Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
CYFARFOD TALEITHIOL Y DALAITH…
CYFARFOD TALEITHIOL Y DALAITH GYNTAF. I Cynhelir yr uchod yn Llanfyllin o'r Sul, Mai 14eg, hyd Gwener, Mai 19eg. Dydd Gwener fydd dydd mawr yr wyl. DAVID MORRIS. I
Advertising
u,- ( 1 u u w l l ))1.1 & | IS"? 'ar?? X | (I Y LLYFR P As _I' Y !» 'I ) jflA t .-¿, y, 'føJ:{ I I :(' ;<j" "(i7R(! ( I ( I I I (5:s,¡, 1.J ).N).N "')\J'i) "1}j1"i.N J/lJ'i )J'iJ'i" ;\)J')J'i)J'i' )It 1!"J:.J1'{!W.V<X 'I'q.q,{ 'r YN AWR YN BAROD. Y BYDOEDD UWCHBEN GAN CARADOC MILLS (Sigma), Awdur "Radium." Yr unig Lawlyfr ar Seryddiaeth yng Nghymraeg. Mewn llian hardd, yn cynnwys nifer o Plates prydferth a llu o Ddarluniau. PRIS, 2/6 NET. POST FREE, 2/9. Dylai pob Cymro ddarllen y llyfr hwn.O. M. EDWARDS, M.A. Dyma lyfr a champ arno, yn sicr ddigon. Y syndod yw y gellir ei brynu am hanner-coron."—THOMAS HUGHES, Gol. Yr Eurgrawn." Y mae y llyfr wedi ei ysgrifenu yn dra swynol, ac wedi dechreu ei ddarllen nis gellir ei roddi heibio yn rhwydd iawn. Addurnir ef a nifer o luniau rhagorol, ac o ran argraffwaith y mae yn gampus."—" Y Faner." Y mae'r llyfr yma gan Mr Mills, ar un o'r pyngciau mwyaf anodd a dyrus, yn berffaith glir. Yr oedd mawr angen cyfrol o'r fath."—" Y Goleuad." » Maes Llafur 1915=16. YN AWR YN BAROD. RHUFEINIAID.—Cyfrol AIL gan y Parch W. O. Evans. Pris 1/G post free. Dwsin am 15 swllt i Ysgolion Sul. Y DAMHEGION.-Rhan AIL gan y Parch R. W. Jones. Pris 4c. Dwsin am 3/3 i Ysgolion Sul. GOFYNIADAU'MAES LLAFUR.—Ceiniog yr un. 5 swllt y cant. DETHOLIAD 0 EMYNAU. YN AWR YN BAROD. (gynwysa dros 200 0 Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfer y Gynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn llian ys- twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. JDwsin'aca 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwym" Hanes Wesleyaeth Gymreig am swllt, post free. Cases llian destlus at rwymo Yr Eurgrawn" am 10 ceiniog; "Y Winllan am 8 ceiniog.: Rheolau y Trefn= yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlu 's, o'r Rheolaa ddylai fod yn lla.w pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 am Sffl 50 am 3/3 post free. Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt cds, mewn llian Khaki prydferth. Aiff i boced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. "Hanes Wesleyaeth Gymreig" GAN Y Parch. Hugh Jones, D.D. Pedair Cyfrol Hardd, 6s. 6c. yr un Rhoddwch eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. I Ceir y cyfan drwy ein Dosbarth?yr Lleoi. i p VR OLL YN OST FREE. || ? Anfonch am ein CATALOGUE NEWYDD. I 2 Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i:— St J P. JONES KOBERTS, • | | Bookroom? Bangor m Argraffwyd dros yCyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r "Gwvliedydd New- ydd," Blaenau Ffestiniog.
