Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Hide Articles List
17 articles on this Page
LLANNEFYDD.
News
Cite
Share
LLANNEFYDD. FONEDDIGION, Fel cals I atteb gofyniadau Llannefyddwr yn y FANEB am Rhagfyr 6ed cauiatewoh i mi wneyd y sylw canlynol:— Nefydd ydoedd un o ferched Brychan Brycheiniog, yr hon a flodeual o ddeutu canol y bummed ganrif. Santes, gan hyny, ac nid sant, a nawddogai eglwya Llannefydd. Bu i Brychan dair o wragedd, a thair neu bedair o ordderchadon, a ganwyd Iddo bedwar-ar- hugain o feibion, a chweoh-ar-hagain o ferched. Enw- au rhal ol feibion ydoedd Oynog, Oledwyn, Dlngad, ac Arthen; a gslwodd rat o'i ferched yn Nefyn, Gwawr, Gwrgoo, Elerl, Lltian, a Nefydd. Gallem roddi enw. aa ei blant i gyd, ond afraid hyny. Gwyddeles ydoedd Nefydd ooehr ei thald, a delll- iai o linach frenhinol yr Ynys Weldd; o ochr ei natn Cymraes ydoedd hi. Dygodd Brychan el deulu I fyny yn grefyddol bro" heb eithrlad, er msdru o honynt ddangos y Ffydd yn Nghrist i genedl y Cymry. Ni a gawo, htfyd, fod un Nefydd Hardd yn blodeuo yn y ddegfed ganrif, ao yn cyd-oesl âg Owen Gwynedd, Nefydd ydoedd Ar<lwydd Nant OOBWY, a phenaeth y chweched o bymtheg llwyth Gwynedd. Rhoddocd Owen el fab Idwal o dan nawdd Nefydd; eithr oyn- lluniodd Nefydd fradwdaeth yn el erbyn, a gosododd ar rywral y gwaith o ladd y gwr ieuangc, yr hyn a gymmerodd le ynNghwm Ids, al, yu lir Gaer-yn-Adon. Y lie hwnw sydd yn un o'r maoau mwyaf anhygyrch yn Nghymru ao adnabyddir ef hyd headyw wrth yr enw 'Cegtn y Cythrel.' Aeth cymmeriad Nefydd yn un isel iawn; ac yn lie cael el gydnabod yn mygg urddasolion el wlad, gwnaed ef a'i dylwyth yn gaeth- ion Nant Conwy. Gwelwn felly nad oedd cymmeriad Nefydd Hardd yn gyfryw ag i'w gymmhwyao i fod yn nawdd sant unrhyw eglwya yn y byd. Dlsgynyddion Nefydd Hardd ydoedd Edward Morgan, o Wybrnant, sir Gaer-yn-Arfon, Evansiaid, L'anrwst; a Daviea, Coedymynydd, ger Caerwys. Ydwyf, &c., JOHN DAVIES (Asiedydd o Walia). 2 Brynffynnon Terrace, Dinbych.
LLANGOLLEN.I
News
Cite
Share
LLANGOLLEN. CYFARFOD I GROESAWU Y PARCH. W. G. WILLIAMS. Nos lau diweddaf cynnaliwyd cyfarfod i groes- awu Mr. W. G. Williams, gynt o Talsarnau, fel gweinidog eglwys genhadol Penllyn, a chafwyd cyfaifod hynod o liosog a buddiol. Yn ystod v prydnawn yr oedd tO ar y byrddau i blant yr yssol geohadol ac aelodau yr eglwya a'r gyn- nulleidfa, a daeth nifer fawr at eu gilydd i fwynbau y wledd, yr hon a ddarparwyd gan Mrs Hughes, Voelas Temperance. Am hanner awr wedi saith dechrsuodd y cyfarfod cyhoed ius, dan lywyddiaeth Mr. John Rowlands, blaenor, yr hwn a roddodd hanes dechreuad acbynn\dd yr achoa yn Mhenllyn yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf. SdfydlwVd yr eglwya gan y Parchn. Roger Edwards, a John Jones, Rhiwabon; a'r gofalwyr cyntaf oeddynt y Mri. John Jones, James Jone", Edward Thomas, John Peniwern Jones (ya awr yn fgenhadwr llwyddiannus yn Sylhet), a John Rowlands. Yr oedd anerchiad Mr. Rowlands yn hynod o ddyddorol, ac yn dangoa yn eglur y cynnydd mawr a wnaed yn ystod y deng mlyn- edd ar bugain. Estynodd Mr. Rowlands groesawiad gwresog i'r bugail newydd, gan obeithio y byddai yn foddion, yn llaw yr Argl wydd, i wneyd Jlawer o waith yn Mhenllyn. Yea cafwyd anerchiad gan Mr. E W. Jones, blaenor, yn croesawu Mr. Williams, a dilyowyd ef gan y Parch. J. Lias Davies, Acrfair, yr hwn a fu mewn cyssylitiad ag eglwys Penllyn am ddeuDaw mlynedd, ae yn cael y fraint o'i gwasauaethu yn abeennoldebgweiniijoeion. Tal- odd Mr. Davies deynged o gl6d i'r gwaith mawr a wnaed gan Mr. John Rowlands i Benllyn, gan ddymuno iddo ef, ac hefyd i'r gweinidog newydd, hir oes, ac lechyd i lafurio yn y He* Galwyd yn nesaf ar y Parch. John Williams, Gwrecsam, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth mewnmodd gwresog, gan alw sylw arbenig at y nifer fawr o blant oedd yn bresennol. Gwelai yma faes eang i Mr. Williams fod o ddefoydd ynddo; ac