Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
BRIWSION O'R BRIFDDINAS. I
BRIWSION O'R BRIFDDINAS. I Gyda'ch caniatad chwi, Mr Gol., ac ar gais rhai o gyfeillion Brunswic, yr wyf yn ymgymeryd, am dro, ag anfon ychydig Friwsion o'r Brifddinas—Briwsion o Bruns- wic yn fwyaf neilltuol. Er yr adeg yr aeth John Henry ar ddifancoll nid oes neb wedi ymgymeryd yn rheolaidd a'r gorchwyl o groniclo digwyddiadau capel Brunswic; ac er nad ymhonwn fedr i lanw y bwlch wnawd yn symudiad John Henry" o Lundain yr wyf yn mentro cymryd gwib yn awr ac eilwaith er casglu yr hyn fydd ddyddorol i Lundeinwyr hen a newydd, ac o fantais i ereill yng Nghym ru deimlent ddyddordeb yn ein hachos ac yn eu cydnabod drigant yn y Brifddinas. Ymhlith llawer o ddigwyddiadau ereill ym Mrunswic cynhaliwyd a ganlyn:— COFFEE SUPPER Y GWRAGEDD PRIOD. —Hwn oedd swper cyntaf y tymor, a bu yn llwyddiant digymysg. Yr oedd y rhan adloniadol y goraf, barn wyf, gafwyd erioed ,-amrai o'r cantorion ymhlith goreuwyr y byd cerddorol; y danteithion yn ddibrin a moethus; a'r casgliad yn cyrraedd y swm anrhydeddus o yn agos i £ 20 Llan- wyd y gadair gan Miss Jones, King's Cross (Aston gynt), yn cael ei chynorthwyo gan y ddau weinidog, gan yr hon, befyd, y cafwyd rhodd deilwng o'r amgylchiad, ac o honi ei hun. Priodol ydyw crybwyll ddarfod i ran helaeth o'r casgliad gael ei wneud ymlaen llaw gan a thrwy ddyfal- wch Mrs Owen, Notting Hill, a Mrs Alfred Jones, Fulham. Credaf na buasau hanes y eyfarfod hwn yn deîlwnget cystal popeth arall yno-heb son am gan gampus Alaw I Tegla (a.adnabyddid er's talwra wrth y llythyrennau cyfrin, D.S."), oblegid cod- odd y datganiad bawb i ardaloedd uchel 1 ddydd." Wnaeth Eos Dar a Mynydd- t og" erioed ddim mwy tarawgar ac i'r pwynt.. Diolchwyd yn gynnes a llawn i bawb am eu gwasanaeth gan y Mri E. J. Evans ac E. Gomer Jones. YR YSGOL SUL.-Y mae'r flwyddyn ddi- weddaf a'i therfysg wedi gadael eu hoi ar ein Hvsgol Sul. Y mae'r bechgyn ieaanc i gyd wedi ein gadael am faes y gad, neu i ymbarbtoi. Yn ystod yr wythnosau diw- eddaf ymunodd ein harolygwr am y tair blynedd diweddaf-Mr Lloyd Davies, Chemist, Veterinary Corps. Etholwyd Mr H. O. Evans, o Ddolgelley, i gymeryd ei le, a hyderwn y ceir, o dan ei arolygaeth, 11 Flwyddyn newydd dda," ac y gwelir y bechgyn oil yn dychwelyd o'r gad yn fuan, iach, a dianaf. Y CABTREF ODDICARTREF.—Dyma un o landmarks y flwyddyn ym Mrynswic. Ed- rychir ymlaen at y cyfarfod gyda dyddor- deb yn hir cyn ei gynnal-yr unig gyfarfod cyhoeddus sydd gennym, medda nhw, nas wneir casgliad ynddo !