Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
At ein Gohebwyr. CYFEIRIER POB GOHEBIAETH— V aolygydd, "Owyliedydd Newydd Y Geili, Coed-y-Flint, t Flint, Gogledd Cymru., BWRDD Y GOL. -I ALLAN 0 DDIEFYG GOFOD.-YWerin alr' Dyfodol; Wyliedydd, Beth am y Nos ?; Goleuni yn eisiau. Cyfarfodydd chwar- j terol-Llanrwst, Amlwch, Aberdar, Caer- narfon, Stockton, Ferndale Barry Docks, Caerau, 0 Ben y Foel, Nodion 0 I Ddolgellau, Penyffordd, Tirydail, Myn- ydd Bach, Salem, Llanddulas Ty Nant, Cylchdaith Corwen. — i Cof-Golofn i'r diweddar Barch Rice Owen. i Annwyl Frawd, neu Chwaer, Bu nifer o gyfeillion yr ymadaw edig yn gofyn i mi o dro i dro a fyddai cyfleusdra yn cael ei roi i gyfrannu at roi Cof-golofn ar fedd un fu'n Gadeirydd Talaeth Deheu- dir Cymru am bymtheg mlynedd. Atebwyd, os barnent fod nifer yn teimlo awydd felly, mai doeth fyddai rhoi cyfleusdra. Ar ol ymgynghoriad gyda Mrs Owen, darfu i mi addawv bvddwa gyda phleser yn anfon at nifer o gyfeillion ac yn derbyn a chydnab- od yn ddiolchgar, dros y teulu, unrhyw rodd a gyfrennid. Da gennyf *allu dweyd fod parod- rwydd wedi ei ddangos hyd yn hyn. Dichon y bydd yn bleser gennych chwi gael cyfleusdra i wtieud rhyw- beth yn y cyfeiriad yma, a" dichon y gwyddoch am eraill y bydd yu dda ganddynt gael cyfle. Bydd yn bleser gennyf dderbyn a chydnabod unrhyw rodd o unrhyw gyfeiriad. Yr eiddoch yn Serchus, THOMAS JONES. Goleufryn, Ferndale. Morganwg.
- PONTARDULAIS.
PONTARDULAIS. MR ALFRED THOMAS, MAESDERW.—Blaen- or parchus gyda'r Annibynwyr oedd y di- weddar frawd, ond yr oedd wedi bod mewn cysylltiad a'r Wesleaid yn Ystalyf- era yn ystod tymor y Paich D. Marriott, ond daeth i Pontardulais fel masnachwr, ac ymunodd a'r Annibynwyr yn amser y Parch John Jones, yn Abertawe. Cyflwyn- wyd gan y diweddar frawd ddarn helaeth. o dir yn ffrynt ein capel yn Pontardulais yn rhad ac am ddim ar yr amod iddo gael. lie bedd neu ddau yno. Felly y bu. Caf- odd angiadd barchus. Yn y cynulliad, gwelwyd tri offeiriaid, a lliaws o Weinid- ogion Ymneilltuol. Yr oedd-y wasanaeth o dan arweiniad y Parch D. Lloyd Morgan, D.D. Siaradwya gair yn fyr gan y Parch Richd. Morgan (\V.), a diweddwyd trwy weddi gan y Parch W. C. Morgan, Vicar y Plwyf, ac wrth y bedd gweddiodd y Parch —Llewelyn, Vicar Beaufort.
[No title]
Mewn atebiad i gwestiwn dywedodd Mr Herbert Samu91 mai rhif y parseli anfonwyd i'r milwyr yn Ffrainc a Flan- ders ar Rhagfyr 13eg oedd oddeutu hanner miliwn, gyda tua 300,000 ar bob un o'r dyddiau dilynol. Yr oedd rhif y llythyrau yn amrywio rhwng miliwn a miliwn a hanner y dydd. Gwneid pob ymdrech er i'r milwyr gael eu parseli a'u llythyrau yn brydlawn.