oddi wrth ei adnabyddiaeth ef o < r. Williams, credii ei tod ya uncymmhwys iawii at y gwaith. Cafwyd can gan Miss Gertrude Jones, ac yna anerebwyd y cyfarfod gan y Parch. W. Ffoulkes, Rehoboth, Llangollen, yt hwn a fa am flynydd- oedd yn gofalu am Penllyn. Estynodd groeaaw- iad gwresot: i Mr. Williams, gan ddymuno iddo adferiad buan i'w gyflawn iechyd, aphobhapus- rwydd yn ei faes newydd. Cydm-byddodd Mr. Will ams yr anerchia 'au yn ddiolchgar, ac hefyd dymunai, mewn modd arbenig, gydnabod y caredigrwyrld mawr a ddaQiOswyd tuiig ato yn ei waeledd. Hyderai, dan fendith yr Arglwydd, allu gwneyd gwaith yn Penliyn, ond hcffai i'r aelodau gofio mai cyd- weithwyr o ddynt. Yna cauwyd gan gor o blant. BLAENOR AM DDENG MLYNEDD AR HUGAIN. Mewn cjfarfod a gynnaliwyd yn ysijoi gen- hadol Penllyn, nos lau diweddaf, i groesawu y Parch. W, G. Williams fel bagail, anrheg.vyd Mr. John Rowlands ag anerchiad goreuredig, ynghyd âg awrlais ysblenydd, fel arwydd o barch tuag at, ac edmygedd o'i lafur mewn cjesyl'tiad a'r achos cenhadol o'i gychwyniad, ddeng mlynedd ar huvain yn ol. Darlienwyd yr acercbiad gan Mr. H. Lewis, yr hwn a hysbysodd y parodrwydd a'r unfryd- edd mawr a ddangoswyd gan gyfeillion Penllyn yn y mater, gau y cydnabyddai pawb fod ffydd- londeb a gwe thgarwch Mr. Rowlands yn llawn deilyngu eu parch. Fel y canlyn y dsrllecai yr adroddiad:— 'Eglwya acYsgol Genhadol Pen llyn, Llangollen, i Mr. John Rowlands. Anwj 1 frawd, Deng mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon y cychwynwyd achos cenhadol Penilyn ao wrth edrych yn ol, mae'n hyfrydwch meddwl fod y Uafur cariad mewn cyisylltiad a'r acbos wedi ei fendithio a'i goroni & mesur helaeth olwyddianb. Dygir tystioketh i hyn nid yn unig gan yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol, fel y maent yn bresennol, ond hefyd gan nifer fawr o bobl lenaingc ydynt wedi ymfudo i wahanol tanan o'r wlad a'r byd, pa rai a gawsant Penliyn yn ael- wyd grefyddol i'w magu i fywyd o ddefnyddiol- deb a chysaegriad, ac hefyd gan gyfeillion yn ein tref tu allan í gylch yr eglwys. Mae'n llawenydd genym feddwl elch bod chwi wedi llafurio fel swyddog ymroddgar yn Mhenllyn yn ystod y den< mlynedd ar hngain hyn, a dymunwn gymmeryd mantais ar yr adeg bresennol i ddangos ein parch a'a hed- mygeddlo honoch fel ein blaenor, a'n cyfalll ffyddlawn. Yr ydych wedi cyoegra etch amser, etchfgallu, a'ch cyfoeth yn ddibrin, ao ar bob adeg i ddwyn yn mlaen yr achos sydd mor agos at etch calon. Er fod eraill wedi eich cynnorthwyo, ac wedi gwneyd gwasanaeth or gwerth mwyaf, etto arnoch chwi, yn benaf, fel y swyddog hynaf, yr oerfd y gofal a'r pryder yn gorphwys drymaf; ond galiasoch ddwyn y gwaith yn miaen yn llwyddiannus yn wyneb liawer o onhawsderaa. Tra wedi ymgvssegru i achos Penllyn, mae'n dda genym feddwl eich bod wedi llanw awyddi cyhoeddns pwy^ig tu allan i gylch ein heglwys, megya trysorydd cyfarfod m'sol sir Fflint am 16 mlynedd, cadeirydd bwrdd ysgol Llangollen am 8 mlynedd, cadeirydd pwyllgor Ysgol Ganolraddol Llangollen, a 11a o awyddi eraill, a phob amser yn egniol gyda gwahancl symmud' iadan i ddyrchafu a llesoli etch cyd drefwyr, yn enwedig y bobl ienaingc. Etto, etch gofal cyntaf yw Penllyn; a thetmlwn yn fraint, ac yn bleser, cael etch llongyfarch ar yr achlysnr hwn ar eieh cyssylltiad mtith a Phenllyn, a'r llwyddiant aDllwg sydd wedi coroni etch llafur diflino. Gofynir i chwi dderbyn yr anerchiad hon, nid o ran ei gwerth, ood fel arwydd o'n parch toag atoch, a'n hedmygedd o honoch, am y gwyddom y gwerthfawrogwch y teimlad oddi ar ba an y cyflwynir hi yn liawer mwy na gwetth y ihodl ei hunan, Cydnabyddwn hafyd y cynnorthwy mawr a gawsoch gan eich anwyl briod, a'r tenlu, i ddwyn y gwaith yn mlaen; a chan ddymuna i chwi hir oes, iechyd, a narth i wasanaethu eich Arglwydd yr un mor fiyddlawn yn y dyfodol ac y gwmethoeh yn y gorphenul. Yn dilyn yr oedd enwau amryw bersonan, ar