—pobpeth i'w gael am ddim digonedd o bob moethau cyn- hefin i'r tymor: a phawb ddaw yno yn teimlo mor rhydd a hapus a pha baent gartref. Treuliwyd y dydd Llun ar ol y Nadolig (o bump o'r gloch hyd ddeg) mewn canu, adrodd, chwareu, a bwyta. Y plant fu yn ein dyddori gan mwyaf gyda'r adrannau cyntaf, a gwnaethont eu rhan yn rhagorol. Yng nghwis y cyfarfod anrhegwyd hwy gan y Parch J. Ellis Wil- liams gyda llyfrau—ddegau ohonynt-yn cael eu cyflwyno (yn ogystal a chusan) gan Mrs Jones, Roman Road. Canwyd yn y cyfarfod hwn hefyd gan Alaw Tegla, a gosododd Ilioll mewn cyflwr o abandon- ment lwtopeaidd. Yr M.C. oedd Mr Allan Mitchell, a gwnaeth ei waith i fodlon- rwydd cyffredinnol. Diolchwyd i'r mer- ched ieuainc oedd wedi rhoddi eu pryd- nawn i barotoi, ac i bawb arall roddasant ac a wnaethant rywbeth tuagat wneud y cyfarfod yn llwyddiant. Ni enwir hwy y tro hwn. OLD Boys REUNION.—Cofus gennym rywdro son am y priodoldeb o gael hen aelodau y Gymdeithas Ddiwylliadol (yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf) i gyfar- fod a'u gilydd mewn dadl. Aeth hynny i'r clawdd, ond fe gawsom rywbeth tebyg yn ymgomwest y Cartref Oddicartref eleni. Yr oedd John Henry yno yn yr yspjyd, canys canwyd can o'i eiddo yn darlunio y cyfarfod, ei gydnabod, ei hir- aeth, a'i fodddhad. Yr oedd Mr a Mrs Pierce Jones a'r teulu yno, hefyd, o Lerpwl; a'r Misses May a Winnie/Jones, o Dre- fprest, ger Pontypridd; ynghyd ag eraill oeddynt ar ymweliad a Llundain o wa- hanol rannau o Gymru Yr oedd y mwy- afrif yno am yr edrychent ymlaen i fwyn- bau y cyd gyfarfyddiad. Yr oedd eu gweled yno gyda ni yn llawn cymaint, os nad mwy o fwynhad i ni ag oedd bod yno iddynt hwy. Y mae iddynt barch diled- ryw ym Mrunswic. Dewch eto, er gosod cymal newydd yn y sefydliad hapus hwn. Bpiw SHioN. I
ICAERWYS. II
I CAERWYS. I Nos NADOLIG.—Cynhaliodd Wesleaid y lie uchod ei cyfarfod cystadleuol. Llywydd- wyd gan Mr Thomas Jones, Caelcoed. Arweiniwyd mewn modd deheuig gan Mr John Williams. Y clorianwyr oeddynt Mri J. T. Edwards, T. Wynne, Ed. Roberts, a Mr P. Parry, Wrexham. Wedi cael annerchiad llawn o gynghorion buddiol gan y llywydd, aed ymlaen gyda'r rhaglen. Cafwyd cystadleuaeth dda mewn canu ac adrodd gan blant yr Ysgol Sul ac eraill. Ar gais y llywydd, cododd y gynulleidfa tra'r oedd y geiriau Calon lan," yn cael eu canu gan.Miss Lucy Roberts. Gwnaed hyn er parch i'r bechgyn sydd yn y fyddin o'r eglwys hon. 'Roedd yma ddwysder neilltuol wedi meddiannu yr holl gynull- eidfa. Terfynwyd trwy ganu Hen NVIad fy Nhadau," a Duw gadwo y Brenin." ) J. E. I
MYNYDD SEION, TAN-Y FRON.…
MYNYDD SEION, TAN-Y FRON. I JOHN WESLEY A JOl-IN CALVIN.Rhag- fyr Slain, treuliwyd noson gyda "John Wesley a John Calvin." Dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd Edmund Jauvis, ac yn absennoldeb y Llywydd (trwy orfodiaeth i fynd i gyfarfod arall), cymerodd yr Is-lywydd, sef y brawd Wil- liam Dowell. y gadair. Darllenwyd papur ar John Wesley," gan y brawd Edward J. Roberts, ac ar "John Calvin," gan y brawd David E. Jones. Diolchwyd i'r cyfeillion am eu papur rhagorol, a chaf- wyd ychydig eiriau arnynt gan y brodyi Thomas Williams, U.H., E. Jauvis, a Rob- ert Jones. Terfynwyd yr ymdrafod gan yr Is-lywydd, yn fyr ond i'r pwrpas. Noson fuddiol iawn. CYNGIIERDD NADOLIG,-Cynhallwyd yr uchod nos Sadwrn, Rhagfyr 25ain, pryd y treuliwyd noson hapus iawn o dan arwein- iad medrus ein gweinidog, sef y Parch J. Meirion