Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
COF-GOLOFN IFOR CWMGWYS.
COF-GOLOFN IFOR CWMGWYS. Btw oedd genyf gael ar ddeall trwy nodyn *for (mab y diweddar Ifor Cwmgwys) yn y GWLADGARWR bythefnos yn ol, nad oes ond £ 210s. wedi cael eu tanysgriflo tuag at y gof-golofn. Yn wir, lenorion Cymru, onid Yw hyn yn gywilydd i ni—ymddwyn gyda'r lath ddifaterwch tuag at goffadwriaeth "gwir tab yr Awen wir," yr hwn a gysegrodd ran ^elaeth o'i fywyd tuag at gyfoethogi llenydd- Iaeth farddol ein gwlad. Dichon nad yw pawb yn gwybod mai un 0 feib y pyllau glo oedd y bardd trancedig, na chafodd awr o ysgol ddyddiol yn ei vWyd cafodd lafurio yn galea o dan fyrdd Qanfanteision; cododd deulu lluosog, a choll- Odd ei iechyd yn llwyr rai blynyddau cyn ei hrwolaeth, fel nas gallodd adael aur y byd hwu ar ei ol, pan yr oedd yn trefnu ei dy i I^Qadael i'r daith bell, o'r hon ni ddychwel. ^adawodd lawer o gyfansoddiadau penigamp ei ol, llawer o honynt yn meddiant pwyll- ^au yr Eisteddfodau yr enillodd ynddynt. heibio yn ddiweddar i'r ty lie ganwyd Cwmgwys, ond yr oedd bron a llwyr 5ttthio yn ddadfeilion. Bum hefyd trwy ^mgwys, yn Nghwmtwrch, lie bu Ifor fyw flynyddau. Mae'r tf hwnw hefyd yn ^adfeiliedig—teyrnaaa dystawrwydd prudd- Swyfaidd trwy rodfeydd y bardd a fu un- waith yn cyfaneddu y lie. Jjenorion Cymru, gadawer i ni wneud ^Jwbeth yn deilwng o goffadwriaeth Ifor ^Wmgwys. Na foed i'w gof-golofn gael bod tn faich o ddyled ar ei fab caredig. Buasai Sfc well bod ei feddrod heb yr un golofn na jjyfodi un heb dalu am dani fel hyn. A vdd Mr. John James, Crown Inn, Aberdar, ^?8tal a chyhoeddi cofres o'r ddwy bunt a ^erbynitvyd ganddo yn y GWLADGARWR ac os bvdd Mr. Lloyd, y cyhoeddwr, lI10r garedig a rhoddi gofod yn rhydd i'r cyhoedded enwau y tanysgrifwyr ddign yn y GWLADGARWR dyfodol. Yn awr, gyfeillion ac edmygwyr y diwedd- anwyl fardd Ifor Cwmgwys, os ydych yn ^dwyll yn eich proffes o gvfeillgarwch tuag anfonwch eich hadlingau tuag at y gof- S^ofn, i ofal Mr. John James, Crown Inn, ■^oerdare, yn ddioed. Diolch i'r Cymro Gwyllt am godi y mater fyny. Terfynaf, gan ddeisyfu sylw pellach 44 y cawr Samson o'i lawr-dyrnu. Autwen. IEUAN DDU.
.AT YR ADOLYGWYR.
AT YR ADOLYGWYR. -tx awr, adolygwyr, gan eich bod wedi taro etch bysedd ar eich ysgrifell i adolygu prydd- ^au, awdlau, a phethau ereill, mi a ysgrif- i chwi englyn eto i'w adolygu, os bydd ^kieu ei adolygu o gwbl, a thyma fe :— Senor ar lenyrch swynion,-a thalent Detholodd ddillynion; Grawn heb rith roes ger ein broD, Ac aweniaith llawn swynion. id wyf yn dweyd pwy yw ei awdwr cyn y j^felaf eich barn chwi am dano os amgen, a ddywedaf ar ol i mi gael atebiad. Y wedi dyfod trwy y wasg. Os oes gwall englyn uchod, gwnewch yn hysbys trwy |Wrwng y GWLADGARWR. Rhydd hyny fodd- "'<I(t cyflawn i ofyniad yr-ANWYBODUS.
EISTEDDFOD TALYBONT.
