Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
CYLCHDAITH WYDDGRUG. I
CYLCHDAITH WYDDGRUG. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Pendref, Wyddgrug, dydd Meicher, Rhag fyr 29,1915, o dan lywyddiaeth y Parch W. M. Jones, B.A., Wyddgrug. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn G. O. Roberts (Mor- fin), a R. T. Roberts, Mr John Davies, Goruchwyliwr, ynghyda chynrychiolaeth o'r gwahanol eglwysi. Darllcnwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Derbyniwyd cyfrifon a chyfraniadau yr eglwysi. Pasiwyd ynglyn a'r Gymanfa Gerddorol ein bod yn gofyn i'r Ysgrifennydd a'r Trysorydd i wneud y cyfrifien i fyny erbyn y cyfarfod nesaf ac hefyd ein bod yn gofyn i bob lie dalu am y rhagleni y flwyddyn hon yn ddioedi, a bod i'r lleoedd sydd heb wneud casgliad at y gymanfa i wneud hynny ar unwaith. Cynhygiwyd gan y Parch G. O. Roberts (yn ol rhybudd a roddodd yn y cyfarfod chwarter neilltuol) fod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau pregethwyr o gylch- deithiau eraill i wasanaethu y gylchdaith, as fod eu henwau i fod ar y Plan. Diolchwyd ac eil-etholwyd y swyddog- ion canlynolMr Thos. Hopwood, ysgrif- ennydd addysg y gylchdaith Mr Charles Pownall, Wyddgrug, ysgrifennydd y Cap- eli; Mr Thos. Hughes, Gwernymynydd, ysgrifennydd y cyfarfod chwarterol; a Mr Frederic G. Evans, trysorydd Trysorfa Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Diolchwyd yn wresog i Mr Wm. Roberts, Coedllai, am ei wasanaeth fel Goruchwyl- iwr, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Yr oedd tymor Mr John Davies, y gor- uchwyliwr presennol i fyny, ac yr oedd yn erfyn am gael ei newid. Diolchwyd yn wresog iawn iddo am ei wasanaeth, ac etholwyd Mr Henry Richard Williams yn oruchwyliwr yn ei le. Cafwyd trafodaerh ar y sefyllfa ariannol a pasiwyd fod yr Assessement yn cael ei gadael fel ag y mae am y presennol. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Wm. Garston, Coedllai, yn ei brofedigaeth. j Hefyd, a Mr Thos. Jones, Bethania, yn ei brofedigaeth yn colli ei annwyl fam. Cafwyd gair gan yr Arolygwr ar ag- wedd ysbrydol yr achos. Y cyfarfod nesaf i fod yn Pendref, Wyddgrug. Darparwyd yn garedig ar ein cyfer gan gyfeillion Pendref. Cwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mr Charles Pownall, Mrs H R. Williams, a Miss Jones, High Street. Diolchodd y frawdol aeth yh wresog iddynt am eu caredigrwydd. I T. HUC-HES, YSG.
I CYLCHDAITH PONTYPRIDD.