Jones. Dyma y rhaglen :Piano- forte Dewett, Mri J. H. Roberts, a E. Wil- liams can, Bwthyn yr Amddifad," Miss Rogers adroddiad, The Miners Lad," gan Maldwyn Gittins; unawd, "Somerset," gan Mr Emrys Williams, ac I. Untill (fel encore); anthem gan y cor dan arweiniad medrus Mr Thomas Williams, Poyser Street; deuawd, Rwy'n mynd i'r Gad," Mri Emlyn Jones, ac Emrys Williams; unawd, How Ireland got its name," gan Miss Alice Williams adroddiad, Y Tit- anic," gan Robt. Ll. Williams rhangan, 1* Let the Hills resound," gan y cor Piano- forte solo, Miss Cissie Dowell; unawd, Mr, Emlyn Jones adroddiad, "beio Bach, gan David Evans Y rhosyn gwyllt," gan Miss Dora Rogers, Bwlchgwyn unawd, Mr Thomas Williams, U.H., cafodd encore a canodd Ffon fy Nain cystadleuaeth canu Leominster," i rhai dros deugain oed, Mr T. Williams, arweinydd y gan; Mr E. Jauvis, A.C., oedd y Barnwr a Mr J. H. Roberts, oedd y cyfeilydd, a gwnaeth eu waith yn rhagorol. Cynygiwyd y diolchiadau gan y Llywydd, ac eiliwyd gan y brawd W. Dowell. Dylem nodi hefyd fod Nurse Garner wedi cyfranogi yn 4rdderchog at y rhaglen er gwneud y Cyngherdd yn llwyddiannus, a diolch lawer i Mr Alfred Davies, yr ysgrifennydd, am y drafterth yr aeth ef iddo er cael y llwyddiant.fu.. Terfynwyd y cyngherdd trwy i'r cor ganu, Marsellais, God save our King, a Mae hen Wlad fy Nhadau. MELLTITHIO'R FFIGYSBREN.Nos Lun, Ionawr 3ydd, treuliwyd noson ddifir iawn tra yn ymdrin ar wyrth Melldithio'r Ffigysbren," Matt. xxi., 17—22, &c. Dech- reuwyd y cyfarfod trwy weddi gan ein llywydd, y Parch J. Meirion Jones, a ther- fynwyd trwy i bawb adrodd Gweddi yr Arglwydd. Noson bendithiol iawn. LL WYDDIANT CERDDOROL.-Llongyfarch. wn y chwaer ieuanc Miss Cissie Dowell ar ei llwyddiant yn ennill gydag anrhydedd o dystysgrif y Preparatory Grade, Incor- porated Society of Musicians. Gwnaeth yn ardderchog. a sicrhaodd farciau uchel. Deallwn hefyd fod Miss Luned Davies, merch fechan y Parch a Mrs H. Meirion Davies, Brymbo, wedi derbyn yr un dyst- ysgrif. O'R AMERICA.—Llawenydd hefyd i bawb fydd deall fod y chwaer J. E. Williams, wedi dychwelyd yn ol o'r America yn ddiogel ar amser mor derfysglyd. Croes aw calon iddi, medd. E. J. R.
CAERSALEM, TON PENTRE.
CAERSALEM, TON PENTRE. ADREF O'R RHYFEL.—Dydd Sul, Rhagfyr 26ain, cawsom y pleser o weled y brawd E. J. Thomas, yn ein plith, yr hwn oedd wedi dyfod o Ffrainc dros y gwyliau. Yr oedd yn dda iawn gennym fel eglwys ei weled yn edrych mor dda, yn gorfforol, a theimlem wrth ei glywed yn siarad nos Sul yn y seiat, ei fod hefyd yn iach o ran ei yspryd. Yn wir, cawsom rai brawddeg- au ganddo oeddynt yn mynd yn Straight to the Point." Mae y brawd Thomas wedi bod allan ar faes y frwydr er's rhai misoedd bellach, ond nid yw wedi anghofio achos yr Arglwydd. Yr oedd y brawd Edward Davies, mab Mr Evan Davies, un o flaenoriaid yr eglwys adref hefyd. Yr oedd yntau yn edrych yn dda. Bydded yr Arglwydd gyda pob un sydd wedi mynd oddiyma, a gobeithiwn y cawn eu gweled i gyd eto yn fuan. IEUAN.