ran yr eglwys, yr ysgol, a'r pwyllgor. Cyflwynwyd yr antheg gan Mr. Dmvld JoneB, yr hwn a dalodd iJeyrnged o giod i Mr. EowUndi am ei ffydd- londeb i Penllyn. Yna anerohwyd y cyfarfod gan y Mri. Robert Lloyd, Edwin Hughes, D. P. Jones, a John E. Jones, yr hwn a draddododd yr englynion canlynol Rowlands fa 'n oodi 'r hwyllau-hefo 'r lll' Rhwyfal 'r llouj rhwng cretglau; A'i blaen oedd trwy 'r blynyddau Yn bur i hoo myn barhaa. Ar y blaen caed y blaenor-bu el sel Yo mhob swydd yn ddl-dor; El gynlluo yw gwiullan 16r, A'r Iinu gaiff el dryaor. Am el walth flwyddi meithion—wele dorf Rydd well done I'r ffyddlon; Tystia patch wua 'n tysteb hon, Ao wele ialth ein calsn. Tysteb i'w wyneb gwyd wenau-y cloo, Chvs 'dtpia' 'n calonau; Adgofio 'r difyr orlau 'N hwyr el ddydd gaiff hefo'r ddau. Mr. Rowlands, yr hwn a ddiolchodd dan delmlad dwyø, a ddywedodd el fod wedi el ddal yn berffaith ddl-rybadd, gan na chlywodd efe air am y symmadlad hyd nes y cyfododd Mr. Lewis I siarad. Yr oedd wedi gwneyd el oreu I Benllyn, a phob amser wedi ceislo dwyn y bobl ieusingo allan I welthio. Nid oedd ganddo ond gobeithio y byddat i'r caredigrwydd a ddangosid iddo ef ddwyn y bobl ieuaingc I ystyried beth a wnaethant hwy 1 BeBllyn, ac I ymroddl yn fwy egni 1 i'r gwaith o hyn allan,
DOSBARTHIADAU COGINIO A GWEINI…
News
Cite
Share
DOSBARTHIADAU COGINIO A GWEINI AR GLEIFION. Y MAE yn anhawdd ysgdfenu yn rhy ganmoliaethus am y gwalth da a wnelr gan y foneddiges ienango Miss Mary Jones, march y cynghorwr sirol poblogaidd, Mr. Peter Jones. Aberystwyth, yn y rbanbarth yma o'r sir. Dan nawdd Coleg y Brifysgol y mae Miss Jones yn gweltbio. Yn Cribin dysgu y boneddlgesan i goginto yr oedd; ac yn Ciliau Pare, dosbsrth I ddysgu gweint ar y claf oedd ganddi. Bu ei gwalth yn hynod dderbjniol yn y ddau le; ac nid oes un am- mheuaeth na fydd canlynladaa da iddo. Y mae yn anrhydedd I ferched ieuaingc y ddau le eu bod hwy yn gwerthfawrogi y gwersl i'r fath raddau ag y gwnaeth- ant. Yr ydwyf yn deall eu bod I fod etto yn fuan mewn lleoedd eraill yn y cylch; ac nid oes yr am mheuaeth lelaf na chalff dderbytdad calonog pa le bynag yr elo, ac y mae yn haeddu hyny gan mor dde- heulg y mae yn cario el gwaith ya mlaen. Pob llwydd- lant iddi ya ei gwaith da. Y mae y cyfeillion ffydd- lawn sydd yn ei chynorthwyo, yn wrywod a menywod, yn y gwahanol ardaloedd hefyd, yn llawn haeddu gair o gymmeradwyaeth wresog. Ar gynnydd buan yr elo addysg a diwylliant yn mhob cyfeirfad yn eln gwlad anwyl.
Y FRWYDR ADDYSG.
News
Cite
Share
Y FRWYDR ADDYSG. Swn y gad-ymgyrch yn erbyn y Ddeddf Addysg aydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd y canolbarth yma yn bresennol. Gwelals hysbysiadau allan yn Aber- aeron fod cyfarfod i gael el gynnal yn Penlel, capel yr Annibynwyr, nos Iau, y 14eg cyfisol, pryd y dis gwyllr y Parch. Job Miles, Aberystwyth; y Mri. Morgan Evans, Oakford; J. M. Howell, Aberaeron, ac eraill, I'w anerch. Bydd, hefyd. gyfarfod yn cael ei gynnal yn Ysgoldy y Oynghor, yn Llanarth, not, Fercher nesaf, a chyhoeddvryd fod y Pa-ch. J. Howell, Llwyncelyn, a Mr. Morgan Evans, i gymmervd rhan ynddo. Y mae y cylarfodydd hyn, yn ddïau, yc gwneyd cryn lawer o les er goleuo y wlad yn mhwLgc annhraethol bwyslg rhyddid crefyddol. Y mae yn resyn fod liawer, hyd yn oed yn Nghymra oleuedig ac uchel freintiog mor ddibris o'u rhyddid I addoll Duw yn ol en cydwybod, ac mor anwybodus o'r hyn a gout lodd ein rhyddid l'n tadau gwrol yn yr oeBoedd Bydd wedi myned heibio. W 'eth i neb heb gelu y ffaith, yr ydym yn byw mewn amseroedd peryglua ein hunain. Cawn ein dwyn yn ol o dan iau caethlwed oni ddl- hunwn mewn pryd. Nid oes dim yn rhy ddrwg gan y Llywodraeth wa^saw bresennol, o dan arwelnlad aw. durdodau yr Eglwys Wladol, i'w wneuthur. Nid ydynt yn cael an llywodraethn gan tn egwyddor un- iawn, ac nid oea arnynt gywilydd gwneyd yn ol en mympwy. Nid ydynt ddim amgen na phi& ar y wlad.