-NODION LLENYDDOL.I
NODION LLENYDDOL. (Gan GWAWRDDU). Yn ein nodion bythefnos yn ol syl- wasom ar y Llawlyfr Moliant, ac wedi nodi rhai diffygion, rhoddasem ganmoliaeth uchel i'r llyfr. Yn y geir- iau ni threfnir bwrw barn fanwl ar y llyfr, oblegid newydd ddyfod i'n Haw y mae," bwriadem i'r darllennydd ddeall nad .oedd y nodion yn adolygiad llwyr a therfynnol. Dichon pe y cymerid traff- erth y gallesid ychwanegu liawer o ddiffygion a rhagoriaethau at y rhai a nodwyd. Ni fwriadwyd tramgwydd i neb o'r pwyllgor, nac i ungwr, y mae a fynno a'r Llyfr, ond daeth gair i'm clust fod un cyfeiriad at Cernyw yn "gam dybryd" ag ef. Drwg iawn gennym am hyn, Mr Golygydd, oblegid yn ol pob hanes, gwr doeth ac addfwyn ydyw Cernyw, ac ni fynnem beri loos iddo. Y geiriau yr achwynir arnynt ydyw, —" wrth redeg y llygaid trwy'r llyfr, gwelir enw Cernyw yn amlach nag eiddo Pantycelyn a Morgan Rhys." Dysg y geiriau na chyfrifwyd yr emyn- au-ni ellid gwneud hynny wrth redeg y llygaid trwy'r'llyfr "-a,e mae'r hyn a olygem y tybiem oedd fod gormod o emynau Cernyw a rhy ychydig o eiddo Pantycelyn yn y llyfr. Erbyn hyn deallwn fod 123 o eiddo Pantycelyn, a rhyw 32 o eiddo Cernyw i mewn. Wrth gymharu dylid cofio fod Williams yn un o brif emynwyr y byd, ac yn brif f emynydd Cymru, fod ganddo tros wyth cant o emynau, ac fod cenedlaethau o grefyddwyr wedi profi eu gwerth. Dysg hanes emynau y rhaid cael mwy nag un cenhedlaeth i brofi anfarwoldeb emyn, a I dysg synwyr eyffredin y dylid diogelu yn Llyfrau Emynau'r Enwadau yr holl emynau a brofwyd y rbai addasaf i addolwyr eyffredin fynegu eu profiadau ysbrydol trwyddynt. Dichon fod 32 Cernyw yn anfarwol fel eiddo Williams, ond rhaid aros am genhedlaeth neu ddwy eto i gael prawf o hynny. Os daw y nodion hyn tan lygad Cernyw, dymunwn iddo gredu na fwriadem gam ag ef, ac y perai loes iddo boen i nin- nau. i i 1 Druan o Beth sydd imi yn y byd jj Wedi ei hir bwyso yn y dorian cafwyd, ef yn brin-o rywbeth, ac alltudwyd ef i guddfannau tywyu- a mud y wadd a'r ddylluan. Nid oes ond 0 na allwn tra fawn byw j Rodio bellach gyd a Duw," yr olaf o bed war pennill yr Emyn, yny Llawlyfr Moliant. Gan nad ydyw j crefyddwyr ac eraill yn ddigon ystyriol i ddefnyddio'r Bmyn aryr achlysurony gwedda iddynt, gwnaeth y Pwyllgor j yn, gall oi. gau. allasii; ond yn ol y claw,i., hen emyn etc, paa y ceir cenhedlaeth a'i doetshineb yn ddigon i'w ddefnyddio yn iawa. Rhyfedd fel y naya cyfeilioirnadaut fyw hyd yn oed yn yr oes oleu hon. Beth amser yn el mewn ysgrif yn "Y Cymru" ar Undodwyr Cylch Merthyr Tydfil eglurai'r awdur yn fedrus, a dyddorol, a 1 chyfeiliornus, amgylchiadau profedig- aethus Vavasor Powell pan y cyfan- soddodd Beth sydd i mi yn y byd a rhyw fis yn-ol cafodd Dyfed, yr Arch- dderwydd, hwyl dda i eglaro'r u& cyf= eiliornad i Gymdeithas Ddiwylliedig o'r Cymrodorion. Awdur yr Emyn ydyw Morgan Rhys, ac ni wnaeth Vavasor ddim byd eilfydd iddo erioed mewn I emynnu. Yr hyn a gamarweiniodd awdur yr ysgrif i'r Cymru ydyw'r ffaith i lyfryn Morgan Rhys, Grxdd- fannau'r Credadyn," a gynwysa'r emyn, gael eiargraffu heb enw'r awdur arno, ynglyn a C Hanes Bywyd Vavasor Powell," yn y flwyddyn 1772. Y mae'r Emyn yn Hawn ymhob argraffiad a welsom ni o brif lyfr Morgan Rhys, sef Golwg o Ben Nebo"; a gwelsom yr ail, y trydydd, a'r pedwerydd argraffiad. Dilyn yr un trywydd yn ddiau a wnaeth i Dyfed gyfeiliornu. „ Gan fod perigl i'r hen emyn gael ei I' erlid bob yn dipyn o blith dynion, rhoddwn ef yma yn ei ffurf wreiddiol o ".GruadfanDu'r Credadyn Beth sydd i mi yn y byd, Gorthrymderau mawr o hyd, Gelyn arol gelyn sydd, Yn fy nghlwyfo nos a dydd Meddyg archolledig rai, Dere'n fuan i'm iachau. Clyw fy nghri, ffieiddiaf ddyn Pechod wrthyf sydd ynglyn, Pechu yn erbyn gwaed y groes, Ddarfu chwerwi dyddiau foes Cuddia fi yn dy ddwyfol glwy, Fel na allwy' bechu mwy. Mi feddyliais fod cyn hyn, Fry yn canu ar y bryn, Heddyw ynglyn wylofain drist Clyw ngruddfannau lesu Grist Cariad digyfnewid rhad, Golch fi eto yn y gwaed. 0 na allwn tra fawn byw Rodio bellach gyd â Duw, Treulio f'oriau iddo'n llwyr, 0 foreu-ddydd hyd yr hwyr Canu am ei werthfawr waed, Nes meddiannu'r nefol wlad.
