Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Guilelimus a'i Suddas-glychau…

News
Cite
Share

Guilelimus a'i Suddas-glychau (Bubbles). lIEFYD, oherwydd achub Bacchus trwy aden- 'edigaeth o ddwfr y Nilus, gelwid ef weithiau ..Nilus, a phryd arall Mysus felly, am yr un achos, cawn fod yr arweinydd Hebreaidd yn "Oul ei alw Moses; a Joshua, yntau, yn "Cael ei alw yn fab Nun. Dywedir am Bacchus ei fod yn faban tlws 'iawn, ac yn cael ei fawr hoffi gan y meny waid, •a'i fod yn cael ei alw yn Gariad-fab Duw, ac yn Rhoddydd Goleuni. Yr un modd y dywedir am Moses, yntau, ei fod yn fachgen tlws, &c. Am mai Hu'r Goleuni, ganedig yn Arthan, oedd Bacchus, rhoddid cyflun y baban Bacchus mewn cawell ar gyfnod troad y flwyddyn ( Winter Solstice); a dywedid bod y ■cwbl yn oleu o'i am -,ylcli felly ceisir dweyd i ni bod Moses a'i wyneb yn dysgleirio. Ac am fod Bacchus fel ag oedd, fel y Bardd, yn Hu yn Nghnawd, yn fab Hu .Dad neu Iau f Jupiter) o Eilir, i'r hwn y rhoddai yr Aipht- laid ac ereill ben hwrdd, gelwid Bacchus Weithiau yn Oen, a rhoddid cyrn bychain ar l,ei ben felly cawn fod Moses yn cael tynu -el lun a chyrn bychain ar ei ben a'r un modd cawn fod Hiesous arweiniol y Cristion- ogion Iuddewig yn cael ei alw yn Oen Duw, a gesyd llyfr y Datguddiad bod cyrn bychain ar ei ben yntau. Yn mhellach eto, fel ag oedd Hu yn ei gymeriad deublyg, sef fel ag oedd yn Hu'r Goleuni ac yn Hu yn Nghnawd, yn meddu dwy fam, y Forwyn Ddu o Arthan a Mor- gwen o Elfed; felly y cawn fod Bacchus, neu Mysus yn meddu dwy fam, ac o'r her- Wydd y gelwid ef Bimater. Un fatn iddo •oedd Semele (yr un, mewn gwirionedd, a €ebele, g" raig y duw Sadwrn o Arthan), a'r Hall oedd Ceres, duwies y cynhauaf (sef yr un a Morgwen o Elfed). Yr un modd cawn fod Moses, yntau, yn meddu dwy lieu dair mam —tair, rhwng ei enedigaeth o'r Arch lafrwyn ag oedd yn arwyddlun o groth y Forwyn Ddu. Yr oedd Joshua hefyd yn meddu 4wy fam, oherwydd yr oedd rhyw fam cldynol iddo heblaw y Pysgodyn. Yr un a Bhaga- Iswara barddas y Brahmiaid oedd Bacchus, a hwnw yr un a'r duw Vishnu, a chawn fod hwnw hefyd, fel Hu, yn anedig o'r Pysgodyn, a Hoan-Nes a Iona, y Babyloniaid, yr un modd. Cawn fod pawb o'r Duw-ddynion Iachawdwrol yn meddu dwy fam, sef mam eu Duwdod a mam eu dyndod. Ond ni all y Oristionogion luddewig ddweyd yn glir, fel y gall Barddas, pwy oedd mam eu Duw- Fab hwy, er y dysgant ei fod wedi cael ei dragwyddol genedlu, a'i eni fel cyntafanedig ei Dad, cyn ei eni yn ddyn o Mair y Forwyn. Weithiau gosodir Bacchus allan yn fab y forwyn ddwyfol Proserpine — duwies yr Infernal Regions ac wrth hyny yn gywir fel ■ag oedd Hu, yr arweinydd, yn fab y Forwvn Ddu o Anwn. Hefyd, fel y dysgid am Hu ei fod yn cael ei glwyfo a'i ddryllio dan law A-fagddu a Mallt, felly dywedir i Bacchus, neu Hies, gael ei ddryllio yn dameidiau trwy y byd gan y Titans, pan fu yn ymladd o du y Duwiau yn erbyn y Cewri a rhywbeth cyffelyb ddysgir am Osiris pan fu yn ymladd A Typhon a'r un modd y dysgir ni am 'Hiesous y Testament Newydd, iddo gael ei ddryllio yn ei- frwydr a Satan a chawn ef