yn difrodi ei wlad deg, dim ond oherwydd fod rhyw hen ewythr neu ryw hen fobryb iddo ef wedi bod yn eistedd rywbryd ar orsedd Yspaen, a'i fod yntau er yn llanc wedi ei ddysgu i gredu mai er ei fwyn ef ao ef yn unig y mae holl filiynau pobloedd Yspaen yn bodoli! Yr ydym yn gwrido wrth feddwl fod gwyr arianog tua Llundain wedi cefnogi dyn fel hwn, nid yn unig ei gefnogi a'u cydym- deimlad ond a'u harian hefyd: ac yr ydym yn llawenhau wrth feddwl fod yr holl arian a fenthyciasant iddo wedi eu colli yn ddi- obaith. Os llwjddasai Don Carlos, diameu y buasai y Hog bron gymaint a'r capital, ond bellach y mae y ddau wedi diflana gyda mwg a niwl magnelau y Oarlistiaid druain. Yr oedd hi yu tywyllu ar achos y Ffughonwr c'rs wythnosau, ond pan y cymerwyd Estella, sef ei brifddinas, gan filwyr y brenin, aeth yn ganol nos ar ei gyflwr ac ar ei obaith. Y mai wedi colli agos ei holl fagnelau; ac y mae byddín heb fagnelau, a heb fodd i'w cae], wedi ei thycfre-^u i ddinystr. Y mae ei holl gysylltiadau a Ffrainc wedi eu tori ymaith, yr hyn sydd ynddo ei hun yn ergyd mar- wol i Garlistiaeth. Ni erys i Don Carlos a'i weddill gwyr ond trugaredd lom y mynyddoedd, ac os na ymostynga yn ebrwydd ni fydd dim yn aros ond trengu trwy gleddyf neu drwy newyn. Hyderwn y bydd i'r brenin Alphonso dymeru budd- ygoliaeth a thru garedd tuag at y taleithiau hyny a gymerasant ochr y Ffughonwr yn y Thyfel. Yn mysg y "Basques" a'r "Navarrese" yr oedd pleidwyr Don Carlos yn benaf; ond y mae yn sicr fod y bobl hyn yn ymladd, nid yn gymaint drosto ef a throstynt eu hunain-nid oedd ef, wedi'r cwbl, ond offeryn yn eu dwylaw hwy. Fe ymddengys fod Llywodraethau diweddar wedi dileu rhyw hen freiniau neillduol perthynol i'r bobl hyn, ac wedi ceisio difodi rhyw arferion diniwed oedd wedi bodoli o oes i oes. Os gwntir cyfiawnder -a'u hawliau ueillduol hwy, bydd yn an- »«^insibl i unrhyw Ffughonwr beri aflon-
::\.l'I,..MILV• r Patagonia.…
:l' I, ..MIL V r Patagonia. '« i: Oddiar gyeliwyniad mudiad y Wladfa Gym- reig yn Patagonia, y mae y GWLADGARWR wedi taflu ei golofnau yn agorecl i'w plileid- wyr a'i gwrthwynebwyr, yn cldieitliriad, i draethu eu golygiadau ar y mater. Ni fyddai o un enill, na cliolled i ni, ar a wyddoin, i ysgrifenu dros neu yn erbyn y Wladfa, ond yr ydym yn honi ein hawl, fel ereill, i draethu ein barn ar y mudiad, yn neillduol gan ei fod yn fudiad Cymreig. Yn y lie cyntaf, yrydym yn ofni fod sylfeini digonol dros dynu y casgliad fod pleidwyr y Wlàdfa yn rliy cliwerw a phigog wrth y rhai hyny a ddygwyddent ysgrifenu gair yn ei herbyn. Pwy bynag a ddywedai air yn erbyn y Ganaan Batagon- aidd, gwae iddo, canys byddai pleidwyr y mudiad yn dod i'r maes ynholl chwerwder eu wermod, yn holi angerdd eu Hid, yn hollfellt a tharanau eu drwg-dymher, ac yn holl ym- adfertlioedd eu liysgrifellau, o'r