Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GONGL DDIRWESTOL.I

News
Cite
Share

Y GONGL DDIRWESTOL. PREGETHAU DIRWESTOL 14 BILLY SUNDAY." (Gari J. R. R.) (Parhad o Rifyn Blaenorol). Dywed yr Archesgob Ireland, y Pabydd enwog o St. Paul, am droseddau cymdeithasol, yr achosir 75 y cant gan y ddiod, a 80 y cant o dlodi gan yr un peth." Af at deulu sydd wedi torri i fyny, a gofynaf, Beth achosodd hyn ? Diodi." Af at y dyn ieuanc ar y ilordd i'r grogbren, a gofynaf, Beth a ddaeth a ti yma ? Diocl." 0 b'le ddaeth yr holl drueni, a gofid, a llygredd ? Yn ddi eithriad bron y ddiod yw yr achos. Yr oedd Five Points" yn New York yn lecyn mor debig i Uffern ag y gallai unrhyw lecyn ar wyneb daear fod. Cyferfydd pum' heol yn y pwynt hwn, ac ar y canol yr oedd hen ddarllawdy, a'r heolydd o bobtu yn llawn siopau gwerthu diod. Fe drodd y newyddiad- uron eu goleuni ar y rhanbarth, a'r peth cyntaf fu raid iddynt wneud, cyn atal y difrod, oedd prynnu yr hen ddarllawdy a'i droi yn Neuadd Genhadol, ac erbyn heddyw mae'r lie yn weddaidd a pharchus. Mae'r dafarn yn ganolbwynt bob an- foes. Mae'n waeth na rhyfel na phla. Dyma drosedd y troseddau, tad trosedd- au, a mam pechodau. Hon yw prif ffynhonnell trueni a phechodau. A chan ei bod yn ffynhonnell tair rhan o bedair o droseddau, wrth gwrs y mae'n ffyn- honnell tair rhan o bedair o'r trethi at gynnal y troseddau hynny. Ac mae trwyddedu y fath diafl yngnawdoledig y busnes butraf a mwyaf damniol yr ochr ucha i'r hen ddaear yma—'does dim i'w gymharu ag ef. Neilltuodd Deddfwriaeth Illinois yn 1908, $6,000,000 i ofalu am y rhai oedd wedi colli eu synhwyrau yn y Dalaith, ac mae'r fasnach feddwol yn cynyrchu triugain a phymtheg y cant o'r rhai hynny. Os da y cofiwyf, fe neilltuodd y Ddeddfwriaeth yn agos i $9,000,000 i ofalu am Sefydliadau perthynol i'r Dal- aith. Gwnewch i ffwrdd a'r tafaraau, a chwi a geuwch y sefydliadau hyn, y fcafarnau sydd yn on gwneud yn inghon- raid, a hwy sydd yn* gwneud y tlodi, ac yn llenwi'r carcharau a'r gwallgofdai. Pwy sy'n gorfod ialll'r gost ? Y land- lord sydd yn mothu cael y rhenfc am fod yr arian yn mynd am chwisgi; y mas- nachwr, a'r bobl ofala am sefydliiadau elusenga.r gympr drugaredd ar blant y meddwyn, a'r' ,trethdalwr sy'n talu i gynnal y gwallgofdai a'r sefydliadau hyn, mae'r fasnach feddwol yn gadw yn llawn o ddynion wedi eu dinistrio. Gwnewch i ffwrdd a'r busnes mellti- gedig a rhaid i chwi ddim cynnal y sef- ydliadau hyn. Pwy sydd yn cael yr arian ? Y tafarnwyr a'r darllawyr, tra mae'r ddiod yn llenwi'r wlad a thlodi a thrueni, afiechyd ae angeu, a damnedig- aeth, a hynny drwy awdurdod y bobl sydd yn llywodraethu. We1 ie meddweh, fe fyn pobl ei yfed fodd bynnag." Nid drwy'n mhleidlais 1. Dywedwcb," Fe wna dynion fwrdro eu gwragedd sut bynnag. Nid drwy'n mhleidlais 1. Chwi, drwy eich pleid leisiau, sydd yn llywodraethu. Beth ydych am wneud yn ei gylch. All dag- rau merched ddim atal y fasnach, neu buasenlj wedi gwneud. Mae digon wedi eu colli, Duw a'i gwyr. Y dyddiau hlyn pan mae'r ewestiwn o dafarn aeu dim tafarn yn yr amlwg braidd ymhob Talaith, clywir gryn lawer am yr hyn elwir yn rhyddid personol." Mae'r rhain yn eiriau gwych, mawrion, llond geneu, ac yn sicr fe swniant yn wych od; ond pan ewch chwi i lawr a'u helfennu yng ngoleuni y