OEINEWYDD.
News
Cite
Share
OEINEWYDD. Y mae y lie prydferth hwn yn ffortnnns lawn am arweinwyr cyhoeddua ar hyn o bryd, a thrwy hyny y mae y werin yn oael breibtlau mawrion. Yn ddiweddar cynnaliwyd yma gymmanfa ddirwesto) hynod o Iwyddiannus. Yn y Ttbernaol, addoldy y Trefoyddlon Calfinaidd, y cynnaliwyd y cyfarfodydd, er fod y gymdeithas ddirwestol yn y lie yn anenwadoi -yr oedd pawb o'r brodyr a'r chwiorydd yno yn un. Y prif siaradwr—yr un oddi allan i'r cylch-ydoedd y Parch Hugh Jones, Llanelli. Gwnaeth Mr. Jones ei ran yn rbagorol, a phawb eraill, hefyd, yn eu hwyllau goren. Y oedd cyfarfodydd y gymmanfa yn rhal i'w blr gofio, ac yn sicr o fod wedi carlo dylanwad da. Rbal dyddlau cyn hyny breintlwyd y dref ag ym- weliad gan y darlfthydd poblogaidd Dr. J. Gomer Lewis, Abertawe, yr hwn a dtsddododd el ddarlith adnabyddua at Ogoniant Amrywiaeth' yn nghapel y Towyn. Ni raid i Dr. Gomer Lewis wrth lythyr cym mer<»dwyaeth oddi wrth neb; y mae el glod yn bysbys drwy Gymru benbaladr. Yr oedd yr elw yn myned at gynnorthwyo eglwys y Bedyddwyr yn y dref. Bydd yn dda gan lawer glywed fod y boneddwr parchus Dr. T. Evans, Park Street, yn gwella yn dda. Y mae yn gallu yn awr mynerl oddi amgylch. Yr oedd ystrydoedd y lie yn ymddangos yn wag heb weled y meddyg poblogaidd yn myned ar hyd-ddynt. Hir oes a gaffo i wasacaetha el oes a'i wlad.
ABERAERON.
News
Cite
Share
ABERAERON. Yn y Neuadd Gynnull, yn y dref uchod, cafwyd darllth ddyddorol gan y Parch. J. Evans, ficer Llan ganllo, ar Watth cenhadon y Prlfysgolion ar lanau Llyn Nyassa, yn Nghanolbarth Affrica.' Yr oedd S golygfeydd yn cael eu dangos drwy hud-luaern. Y Parch. E. Evans, ficer Henfynyw, oedd yn llywyddn. Cafwyd cyfarfod dyddorol. Yr amcan oedd cynnorth- wyo y gymdeithas genhadol. IICafwyd ymdrafodaeth ddyddorol mewn oyfarfod o Gymdelthas y BJbl Ieuaingc, perthynol l'r Tabernaol, ar y cweBtiwn A ydyw adfyw ad orefyddol yn tueddo i ddwyn oddi amgylch welliantau cymdeithasol?' Y mae braidd yn syn fod y fath gwestiwn yn destyn dadl o gwbl. Pa fodd bynag, cafwyd yno ymgom wresog. Llywyddid gan y Parch. J. Thickens. Cym- merwyd rhan yn y ddadl gan Miss Olive Jones a Mr. Daniel Jenkins, y rhai a gynnygiasant y cadarnbaol; Mr. Glyn Griffiths a'r Cadben Daniel Jones, y rhai a gymmerasant i fyny y nacasl. Slaradwyd wedi hyny o'r ddau tu gan y pereonau csnlynol: — Mrs. Ette Thomas, MTs. T. L. Jones, Mrt. J. M. Howell. L. Jenkins, a J. H. Jones. O'r diwedd cafwyd mwyafiif o blaid y cadarchaol. Gan nad oedd y gohebydd yn bresennol y mae yn methu amgyffred y rhesymau possibl dros y nacaol. Nia gall ddeall adfywlad oref- yddol yn ddim oddi elthr iddo fod yn ddylanwad er daioni yn mhob cylch-crefyddol a moesol! Beth am y mudiad dlrwestol yn y lie hwn eleni ? A ydyw pawb sydd yn teimlo dyddordebmewnsobrwydd wedi marw ? Teimlaf fod y gofyniad hwn yn bwyslg ? GOHEBYDD.
ABERCYNON.