Cawr Proffes- wrol o'r Bala hyd at y pibrwyn bychain gohebyddol o'r byd, y rhai a ddygwyddent fod yn bleidiol i'r mudiad. Yn wir, yr oedd- ym ni ar y dechreu yn dymuno llwydd y mud- iad, ond rhaid i ni. dystio yn ddifrifol, nad oeddvm'ni yn caru gweled pleidwyr y Wladfa yn dwrdio mor arw ac yn condemnio mor rhigil bawb a ddygwyddai fod yn wahanol eu barnau i'r eiddynt hwy. Bellach, y mae yr hen dad amser wedi dirwyn ei olwyn fawr arafaidd oddiamgylch (arafaidd ar ryw olwg, ond ofnadwy chwyrn ar olwg arall), ac y mae o'r diwedd wedi dadguddio i ni mai nid gwlad o laeth a mel i gyd yw Patagonia, ac mai nid y ffyniaiit a ffodusrwyddi gyd syddyn dygwydd i ran y trigolion sydd yno. Yr oedd llythyr yn ein colofnau yr wythnos ddiweddaf oddi- wrth John Jones, gynto Mountain Ash, ac yr oedd efe yn gosod lliw tywyll ac aiinymunol ar y wlad, ac yn beio blaenoriaicl y mudiad am ha fuasent yn trefnu yn briodol ar gyfer derbyn yr ymsefydlwyr newyddion,' a,c nid yw yn anog neb ar hyn o bryd i ymfudo yno. | Derbyniwyd llythyx-au ereill oddiyno, y rhai' a gynwysant adroddiadau tra anffafriol am y lie. Pan ar ganol ysgrifenu yr erthygl hon daeth cyfaill i fewn yn mynegu fod un ym- fudasai yno o Aberdar yn awyddus am ddy- chwelyd i'r Hen Wlad. Ac yn ychwanegol at hyn, a phwysicach na'r oil, y mae Dirprwy- Wyr Ymfudol Llywodraeth Prydain Fawr, yn ddiweddar, wedi cyhoeddi rhybudd, na ddylai neb ymfudo yno ar hyn o bryd, gan fod caledi yn mysg yr ymsefydlwyr presenol. Yn awr, yn bendifaddeu, yr ydym yn dysgwyl am esboniad eglur oddiwrth ilaenoriaid y mudiad, onide bydd rhaid i ni eu dal hwy yn gyfrifol oy am yr amryfusedd mawr hwn. Stvmpio y wlad o gwr fywy gilydd, gan ymanog y Cymry i fyned, ac wedi y cyfan dim un ddarbodaeth briodol a chyfaddas ar eu cyfer Hefyd, yr ydym yn meddwl fod un mater pwysig wedi ei ddirgelu oddiwrth ein cydwlauwyr. Y floedd fawr ydoedd, mai gwlad i'r Cj'mry yd- oedd Patagonia. Ond y gwirionedd ydyw, nid yw y Llywodraeth i ba un y perthyn y wlad wedi ymrwymo na; cha, neb ond Cymry ymsefydlu yno. Dim o'r fath betli; y mae yno faes agored I bob cenedl dan haul, yn ogystal a'r Cymry. Y mae yn drueni o'r mwyaf fod ugeiniau o'n cydgenedl fel hyn wedi eu camarwain, a'u hudo i dori fyny eu cartrefi clyd yn Nghymru, i fyned i diriogaeth annghysbell ac annghyfleus i farchnad fawr farsiandiol y byd.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. .v MAWRTH 2IL, 1876. Dygwyddodd fod galwad arnom fyned i dref gyflym-gynyddol Abertawe, y Sadwrn diweddaf, ac erbyn i ni alw mewn ty cyfaill yno, y newydd pruddglwyfus a dorodd ar ein clustiau ydoedd hysbysiaeth am farwolaeth y PARCH. R. A. JONES, gweinidog y Bedyddwyr yn Bethesda. Syn- wyd ni yn fawr, gan y gwyddem fod Mr. Jones yn nghanol ei ddyddiau, dim ond rhyw 51 mlwydd oed, ac wrth edrych ar ei