peth elwiryn synwyr cyffredin, fe ddar- ganfyddwch wrth eu cymhwyso at y ddadl presennol, y golygant gymaint a hyn Rhyddid personol sydd i'r dyn, os oes ganddo'r duedd a'r arian, all sefyll i fyny wrth y Bar a llenwi ei hunan mor lawn o licar nes y traws- ffurfir ef am yr amser, i fod yn fwystfil anghyfrifol a pheryglus. Ond 'does dim "rhyddid personol" i'w briod eiddil, amyneddgar, sy'n gorfod goddef ei ddyrnodau a'i rhegfeydd nac i'w blant, os gallant osgoi ei gynddaredd wallcof, a ysbeilir o bob llawenydd a braint plen- j tyn, ac yn rhy fynych a esgeulusir, a thyfant i fyny yn ddiofal a drwg, can- lyniad uniongyrchol y cylchyniadau a'r esiampl a roddwyd iddynt. 'Dyw "rhyddidpersonol" ddim yn beth i'r dinesydd sobr a diwyd, sy'n gorfod talu o gynnyrch ei lafur gonest, a'i ofal am ei ennillion, raid talu o'i fodd neu an- fodd, filiau'r dreth sydd yn codi fel can- lyniad uniongyrchol meddwdod, anrhefn a thlodi, cronicl y rhai sydd ysgrifenedig yn llysoedd a thlotai y wlad. 'Does gan y baldordd yma ynghylch rhyddid personol," fel dadl dros y ddiod, yr un goes i sefyll arni. Sylwch, yr oeld y cynhaeaf yd am 1913 yn 2,533,732,OCO llestriaid (bushels), ac fe'i prisid yn $1,350,000,000. Dywed yr Ysgrifennydd Wilson fod y darllaw- dai yn defnyddio llai na 2 y cant. Bwr- iwch ein bod yn rhoi y swm yn 2 y cant, gwnai hynny 51,000,000 llestriaid, ac yn ol fifty cents a bushel byddai hynny yn gyfagos i $25,000,000. Faint o bobl sydd yn yr Unol Daleithiau ? 80,000,000. Da iawn. Os felly, bydd- ai hynny yn saith cent ar hugain per capita. Yna yr ydym yn gwerthu allan i'r fasnach feddwol am saith cent ar hugain yr un, pris dwsin o wyau, neu bwys o fenyn. We are the cheapest gang this side of he-ll if we do that kind of business. Gwrandewch yn awr, Cyllid Llywod- raeth yr Unol Daleithau y flwyddyn ddiweddaf oddiwrth y fasnach feddwol oedd$350,000,000, hynny yw a'i osod yn bur hael. Ie," meddweh, dyna arian mawr iawn." Wei, y flwyddyn ddiweddaf fe wariodd y dosbarth gweithiol y swm o $2,200,000,000 am ddiod, ac fe gostiodd $1,200,000,000 i ofalu am gyfundrefn y gyfraith. Mewn geiriau eraill, fe gostiodd y fasnach feddwol i ni y flwyddyn ddiweddaf $3,400,000,000. Tynnaf allan y zC350,000,000 budr, derbyniwyd gen- nym, ac mae yn gadael $3,050,000,000, yn ffafr curo busnes y chwisgi allan ar dir cyllid yn syml. Ond gwrandewch! Gwariasom yn yr Unol Daleithau y flwyddyn ddiweddaf $6,000,000,000 er mwyn ein tlodion, a throseddwyr, yr amhwyll a'r amdd ad, &c., ac y Mae 82 y cant o'r Tiwyr yn gynnyrch y ddiod, a 75 y cant o'r cardotwyr. Nid oedd ein cynnydd cenedlaethol mewn cyfoekh ond$5,000,000,000, felly i gallwch cyfrif faint o amser cymer i ni fynd yn fethdalwyr gyda'r buanes diaflig hwn ar ein cefnau. Mae pob gweithiwr ar gyfartaledd yn ennill$450 y flwyddyn, ac fe gystj i ni $1,200 y flwyddyn yr un i gynnal ein troseddwyr sy'n gynnyrch y fasnach. Mae yna 326,000 o droseddwyr cofrestredig yn yr Unol DaIeithau, a 80,000 mewn carch- arau. Aeth tri o bob pedwar yno o achos y ddiod, ac eto mae ganddynt ddigon o haerllugrwydd i ddweyd fod y dafarn yn angenrheidiol er mwyn y cyllid. Fu celwydd mwy arwynebol erioed, na chalon mor aflan, na gwefus- au ddigon duon i roi mynegiant i'r fath gelwydd- I

Advertising

[No title]

ICONGL YR AWEN.