I CONGL Y SEIAT.!
CONGL Y SEIAT. (Gan A. R. J.). Y March Gwyn a'i Farchog. Mewn argyfwng mawr a phwysigi fel kwn meddyliais y byddai darllen yr hyn a ganlyn yn dipyn o gysur ac yn adgyfnerthiad i ffydd y rhai sydd yn gofalu yn bryderus am yr achos, yn enwedig;yn yr eglwysi bychain. Cymerwyd ef allan o'r Y Diwyg- iwr'' am Hydref, 1907. Golygydd: Parch Gwylfa Roberts, Llanelli. Un o brif bregethwyr ein henwad yn ei oes oedd y gwr ieuanc, Edward Jones, Pentretygwyn. Bu farw yn gynnar iawn, fel ei gyfaill a'i gymydog William Williams o Landeilo. Mae olion y ddau hyn ar Ddyffryn Tywi hyd heddyw, er eu bod wedi eu eladdn er's mwy na thri ugain mlynedd a'u henwau yn clgl yn beraidd yn y fro o hyd. Crydd oedd Edward Jones wrth ei grefft; ac ni roid neb y pryd hwnnw i alwedigaeth fel crydd neu deiliwr, end am y rheswm fodei iechyd yn x^y frau a gwael iddo droi'%fe{bja i ffarmio fel pawb arall. Mae'n debyg mai aorff gv^ael ddigon oedd gan Ed- ward Jones, a'i fod yn lied blaen ei olwg; dim eyn hardded a llunieiddiad dyn a Williams, Llandeilo. Cyn i Edward Jones ddechreu preg- ethu yr oedd yr achos ym Mhentrety- gwyn a Chefnarthen yn bur isel llin yn mygu ydoedd y cwbl, ac mor wan a diolwg oedd hyd yn oed y mwg a'r llin hwnnw, nes y llwyr ofnai pawb mai diffodd yn hollol a wnai'r achos. Un o'r swyddogion puraf a ffyddlon- af yn y lie oedd gwr o'r enw Davies— un o hynafiaid y Parch D. P. Davies, Penmaenmawr--amaethwr cryf oedd y I Davies hwn, ac un o ddiaconiai(I gofalus a gweddigar y 11e. Bu am wythnos yn I methii cysgu gan ei bryder am yr achos. Ni welai o seiat i seiat ond arwyddion difeth o wywiant yr eglwys. Neb yn dod at grefydd; neb yn teimlo awydd gweddio na chynghori; a'r cyfan yn gwywo. Poenid ef yn fawr oherwydd hyn ac, un noson dychwelai adref o'r oedfa yn llesg ei ffydd, ac yn ddigalon odiaeth,— methu gwybod beth i'w wneud a'r achos. Ocheneidiau ar hyd y fforddi adref ymron. Ond ynghanol ei ochen- eidiau a'i alar dwys, gweloddfarchgwyn disglair yn dod i gwrdd ag dl ar y ffordd, a bonheddwr digymar o ran ei harddwch I yn eistedd yn dawel ar y march. Pan ddaethant i ymyl eu gilydd, trodd y marchog gwyn at Davies ac annerchodd ef—" Paham yr wyt yn digaloni ynghylch achos yr lesu yn Mhentretygwyn ? A phaham y grudd- feni mor ddiSydd ? Dos di ymlaen a'th weddiau, ac edrych o'th gwmpas-mae yna lane yn ardal Pentretygwyn sydd yn mynd i godi'r Aches yn y lie; cadw dy lygaid arno, a dyro gymorth iddo; oblegid Eneiniog yr Arglwydd yw, ac efe a wna waith mawr yn y Winllan." Ar hynny, fel mellten diflanodd y march- og, a gadawyd Davies yr amaethwr ar yr heol i ben-synnu a myfyrio ar yr hyn a glywsai mor ddieithr. Ond er nacl oedd ganddo un esboniad ar y weled- igaetb, aeth adref yn 11awen, a phan daaeth i'r gyfeillach gyntif wedyn yn Mhentretygwyn, dywedodd wrth ei gyd- swyddogion am fod yn wyliadwrus fod yno fachgen yn eu mysg oedd i godi'r achos y lie. Y noson honno daeth Edward Jones ymlaen i weddio yn gyhoeddus, a deallwyd wedyn pwy oedd- i godir achos,-y crydd ieuanc. Cadwyd llygaid arno, a daeth yn seren ogoneddus yn y fro cyn hir.