I i ?:I TRE'RDDOL. I
?: I TRE'RDDOL. I EISTEDDFOD.—Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni nos Fercher, Rhagfyr 29ain, dan ar- weiniad y Parch R. H. Pritchard. Cym- erwyd y gadair gan David Rees, Ysw., Taliesin, yr hwn gyfrannodd yn haelion- nas i'r Drysorfa. Y beirniaid oeddynt:- Cerddoriaeth, Mr Tom Carrington (Pen- cerdd Gwynfryn), Coedpoeth. Amryw- iaeth, D. Ivor Lewis, Ysw., Y.H., Corris. Celfyddydwaith, Mr Eta Evans, Talybopt; Mr James Jones, Taliesin Mrs Ted Jones, Tregonwell; a Miss Gwladys Edwards, Taliesin. Cyfeilyddes, Miss Katie Griff- iths, L.L.C.M, Talybont. Ysgrifenyddion Mri D. Oliver Williams, Frongoch, a J. T. Edwards, Taliesin. Trysorydd, Mr Ed. Evans, Goitre. Y dystiolaeth gyffredinnol ydyw mai dyrna un o'r Eisteddfodau mwyaf llwydd- iannns er's blynyddau. Yr oedd y canu a'r adrodd o safon neilltuol o" uchel. Rhoddodd y beirniaid foddlonrwydd per- ffaith. Hwn oedd y tro cyntaf i Mr Tom Carrington fod yn y cylch, a chredwn fod y ffaith mai ef oedd y beirniad wedi dod a llawer o cystadleuwyr i'r maes. Gallwn ddyweyd heb weniaeth mai efe ydyw un o'r beirniaid cerddorol mwyaf boddhaol sydd wedi bod yn y cylch er's blynyddau. Mae yr un peth yn wir am Mr D. Ifor Jones. Dyma restr y buddugwyr :—Parti "Wele cawsom y Mesiah," 1, Machno United, dan arweiniad Mr Evan Morgan, Taliesin. Cor Plant—Salmau'r Plant-I, Lery, dan arweiniad Mr T. Jenkins, Talybont. Pedwarawd—Megan—1, Howard Hughes and friends, Talybont. Her Unawd,—Mr Meurig Jones, Taly- bont. Her Unawd—(i rai heb ennill o'r blaen) —Mise Janet Davies, Devil's Bridge. Deuawd i blant—Dagrau'r Iesu-Miss M. J. Evans. Unawd i blant dan 12 oed-2, Llewelyn Morris 2, Handel Morgan. Prianoforte Solo-Eryri- yn gyfartal, Miss Gwen Thomas, a Miss Lilian Edwards Her adroddiad-Miss Janet Davies, Devil's Btidge. Adroddiad i blant-Dy gyfle di-l, Harry Evans; 2, Lewis Beechy; 3, Hum- phrey Beechy. Englyn i'r Dardanelles—Llais y wlad. Ni ddaeth y buddugol i ateb ei enw. Yr uchod ydyw y prif gystadleuaethau, gad- ewir allan y gweddill rhag trethu gofod. TALIESIN. I
BANGOR. I
BANGOR. I Fel arferol cynhaliwyd Watchnight ar ddiwedd y flwyddyn yn Horeb. Caed cynhulliad go dda, er mor ystormus y tywydd, a chanu chwaethus ryfeddol. Gellid gweled dylanwad yr amseroedd ar y canu, yr anerchiad, ac ymddygiad def- osiynol y gynulleidfa. Teimlodd rhannau o Fangor yn aruthr oddiwrth y storm. Er na niweidiwyd rhyw lawer ar eiddo, na bywyd, taflwyd amrai o goed cedyrn i lawr yn Nglanrafon a than Goleg y Brifysgol. Mae yn y ddinas yn awr rai cannoedd o iilwyr, heblaw yr R.G.A., sef y Royal Engineers ddaeth yma o Gaernarfon.
.HARLECH.-I
HARLECH. I Nos Nadolig, traddododd Mr )/V. O. Jones, Aber, ei ddarlith ar Llafur, Gorff- wysdra, ac Adloniant," i'r Bedyddwyr. Cafodd gynulliad rhagorol, a hwyl ar ddarlitnio. Y Sul dilynol pregethodd gyda'r Wes- lepid. Unodd y Bedyddwyr gyda ni y bore, a'r Annibynwyr y nos. Cafwyd pregethau da, cynulliadau lliosog, ac en- einiad y nefoedd ar y Sabboth drwyddo draw. Hwyr ola'r flwyddyn cynhaliwyd Watchnighi yng nghapel y Wesleaid. Cadeiriwyd gan Mr John Edwards, Gwyn- fa, ac arweiniwyd gan ysgrifennydd hyn o linellau. Gwasanaethwyd gan Mrs Hughes a Miss Maggie Griffith, Talsarnau; Miss Blodwen Jones, Harlech, a chan Mri Maldwyn Roberts ac O. R. Jones, Eben- ezer,-y naill yn canu penillion, a'r llall yn chwareu Mri Simon Hughes, Talsarnau, a John Lloyd, Harlech. Cafwyd gwasan- aeth Cor Harlech hefyd, dan arweiniad Mr D. A. Jones. Treuliwyd noson ddifyr od- iaeth. Gweithiodd pawb yn ganmolad. wy, yn neilltuol felly Mri Joha Ellis Jones a John Lloyd. Iddynt hwy yn bennaf y mae diolch fod y Watchnight eleni wedi dod a mwy o elw i'r Trust, nac a gafwyd oddiwrthi er's rhai blynyddoedd. GOH. (PRO TEM). J I
I Llythyrau at y Got
I Llythyrau at y Got LLE MAE RHYDDFRYDIAETH ? Annwyl Mr Gol,- A ydych yn parhau yn Rhydd- frydwr ? Y mae politics wedi mynd yn bydredd yn bendifaddeu. Gwell rhoi Northcliffe yn swydd y Prif Weinidog; mae'n amlwg mai efe sy'n llywodraethu, gyda'r bragwr a'r darllawr, wrth gwrs. Meddyl- iwch amysbeilio teyrnas o'i -rhydd- id am i Asquith o'i ben a'i bastwn ei hun (ac o dan ddylanwad Derby a'i dras, o bosibl) wneud addewid Onid gwell fyddai aberthu Asquith nag aberthu rhyddid cenhedloedd ? Yr wyf wedi colli pob amynedd gyda'r holl bac—Lloyd George a'r cwbl. Y mae'n gwestiwn gennyf weithiau a'i nid y peth goreu i'r wlad hon fyddai cael ei choncro. Dygai hynny hi yn ol i'w senses efallai. Y mae yn bell allan ohon- ynt yn awr. Dyddorol fydd gwyl- io'r datblygiadau. ARTIFEX.
