Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'r pur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
-Gweddio dros y Meirw.
Gweddio dros y Meirw. (0 E.) I Credwn fod arwyddion amlwg yn y I dyddiau hyn, yr adnewyddir ffydd yr Eglwys mewn gweddi. Bu cyfnod yn ein gwlad yr oedd yr awyrgylch feddyl- iol yn dra anfanteisiol i gred ddiamheu ol yn ei heffeithiolrwydd. Tybid nad oedd yn bosibl o'r braidd i'r Creawdwr gyfrvngu yn amgylchiadau ei fyd. Mae'n dda meddwl fod yr ynfydrwydd liwn wedi difiannu ymron yn llwyr o feddwlgarwch yr oes. Mae Duw yn bresennol yn ei greadigaeth, ac nid ydyw ei hegnion a'i deddfau yn ddim arwahan iddo, Y nesaf yw efe o bawb at f'enaid gwan." Yn ddiau, rhydd wahoddiad tyner a thaer i ni droi ato gyda'n holl helynt, a thywallt ein calon ger ei fron Ef. Un ydyw bywyd, ac nid oes un rhan ohono, net dim ynddo, pa inor ddi- bwys bynnag yr edrych, na chymhellir ni i'w trefnu ger ei fron, Estynnir y fraint oruchel i ni o weddio dros eraill. Cymhellir ni i hyn yn barhaus yn y Testament New- ydd. Gweddia yr Apostol Paul dros yr eglwysi, agofynna am i'r eglwysi weddio drosto yntau. 0 frodyr, gweddiwch drosom." Cofnoda loan weddi fawr y Meistr ei hun, dros ei ddisgyblion, a thros y rhai a gredant yn ei enw Ef trwyddynt. Tybed a ydym yn syl- weddoli y fath ddirgelwch sydd ynglyn a hyn? Gallwn ddirnad pa fodd y mae ein gweddiau drosom ein hunain yn ein cymhwyso i dderbyn bendith gan Dduw, ond pa fodd y mae ein gweddiau dros eraill yn sicrhau bendith iddynt ? Pa fodd y bydd i'n gweddiau ni adref ddod a bendith i'n bechgyn sydd ym mber- yglon y gwarch-ffosydd ? Y dirgelwch hwn sydd fawr, a dylem ei gyffesu. Er hynny mae yr Ysgrythyr yn ein dysgu yn bendant (ac ategir bynny gan brofiad helaeth pobl Dduw), y rhoddir bendith i eraill trwy gyfrwng ein gweddiau ni. Ond ai priodol gweddio dros rai sydd wedi croesi'r glyn i'r Tuhwnt Mawr ? Os gallwn weddio dros eraill ar y ddaear, pam nad droS anwyliaid sydd wedi ein gadael? Mae y mater hwn wedi cael sylw cynhyddol yn ystod cyfnod y rhyfel. Mae ein cariad yn ddi- ymollwng yn y rhai sydd wedi mynd. A ydyw ein bechgyn wedi mynd o gyr- raedd ein gweddiau ? A ydyw yn briodol gweddio dros y meirw ? Gwyddom fod hyn yn arferiad yn eglwysi Groeg a Rhufain, a diau fod yr arferiad yn cynhyddu ymysg unigolion yx Eglwys Loegr. Rhoddodd y Diwyg- wyr Protestanaidd eu hwyneb YD bur gadarn yn ei erbyn. Nid ydym yn deall fod Eglwys Rhufatn yn gweddio dros yr anychweledig, eithr dros gredinwyr an- mherffaith, sef y rhai sydd yn y Purdan. Ymffurfiodd cyfeiliornadau a llygredig- aethau gwenwynig oddeutu y syniad Pabyddol hwn. Tuedd y Protestaniaid ar y Haw arall ydoedd anwybyddu y sefyllfa ganol, a thybio fod pob enaid unigol yn cael ei farnu yn uniongyrchol ar farwolaeth y corff. Nid oes lie priod- ol i weddi yn yr