News
Cite
Share
ABERCYNON. NEUADD NEWYDD Y GWEITHWYR. YN fy sylwadau ar y neuadd uchod dywedaia fod yr adeilad yn werth deng mtl o bunuau (lO.OOOp.), Erbyn hyn yr wyf wedi ciel at ddeall fod yr adellad yn werth yn ago I I bymtheng mil (15.000p). Y mae yn adeilad ardderchog, ac y mas liawer o sylw yn cael el wneyd o hono yn y dyddlau byn. Y mae y gwaith o geiso gorphen y neuadd uchod yn myned yn mlaen y dyddiau hyn. Bwriedir el bagor yn fforfiol drwy gynnal cyngherdd uwchraddol ynddi, yr hwn a fydd yn ihydd i bawb, a phryd y dlsgwylir am wledd o'r fath oreu. Deallwn fod galwadau mawr am dan! yn barod. Yugl^n A'r sefydliad bydd Llyfrgell ragorol; a hysbyswya nl fod dau gant o gyfrolau Cymrelg wedi eu haddaw yn barod tuag at y sefydliad, ynghyd & newydd!aduron Cymraeg a Saasneg at wasanaeth y trigolion. Hyderaf ya f&wr y gwelir y ddwy FANER yn y sefydliad. Bydded t'r pwyllgor feddwl am hyn. Yr wythnoa o'r blaen cafwyd llais y gweithwyr ar Pa un a agorid y llyfrgell al peldio ar y Sabbath yn ystod yr orlau rhwng y moddlon ? Cafwyd fod naw dros ei hagor. Gellir dyweyd fod liawer o amrywiaeth barnau ar y pwngo hwn, Ond rhydd i bawb ei farn. YMWELIAD Y DIWYGIWR EVAN ROBERTS. Cefais fy hysbysu mal blwyddyn i'r Sabbath o'r blaen yr ymwelodd y diwygiwr enwog uchod Ag Aber- cynon ymweliad a fu o lawer o fendith i'r lie, mewn byd ac eglwys Y mae diwygiad wedi cymmeryd lie mewn llawer cylch yn y rhan yma o'r wlad ond etto y mae lie. Ond dylem ddiolch am yr hyn a gafwyd. Cofus genyf glywed y dtwygtwr yn dyweyd yn nghapel Annibynwyr Bethania, 'Fod yr Ysbryd Gl&n wedi dechreu ar ei waith, ao y bydd iddo orphen; 110 fod pethau mawrbn i'w gwneyd yn y cylchoedd byn.' Gallaf ddyweyd fod hyny wedi cael ei wneyd i iaddau helaeth iawn. Diolch am y diwyglad. D A R L I T H. Y noson o'r blaen traddodwyd darlith yn ngbapel Annibynwyr Bethania, gan y Parch. Bryn Thomas, Blaenilechau, ar 'Garibaldi.' Yr oedd y Parch. J. Towyn Jones I fod 1 roddi darlith ar Y Dyn Ieuangc a'i Weledigaethau,' yn y lie; ond o herwydd amgyloh- ladau ni ddaeth, ac ar yr awr ddiweddaf cafwyd Mr. Thomas. Llywyddwyd gan y Oycghorwr T. B. Jones, Cilfynydd. Eral yr elw at yr achos yn y lie. TREBOR LLECHID.
BLAENAU FFESTINIOG A'R CFLCH.
News
Cite
Share
BLAENAU FFESTINIOG A'R CFLCH. MARWOLAETH SYDYN MEDDYG 0 FFESTINIOG. TUA chanol dydd ddydd Mawrth diweddaf parodd y newydd fod Mr. Thomas W. Roberts, 32aln mlwydd oed, meddyg cynnortuwyol gyda Dr R. D, Evan», wedi marw fraw drwy yr doll ardal. Tuag un ar ddfg o'r gloch nos Lun yr oedd Dr. Evans gyda Mr, Roberts yn y surgery cyn myned i orphwys, ac yu ol pob &0IW4 yn ymddangos yn ei iechyd arferol. Ond tua naw o'r gloch dydd Mawrth aed i'w alw at ddrw* yr ystafell, ae attebodd drwy ddyweyd 'All right.' Cafodd Dr. Evans el alw allan yn fuan ar ol hyn, ao ni ddychwel- odd hyd tua hanner aw? wedi un ar ddeg; ac wedi canfed nad oedd el gyanorthwywr wedi codi aed i'w alw drachefn ond y tro hwn ni ehaed attebiad; ya ddilynol bolltiwyd y drwa, a chafwyd Mr. Roberts wedi matw yn ei welf ir oedd yn amlwg iddo fod yn darnen y Strand Magazine y noson hono, gan ei fod yn ei ymyl. Ei orlawr ya ei logell wedi sefyll or ddeg munyd wedi wyth. Yr oedd Dr. Tom Roberta yn fab I Mr. Owen Roberts, Saron House, Llftn, Ffestiniog. Trin cyfferiau oedd ei brif dueddlad er panynfachgen, ac yr oedd yn meddu ar liaws o gymmhwysderau meddygol. Yr oedd yn ddyn Ieuangc rhadlawn, ac yn hynod am el garedigrwydd, yngyfalll cywlr bob amser; ac am t>i fod yn ddyn ieuangc unplyg, ynghya a'i garedigrwydd, yr oedd pawb yn hoff o hooo. Y mae ein cydymdeimlad, fel ardal, a'i rïenl, ac & Dr. Evans, yn eu profedigaeth sydyn. Y TRENGHOLIAD. Am bump o'r gloch, yn yr aitiladau sirol, cynnal- iwyd treogholiad, o flsen Mr. R. O. Jones, y trenghol- ydd sirol, a deuddeg o reithwyr, ac yr oedd Mr. J. R. Evans yn flaenor tddynt. Mr. Owen Roberts, Ffestiniog, a ddywedodd ei fed yn dad i'r traogcedlg, yr hwn oedd yn 32ain mlwydd oed, yn ddi-btiod, ac yn efrydydd meddygol yn awr yn ogwasanaeth Dr. R. D. Evaas. Rhoddodd Dr. Evans el dystiolaeth I'r un cyfeiriad a nodwyd el-ce, genym. Dr. W. Vaughan Robe-ta a dystlodd iddo gael pi alw i olwg y corph. Yr oedd y tsangcedig yn ei wely yn gorwecid yn hollol naturiol. Adwaenai ef yn dda er's liawer o flynyddoedd. Afiechyd y galon, yn ddi ddadl, cedd aohos el farwolaeth. Y Rhingyll Owens a ddywedodd iddo gael el alw i fyned gyda Dr. EVillns tua banner dydd. Aethant at ddtws yr ystafell; a chan nad oedd neb ya atteb gwthiMfnt y drwiI, a gwelsant y traagcedig yn ei wely yn hollol farw, a phob peth yn gwbt drefnus yn yr ystafell. Archwiliwyd yr holl le a dillad y trangcedig, ond nl welodd ddim allan o le mewn modd yn y byd. Dychwelwyd rheithfarn yn unol a thystiolaeth y meddyg. Paalwyd pleldlals o gydrmdelmlad a'i rieol, so A Dr. Evans, yn eu profedigaeth.