EISTEDDFOD TALYBONT. Synais yn fawr weled B's ar ol enwau bron r liou o ymgeiswyr llwyddianus yr eistedd- tod uchod. Rhyw second edition ydoedd o etateddfod fyd-enwog Treforis. Pa beth, gwirionedd, ydyw yr achos mai gwein- ^^ion a phersonau o enwad y Bedyddwyr, heb eithriad, a gafodd y gwobrwyon yn Treforis a Thalybont 1 Deall- fod personau yn' cystadlu heblaw Bed- T^^yr; ac yr ydwyf wedi clywed, a hyny dda, fod yno rai cyfansoddiadau llawer rhagorach na'r rhai a wobrwywyd gan ^y, gallwn gasglu mai ar law y beirniad 'Jfcae llawer o'r bai yn gorwedd. Onid yw *esyn fod beirniaid ein heisteddfodau yn eu hunain i wneud y fath dwyll, »Wyllant bwyllgorau yr eisteddfodau, gwn- a'r ymgeiswyr, ac andwyant y rhai Joddant y gwobrwyon iddynt. Dygwydd- Bai, ydhydig ddyddiau ar ol hyny,' gyf- tin oedd wedi bod ynddi, a dywedai j^hlith pethau ereill, fod y si ar led raL u cyn yr eisteddfod, mai Gwerfil oedd, y gadair, a chadarnheid y peth drachefn ^^ttddangoaiad Gwerfil yn yr ardal, a chan ^^ysaiadau o'i eiddo., Ond boreu dydd yr ^dfod, taenwyd y gair ar led fel tan gwyllt fod Thalamus wedi dyfod o Ferthyr er cael ei gadeirio, ac ei fod ef ei hun yn sicrhau mai efe, ac nid Gwerfil, ydoedd i gael y gadair. Sut cafodd Thalamus wybod hyny ? Rhaid ei fod ef yn broffwyd. Ac hefyd, y mae yn debygol fod gan y llall obaith cryf am dani, cyn y deuai o gymaint pellder i'r eis- teddfod. Ai nid oes modd rhoddi terfyn a? y fath beth—yr hapchwareu eisteddfodol yma 1 CRITO.
TREM ODDIAMGYLCH.
TREM ODDIAMGYLCH. MR. GOL. Rhyfedd y fath dwrw sydd yn cael ei gadw gan fan feirdd yr Eisteddfodau. Ar fy ngair, nid oes dim ond cyntach yn bod ar ol bob Eisteddfod sydd yn eymeryd lie y dyddiau presenol. Y mae rhyw Fania in- nlieriynol wedi cymeryd gafael yn eu siolau bob copa walitog. Os ydynt yn bwriadu myned yn mlaen yn y dyfodol fel y gwnaeth- ant yn y gorphenol, cyn wired a bod Thala- mus wedi ei,gadeirio, ïe, meddaf, cyn wired a bod man feirdd am i'r byd gredu fod eu gweithiau barddol hwy yn rawn o'r iawn ryw, yn lie soft, bydd y GWXADGARWR yn lawer rhy fach i gynwys eu gyntachrwydd. Feirdd anwyl, ystyriwch fod eisieu rhywbeth ar y wlad heblaw baldordd a chableddau beunyddiol fel hvn. Y peth nesaf ddaw dan ein sylw yw y pris afresymol sydd ar y glo. Onid ydym yn barod i ofyn am reswm dros ei fod mor uchel ei bris? Yr ydym yn barod i brofi mai nid ar y glowyr mae y bai yn bod, oblegyd os y bydd iddynt gael codiad o 10 y cant, codir y glo o 30 i 40 y cant. Yn ol y scale yna y meistri sydd yn cael yr elw, a'r gweithwyr sydd yn cael eu beio am fod y glo yn codi. Pe b'ai y meistri yn ddynion cyfiawn, ac yn caru tegwch, byddent yn codi 30 y cant eto, yr hyn sydd ddyledus i'r glowyr yn ol pris presenol y glo. Ond ha! nid felly. Osbydd eisieu codi hir y gweithwyr, y mae yn rhaid i'r meistri gael dau neu dri mis i ystyriecl y pwnc. Ond mewn cysylltiad a chodi pris y glo, nid oes ond eisieu dwy awr. Os ydyw pethau i gael eu cario yn mlaen yn y dull presenol, yr ydym yn ofni fod yr amser gwaethaf yn ol. Y mae eisieu cymedroldeb yn mhob peth. "Nid da gormod o ddim." Ymwelais a Chaerdydd a Phenarth yn ddi- weddar, a rhyfedd y fath alw am lo sydd yno. Gwelais yn y lleoedd hyn longau mawrion yn aros eu tro er myned dan y trip, pa rai a garient dros ddwy fil o dynelli yr un. Gwelais yno hefyd