I CYLCHDAITH PONTYPRIDD. Cynhaliwyd cyfarfod chwarter y gylch- daith yn Eglwysbach, Pontypridd, Rhag- fyr 23ain. Yn bresennol 'roedd y llywydd, Parch D. C. Jones, a'r Parchn. E. D. Thom- as, R. Lewis, ynghyd a'r ddau oruchwyl- iwr, D. Griffiths a Lewis Edwards. Hefyd yr oedd cynrychiolaeth o bob eglwys ag eithrio Senghenydd. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch R. Lewis. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnod ion. Yr oedd rhybudd o benderfyniad wedi ei roddi o berthynas i weinidogion y gylchdaith, a nos Sul cyfarfodydd mawr yr eglwysi. Pasiwyd fod y mater yn cael ei ohirio hyd y cyfarfod chwarter nesaf. Yr ymdrech neilltuol i godi banner cant o bunnau. Pasiwyd fod y mater hwn yn cael ei adael ar hyn o bryd. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r brodyr Evans's, Ynysybwl, wedi colli eu tad. Hefyd pasiwyd pleldlals o gydym- deimlad a Mr a Mrs Rowlands, Cilfynydd, wedi colli'r ferch. Ac hefyd a'r brawd Ed. Ashton yn ei afiechyd. Goruchwilwyr y Gylchdaith.— Diolch- wyd iddynt am eu gwasanaeth ar hyd y flwyddyn, ag all etholwyd hwynt am flwyddyn arall. Diolchwyd hefyd i Ysgrifennydd y cyf- arfod chwarter, ag ail-etholwyd ef. Mater y Cyfarfodydd Adfywiadol. Dy- muna'r cyfarfod wasgu ar yr eglwysi i gynnal y cyfarfodydd hyn. Mae pob eglwys i wneud ei threfniadau ei hnn. Rehearsals y Gymanfa Ganu.—Pasiwyd fod dwy i fod yn Cilfynydd a dwy yn Ynysybwl, ag fod y mater o ddewis ar- wemyddion i'r Rehearsals i fod yn Haw arweinyddion canu y gylchdaith. Terfynwyd trwy weddi gan y Llywydd YSG. I
CYLCHDAITH CAESDYDD. I
CYLCHDAITH CAESDYDD. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol nos Lun, Rhagfyr 27ain, pryd y daeth cynrych- iolaeth bur liosog ynghyd. Da oedd gan bawb weled y ddau oruchwyliwr yn bres- ennol. Pasiwyd yn unfrydol i'r ddau barhau yn ei swydd am flwyddyn arall a diolchwyd iddynt am ei ffyddlondeb yn y gorffennol. Pasiwyd i Mr J. Daniels fod yn ysgrifen- nydd yn absennoldeb Mr James yr hwn sydd wedi ymuno a'r fyddin. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol i'n parchus weinidog i aros am flwyddyn arall, ac addawodd wneud. SYLWEDYDD. I
CYLCHDAITH BLAENAU FFESTINIOG.…
CYLCHDAITH BLAENAU FFESTINIOG. I Ionawr laf, cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Ebenezer dan lywyddiaeth y Parch R. Jones Williams. Yr oedd y Parch D. Egwys Jones, yn absennol oher- wydd ei, fod mewn claddedigaeth yn Trawsfynydd. 'Roedd hefyd yn bresennol y Mri Richd. Jones, ac Ed. Jones, goruchwylwyr ynghyd a chynrychiolaeth weddol o'r eglwysi. Agorwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr David Williams, Soar. Darllenwyd a chadarnha wyd cofndtIion y cyfarfod blaenorol. Y Cyfeiriadur."—Hysbyswyd i'r cyfar- fod gan yr Arolygwr a Mr Dd. Williams, trysorydd y Cyfeiriadur," na byddai i'r cyhoeddiad gael ei gyhoeddi mwy, ond yn gymaint ag nad ydoedd adroddiad swydd- ogol wedi ei dderbyn oddiwrth Ysgrifen- nydd pwyllgor y Cyfeiriadus." Pasiwyd i' ohebu ag ef am eglurhad ynghylch y modd y penderfynwyd na chyhoeddwyd ef mwy. Derbyniwyd cyfraniadau yr eglwysi. Y Genhadaeth Dramor."—Pwysai yr Arolygwr am i'r casgliad a'r cyfrifon fod yn-lla w y trysorydd, Mr G. G. Roberts ar neu cyn y 24ain cyfisol fan bellaf. Cyfarfod Blaenoriaid.Pasiwyd cyd- ymffurfio a phentierfyniad y Cyfarfod Cyllidol Mai. Priodol fyddai cael cydgyf- arfyddiad o holl flaenoriaid yr eglwysi yn y Cylchdeithiau, ond iddo gael ei alw yn gyfarfod blaenoriaid a holl swyddogion yr eglwysi yn y Gylchdaith hon. Ac ethol wyd Mr John R. Jones, Soar, yn ysgrifen- nydd y cyfarfod. Y Schedules Newydd."