gorff lluniaidd iachus, gallesid dysgwyl yn naturiol y cyrhaeddai 71 os nid 81. Ond dyma haul ei fywyd defnyddiol wedi maclilud dan gymyl- au tywyllddu y glyn, a'i eglwys fawr Bethes- da, a'i filoedd cyfeillion, a'r enwad i ba un y perthyna iddo, ac Eglwys Crist drwy Gymru wedi eu gadael ar ol i alaru. Daeth Mr. Jones i Bethesda pan nad oedd ond deadell fechan, ond trwy ei weithgarwch a'i gymeriad pur, a'i sirioldeb digwmwl casglodd yn nghyd yr eglwys fawr a welir yno heddyw, yr hon sydd yn rhifo rhyw 800 o aelodau. Fel preg- ethwr, ystyrid Mr. Jones yn un o'r rhai mwyaf doniol, ac yr oedd efe yn un o ddewis gedyrn y gymanfa. Ymddengys fod tri o glefydau ffyrnig wedi ymosod arno, neu dri swyddog o frenhinllys angeu, a tharawsant ef i lawr niegys ag un ergyd-syrthiodd mewn llewyg, ac ni siaradodd mwy, ond bu fyw wedi hyny am ddau neu dri diwrnod. Syrth- iodd "Tywysog. a gwr nrawr yn Israel," a phan geir hanes ei angladd, diau y bydd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd erioed yn Aber- tawe. Diau y teimlir cllwithdod maith yn mysg ein brodyr y Bedyddwyr ar ol y gwein- idog a'r pregethwr poblogaidd hwn. Gwelir crybwylliad yn araeth MR. CLARE, DOWLAIS, mewn colofn arall, fod pethau yn edryeh tuag i fyny, ac y mae yn hen bryd iddynt, feddyl- iwn ni-y maent wedi bod yn edrycli i lawr yn ddigon hir, ysgwaethiroedd, a dysgwyliwn a mawr obeitliiwn fod profFwydoliaeth Mr. Clark yn wir. Yn ddiau fel y sylwa ef, mai llawer iawn o achos y marweidd-dra masnach- ol presenol ydyw y competition sydd mewn gwledydd ereiil, pob ^gwlad os gall hi yn p gwneyd ei haianl ei hun, er mwyn euro Lloegr allan o'r farchnad. Ond hwyrach y daw tro ar y rhod eto cyn hir, ac y daw eisieu gwneyd 11 u o railioays, un yn groes i anialwch mawr Sahaara, yn dair mil o filldiroedd o hyd, -ereill trwy ddiffbithdiroedd tywodlyd Arabia, acymerodraeth y Shah o Bersia, a gororau eangfawr Assyria, nes y bydd galwadau yn marchnad Prydain yn fwy nag a fedr hi ateb. Bydd DYDD GWYL DDEWI; hen ddydd y geninen wedi pasio cyn bydd hyn o linellau yn nwylaw- y darllonydd. "}" Hynod mor. r (gyflym y ji^ae. freigliadau y tymhorau. Y mae blagur. y coedydd eisioes ydd eis* yn dyfod allan, a'r blodau cynar wedi gwneyd eu hymddangosiad, ac os cawn y fraint p fyw anironynbach fo fydd "iileilliön mwynion Mai yn gwenu. arnom, ac yn ysnodenu y maesydd. Daw yr amser i'r adar ganu, a bydd hwnw yn amser braf i adar yr awen hefyd ganu ar gyfer Eisteddfod Wrexham ac eisteddfodau ereill. Tymhor peryglus wedi y cyfan, ydy.w y gwanwyn i iechyd, ac iy mae lluaws o rai gwanaidd ac edwinllyd yn syrthio i'r gweryd bob blwyddyn o Chwefror i Mai. Gyda fod gwanwyn natur yn gwenu, y mae gauaf angeu yn eu goddiweddyd hwy- thau. Dywedir yn gyftredin mai y ddau dymhor mwyaf peryglus i iechyd ydyw yr hydref a'r gwanwyn.