Y LLECHI YSGRIFENU.
News
Cite
Share
Y LLECHI YSGRIFENU. Dydd Mawrth diweddaf ymwelodd y ddlrprwyaeth ar ran gwnenthurwyr llechi ysgrifanu Gjgledd Cymru ig Arglwydd Londonderry, er ceisio adfern yn ol yr arferlad o ddefnyddio y llechi yu yr ysgollon dyddiol. Y ddlrprwyaeth oeddynt Syr John Puleston. Mr. Bryn R berts, ac eraill. 0 ddeotn blwyddyn yn ol bu i'r Swyddfa Addysg gondemnio defnyddlo y llechi yo yr ysgo ion, gan fabwysiadu y papur a'r pIn yn eu lie. Wrth ofyn i'r awdurdodau yn Llundain ail ystyried y mate! dywedld fod yn Ngogledd Cymru gymmaint a 12 OOOp. I 15,000p. yn cael eu talu mewn cyflogau ynglýn S. gwneuthuriad y llechi, ac yr oedd y cwrs a fabwydsdwjd yn gollei drom i'r wlad. Seilil y cais, hefyd, nad oedd y meddygon yn unol lawn ar y mater, ae felly na ddylid gosod goimod o bwys &r y gwrth- wynebiad yn y cyfeiriad hwnw. Delid fod y dull newydd o lenhau y lechen wedi symmud y perygl a ddaroganid. Mewn atteblad Bylwodd Arglwydd Londonderry mai gwaith Bwrdd Ysgol Llundal i yn gwneyd arohwiliad a barodd y cyfnewidlad. Nid oedd y Bwrdd Addysg yn bwriadn gwneyd unrhyw reol bendant ar byn, ac ni chawsai nbb o'r atbrawon oedd yn defnyddia yllechau fcd hyny yn effeithio dim mewn unrbyw fodd ar y grants. Yr cedd ef yn bersonol mewn Hawn gydymdeimlad a'r ddirp!wyaeth a'r, buddiant a gynnrycbloiid ganddynt. Pe buasai ef yn parhau yn elswydd caweai y mater e) sylw pellaoh. GOHEBYDD.
[No title]
News
Cite
Share
Gwneir gwaith da gan yi heddgeidwaid yn Nghaerdydd tnag at gynnorthwyo Jpobl sydd allan o waith,trwy eu bod yn sierhan rhywbeth i'w wneyd i'r cyfryw bersonau. Mewn eyfarfod o Gynghor iwle lig Llandeilo, dydd Sadwrn, adroddai y swyddog meddygol ei fod ef wedi olrbain tarddiad diphtheria yn Llandebie ac Ammanford i afiechyd ar gath. Hysbysir fod y Parch. E. Griffith Davies, Abertileri, wedi cydsynio a galwad a dderbyn- iodd o øglwys Annibynol Thornbary, Bristol, ac y bydd iddo ddechreu ar ei weinidogaeth yno yn mis Chwefror. Tua banner awr wedi pump prydnawn dydd Sadwrn torodd tan allan yn ystablau y Mri. Jones a'i Frodyr, pobwyr, Morgan Street, Pontypridd. Bernid fod y golled tua 120p., yr hwn a delid, mewn rhan, gan gymdeithas yswiriol.
DAMWAIN YN CHARING CROSS,…
News
Cite
Share
DAMWAIN YN CHARING CROSS, LLUNDAIN. CWYMP NENFWD YR ORSAF. -)0 LLADD SAITH; NIWEIDIO 28. CYMMERODD damwain ddychrynllyd le yn ngorBaf Charing Cross, yr hyn a achosodd ddychryn mawr yn Linndain, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd nifer o welthwyr yn gweithio ar y nenfwd mawr gwydr, yn mhen draw yr orsaf, pan, heb nnrbyw rybndd yn mron, y syrthlodd pentwr mawr o'r nenfwd ar dren oedd yn myned allan i Hastings, tra y disgynodd rhan arali ar nenfwd newydd chwaready Avenue. Yr oedd dros gant o weibhwyr ya gweithio yn y chwareudy, ac y m?e meddwl na chafodd dim ond smith, y fan bellaf, eu lladd, ac wyth ar hugain eu niweidio, yn mron ya wyrthiol o dau yr amgyltihladau. Cafodd gorsaf Charing Cross el cban I fyny yn ddioed, a gosodwyd nifer o heddgeidwaid i wylio y gwahanol fynedfaydd; o blegid nl wyddai neb beth allasal ddtgwydd i'r darn arall o'r nenfwd. Ymgynnuliodd torf enfawr i'r gymmydogaeth yn anion. Pennodwyd yr Uchgadben Pringle gan y Bwrdd Masnach i gynnal ymchwiliad i'r achos o'r ddamwain.
AR FWRDD Y 'CARONIA.'