osgo hon at y dyfodol. Credaf fod llawer o ddiwinyddion Pro testanaidd diweddar yn rhoddi ystyr wirioneddol i'r sefyllfa ganol. Tybed nad oes miloedd o Gristionogion yn eu marwolaeth, er efallai wedi credu yng Nghrist, ac felly ar y sylfaen, er hynny wedi goruwchadeiladu yn wael, ac fod .gwaith puro mawr ar y defnyddiau? Ni thybiwn eu bod yn gymwys i nefoedd y gogoniant-y lie perffaith hwnnw. Dyma syniad Martensen. Rbydd y sefyllfa ganol gyfle i'r cyfryw i adnabod eu hunain, a byw bywyd dwfn o fyfyr- dod, a thrwy gymdeithas a Christ, elir M gynnydd mewn purdeb a sancteidd- rwydd. O'm rhan fy hun, nid oes gen- ilyf wrthwynebiad i syniad fel hyn. Ond mater gwahanol ydyw, ai priodol gweddio drostynt. Efallai mai bai m awr y rhai sydd wedi ysgrifennu am y "pethau diweddaf" ydyw, eu bod yn rhy bendant, pryd nad oes yn y Beibl ond awgrymiadau prin ac anmhenodol. Rhaid addef fod y Beibl yn gwbl ddistaw ynglyn a gweddi dros y meirw. Dichon nad yw hynny yn penderfynu y mater, ond y mae yn bur awgrymiadol. Tra nad yw y Datguddiad Dwyfol wedi gweled yn dda ein hysbysu, mae'n briodol cofio ar y llaw arall fod yr arfer- iad wedi ei amgylchynu a pheryglon. Nid ydyw athrawiaeth y Purdan ond un engraifft o hyn. Cam bychan ydyw oddiwrth weddio dros y meirw, i weddio ar y seintiau yinadawedig, ac yn en- wedig ar Fair y Forwyn. Yn lie Un Cyfryngwr i fynd ato, bydd gennym gyfryngwyr lawer, fel yr oedd gan Eglwys Colossa, a chuddir gogoniant yr Un digonol. Rhyfeddwyd ni yn fawr, ychydig fisoedd yn ol, gweled fod Dr. Moule, Esgob Durham, ac Eglwys- wr Efengylaidd pybyr, wedi dod i gredu mewn gweddio dros y meirw. Cynhygir engraifft ganddo o'r hyn sydd briodol i'w ddeisyf. Mae y geiriau yn brydferth a llednais, ac nid oes dim ynddynt i ddolurio y gydwybod fwyaf tyner; ond mae y deisyfiadan yn rhai cyffredinol a thra anmhenodol, ac ofnwn na chedwid mewn terfynau cyfyng fel hyn pe deuai yn arferiad yn yr Eglwys. Ar yr un pryd, mae cymundeb y saint yn cyn- nwys yr Eglwys sydd wedi croesi, yn ogystal a'r Eglwys ar y ddaear, ac wrth gymdeithasu a Chiist, yr ydym mewn cymdeithas a'n gilydd. Yr ydym yn un ynddo Ef. .—————— ——————
Y Brad Orfyddodd.
Y Brad Orfyddodd. Bu cryn bryderu beth a fyddai tynged y Mesur yn Nhy y Cyffredin, ond erbyn hyn y mae ysbryd y Ty yn amlwg; pasiwyd y Mesur Gorfodol gyda 298 o fwyafrif-y brad o orfyddodd. Pan luniwyd y Coalition Govern- ment, mal y gelwirj hi, honid fod pob mater a ennynai angerdd plaid i'w adael yn gwbl o'r neilltu ond, atolwg, beth yw'r hanes, onid buddugoliaeth i'r Tor- riaid, a'r Ymchwelwyr ar hyd y ffordd? Oni cheisiwyd, yn llechwraidd, lunio brad Deddf Datgysylltiad a Dadwaddol iad yr Eglwys yng Nghymru? Onid yw egwyddor fawr Masnach Rydd wedi ei haberthu ? Onid yw Swyddfa Prisio y Tiry Land Valuation Office-wedi ei bwrw i r wadd ac i'r ystlumod ? Ac yn olaf dyna un o egwyddorion sylfaen- ol Rhyddfrydiaeth wedi ei gwadu a'i gosod dan draed-yr egwyddor fawr aruchel o wirfoddolrwydd ynglyn a thywallt gwaed. Y mae plaid y mawr- ion-plaid braint a gwaedolaeth, wedi bod ers tro hir yn cynllwyn am fywyd yr egwyddor aruchel hon, ond dros dro hir ni fu nemor llwydd ar ei llafur, ond heddyw, yn nydd cynni y genedl, a chyda help Cymro enwog, y maent wedi llwyddo yn y peth a fynnent. Ni wyddom yn iawn beth a arweinia Mr Lloyd George ar hyd y llwybr y mae heddyw yn ei gerdded ond y mae am- canion ei gyngrheiriaid mor eglur a haul ganol dydd. Tybiasom y ceid mwy yn Nhy y Cyffredin i sefyll yn erbyn y brad. 0 bosibl fod dau beth yn cyfrif am fychander cymharol rhif y gwroniaid —math ar deyrngarwch personol i'r Prif Weinidog, ac, ofn etboliad cyffredinol. Yn yr awr olaf yr hyn a drodd y fan- tol ymhlaid teulu y gorfod oedd adaewid a roddwyd gan y Prif Weirlidog—o'i ben a'i bastwn ei hlin-i Arglwydd, Derby, sef nas gelwid ar y gwyr priod a ymres- trant hyd nes y byddai agos yroll o wyr ieuainc y wlad ynghyntaf o dan arfau. Peth digon prydferth ydyw teyrngar- wch i arweinydd, ond yn bendifaddeu y mlJlltffyddlondeb i egwyddor yn beth tlysacb na ffyddlondeb i arweinydd. I'n bryd ni addewid ffol oedd addewid y Prif Weinidog ond bydded yr addewid yn ddoeth neu annoeth, a oes modd ei gyfiawnhau am. iddo ei rhoddi, fel y gwnaetb, heb ymgynghoriad a'i weinid- ogion, nae yn wir a'i bobl yn y Senedd? Rhaid oedd cadw yr addewid," medd- ai, gan ei bod wedi ei rhoddi.5 let ond tybed nad ydyw holl addewidion y Prif Weinidog o werth cyfartal ? Nid un addewid a roddodd Mr Asquith ynglyn a'r mater yma; nage, heblaw ei addewid i Arglwydd Derby, rhoddodd o leiaf dair o addewidion eraill. Yn gyn- taf addawodd na pbesid deddf orfodol oni ellid dangos fod gwir angen am dani i ddiogelu rhyddid ac annibyniaeth y wlad. Yn ail addawodd na phesid deddf orfodol'' os byddai corff ma wr gwyr ieuainc y wlad wedi ymrestru Yn drydydd addawodd na phesid "deddf orfodol os na cheid mesur mawr o un- frydedd yn ei chylch. Yn awr, beth am yr addewidion hyn ? Cymerer hwy i fyny yn eu tro. Yn gyntaf, a oes rhywun wedi dangos i ni, os na cheir y ddeddf, y cyll y wlad y rhyfel a'i hanibyniaeth ? Nae oes neb. Y mae holl areithiau y conscriptionists yn y Cabinet, o'r Prif Weinidog i lawr hyd at y Cynrychiolwyr Llafur, sydd wedi eu sugno i'r trobwll, yn seiliedig ar y peth a elwid ar ben ffair yn confid- ence trick. Y peth a ddatguddiwyd yn y ddadl oedd fod gennym chwe' miliwn o wyr wedi ymrestru-nid pedair miliwn ond chwe' miliwn. Ond beth am yr ail addewid. Honnid fod 600,000 o wyr ieuainc heb ymrestru, ond danghosodd Mr John Simon yn ei araith gref, fanwl, fod ffigyrrau Arglwydd Derby yn ansaf. adwy. Wedi tynnu allan o'r 600,000, gleifion, gwywedigion, a'r