Gweithwyr Ynysowen a'r Double…
Gweithwyr Ynysowen a'r Double Shift. Prydnawn dydd Mawxtli cynaliwyd cyfarfod o weithwyr Ynysowen, i ystyried yr ymgais wneir i weithio ar y double shift. Bu amryw o'r gweithwyr yn siarad yn groew yn erbyn y dull hwnw o weithio, a thraddodwyd araeth fanwl gan Mr. Connick, yn condemnio y double, shift yn y modd mwyaf llwyr. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol :— 1. Fod yr holl lowyr i roddi mis o rybudd ar Mawrth laf. 2. Os gorfodir rhai o'r glowyr i weithio ar y double shift, yn ystod y mis hwnw, fod caniatad iddynt wneyd hyny. 3. Fod y cyfarfod hwn yn taer ymbil ar bawb gweithwyr i gadw draw o Ynysowen hyd nes penderfynir y pwne mewn dadl. [Gwelir manyliou yr achos hwn ar tudalen 6 o'r rliifyn hwn.—GOL.]
Etholiad Horsham.—Buddugoliaeth…
Etholiad Horsham.—Buddugoliaeth Ryddfrydol. Dydd Mawrth, cymerodd Etholiad Horsham le. Yr ymgeiswyr oeddynt Mr. J. C. Brown (R.), a Syr Hardinge S. Giffard, y Cyfreithiwr Cyffredinol (C.) Dychwelwyd Mr. Brown gyda mwyafrif sylweddol. Yr oedd y ffigyrau fel y canlyn :— Brown 478 Giffard, ..v 424 Mwyafrif dros Brown 54 Y mae yn dra sicr fod y Cyfreithiwr Cyffred- inol erbyn hyn yn ddigalon iawn, canys y mae wedi colli y drydedd waitli yn ei ymgais i gael sedd yn Nhy y Cyffredin. Y mae y. Western Mail yu gwynfanus iawn am yr helynt hwn, ac yn dweyd y rhaid i Mr. Disraeli gymeryd y mater mewn llaw i gael sedd iddo.
Cardotwyr Cymreig yn Llundain.
Cardotwyr Cymreig yn Llundain. Ymddengys oddiwrth adroddiad yn mhapyrau Llundain i fam a merch o'r enw Sarah Jenkins (06 oed) a Elizabeth Stone, gael eu cymeryd i fyny am gardota o dy i d)t, yn Wandsworth, Llundain. Dygwyd hwyiit o flaen yr ynad, Mr. Bridge, am y trosedd. Dywedodd y fam ei bod hi a'i merch wedi cerdded o Ddehendir Cymru i'r brifddinas i chwilio am ei mab, ond ei bod wedi methu ei ddarganfod a chan nad oedd ganddi ddim arian, gorfodwyd hi a'i merch i gardota o ddrws i ddrws. Mr. Bridge Paham na fuasech yn myned i'r tlotdy ? Y Fam Y maent yn orlawn; gorfodir tri i gysgu yn yr un gwely. Mr. Bridge Pa bryd yr ymadawsoch a Chymru ? Y Fam Oddeutu mis yn ol. Ychwanegodd Mr. Bridge y carasai i'r per- SOIlan hyny a achosant strUccs i weled y ddwy ddynes druenus hyn, fel y gallent weled canlyn- iadau ofnadwy eu gweithredoedd. Rhyddha- wyd y carcharorion, ar yr amod eu bod i fyned i'r tlotdy.
[No title]
Pan y dywedwyd wrth eneth bum' mlwydd oed, fel yr oedd ei thad mor frwnt wrth ei mam, dywedodd y buasai yn dda iawn ganddi hi pe na buasai erioed wedi priodi yn eu teulu hwy
Don Carlos wedi Encilio.
Don Carlos wedi Encilio. "Dywed bryshysbysiadau o Paris fod Don Carlos a'i ddilynwyr wedi dianc i diriogae.th.au Ffrainc, ac fod Llyv/odraetli y wlad hono wedi ei hysbysu o'r ffaith, ae wedi eu derbyn yn ffafr- iol. Hysbyswyd y Llywodraeth yn Madrid o'r ffaith; a chredir y terfynir y rhyfel yn Yspaen yntldioedi. Yr wythnos ddiweddaf dywedodd y Pab fod yn ddyledswydd ar Don Carlos roddi fyny yr yindrech am y goron, a chredir fod gan liyny rywbeth i wneyd a'r enciliad. Buasai yn ddoethineb yn yr hen wr o Rufain i roddi yr awgrym fisoedd yn ol.