longau llai ochr yn ochr yn aros eu tro, ac ereill yn llai yn aros am lo no&n, ac wedi bod yno am ysbaid t air wythnos, ond dim yn well. Dyna i chwi arwyddion yr amserau mewn cysylltiad a'r glo. Gallem feddwl y dylid cofio am yr amser sydd yn aros meibion a merched dynion. Gyfeillion, cofiwch am eich henaint. Y mae yn amser rhagorol i osod ychydig heibio er cyfarfod angenrheidiau hen oedran. Os na fydd i'r gweithwyr daearol a thanddaearol gofio am danynt eu hunain, ni fydd i neb arall eu cofio! Ar ol oes o lafur caled, pa beth sydd yn eu haros pan y bydd y gwallt yn wyn, y llygaid yn pylu, y cof yn pallu, y trwyn yn nesu at yr ên, y gwyr cryfion yn methu gwneud eu gorchwyl, a'r holl gyfansoddiad yn dadfeilio ? Yn wir, gyfeillion, nid oes dim yn ein haros, os na fydd i ni gofio am ein hunain, ond y ty mawr hwnw-y tyloty ie dyna y lie y ceir miloedd o weithwyr hyd yn nod yn y dyddiau presenol. Onid yw yn drueni meddwl fod miloedd yn gorfod myned i'r lie uchod trwy drais a gormes y meistri, a'r miloedd sy'n gorfod myned yno trwy ffolinebau eu hunain,? Y mae mwy na mil- iwn o dylodion yn y wlad hon, ac y mae y cyfoethogion yn myned yn gyfoethocach, tra y mae y tylodion yn myned yn dylotach. Onid yw pethau o'r fath hyn yn warth mewn gwlad Gristionogol? Yr ydym yn deall oddiwrth ein trem oddi- amgylch fod llawer o wendidau yn perthyn i'r dosbarth gweithiol; ond os bydd iddynt wrandoar yr arweinyddion sydd wedi codi o'u plith eu hunain, ni fydd ond eisieu ychydig o ymdrech i wneud y mynyddau bychain hyn yn wastad. Undebwch, gyfeillion, o unfryd calon. "People throughout the land, Join in one social band, And save yourselves." TEFONDA.
[No title]
OINTMENT A PHBLBNI HOLLOWAY Anhwylderau Hen Oedran.—Pan j mae dyn yn sayned drosodd i'r hyn aelwir hen cedran, y mae y trenliad yn ar.mharu, a'r cyfansoddiad yn dyfod yn wan. Yn ganlynol i hyn, daw anhwylder yr ysgyfaint, y lungs, a'r pen, y rhai a gaulynir drachefn ran y dropsi, asthma, nen apoplexy, y rhai yn fynych a ffeithiant yn drwm ar yr oedranus. Y mae yr ysgifatnt yn gyntaf yn dyfod yn farwaidd, ondgellir yn hawdd ei gael i'w we thgarwch arferol trwy iiwtoio Oint- ment Holloway unwaith neu ddwy yn y dydd ar yr ys- tumog a'r cchrdde. a chymeryd y Peleni yr un adeg. Kffeithia yr Ointment yr un fath ar ranau ereill y peir- iant dynol, and rhwbio yr Ointma:t yn y rhanas hyny o'r.co:ff y teimlir y gwendid.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD FAWREDDOG…
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD FAWR- EDDOG TAIBACH. ANWYL GYFEILLION.—Yn gymaint a'ch bod yn rhoddi cadair dderw hardd am yr fwdl oreu (heb fod dros 150 o linellau) o glod i C. R. M. Talbot, Ysw., A.S., dymunwyf gael gwybod genych a'i Gadair Tir Iarll y bwr- iedwch iddi fod 1 Cai Hir, nai Arthur, ym- erodr, Arglwydd Cwmwd y Maes Mawr, yn Morganwg, a drefnes y gadair hon, a bu dan nawdd arglwyddi Morganwg dros oesoedd lawer. Cynwys Tir Iarll Pil, Margam, y Bettws, a Llangynwyd; gan hyny, hawdd yw i chwi adsefydlu hen Gadair a Gorsedd Tir Iarll. Cofiwch fod braint a defod y gad- air hon wedi eu colli oddiar amser Harri YTTT- A fydd i chwi geisio gan arwr ein hawdl ganiatai i ni y fraint a'r ddefod yn eu hoi 1 Rhoddwch wybod yn y GWLADGARWR nesaf, a dymunaf eich llwydd yn fawr. Taibach. WM. MORGAN. Taibach. WM. MORGAN.