yn o,el ei ddangos yn dameidiau trwy y byd i'r dydd hwn yn y cymun. Dysgir ni hefyd am Moses iddo drengu, ond na chafodd neb erioed afael mewn unrhyw fedd iddo ac nid yw hyny i'w ryfeddu chwaith, gan nad oedd ond cymeriad chwedleuol. Fel yr oedd yr Hu yn Nghnawd, ag oedd yn fugail ac arweinydd yn ei Fuarth Beirdd, yn dwyn ei Dydein-lath sarffog ag oedd yn ■chwe' troedfcdd o hyd, ac yn y dull= /1, ar wyl Alban Hefin, ond yn cael ei thori i'r dull o Groes ar wyliau Eilir ac Elfed, a phob amser yn cael golygu am dani bod Sarff y Nef (Hu'r Goleuni), a Sarff Anwn (A-fagddu), yn ymladd ar ei breichiau am lywodraeth y byd; a'r hon Wialen a ystyrid hefyd yn JEIud-lath y Daroganau, a chan y werin yn Hud-lath y Gwyrthiau, &c.; felly yr ydym yn cael fod Merchur ( Gwyddon) yn dwyn ei Wialen, neu ei Caducteus Sarffog, sef ei groes; a Bacchus hefyd yn dwyn ei Thyrsus, neu ei groes, gan wneyd gwyrthiau xhyfedd a ni a chawn ei fod ef a'i groes yn •enwog yn hen grefydd Babylonia gynt. The Cross was the symbol of Bacchus, the Babylonian Messiah.Asiatic Researches, v. x., p. 124. Yn yr un modd fyth yr ydym yn cael fod Moses yn dwyn ei wialen sarffog a gwyrthiol, neu ei groes, a chanddo Enw Cyfrin yr I-Ah-Oh (/|\), medd y rabbiaid, ar ei phen, ac wrth hyny, fel gallwn weled, yn dra chyffelyb i Dydein-lath prif-fardd llyw- yddol y Meini. Ond mewn meddylddrych arall am y Tydein-lath, neu y groes hon, cawn ei bod ar ryw dro yn cael ei gosod :allan fel trostan, a Sarff y Net arni megys yn ymladd a seirff Anwn yn anialwch Arabia. Yna cawn fod Hiesous y Testament Newydd, yntau, yn cael ei roi fel Hu, neu Sarff y Nef, i fyny ar y Trawst, ac yn cael dywedyd am dano :—" Ac megys y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn sef i fod yn Sarff y Nef, i ymladd. a'r Hen Sarff, neu'r Diafol, am lywodraeth y byd. Ceir y groes yn wastad yn arwyddlun o'r Duw-ddynion lachawdwrol, pa rai nid oeddynt oil ond efelychiad o'r Hu yn Nghnawd. Yr oedd Bacchus neu Hies wedi .myned dan ugeiniau o enwau, a'i addoliad wedi lledu trwy y gwledydd cyn hanesyddiaeth. Rhai o'i enwau ef oedd Liber ac Adoneus (yr un enw ag Ad-On, neu Haul yr Adnewyddiad yn ein Barddas ni, ac Adonai yr luddewon, ac Adonis y Phoeniciaid). Galwai y Groeg- iaid ef weithiau Evan, a Javan (leuan, Iau, lao), ac efe, wedi "ei ddynoli yn Javan, a loddir yn frarwd i Gomer, ac yn dad i'r Groegiaid, yn y ddegfed benod o Genesis ac efe oedd Bacchus-Osiris yr Aipht. Fel ag oedd yn Hu Arweiniol, galwai y Groegiaid ef yn fynych Dionysos, a Dionyson, sef Duw Ar- weiniol. Cyfarchent ef dan yr enw Io a chyfaddefa Dr. Hales, yn ei Faith in the Holy Trinity, bod yr enw hwn yn dalfyriad o'r enw Jehovah. Gwaeddent arno hefyd yn eu haddoliadau, gan ddywedyd, Io Nissi," sef I-Ah-Oh (/1\), arwain ni."

..... Y CYFARFOD LLENYDDOL…

EISTEDDFOD Y GROGLITH.

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD TREHERBERT.

.ecGYFEIREB MYNYDDOG."

ISAAC THOMAS A CHLADDEDIG-AETHAU.

YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH.

CAPEL COFFADWRIAETHOL AUBREY,…

EISTEDDFOD PONTNEWYDD.