CAERDYDD.
CAERDYDD. Anfynych y daw gair o Gaerdydd i'c" papur poblogaidd, a'r tro hwn y mac gecinym y gorchwyl prudd o hysbysu mar- wolaeth y milwr dewr, Mr Evan Ellis- me-wn-vmgyTc-h rywie ym Ffrainc. Da-eth Ý newyûd trist 1 law tea ei briod pryderus yn hwylio i gladdu ei merch fechan rais oed, yr hyn a chwerwodd. ei chwpan i'r gwaelodion. Teimlai pawb, i'r byw trosti yn awr ei gofwy. Er trymed yr ergyd yr un dydd, cafodd nerth i heb- rwng ei hanwylyd i gladdfa gyhoeddus- Caerdydd. Gwasanaethwyd yn y ty ac y gladdfa gan weinidog y Gylchdaith. Cawn i'n hanwyl frawd gyfarfod a'i aagau- ddydd Mawrth, Rhagfyr 13eg, lie y cladd- wyd ef y tu ol i r Trenches. Y nos Sul canlynol cynhaliwyd gwasanaeth goffa yn Bethel. Pregethwyd gan y Parch T. J. Pritchard. Oherwydd preseooldeb nifer o Saeson, gofynwyd am i ran o'r gwasan- aeth gael ei gario ymlaen yn yr iaith Seisnig, a chafwyd oedfa wlithog a dwys iawn. Gwnaed sylwadau tyner am ein hanwyl frawd. Canmolid ef fel dyn ffydd- lon i'w ymddiriedaeth-ffyctdlon dan bob amgylchiadau, a didderbyn wyneb, ac eta- nid oedd neb tynerach, a pharotach i ddyfod i'r adwy dros arall. Canmolid ef gan bawb ar ei hadweinent fel gwr o ymddiried, cyfaill ffyddlon, pen- teulu caredig a gofalus, a Christion cywir. Derbyniodd y Gweinidog lythyr oddiwrtho ychydig yn ol, yn yr hwn y datganai ei brofiad crefyddol. Er yn sylweddoli ei sefylifa i'r byw, eto ni chwynai. Gwyddai fod angeu yn gwylio ei symudiadau, ond teimlai yn dawel am ei fod yn ymddiried yn Nuw. Profai yn fwy nag erioed o'r blaen werth moddion gras, ond nid ydoedd heb gysur, canys, ebai, mae'{ manna yn. disgyn hyd yn oed yn yr anialwch hwn." Teimlir colled fawr ar ol y milwr dewr. Aberthodd ei fywyd dros ei wlad, ei frenin,. a dynoliaeth. Ac er mor gostus yr aberttv ardderchog o beth yw marw dros iawnder. Gadawodd em brawd briod a thri o blant. ar ei ol. Bydded y nawdd dwyfol drost- ynt. Yn ystod y gwasanaeth canodd Mrs- Wyndham Lewis, Mus. Bac., yi unawd O Rest in the Lord" mewn modd dwys a theimladwy, y Proffeswr Harries wrth yr organ. Nawdd Duw fo dros y weddw, a'i hamddifaid bach. EDMYGYDD.