CHWEDL DDWYREINIOL.
CHWEDL DDWYREINIOL. NOOSHIRWAN, tua'r amser y ganwyd Moham- met, oedd frenin doeth a chyfiawn yn Mher- sia ac ar l'yw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn hela gydai'i gyfeillion, dygwyddodd iddo golli cwrs yr helwriaeth, ac er gyru yn galed am hir amser, nis gallai ei ganfod. Wedi llwyr luddedu, edrychai o ben bryn o'i amgylch am gyfleusderau i dori ei syched, a chanfyddai dir âr, a barnai fod annedd gerllaw iddo, a thynodd tuag yno. Morwynig brydweddol a'i cyfarfu yn y drws, a gofynodd iddi am ddiod er tori ei syched- Hithau a frysiodd i bara- toi iddo. Torodd gorsen siwgr o'r ardd, a gwasgodd y sug i gwpan cymysgodd ef a dwfr glan gloyw, heuodd bowdwr ar ei wyneb, yr hwn wrth nofio a ymddangosai yn debyg i ludw, a dygodd y cwpanaid i'r gwr dyeithr. Yntau a'i cyfododd mewn brys at ei enau ond pan welodd y lludw, arafodd, a chan ymdrechu ei gadw draw a'i anadl, ei wefus, a'i ddanedd, yfodd yn gynil ac araf nes cyr- haedd gwaelod y cwpan. W rth ei ddychwelyd, canmolodd y ddiod, a gefynodd,—"Pa fodd y cyfansoddaist y fath ddiod beraidd mewn mor lleied o amser?" Hithau a atebodd,- "Sug un gorsen a wesgais i'r cwpan, a chy- mysgais ef a dwfr gloyw." "Beth," meddai yntau, "ai sug un gorsen a wesgaist 1" "Ie," meddai y forwyn. "Diod," meddai yu- tau, "ragorol ydoedd, oni bai y lludw ar ywyneb." "0," meddai hithau, "myfi a heuais hwnw yn fwriadol." "Paham y gwnest byiiy?" meddai yntau. "Barmi a wnaethuin," ebe hithau, "y buasit yn llyncu yn dy syched y gwpanaid oer ar un traflwnc, yr hyn a fuasai yn niweidio dy gylla; a rhag hyny, heuais lwch peraroglus ar ei wyneb." Synodd y brenin, a gwenodd, ac aeth ymaith, heb fynegi i'r forwyn pwy ydoedd. Ond penderfynai drymhau y dreth ar gorsen mor doreithioe. Gyda/r nos, wrth ddychwelyd, galwodd gyda'r llances ddifyrus drachefn, a gofynodd ddiod eilwaith. Hithau a aeth i'w baroioi, eithr bu hir amser cyn dychwelyd y tro hwn. Yntau a ofynodd iddi "Paham y buost hwy y tro hwn?" Hithau a atebodd, "Y corsen- au ydynt waelach; yn lie un, bu raid i mi wasgutair." ,¡ Beth a allai fodyrachoso hyny'?" gofynai. "Nis gwn i," meddai hithau, gan ysgwyd ei phen, "oddieithr fod y brenin yn penderfynu ein gorthrymu." "Beth a wyddost ti am y brenin 1" ebe yntau. "Dim," meddai hithau, "ond geiriau y doethion a ddysgant, pan y mae brenin yn gorthrymu y deiliaid, fod y fendith yn cilio oddiwrthynt." IIofFodd Noorshirwan y for- wyn ddoeth, cyfododd hi yn frenhines, a hi a ragorodd ar orsedd Persia. Dyma dair addysg rhagorol.—1. Fod gorthrwm yn lleihau bendithion. 2. Fod gwanc dyn yn ei niweidio. 8. Fod rhyw law dyner, ddirgel, yn hau llwch ar wyneb ein melysderau rhag i ni "fa1'w cyn haner ein dyddiau." D. E. J.