News
Cite
Share
AR FWRDD Y 'CARONIA.' [GAN UN O'R CRIW.] CYBHAEDDODD mintai o honom i'r wlad ar fwrdd y Caronia, ar el mordaith ddiweddaf. Cychwynasom o Liverpool Medi 19eg, gyda 2,300 o delthwyr yn y steerage. 320 yn yr all gaban, a 250 yn y caban cyntaf -y llwyth mwyaf erioed, meddir, a gludwyd mewn Hong o'r fath dros F6r y Werydd. Y Caronia yw y Hong ddiweddtf a adeiladwyd gan Gwmni y Cunard, a'r fwyaf, hefyd—ei tbynelliad yn 2i,0.0, a'r holl drafniadau yn berffaith. Nid yw yn llong gyflym iawn-tuib 400 o filldiroedd y dydd a deitbia ar gyfar- taledd. Cawsom beth tywydd ystormus lawns ac un diwrnod, wedi gadael Qoeenstown, yr oedd y llong yn ymsuddo o dan y tbnau wyth neu naw troedfedd yn ei phen blaen. Dywedir nad oedd y tidal wave a gafodd yr Etruria i'w gymmharu a'r m6r bwn. Yr oedd lliaws o Gymry yn mhlith y teithwyr. Un o honynt oedd y Parch. Peter Gray Evans a'i wraig, yn dychwelyd o Gymru ar ol bod yn edrych am eu perthynasau, ac yn mwynhau eu hunain yn awyrgylch y diwygiad. Da genym gael tystlolaeth fod Mr. a Mrs. Evans wedi cael derbyniad tywysogaldd gan In o'u cyfeillion, ao eraill hefyd; a'u bod wedi profi y dylanwad yn nerthol weithlo gyda hwynt. Credwn eu bod yu dychwelyd a'r dystiolaeth hon yn ysgrifen- edig ar eu cal >n, ac y bydd eglwys eu gofal yn Belle. vue, Scranton, He eu mawr berchir, yn llawenhau yn ddtrfawr yn eu hymweliad.J Yu y cwmni, befyd, yr oedd Mr. a Mrs. John D. Jervls, Decatur, Ala Cymro pybyr yw Mr. Jervis, in cymmeryd dyddordeb neillduol mewn symmudiad- au Cymreig. DeallaiB iddo dalu ymweliad ag amryw fa,cau heb law Cymru, ac iddo ef a Mrs. Jervis gael mwynbad mawr. Palla gofod i ml ddim ond enwi eraill; sef, Mr. a Mrs. W, H, Jones (Bethel), yn myned i Almira, Wash.; Mrs. Elizabeth Jones (Bethesda), yn myned i Utica; Miss Pierce, Dyffryn Aur, Llanrwst, yn myned 1 dueddau New York; R. O. Williams, myfyriwr ieuangc ya Ngholeg Ripon, brodor o Llangernyw T A. Williams, gynt o Marietta College, yn dychwelyd i Yale am gwrs duwinyddol, ac eraill. Gwelir oddi wrth hyn ein bod yn denlu go ddedwydd etto, gall. asem fod wedi mantetaio mwy ar gwmni ein gilydd. Cawsom amser difyr iawn dydd Sul. Gan fod y gwahanol sectau crefyddol yn cyrchu at eu gilydd i gaelllwasanaeth crefyddol, penderfynasom nlnnau, yn yohydig, y buasem yn cael Ysgol Sul. Meddylias- om am gael prpgeth Gymraeg; ond gan fod mater y buchfrechlad yn fwy pwyslg gan awdurdodau y llong, rhald oedd i'r dynion ymostwng l'r trefnladau, ac, am hyny, rot y bregeth o'r neilidu. Cawsom Ysgol Sal, ac amser bendithfawr lawn ydoedd. Y Parch. Peter Gray Evans oedd ein harweinydd, a gwnaeth walth rhagorol. Yn y bymthegfed bennod o loan y boom yn llafurio, a chredwn i ni gael goleuni helaeth ar y cyssylltiadau. Gan ein bod wedi cyfelrlo at fater y buchfrechlad yma bnasm yn awgrymu am i bob un fyddo am groeai'r Werydd ofalu yn mlaen llaw el fod wedi ei fuchfrechu, gan fod yn rhaid i bob un fyned o dan yr oruohwyl- iaeth ar y bwrdd cyn glanio. Buasid, felly, yn osgoi llawer o annymunoldeb y daith. Peth arall o ddyddordeb ar fwrdd y Hong yw wire- less telearaphy. Yr oil a ellir el roddi mewn ffordd o ddisgrifiad yw hyn :—Cyd rhwng y ddau fast y mae dwy witr yn rhedeg yn gyfochrog, a rhyw ddwy droedfedd ar wahân. Ar y dec uchaf y mae ystafell fechan, Ue y mae agent y Marconi System yn derbyn negeseuau o wahanol fanau o'r deyrnas. Amlwg yw mat drwy wasanaeth y ddwy wifr y cyfeiriwyd atynt y gwneir y gwaith. Un noson darfu i ni basio amryw longau; eu gweled oedd ammhossibl, ond drwy wasan- aeth y system dan sylw yr oeddym yn gallu gohebu ag un o'r llongau German Lloyd, yr hon oedd drigaln mllldir y tu ol 1 ni. Dydd Llun, hefyd, er ein bod tua mil o filldiroedd o New York, yr oeddym mewn gohebiaeth & iSable Island. Sicr fod hyn yn un o'r darganfyddiadau mwyaf pwysig a manteiaiol yr oes bresennol. Wel, bu y daith yn dra dyddorol, ar y cyfan. Gall- asal pethau annymunol ddigwydd yn nghanol y fath nifer; ond trödd pob peth allan yn wlr foddhaol. Y mae'r awdurdodau I'w llongyfarch am gystal trefn; ac etto. y mae lie i wella, yn enwedig y trydydd dosbarth,
YR ETHOLIAD CYFFREDIKOL.