rhai nad ellir eu hebgor o'r gweithfeydd sy'n darparu ??WMm-?OM, &c., daw ffigyrrau Ar- glwydd Derby i lawr nes bod yn chwar- ter miliwn prin. Vvel, medd y con- scripiionist, nid yw y chwarter mil iwn yn nifer fach-iiegligible, quan- Ûty." Ein barn ni yw y buasai yn well anwybyddu y chwarter miliwn nag anwybyddu traddodiad a chred hen, ac ucbel, y genedl. Bydd anwybyddu ar- gyhoeddiad mor annwyl a'r argyhoedd- hwn yn fwy o anfantais i Brydain yn yr orneat nag a fydd y chwarter miliwn 0 les neu gymorth iddi. Pa fodd ? meddech. Wel, trwy rannu y genedl, a thrwy osod argraff ar ein gelynion fod ysbryd gwirfoddol ein pobl yn pallu, a bod yn rhaid eu hel i'r frwydr bellach nid a rheswm ond a ffrewyll. Ac onid oes ewestiwn arall i'w ofyn: tybed nad ellid ennill nifer fawr, hwyr- ach y rhan fwyaf o'r "chwarter miliwn trwy berswad ? Pob parch i Arglwydd Derby, ond yn sier can mil gwell a fuasai estyn yr amser i ymrestru pan oedd y llanw wedi codi, a'r swyddfeydd ymrestru yn cael mwy o waith nag y Igallent ei gyflawni. Gwnaed cais am estyn yr amser ond nacawyd ef. Heb- law hynny, ni chanfaswyd agos yr oil o'r wlad. Y mae y gyfundrefn wirfodd- ol wedi gwneud gwrhydri, a gwnelsai fwy o wrhydri fyth pe cawsai fynd ymlaen am.fis arall. Ofnwn fod brys rhai pobl i gau pen y mwdwl yn sawru o'r peth a eilw y Sais yn ulterior motive. Beth bynnag, gwyddom am rai y byddai yn well ganddynt weld y "gyfundrefn wirfoddol yn methu na'i gweled yn llwyddo. Ond y drydedd addewid-beth am honno ? A oes yn y wlad unfrydedd ? Caed cant yn Nhy y Cyffredin a roddas ant eu pleidlais i'w erbyn. Beth hefyd am Gynhadledd fawr Llafur, lie y caf- wyd mwyafrif o ddwy filiwn a hanner o bleidleisiau yn erbyn y mesur,—pleidlas a orfododd y tri aelod Llafur ymddi swyddo o'r Llywodraeth. Yr oedd eisieu Coalition cyn y gellid cario y rhyfel ymlaen, medd Mr Asquith a Mr Lloyd George, ond wele y gwyr hyn yn awr wedi gwneud y Coalition oedd [yn angenrheidiol yn amhosibl. Peth gwych yw cysondeb. Dywedodd Mr Balfour nas gwelodd efe erioed y fath unfrydedd Yn sicr dyma engraifft deg o estrys yn cuddio ei ben yn y tywod ac yn tybied ei fod yn ddiogel. Peth gwaeth na make belief Mr Balfour-mae peth fel hyn yn gyffredin ymysg politicians--oedd ym- drech Mr John Ward a Mr Henderson i brofi nad oedd Cynghres Llafur yn cynrychioli y gweithwyr. Pwy sydd ynte, John Ward a Arthur Henderson ddyliwn. Bydd y gwyr hyn fyw, ni synnwn, i ofidio iddynt arfer y ddadl hon-bydd hon yn arf cyfleus i elynion llafur ryw ddydd a ddaw—ac nid yw y dydd ymhell. Tybed yr a y Llywod- raeth ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad digamsyniol Llafur? Lie yr oedd yr aelodau Cymreig, ni chaed ond ryw banner dwsin ohonynt hwy ymhlaid gwirfoddolaeth. A yw Pabyddiaeth yr Iwerddon wedi'r cwbI yn rhagorach peth nag Ymneilltuaeth Oymru ?