—Galwyd sylw at y y rhai hyn gan yGoruchwylwyr a gwasgent am iddynt gael eu llanw yn ofalus gan yr eglwysi, fel ag i gael cyfrifon cywiraf yn bosibl o ymdrechion pob eglwys. "Cyfarfod -Trustees Cylchdcithiol. Pasiwyd mai anymarferol i bob golwg fyddai hynny. Y Goruchwylwyr.—Diolchwyd i'r Cir- cuit Stewards a phasiwyd yn unfrydol iddynt barhau am "flwyddyn arall. Cymanfa Ysgolion Cylchdeithiol.—Pas- iwyd yng ngwyneb y sefyllfa ar bethau nad priodol fyddai cynnal un eleni. Gyda hyn galwyd sylw at y Safonau yn yr Ysgolion, ac ymddiriedwyd cynnwys y drafodaeth i Mr David Roberts i'n cyflwyno i sylw Pwyllgor Undeb yr Ysgolion. Cymanfa Gerddorol.—Pasiwyd i beidio cynnal hon eleni, am fod ein dynion ieuanc wedi eu gwasgaru i wasanaethu eu gwlad. Casgliad yr Hen Weinidogion.-Cafwyd adroddiad y trysorydd-Mr Lewis H. Wil- liams, a phwysai yn fawr ar i'r eglwysi yn ddiymdroi anfon pu cyfraniadau i mewn, oni wnant ni byddai yn adroddiad y flwyddyn. Y Casgliad Dirwestol.—Gwasgai y trys- orydd, Mr L. H. Williams am i'r eglwysi anfon y casgliad hwn i mewn yn ddioedi. Y Genhadaeth Gartrefol.-Cafwyd ad roddiad gan yr Arolygwr o sefyllfa y Gen- hadaeth Gartrefol yn y Gylchdaith. Y Pwyllgor Cyllidol.—Pasiwyd i bob eglwys ethol dau ar Bwyllgor Cyllidol y Gylchdaith. Casgliad yr Hospitals.—Fod cyfleustra i gwblau hyn yn nechreu y Plan nesaf i'r eglwysi sydd heb gyflawni. Y rhai a hunasant.—Gwnaed cyfeiriadau dwys ar ol y rhai byn, a phasiwyd i lythyr- au cydymdeimlad a'r teuluoedd gael eu hanfon. Y Te.Ar gynygiad .Mr Ed. Roberts, a chefnogiad Mri E. R. Evans, a Robert Roberts, phasiwyd diolchgarwch calon i'r boneddigesau Mrs R. Jones Williams" Mrs Rd. Jones, Salem Cottage, a Mrs Ed. Jones, New Market Square, am eu caredigrwydd dihafal yn darpa.ru bwrdd mor werthfawr ar gyfer cynrychioiwyr y cyfarfod. Terfynwyd yr eisteddiad gan Mr Robert Roberts, Park Square. GOH. I
I..PORTHMADOG. I
PORTHMADOG. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol ym Mhorthmadog, prycinawn Sadwm, Ionawr 2il, 101Cj, dan lywyddiaeth y Parch E. Whittington Jones, yn absennoldeb y Parch W. O. Evans. Wedi canu emyn, ac i'r Parch E. Whit- tington Jones ddarllen cyfran ,o'r Ysgryth- yr, gweddiwyd gan Mr John Lloyd, Tre- madoc. Diolchwyd i Mr William Morris am ei waith fel ysgrifennydd y cyfarfod chwar- terol am y flwyddyn, a dymunwyd arno barhau am y flwyddyn ddyfodol. Diolch- wyd iddo hefyd am ei wasanaeth fel trys- orydd Trysorfa y Gweinidogion Methedig. Gofidus gan y cyfarfod ddeall fod yr Arolygwr wedi ei ddal yn gaeth gan yr anwydwst, a dymuna iddo adferiad buan a llwyr. Gofidus ganddo hefyd am anallu y ddau oruchwyliwr i fod yn bresennol. Diolchwyd i'r ddau am eu gwasanaeth, a dymunwyd arnynt i barhau. Chwith yw meddwl am gyfarfod chwarter y Port, heb Mr D. R. Thomas ynddo. Hyderwn iddo ef a Mr Evans, Ty'nllwyn, adferiad clan. Diolchwyd i Miss Sallie Roberts, Groes- newydd, am ei gwasanaeth fel Ysgrifen- nydd Addysg y gylchdaith, ac i Mr David Morris fel ysgrifennydd capeli'r gylchdaith, a gofynwyd iddynt i barhau am flwyddyn arall. Pasiwyd yn unfrydol nad yw y Gymanfa Ganu i'w chynnal eleni, ond fod y cyfarfod yn argymell Cymanfa Ysgolion, a'r eg- lwysi i'w chynnal yn gynnar ym misoedd yi haf. Ar y terfyn cafwyd te a ddarparesid gan Mrs Hugheston Roberts, Mrs Ellis Jones, Mrs Capt. W. O. Morris, Mrs Griffith Jones, Mrs Jones Watkins, a Mrs Owen Jones. GOH. I