E T HOLI A JJ B WE D D IE…
E T HOLI A JJ B WE D D IE CH YD M0 C NT A IX ASH. MR. GOL. --Fe ymddengys fod etholiad bwrdd iechyd Mountain Ash i gymeryd lie yn fuan, ac os oes coel i'w roddi ar fygythion a phenderfyniadau fy- nghydweithwyr, fe fydd yr ymdrechfa y boetiiaf a gymeroclclle yn ein plith oddiar ffurfiad y bwrdd. lVhwr y siarad a'r cynllunio sydd wedi bod yn y lie er ys misoedd bella,ch o bartlied i'r cwestiwn hwn ond frodyr anwyl, onid yw erbyn hyu ,yn llawn bryd dechreu gweithio mewn difrif, os ydym yn bwriadu cario allan yn fvddugol- iaetlius ein penderfyniadau ? Nid amser i blethu dwylaw a hepian yw y presenol os ydym, unwaith ambyth, am ddangos, a hyny yh y modd mwyaf diamheuol, mai genym ni mae yr hawl i ethol ac i wrthocl ymgeiswyr am seddau ar y bwrdd. Mae amgylchiadau yn cyfodi ar adegau yhfwy na'ii gilydd, pan y mae o'r pwys mwyaf i.ni honi, a hyny yn y modd mwyaf penderfynol, yr hawl hon, a chredwyf fod yr etholiaddyfodo1 yn un or cyfryvv; oblegyd fe welir yn rliy ami fod g or mod o duedd mewn rhai aelodau ar ein byrddau, er i ni fod yn ddefnyddiol iddynt fel ysgatfaldiau i esgyn i enwogrwydd, or fan hono, ar ol gwasanaethu eu pwrpas, ein taiiu i lawr a'n annghotio. Felly, er mwyn i ni allu cyhoeddi mewn llais hyglyw a diam- heuol yn yr etholiad nesaf mae y sawl a'u gwasanaethant yn ffyddiawn ar y bwrdd, ac sydd hefyd yn medru cydynideimlo a ni ac yn cyfranogi o'n syniadau ar gwestiynau lleol a bleidiwn. Bydded i ni gydweithio yn ddioedi i ffurflo pwyllgor yn ein plith i ddewis personau i sefyll, ac i dynu allan gynlluniau er eu dychwelyd ar ben y poll. Nid oes angen am i'r personau hyny fod yn areithwyr doniol a hir-wyntog, ond iddynt fod yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf, ac yn alluog i ddweyd eu meddyliau mewn byr eiriau, ac i'r pwrpas, yn yr iaith Seisnig oblegyd fe ddywedir fod y dosbarth blaenaf, gan eu hawydd i glywed eu lleisiau ei hunain, byth a hefyd, ac yn siarad yn ami dan eu dwylaw, ac felly y maent yn fwy o boen na dim arall ar y byrddau. Yn awr, fy nghydweithwyr, bydd- ed i ni ar unwaith ddecllreu ar y gorchwyl o loywi ein harfau i'r frv/ydr, ac ymrestra i'r gad; er mwyn pobpeth, na fydded ein rheng- oedd ddydd yr etholiad yn annrhefnus rhag i'r gelynion dori trwyddynt a gwneyd galan- asdra.—Yr eiddoch, CYHOKFAB. I
Family Notices
GENEDIGAETHAU. •. Chwefror 14eg, priod Mr. Edward Thomas, crydd, Blaenybryn, Llangendeyrn, ar fab. Chwefror 21ain, priod Mr. John Tieharne, Pontnewydd, ger Pontyeats, ar ferch. Chwefror 26ain, priod Mr. Thomas Griffiths, mechanic, Derwent Tinplate Works, Working- ton, Cumberland, ar fab. Chwefror 21ain, priod Mr. William Williams, bailer, Derwent Tinplate Works, Workington, Cumberland, ar fab. Chwefror ")iiain, priod Mr. Evan R. Rees, Bell Street, Trecynon, ar fab. MAIi W0 LAETH. Chwefror 6ed, yn Soho, Pittsburgh, Mrs. Harries, gweddw y diweddar John Harries, gynt o Maesteg. Nid oedcl ei hiechyd yn dda er's blynyddoedd, ond y ffwyddyn ddiweddaf dyoddefodd lawer gan y bronchitis, yr hwn a drodd yn ddarfodedigaeth. Yr oedd yn aelod selog a ffyddiawn yn eglwys y Trefnyddion .Calfinaidd, a bu farw mewn "llawn hyder ffydd." Perchid hi yn fawr fel un ddihoced, a gwynebagored, a theimlir galar gwirioneddol ar ei hoi. Gadawodd bedwar o blant, a llu o gyfeillion i alaru ar ei hoi. Ymgasglodd lluaws o'i chyfeillion a'i pherthynasau i hebrwng ei gweddillion i Union Dale Cemetery, pryd y dygwyd yn mlaen wasanaeth crefyddol yn y ty, ac wrth y bedd, gan y Parchn. T. C. Davies ac E. F. Jones. Chwefror 3 dd, Mr. Daniel Anthony, Cwm- eineon. Clac Lwyd ef y dydd Llun canlynol, yn mynwent Eglwys Cydweli. Chwefror leg, yn 30 mlwydd oed, Miss Margaret, me oh Mr. Thomas Hopkins, Gen- dros. Claddv^ ;c\ lii y dydd Iau canlynol yn Ngladdfa Bethlehem, Cadle, lie yr ydoedd yn aelod.