Advertising
RHIWMATIC AC ANHWYLDEB Y KIDNEY. =- I I Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad, a'r acid hwn ydyw'r achos penaf o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, carreg, grafel, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaethau ar ol yr oes"—ydynt yn ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o focses o Dabledi Estora yn cael eu cynnyg yn rhad er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad- meddyginiaeth onest at y Kidney am bris gonest, Is Ilc y bocs o 40 o dableli, neu 6 bocs am 6s. Cyfl- enwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae y cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i ddarllenwyr y Gwyliedydd Newydd am ddeng niwr- nod o'r dyddiad hwn, ac ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda 3c mewn stamps, onid e, fe anwybyddir y ceisiadau a'r amcan ydyw, diogelu rhag rhai nad oes arnynt angen am y cynnyg. Cyfeiriad—Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, Agent. EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Moreland, Gloucester KHAN. f. Cainc y Delyn Deuddeg o hen Alawon Cymrelg wedi eu trefnu at wasanaeth chwareuwyr a datganwyr pen- iilion (yn y ddau Nodiant) GAN Pi H. LEWIS, rF.T.S.C., a D. ROBERTS (Telynor Maw- ddwy). Cynhwysa y Rhan I. yr Alawon a ganlyn Llwyn Onn-Swynion y Gwanwyn gan E. G. Davies, Abertridwr Morfa Rhuddlan—Gwenllian ferch Gruff- ydd gan Llew Tegid, Bangor Syr Harri Ddu-Mwynder y Cymro gan Bryfdir, Blaenau Ffestiniog Nos Galan—Gadael cartref gan Evan Roberts, Croesoswallt Gwenynen Gwent-Meib y Mynydd Igan Gwilym Ceiriog, Llangollen Pen Rhaw-Minion Menai gan Llyfni Hughes. Penygroes Cainc y Dadgeiniaid-Plentyn Gwalia gan Madog Mon, Llanover Llanover-Can. y Cryd gan J. J. Williams, Treforris Serch Hudol—Y Friog gan Llew Tegid, Bangor Sweet Richard-Aberoedd Cymru gan Isfoel, Cilie Y Bardd yn ei Awen-Beirdd Cymru gan Isfoel, Cilie Codiad yr Ehedydd-Can a thant gan Cenech, Cilcenin. PRIS SWLLT. (Drwy'r llythyrdy, Is. 1c.). LItZ 1-1 I—i Cyhoeddedig gan TELYNOR MAWDDWY, BARMOUTH. !888f "Y Tri Iesu ™=s r ..{';i [}II\!IIJ Bydd llyfryn bychan, yn dwyn y teitl uchod, allan o law yr Argraff- ydd ar fyrder, a rhasr i neb gael siomiant, gofaler am ei ARCHEBU AR UNWAITH. • !¡¿¡;; Dinoethir ynddo Gyfeiliornadau Diwinyddol pwysig—" Important Theological Errors Exposed," GAN "Disgybl," W. R. (Pregethwr), Birmingham. i Croesaw iti ym mhob plwy', 'Rwyt yn finiog Syn na bai dy bris yn fwv Na DWY GEINIOG —- .izjzm Y CYNHWYSIAD :— I.-lesu y Dynolwyr.„ II.-lesu y Cyfyngwyr Meidrol. III.—Yr Iesu, Duw mewn Cnawd. IV.—Undeb y Dwyfol a Chorff Dynol. V.—Yr Iesu yn- egluro ei Hun yn naturiol a chynhyddol. AnLoner archebion am dano at y Cyhoepdwr- W. Richards, Digbeth Institute, Birmingham Neu at yr Argraffydd- Mr Lewis Davies, Gwyliedydd Newydd Office, Blaenau Ffestiniog. ARGRAFFU! ARGRAFFU!! ARGRAFFYDD Y GWYLIEDYDD NEWYDD," Y mae y Swyddfa yn cynwys y Peirianau a'r Llythyrenau diwedd., araf-a 1 oil yn newydd. i Dymuna ddiolch am yr Archeb- o ion y mae wedi ei gael drwy y Post, pa rai a roddodd lwyr fodd- onrwydd yn ol y tystiolaethau a dderbyniodd. Argreffir Adroddiadau Eglwysig, Llyfrau Solfa, Balance Sheets, Posters-unrhyw faintioli, Tocynau Darlithoedd, « Cyngherddau, &o Ymofyner am Estimates a. LEWIS DAVIES, "Gwyliedydd Newydd" Office, Blaenau Ffestiniog, Mr. J. W. LEWIS, A. T.S.C., Organydd Bryn Seion, Mountain Ash. t" f. L L j 1- Arweinydd Cymanfaoedd, Beirniad, &c. CYFEIRIAD— PENRHIWCEIBER, GLAM.
ASBTON-IN-MAKERFIELD.---
(Parhad o tudalen 2). I ond Sais yw, ond nid yw'n waeth am hynny. Yr oeddym wedi gwybod am ei barodrwydd i gynorthwyo, ac hefyd ei haelioni. Y Parch. Hugh Curry a'i hys- bysodd i ni, 'roedd yn ei adnabod pan yn Hanley, Cawsom hefyd fwynhau cym- deithas Mrs Cook yn ogystal a Mr Cook, brydnawn a hwyr. Gwnaeth Mr Cook ei ran, nid yn y gadair yn unig, ond cofiodd yn hael iawn am y drysorfa. Gofalwyd am y cyngherdd gan y brawd Arthur Evans, efe hefyd yw cyfeilydd symudiadau fel hyn, ac mae pawb yn edrych i fyny ato fel un yn deall ei waith yn rhagorol. Y rhai gymerasant rhan oeddynt Mrs Clarkson, Standish, ger Wigan Miss Bax- endale, Bryn; Mri Tom Jones Abram, D. Ashton Davies, a Mr Betle, Ashton. Caf- wyd cyngherdd rhagorol iawn, a chredaf y gallwn ddisgwyl elw da eto eleni, er fod yna lawer o bethau yn ddiweddar yn mil- wrio yn erbyn ei lwyddiant. J. LL. I