TOWYN. I
TOWYN. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Nhowynar lona wr laf, dan lywyddiaeth y Parch. T. Gwilym Roberts. Yn bresennol, y Parch J. E. Thomas, Mri John Lloyd a Griffith Davies, Goruchwylwyr, ynghyd a chynrychiolaeth gref o bob eglwys yn y Gylchdaith. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi, Mr Owen Lewis, Llwyngwril, yn arwain. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diweddat. Derbyniwyd cyfrif aelodau, ynghyd a'r cyfraniadau. Yr oeddynt yn foddhaol iawn. Hysbysodd Mr Lloyd fod yr Emer- gency Fund yn £2 9s. 6c. Diolchwyd i Mri Lloyd a Davies am eu gwasanaeth fel Goruchwylwyr, ac ail-- etholwyd hwy am flwyddyn arall, Pasiwyd Mr Hugh Humphreys, Bryner- west, yn ysgrifennydd Cyfarfod Blaenor- iaid y Gylchdaith. Diolchwyd i'n Ysgrifennydd am ei was- I anaeth, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Yr un modd gyda Ysgrifennydd y capelau: Mr John Hugh Humphreys i gynorthwyo yr olaf. Pasiwyd pleidleisiau o gydymdeimlad a theuluoead galarus ar ol eu hanwyliaid teulu Mrs Owen Edwards, Abergynolwyn Mr W. J. Williams, ym marwolaeth ei frawd; Mr Evan Ellis, Llanegryn, wedi colli ei fab, Evan, ar faes y gwaed yn Ffrainc, ynghyd a theulu Mr Evan Ellis Owen, Aberdovey, wedi colli un annwyl o'i plith. Darllenwyd cyfrif casgliad yr Ysbytai gan Mr B. L. Rowlauds, U.H., ac hyderai Mr Rowlands yn fawr y bydd i bob eglwys wneuthur casgliad at yr un amcan yn ystod y 'Plan nesaf. Hysbysodd Mr Rowlands y bydd adrodd- iad o dy Aberdovey yn cael ei roddi yn y cyfaifod nesaf. Galwyd y brawd ieuanc,. Mr Rhys T. Williams, Llwyngwril, i gael ei hull gan bregethwr lleol cyflawn. Holwyd ef gan yr Arolygwr, a gofynwyd amrai gwestiwn gan wahanol frodyr, ac wedi iddo ymneill- tuo, pasiwyd yn frwdfrydig iddo fod o hyn allan yn gyflawn bregethwr. Pasiwyd fod Rhol o Anrhydedd (Roll of Honour), i'w hargraffu ar y plan nesaf o'r milwyr sydd yn perthyn i'r Gylchdaith. Y milwyr a'r morwyr yn gynwysedig ynddi LIongyfarchodd yr arolygwr, Mr R. T. Williams, ynghyd a phlant eraill yn y Gylchdaith ar eu llwyddiant yn yr Ysgol Sirol yn Nhowyn. Pasiwyd fod Cyfarfod Blynyddol Ym- ddiriedolwyr Capelau y Gylchdaith i'w gynnal mewn cysylltiad a'r cyfarfod chwarterol nesaf. Cafwyd sylwadau ar sefyllfa ysprydol yr achos yn ei wahanol agweddau. Cymerwyd rhan gan yr arolygwr, Parch J. E. Thomas, Mr E. L. Rowlands, ac eraill. Ymhlith Ilawer o bethau a ddywedwyd, gwasgwyd yn neilltuol am i ni gadw at Nodweddion Wesleaidd, megis adrodd Gweddi yr Arglwydd, gyda'r pregethwr, Adnewyddu y Cyfamod," ac os bydd modd cael gan y gynulleidfa ddarllen bob yn ail adnod a'r pregethau fu'n gwasan- aethu, &c. 0 wneuthur hyn diameu na throai yn fendith i'r gynulleidfa yn gyff- redinnol. Ar derfyn y cyfarfod awd i'r Ystafell arall, lie y mwynhawyd arlwyaeth o de da, a theisen, wedi eu paratoi gan Misses Lloyd a Roberts. Ar ol diolch ar gynygiad Mr H. Lewis, cefnogiad gan Mr H. Hum- phreys a'i gyflwyno gan y Llywydd i'r chwiorydd caredig ymadawyd wedi cyfar- fod gwir dda. Y cyfarfod nesaf yn Aberdovey. COFNODYDD.