Advertising
"A VISIT TO },r.'PPS'S COCOA MANUFACTOKT.—Throtig- the kindness of Messrs Eppa, I recently had an opport- unity of seeing the many complicated and varied prowesses' the Cacao bean parses through ere it is sold for public use, and, bring both i terested and highly pleased w.th what I saw during my visit to the manufactory, I thought a brief account of the Cacao, an'S the way it is manufaetm-ed by Messrs Epps, to fit it for a wholesome and nu3?itio>i;i beverage, might be of interest xo tha readers of laud and Water."—Sso Article in "Lund and Water," October 14. BBEAKTAST.—EPPS'H COOOA.—GRATEFUL AND COM- FORTING.— 'By a thorough knowledge of the nata-al laws which govern the operations of digestion and nutrittou, and by a careful application of the fine properties of weii- selected cccoft, Mr. Epps, ha« provided our breakfast tables with a delicately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bilk "Ci'il Service Gazettee. Made simply with Boiling Water or Milk. Each packet is labelled—"JAMES Epps & Co., Homoeopathic Chemists), London." Also, makers of Eppf/s Cacaoine, a very thin beverage for evening use. MANUFACTURE OF COCOA, CACAOINE, AND CHOCOLATE. —"We will now give an account of the process adopted by Messrs Epps & Co., manufacturers of dietetic articles, at their worfcs in the Euston Road, London."— See Article in part 19 of Cassell's Household Guide. 102
CONGL Y GVEITHIVR.
CONGL Y GVEITHIVR. TOWER CRAIG COLLIERY, HIRWAIN. Fe allai y byddai ychydig o hanes 'show cards y lie uchod yn dderbyniol. Oymerodd y show le ddydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, pryd y deallwyd fod yr oil yn undebwyr ond dau, a'r ddau hyny yn addaw uno y cyfleus- dra cyntaf a gant. Dywedir fod yma un llwdn du ystyfnig yn ein plith, ond pwy a welodd unrhyw gymdeithas heb yr un. Fe welir fod yr undeb wedi enill tir yn dda yma. APELIAD AT WEITHWYR Y SIR. Er fod yr amser wedi gwella arnom ni fel gweithwyr, a chyflogau wedi eu codi, eto i gyd nid yw y gweithiwr sydd a theulu mawr gan- ddo nemawr, os dim, yn well wedi'r cwbl, gan fod anghenrheidiau bywyd wedi codi cymaint. Mae yn wiryfod y cymdeithasau cydweithiol a darbodus (co-operative societies) wedi ac yn gwneud llawer iawn o les i'r dosbarth gweith- iol. Mae genym ni un ar raddfa fechan wedi ei sefydlu yma yn Mhontrydyfen er 1863, ac er y pryd hyny, mae rhywbeth tebyg i dair mil o bunau wedi cael eu rhanu rhwng yr aelodau mewn ffordd o ddosraniad; ac yr wyf yn tybied fod y cyfan-werthwyr wedi elwa mil a haner o bunau ar gefn y gymdeithas uchod. Yn awr, y peth yr wyf fi am dynu sylw ato ydyw hyn :-A ydyw yn bosibl i ni, gweith- wyr ac aelodau y cymdeithasau uchod yn nghymoedd Dar, Rhondda, Nedd, a Chwm- avon,yn nghyda chymoedd ereill, gael ystorfa eang cyfan-werthiant wedi ei sefydlu mown rhyw dref yn y cymydogaethau yna er di- wallu yr holl gymdeithasau darbodawl a phob anghenrheidiau, a hyny am brisoedd mor isel a fyddo yn bosibl. Mae yn ddiameu genyf y gellir eu cael am brisoedd mwy rhesymol na'r cyfryw y gwerthir hwynt yn bresenol. Fe fyddai yn dda gan lawer o honom weled y cynygiad yn cael sylw, a rhyw