I BWRDD YR ADOLYGYDD.-
I BWRDD YR ADOLYGYDD. I (Gan y Parch R. W. Jones, 18, St. Edmond's Road, Bootle). I YR EUGRAWN. IONAWR, 1916. I Unwaith erioed y clywais y diwedd- ar Barch W. Morgan'' yn pregethu, a hynny ar yr ail Sabboth o fy mlwyddyn gyntaf yn y weinidogaeth. Yn Llan- rwst yr oeddwn, ac yntat: wedi dod yno i ymweled a'i gyfeillion, a da y cofiaf mor uchel a pharchus y siaradai pobl Horeb am ei hen weinidog. Bu'n ddyn diwyd a defnyddiol yn ei ddydd. Ym- ddiriedwyd y gorchwyl o gyhoeddi ei hunan-gofiant i'r Parch T Jones Hum- phreys a gwnaeth yntau ei oreu i gwt- ogi ac i grynhoi y cofiant i gylch cym- edrol. Dichon y tybia ambell un y gallesid hepgor rhagor o'r manylion sy'n y lith cyntaf, ond haws beirniadu na gwneud yn amgenach ein hunain. Y mae Mr Humphreys yn gyfarwydd ag ysgrifennu'n feistrolgar, ac yn gwybod cystal a neb beth i roi i mewn a beth i adael allan, am hynny edrychwn ymlaen am gofiant buddiol a blasus. Pwy meddwch chwi sy'n medru ysgrifennu'n fwy naturiol na'r Parch J. Puleston Jones, M.A. ? Dyma bregeth Y ddwy Olew-wydden beth yn fwy byw a ffres a garech ei gael na hon ? Pregeth a neges ynddi, a honno yn eglur i bawb, heb ei chladdu o'r golwg gan ddyfyniadau o weithiau pob Dick, Tom a Harri. Darllenwch hi ddwywaith a theirgwaith drosodd, a gadewch iddi ddrwytho eich meddyliau, a dywedwch rai o'r sylwadau'n y seiat-bawb yn ei ddull ei hun-a cheir bendith o hynny. Gwerthfawr iawn ydyw adolygiad y Parch D. Tecwyn Evans, B.A., ar lyfr y Parch i|aarice Jones, B.D. Y Testament Newydd yn yr Ug- einfed Ganrif." Y mae llaweroedd a gymerant ddiddordeb yn y pwnc pwys- ig hwn yn analluog i bwrcasu'r llyfr. Nid hawdd ydyw fforddio haner gini y dyddiau hyn- Y mae ysgrif Tecwyn yn amhrisiadwy werthfawr gan y rhainj oblegid drwyddo cant wybod beth yw hi ar y gloch ym myd Beirniadaeth y Testament Newydd." Caiff rhywun 1. glustan law chwith, rhyw "bregeth- wr Cymraeg feiddiodd dweyd wrth ei gynnulleidfa nad un dyn a sgrifen- nodd LIyfr y Datguddiad," eithr saith (dim mwy na dim llai). Dywediad digon diniwaid o'i gymharu a'r hyn a glywir weithiau. Bu llawer o holi ynghylch y Bug- ail" sy'n ysgrifennu dan y penawd Rhai o'm Hen Gydnabod." Y mae addo'n dda. Medd ddawn i ddesgrifio ac i roi ambell i stroke gyrhaeddgar dros ben. Rhaid inni aros dipyn, a darllen chwaneg arno i fedru dweyd pa mor anhebyg neu debyg ydyw i "Daniel Owen,' oblegid fel y gwyddoch dyna'r unig safon uniongred a feddwn i farnu pob nofelydd newydd. Cefais lawer o fwynhad a gwybodaeth gan "Sigma," V ac y mae ei lith y tro hwn yn ddiddorol drosben. Sylwaf ei fod yn bwriadu ysgrifennu cyfres o ysgrifau dan y pen- awd Yng Nghwmi Anian." Y mae'r Americanwr T. S. Jones" yn dal i nyddu ei stori benigamp. "Dafydd Huws yn Synfyfyrio" ydyw teitl y ben- nod hon, ac un wech ydyw hefyd. Llawer o ddiolch i'r Dr. Hugh Jones am ei atgofion ac i "Isfryn" a. Dofwy" am eu barddoniaeth, a'r "Golygydd" am ei nodion iraidd ac awgrymiadol. Gyda golwg ar Raglen Eisteddfod yr Eurgrawn, 1916, tybed ai teg yw i i weinidogion gystadlu ar y gwahanol destunau ? Wrtii gwrs, gan fod y cys- tadleuaethau'n agored i dderbynwyr "Yr Eurgrawn'' yn ddiwahaniaeth. Ond tybed nad gwell yw i'r gweinidog- ion gadw allan o'r cystadleuaethau am eleni ? Dyna fy marn. Os wyf yn busnesu, maddeued y golygydd imi. Hwyl a gaffo y flwyddyn hon eto. Harddir y rhifyn a darlun gwych o