CYLCHDAITH RHYL.
CYLCHDAITH RHYL. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarter yn Brunswick, dydd Iau, Rhagfyr 30ain. Llywyddwyd gan y Parch Hugh Evans (Cynfor). Oherwydd amgylchiadau, nad oedd y cyfeillion yn meddu llywodraeth drostynt, nid oedd cynrychiolaeth o Gallt- melyd nac o Horeb, Prestatyn, er hynny yr oedd yn gyfarfod lliosog. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Diolchwyd i'r swyddogion a ganlyn, ac etholwyd hwy am flwyddyn arall:—Mr Lewis Hughes, Galltmelyd, ysgrifennydd addysg; Thomas Arthur Williams, Ffyn- nongroew Road, Rhyl, ysgrifennydd y capelau John Jones, Elm House, Rhyl, ysgrifennydd y cyfarfod chwarter Mri J. R. Hughes, 25, River Street, Rhyl; a Peter Ellis, Station House, Prestatyn, goruch- wylwyr. Bu y diweddar Mr John Hughes, Elwy Honse, Rhyl, yn drysorydd casgliad yr Ysgol Sul am lawer o flynyddoedd. Disgynodd mantell y tad ar ei fab, Mr Gabriel Hughes, Elwy House, yr hyn oedd weddus. Etholwyd ef i'r swydd yn unfryd- ol. Penderfynwyd fod y cyfarfod yn cymer- adwyo ymdrech y Blaid Cymreig yn y Senedd i wneud Cymru yn Scheduled Area yn ystyr y Defence of the Realm Act .gan ymrwymo i wneud popeth a ellir i'w cyn- orthwyo. Bendith fawr i lawer rhan o'r dywysogaeth fyddai cwtogi oriau gwerth- iant diodydd meddwol yn sir Fflint, yn ogystal a mannau eraill. Y penderfyniad i gael ei anfon i Arweinydd y Blaid Gym. reig yn y Senedd, ac i Mr J. Herbert Lewis, yr Aelod dros sir Fflint. Darllenwyd y cyfrifon gan y Goruch wylwyr. Mae lleihad bychan yn rhif yr aelodau oherwydd symudiadau, ond credir y bydd cynnydd yny cyfarfod nesaf. Mae seiliau cryfion i ddisgwyl hynny. Mae sefyllfa gyllidol y gylchdaith yn dra bodd haol. Bu hunllef dyled i'r Bank yn gor- ffwys ar y gylchdaith, ond mae honno wedi ei thalu oddigerth ychydig sylltau. Gwnaedcasgliadau yn ystod y chwarter at y "War Emergency Fund. Casglwyd y swm o dair punt a dau swllt ar bymtheg a thalwyd yr arian i'r Drysorfa trwy law yr Arolygwr. Pasiwyd pleidlas o gydymdeimlad gyda teulu yn diweddar Mr John Hughes, Soar. Hefyd gyda Mr Robert Jones (Gorsafydd), Prestatyn, sydd yn wael ar hyn o bryd. Hefyd, ein bod yn llawenhau yn y mesur helaeth o adferiad iechyd y mae Mr J. F. Griffiths, Free Trade Hall, wedi ei dder- byn o'i gystudd blin fu yn achos pryder yn ddiweddar. Galwyd sylw yr holl eglwysi at Sabboth, Ionawr 2il, fel dydd o ymostyngiad cyffred- innol ger bron Duw yn yr argyfwng difrif- rifol y mae y wlad ynddo oherwydd y rhyfel erchyll bresennol. Pasiwyd fod y cyfarfod yn argymell fod i'r holl eglwysi