fan yn cael ei benodi trwy gyfrwng y GWLADGARWR, er cynal pwyllgor o ddirprwywyr o'r gwahanol gymdeithasau trwy y gweithfeydd er dadleu priodoldeb y cynygiad. CO-OPERATOR. I STRIKE Y GWEHYDDION. Mae yn hysbys trwy yr holl wlad erbyn hyn fod holl wehyddion a nyddwyr Gwent a Morganwg yn sefyll ailan am bris, pa rai ydynt yn gofyn 010 i 12 y cant o godiad yn en cyfiogau. Mae rhai o'r meistri mwyaf cyfrifol wedi cydsynio a'u cais yn district Merthyr, sef E. G. Price, Ysw., Aberdar T. Roberts, Ysw., Caedraw Mr. W. Lewis, Eglwysnewydd; Mri. J. Evans a J. Jones, Merthyr a Mr. D. Thomas, Llangatwg, a theimlir diolehgarwch cyifredhiol i'r meistri parchus yna am eu hymddygiad care dig. Cynaliwyd cyfarfod mawr cyffredinol yn Maesycwmwr, dydd Llun diweddaf, pryd y cyfarfyddodd ■ holl wehyddion a nyddwyr Gwent a rhan o Morganwg yn nghyd. Daeth yno dros Aberdar, Mr. R. Jones dros Mer- thyr, Mri. J. PryseaE. Jones. Penderfyn- wyd yn unfrydol eu bod i sefyll allan hyd neacaffont en hiawnderau. Mae holl feistri district Caerffili yn gwrthod cais eu gweith- wyr, oddieithr Mr. E. Stradlin, Abercarn, yr hwn sydd yn foddlon ei roddi. Mae yn eithaf rhesymol i'r gwehyddion a'r nyddwyr gael codiad yn eu cyflogau, fel gweithwyr ereill, o herwydd y mae yn anmhosibl iddynt gyual eu teuluoedd ar yr hyn y maent yn ei erdll yn bresenol. Mae llawer yn barod i ddweyd mai meistri y gwehyddicn ydynt y gwaethaf o bob meistri, oblegyd fod pob dosbarth o weithwyr ereill wedi cael codiad yn eu cyflogau yn ddiwrthwynebiad. Peid- ied gwehyddion a, nyddwyr cymydogaethau Merthyr a Chaerffili Iwfrhau dim mae digon o nerth tu cefn. Mae y brodvr caredig sydd yn nghymydogaethau Caerfyrddin ac Aber- tawe yn barod i roddi cyriorthwy ac hefyd, gwneir apeliad yn gyffredinol at ha-elfrydedd a chymwynasgarwch arferol y glowyr a'r mwnwyr. SION CHWAHEITTEG.
CWYNION "ADERYN Y NOS," MAESTEG.
CWYNION "ADERYN Y NOS," MAESTEG. Yn y cwynion a ddygai yr aderyn hwn ger- bron y cyhoedd rai wythnosau yn ol yn y GWLADGARWR, amcanai feio rhyw un o'r gweithwyr sydd yn gweithio yn mhwll newydd y Llynvi, Tondu & Ogmore Co. Sylwedd cyhuddiad yr aderyn oedd fod rhyw un sydd yn gweithio yn y pwll hwn yn ddigon digydwybod, er maint ei fost am undeb, i fyned a gwaith ei gydweithiwr oddiwrtho, ac yn ei weithio am swllt y llath o dan bris ac hefyd, y gweithiai 181 awr y dydd, pe yn bosibl, er mwyn boddio y gaffer. Wedi gweled y nodiadau ensyniadol hyn, ffurfiwyd pwyllgor o holl weithwyr y pwll newydd er gwneud ymchwiliad i'r mater, a daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol nad oedd y sail leiaf i'r cyhuddiad a chan fod y peth wedi ei wneud yngyhoeddus drwyy GWLADGARWR, penderfynwyd ei bod yn deg i'n cymeriadau, fel gweithwyr yn y pwll hwn, i gael eu ham- ddiftyn yn yr un modd. Gwelir feliy fy mod yn ysgrifenu y nodyn hwn ar awdurdod ac ar gais fy nghyd-weithwyr. Credwyf nad oes cynifer o ddynion yn cyd-weithio yn fwy unol a thangnefeddus yn un rhan o'r deyrnas nac sydd yn y pwll hwn. Cynghorom yr aderyn hwn i aros yn nghwmni y dallhuanod hyd nes y byddo rhyw orchwyl amgenach yn galw am ei wasanaeth. STRANTHOS.
AT UNDEBWYR CYMRU.