Advertising
Teulu Breninol Lloegr. Neicydd ei gyhoeddi, nwwn Ghromo Litho, DARLUN IIAUDD 0 DEULU BllENINOL LLOEGR, \7"N cynwys y Frenines, ei ])hlant,_ a'i Meibion X a'i Merched-yn-«ghyfraith. Mesura 22v modfedd wrth 15}. Pris Swilt yr un yn rhad drwy y post. Ar werth gan W. M. EVANS, 120, Lammas-street, Carmarthen. 1279 At Ballers Gweithfeydd Alcan Mor- ganwg a Chaerfyrddin. DYMUNTll arnoch ddanfon Cynrychiolwyr o bob Gwaith i'r YALE OF INEATH INN, Castellnedd, erbyn Pump o'r Gloch, dydd SADWRN nesaf, Mawrth 4ydd. 1278 Allan o'r Wasg, Y Glust a'r Tafod: SEF RHAjSTAU o'r Ty ydym yn byw yndio yn nghyd a Thraetlmwd ar "Ddyn yn Ben." Gan y Parch. ROBERT EVANS, Aberdar. I'w gael gan yr awdwr, puis 60h., drwy y post Chweck a dimai. 1220 AT YMFUQWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Steamers. M. JONES (CiMi.o GVV'TLLT), Passenger Broker, 28, Uiriots-street. Liverpool, GSor- wyliur i'r Llineilau. canlynol :—Inman Line. Cunaru Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Lino. Gan fod yr Agerlonjtau v.chod yn hwylio i wa- hanol bon,hladdoe.Ll yn y Tala^thau Lnedig, a'* Tiriogaethau Prydeinig, gall yr vmfudwyr gael y cyfarwyddia.dau gofynol rlnvy anfon llythyr i'r cyfeiriad hwn. CaiS pawb a ymddiriedo eu gofal iddo y s'ylw xnanylaf. Cynorthwyir y Cjmro gan Mr. J AS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Dipnunol gan y Cvmro allu hysbysu- y Cyhoedd fod ga-nddo y TY CYMREIG- eangaf a mwyaf cyficns i Deifh-wyr ac Ymfadvnjr yn L'erpvd, a'r e.gsisef i'r Landing Stage. •• Cofier y CN'feiriad, N. M. JOXES (CYMSO GWYLXT), 28, Union-street, Liverpool. D.S.—Gellir yniholi yn Aberdar a John James Crown Hotel. LLINELL Y 14 HATIOHAL" I HiiW YORK. "\7" Ma? y Cwmni hwn yn cjnneryu anayiit en X hunain y cyirii'old.eb 0 inswrio pob un o'r llcstri i'r swm o £ 100,000. ac felly, 3/n rliocldi y Blcrwydd goreu i'r ymiudwyr am eu dyc^elwch; ac ymaent hcfy, I bob amser wed, mabwysjadu y Ihvybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. YH AGEELONGAU 0 Liverpool i New York bob dydd Mbrcher, a phob yn ail ddydd Gwener 1 Boston a New Y ork. SPAIN Mercher, Chwef. 23 ITALY Mercher, Mawrth 1 EGYPT Mercher, Mawrth 8 Yn gadael Queenstown y dyddiau canlynol, Rhedant o Llundaiu i New York fel hyn DENMARK Mercher, Chwef. 23 HOLLAND Mercher, Mawrth. 1 FRAiS CE Mercher, Mawrth 8 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlollg-au hyn yn dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eang an- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y poop ar y aec/i. Pris y cl-uaiad, 10, 12, 1.5, a 17 jti-ni, yn ol cyf- leusderau y state-room. Pawb yn cael yr wn hawl yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw :£5. Return Tickets-24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, vn