roddi ystyriaeth ddifrifol i'r cwestiwn o gynnal cyfarfodydd adfyw- iadol ac i wneud ymdrechion arbennig i ennill esgeuluswyr i ddod i wrando yr Efengyl ar ddechreu y flwyddyn newydd. Mae y Parch D. Tecwyn Evans wedi derbyn y gwahoddiad i ddyfod yn Arol- ygwr i Rhyl yn y flwyddyn 1920. Bydd cyfarfod chwarter Mawrth yn cael ei gynnal yn Bruswick. Trefnir i gael cynadledd o holl flaenoriaid y gylchdaith ar ol y cyfarfod chwarter yr un dydd. Yr oedd naws grefyddol hyfryd iawn ar y cyfarfod o'r dechreu i'r diwedd. J. J., YSG. I
CYLCHDAITH MACHYNLLETH.
CYLCHDAITH MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfnd chwarterol y gylchdaith hon Sadwrn, lonawr laf. Dechreuwyd trwy fawl a gweddiwyd gan Mr James Griffiths, Corris. Ar ei ymwel- iad cyntaf a'r cyfarfod chwarterol, croes- awyd Mr Richard Evans, Derwenlas, gan y Llywydd. Diolchwyd ac ail-etholwyd ysgrifen- nydd y cyfrifon. Penodwyd Mri J. Jenkin Ellis a Wil- liam Humphreys i weithredu fel archwil- wyr cyfrifon y Genhadaeth Dramor. Etholwyd Mr Ritchie Morgan, Machyn- lleth, yn ysgrifennydd y capelj. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theuluoeddy diweddar Mri Robert Rich- ards, Corris; John Ffoulkes, CwmlIinau; John Evans, Machynlleth; ac a Mrs Jones, Pennal, yn marwolaeth ei phriod o'r Dys- entery yn y Dardanellgs. Pwyswyd ar yr eglwysi iroi sylw i gais y Brenin o berth- ynas i'r Sul, Ionawr 2il. Trwy unfrydedd y cyfarfod estynwyd gwahoddiad i'r Parch R. W. Jones, Bryn- mawr, olynu y Parch John Lloyd, i Mach- ynlleth. Cafwyd lluniaeth trwy garedigrwydd Mr Sherme, Machynlleth. Diolch yn gyn- nes i'r chwaer. YSG.
[No title]
Y mae protest wedi ei hanfon i Bwyllgor Gweithiol Cymdeithas Gyfunedig y Car- penters and Joiners, gan adran o'r Undeb, yn erbyn rhoddi gwersi ar y canghenau uchod yn y dosbarthiadau hwyrol. Y mae'r brotest wedi cael ei chyflwyno i'r canghenau sydd yn perthyn i'r Undeb er mwyn cael eu barn arni. Dywedir fod y diwydiant yn cael ei roi o dan anfantais, ac nad all y crefftwyr gael cyflogau uwch, gan fod bechgyn a dydion ieuanc yn gwneud defnvdd o'r hyn ddysgant yn y. dosbarthiadau hyn, ac yn gweithio am lai o gyflog. Un o'r pethau mwyaf tarawiadol ynglyn a masnach y Nadolig yn Awstralia a New Zealand oedd y nifei fawr o bethau yn dwyn y geiriau made in Japan." Y mae Japan yn gwneud ymdrech arbennig i ennill masnach Germani. Yr oedd y Caisar wedi gwahardd cynnal unrhyw rialtwch i ddathlu'r Nadolig yn Germani. Daw gair o Berlin fod y fferyllwyr Ger- manaidd wrthi yn brysur yn dyfeisio rhyw., beth i lenwi lie cwrw.