AT UNDEBWYR CYMRU. ANWYL FRODYR,-Y mae yn Hawn bryd i ni fel glowyr i agor ein llygaid, canys y mae pethau yn myned o chwith braidd yn mhob pwll trwy Aberdar a Rhondda, ac os na fydd i ni ddeffro yn fuan, byddwn wedi rhoddi naid yn y tywyllwch dros graig uchel, nes y byddwn yn ddarnau ar y llawr unwaith eto. Os ydym am gadw ein sefyllfa yn debyg i'r hyn y mae yn awr, rhaid i ni fod yn ddoeth yn ein cenedlaeth fel glowyr, ac nid bod yn ffolach na phob dosbarth arall o weithwyr, fel ag yr ydym wedi bod er's amser maith bellach. Y peth mwyaf pwysig er ein lies yw cadw at hyn, sef na fydd i un glowr, coedwr, rhipwr, haliwr, na neb arall gymeryd dyn na chrotyn ato i'w ddysgu, oddigerth ei ei fod yn fab i lowr, neu rywun arall sydd yn gweithio eisioes dan y ddaear, heb iddo dalu R5 yn gyntaf, a hyny ar unwaith, ac nid mewn instalments; ond yn awr y mae pawb yn ddiwahan yn dyfod i mewn—plant teilwr- iaid, cryddion, maswniaid, a dyniorl oddiar y reilffyrdd. Os bydd i bob math gael eu derbyn i mewn i'r glofeydd fel yn bresenol, byddwn yn sier o lanw ein glofeydd unwaith eto, ac yna barned y darllenydd beth fydd y canlyniad. Os bydd i ni fyned yn rhy lawn, a'r suppl, fyned yn fwy na'r demand, daw y prisoedd i lawr yn gynt nag aethont i'r lan. Feallai y gall pris y glo aros tebyg i'r hyn ydyw yn bresenol; ond ni waeth beth fydd pris y farchnad lo os bydd digon dros ben o ddynion yn y gweithfeydd. Marchnad y dynion, ac nid marchnad y prisoedd, fydd yn llywodraethu yr amser hwnw. Ond er mwyn cadw ein sefyllfa bresenol, rhaid bod yn ddoeth iawn; rhaid peidio eymeryd pob stwff i mewn, myned i waith un y llall heb chwilio i mewn i'r' achos yn gyntaf, ceisio gwneud drwg i naill y llall tu ol i'r llwyn, na chario clees o'r cyfarfodydd) Nid y cyfarfodydd cyfiEredinol yr wyf yn feddwl, ond y rhai neillduol. Cofiwn mai nid talu saith ceiniog y mis sydd yn gwneud dyn yn undebwr, ond sefyll yn gadarn at yr egwyddion, a dysgu ein gilydd yn y cyfryw, ac os na fydd i ni f wneud hyny, bydd yn sicr o fyned yn fethiant hollol arnom cyn hir. ERYR AMAN.
Y WLADFA GYMREIG.
^dialw am dano oblegyd ein rheol bendant ar y mater ydyw,' na chaiff neb fyned yno os eu rhwystro, heb fod ganddynt bob peth angenrheidiol i wneud y goreu o'u tir, phob angenrhaid byw, nes cael cynyrch eu "afur. Y mae Prwywr y Weriniaeth Arian- 111 yn dweyd yn benodol fod yr awdurdotlau PrYdeidig wedi ymroddi yn mhob man y cant rhyw rith esgus, i luddias ymfudiaeth i bob gwlad nad yw dan ei nawdd. Dichon fod hyn yn wir ond y mae hyn yn berffaith Wir, fod yr ymyriadau diweddar mor ddi- am danynt a phe buasai i Faer Rhuthyn rhybuddio yr holl E,.vlacl o amgylch i beidio I Jnyned i Ddinbych ar sail ystori a glywodd gau dramp penftordd. Nid ydym yn teimlo Yn rhyw awyddus iawn i ysgrifenu llawer, gall ein bod yn dysgwyl Uythyrau o'r Wladfa. Gwnawd pob ymdrech yn Buenos Ayres i ^Wystro y fintai Americanaidd i'r Wladfa Ilid gan y Llywodraeth, ond gan land sharks a Phrvrywyr taledig, y rhai sydd yn gwen- !:¥no wrth ei llwyddiant. Amser a ddengys." Ond, cofied y darllenydd, ein hod wedi profi unwaith o'r blaen fod y Consul Prydeinig yn Buenos Ayres wedi cymeryd ei gainarwam gan ddeiseb dwyllodrus. "A ltad hyn, aed a hi--gwaded i'r haul godi." Rhuthyn, Awst 31. D. LL. JONES.