anghydmarol, ac y IT-■-digonedd o ymborth fresh yn cael ei barotoi gin. ;ewardiaid y Cwmpeini; ac ni cneir cludiad rhat t gydag unrhyw linell. Gall ymfudwyr h, fo drwodd i bob parth o Ganada a'r Talaethau Unedig am brisoedd iseL Am far,- pellaeii, jTnofyner a'r NATIONAL SHE AM SHIP CO., 23, Water-street, Liverpool neu at SMITH, SUNDIUS, & Co., Agents, 33, Gracs- church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1. Prospect Place, George Town, Tredegar; GEORGE OWEN, Upper High-street, Rhyinny; HENRY A. LEWIS, Newtown, Ebbw Vale: D. THOMAS* Clydaeh and Brynmawr; HERBERT T. REES, Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT. 4, Whitcombe-street, Aberdare. L.3(59 >K TNMAN ROYAL MAIL X STEAMERS. LIVERPOOL to NEW YORK. Dvddiau Mawrth a Ian. OA LOON, 12, lo, 18 a 21 Gini; Steerayc am bris a llawer is nag arrerol, gyda digonedd 0 ym- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyiieus. Trosglydir Teith^yr y Steerage i Boston a Philadelphia heb dal ychwanegol. Bookir teitb- wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada am brisiau neillduol. Rhoddir tocynau a phob cyfarwvddvd gau WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, neu rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153 T LLINELL Y "WHITS STAR" 0 UNITED STATES MAIL STEAMERS. 0 Liverpool i ac o New York JRM YJi'JDD.—Cymer Agerlongau y LZÙzell hon V Lane Route* wrth fyned a dychwelyd, y rhai a yi/mcradv-yir ,/rm yr Is-yadben LL lury. OELriC. Dy. :1. Iau.1 Mawrth 2 ADRIATIC Dy; I Iau, Mawrth 9 BALTIC Dycl Iau, Maivrtli "!(> REPUBLIC Dyd. iau, Mawrth 23 (GERMANIC Dvc Iau, Mawrth 30 ONEWYO-K GERMANIC. Dvdd Sadvm, Chwef. f). CELTIC Dydd S; I wrn., Chwef. 12 Can alw yn i dc. rbyn teith-.vyi. ar ddydd Gwener. Y mae ynr agerlongau hyn gyfieusderau neilltluol i gaban-oeith wyi-; y mae r Sidoon, state-room, ystafell smocut yn 'midships. Ÿ mae meddyg a goruohwylwyr ar bob llong. SALOON,—15 gini a 18 gini. licturn tickets am 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellaeh, vmofvu^r « ISMAY, IMEIE. & Co, East India-avenue, London, a 10, ot, Liverpool. L.363 -0 For Sale. TEN per cent per Annum. A NEW SUD- STANTIALLY-BUILT SEVEN-ROOMED DWELLING HOUSE, replet. with every convenience, situate in one of the healthiest parts of Treherbert, and with an annual rental re- turning the above percentage on selling price- three-iourths of which can remain upon Mortgage if required. 99 Years Lease.—Apply to Geo. M. Rees, Public Accountant, Treherbert. 1262 Arian! Arian!! Arian!! OS ydych am Arian, o Ddeg Punt i fyny, ar unrhyw fath o security, ymofyiwcli a Mr. GEOi M. REES, Public Accountant, Treherbert. D. S. —Pub llythyr gynwys dau slump ceiniog am atebiad. 1261