BANGOR. I
BANGOR. I Ym Mynwent Maesygroes yr wythnos ddiweddaf rhoddwyd i orwedd weddillion y chwaer ragorel Mrs Catherine Jones, fu'n aelod defnyddiol iawn am flynyddau yn Horeb. Bu farw yn 7G mlwydd oed, yn Ystalyfera, lie y trigai ers peth amser gyda'i nai Arthur Jones. Adwaenid ei phriod fel Mr Jones, y Dispensary. Pan fu farw ef symudodd oin chwaer o Fangor, a bu hyn am gyfnod yn Llundain, ac wedi hynny yng Nghorwen. Ymwelodd a'n dinas yr haf diweadaf a chymerodd lety cyfleus i fyned i gapel Horeb. Yr oedd yn dda gennym ddeall i'r Parchn Dr Hugh Jones, ac E. Berwyn Roberts, a'r Mri Thomas Roberts, Leicester House, E. W. Pritchard, a J. Elias Jones, drefnu i fod yn yr angladd.
CAERSALEM, TON PENTRE. II
CAERSALEM, TON PENTRE. I MARW YN Y RHYFEL.—Fel y gwelir mewn colofn arall bu dau frawd adref ar ymweliad o'rfyddin ond y mae yn ddrwg gennym orfod cofnodi marwolaeth un brawd oedd yn adnabyddus i ran fwyaf o'r I eglwys, sef, Mr William Jones, brawd i Mr Dd. Jones, arweinydd y gan yma. Cafodd ei glwyfo yn angeuol yn y frwydr ychydig wythnosau yn 01. Diddaned Duw y teulu sydd yn ei galar. IEUAM. I
MORIAH, CORRIS. I
MORIAH, CORRIS. I MR ROBERT RICHARDS.Colled fawr i ni yma oedd colli trwy farwolaeth Mr Robert Richards. Nid oedd o ran oed ond dwy a deugain. Bu farw ar ol nychdod o chwe' mlynedd wedi ei ddal gan y clefyd creulawn—y darfodedigaeth. Ond er gweled ei hunan yng nghysgod angau ymdrechodd i gadw'r gelyn draw. Bu wrol hyd ei fedd. Gadawodd i alaru ei golled ddwy eneth a bachgen. Ond gofal- odd Duw am y rhai hyn trwy garedig- rwydd perthynasau i Mrs Richards, yn Abercynnon. Cawsom golled ar ol y ddau oedd yma I (Catherine Ann a Gomer), oblegid eu I ffyddlondeb gyda'r achos. Ond eidddun- wn iddynt nawdd ac amddiffyn y nef yn eu cartref newydd. Claddwyd gweddill- ion ein eyfaill ym mynwent Rehoboth, Corris. Gwasanaethwyd gan y Parchn J. Wesley Morgan, Christmas Lloyd (M.C.), a Mr Boaz Williams.
[No title]
Y dydd o'r blaen, dywedodd Maer Southport, iddo fod mewn cyfarfod ym Manceinion, yr wythnos o'r blaen. i ystyried y cwestiwn o gyfyngu rhagor ar y fasnach feddwol. Yr oedd y dyst- iolaeth o bobman yn Swydd Gaerhir- fryn yn unfrydol ar un pwynt. Yr oedd bron pob Prif Gwnstabl a Maer yn hoUol sicr fod yfed ymhlith merched yn myned ar gynnydd, ac yn arbennig ym- lith gwragedd milwyr. Rhoed gwahan- ol resymau dros y ffaith ddifrifol, a rhoed rhesymau cryfion iawn dros gyf- yngu rhagor ar oriau ymyfed yn Swydd hirfryn. Aeth rhai o'r Jsiaradwyr mor bell a dweyd eu bod yn barod i groesawu gwaharddiad llwyr er mwyn achub gwragedd milwyr a'u plant- Y mae'r Llywodraeth wedi symud rheol y Post Office i wahardd gosod mwy na £ 50 i fewn mewn blwyddyn, a c200 yn enw yr un person. 0 hyn allan gellir bancio y swm a fynnir am y Hog arferol, I sef dwy bunt a chweigian y cant.