News
Cite
Share
YR ETHOLIAD CYFFREDIKOL. Pan ydym ar fin etholiad oyffredinol, a oes dim modd cyffrol ein cyd genedl i ddeffro i wneyd eu goreu i ennill ein rhyddid drwy Ddadgyssylltiad a Dadwaddoliad, a diwygio y Ddeddf Addysg? Hefyd, a oes dim modd annog ein cyd genedl i wneyd defn- ydd e'r breintlau a'r deddfau seneddol sydd yn ein meddiant ? Syn yw meddwl leied o ddefnydd a wneir o'r Ddeddf Gladdu newydd. Y mae pawb yn gwybod am dani; ond gofidus meddwl mor araf y mae defnydd yn cael ei wneyd n honi. Gwelir yn fynych iawn mewn hanes claddedlgaethau rhal Ymnelllduwyr da yn eu bywyd ond yn adeg eu claddu, ond odid mat y gweinidog Ymneillduol fydd yn gwasanaethu wrth y t £ ond, wrth y bedd, y rheithor neu'r ficer fydd yn gwasanaethu. Beth yw'r achos o hyn? Pa un at dymuniad y marw ai ynteu eu perthynasau ? Dichon fod liawer wedi anghofio yr ymdrecb. fawr a fu yn adeg y «^i. weddar Syr G. Osborne Morgan, ac eraill o'n seneda- wyr Cymreig, I gael y gyfraith yma i'r Ymnelllduwyr, Syn yw meddwl mor ddi-fater y mae nifer fawr o wneyd defoydd o'r hyn sydd yn ein meddiant. Peth arall y dymunem el grybwyll ydyw yroiftwmwrth gladda; a syu yw gweled llawer un o bobl y capel mor barod i'r arferiad hynod ban. A oes neb o'ch goheb- wyr lliosog a fydd mor dda a rboddi hanes dechreuad a dy ben yr arfer o oifrwm wrth gladdu ? GWERINWB.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y Pfiatfeistr Oyffredinol wedi pennodi Dr. Evan Williams, Bala, yn swyddog medd ygol y llythyrdy yn y Bala a'r cymmydog- aethan. Ba farw y Parch. John Sawer, fieer Leigh- ton, Trallwm, braidd yn sydyn borea ddydd Gwener diweddaf. Nid oedd iechyd Mr. Sawer wedi bod yn dda er's tro. Cafodd cyfarfod arbenig o lywiawdwyr Ysgol Sirol Llangollen el gynnal dydd Mawrth er cymmeryd o dan ystyriaeth ymddiswyddiad Mr. E. Rees Thomas, yr hwn oedd wedi cael el ddewis, allan o 150 o ymgelswyr, i'r swydd o feiatr clamrol hynaf yn Ysgol Ailraddol Not tingbam. Penderfynwyd rhyddhau Mr. Thomas ar derfyn y tymmor; a dadgenid gryn ofid o harwydd ei ymddiswyddiad. Penderfynwyd cymmeryd cam dioed i lenwl y swydd.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GJ8SN EOIG A HSTH A O. DAVIEEJ-Rbagfyr 4ydd, prlod Mr. Richard Daviee, 20 Manton Road, Liverpool, ar fab. HUGHES-Rhagfyr 6ed, prlod Mr. J. P. Hughes, 37 Bronghtoa Read, Liscard, ar ferch. JONES — Rhagfyr 7fed, priod Mr. G. O. Jones, Merchlf B, C"nwy, ar ferch. LEwIB-Rhagfyr 3ydd, priodl Mf. E. Lewis, 18 Newton Street, Birkenhead, ar fab. LLOYD-Rhagfyr 211, prlod Mr. C. LI. Lloyd, Cadnftnt Cottage, Porthaethwy, ar ferch. SMITH-Rhagfyr 4ydd, prlod Mr. H. E. Smith, 20 Park Road South, Birkenhead, ar fab. PRIODASAD. EVAN s-Joii Es-Rhagfyr 211, yn nghapel y Wesleyald, yn Ngwyddelwern, gan y Parch. T. 0. Roberts, y gweinidog, yn mhreaennoldeb Mr. D. P. Davies, cofrestrydd, Cor wen, Mr. Edward Evans, Wern Ddn, & Miss Ellen Jones, Glanywern (merch y dl. weddar Mr. Evan Jones, gynt ysgolfelstr Cynfal, Mellnywig. EVANS—SCABTH—Tachwedd 26ain, ya eglwys Crist, yn Walshaw, Bury, sir Lancaster, gan y Parch. John Howard, ficer, Mr. Eliaa W. Evans, llythvr- gludydd, 5 Elwy Terrace, Llanelwy, & Miss Sarah Hannah Scarth. Collins Street, Walshaw. FITZ PATRICK— YATES — Rhagfyr 5ed, yn Eglwys y Plwyf, yn Llaneurgalo, gan y Parch. Clement Davies, ficer, Hugo, pedwerydd mab y diweddar Mr. Frederick Fltz-Patrlck a Lady Olivia FitzPatriok, 8 Bryn Edwyn, Fflint, & Gertrude, unig ferch y Milwr. iad a Mrs. Yates, Wern Hall, Llaneurgain. JOSES—JEFFREYS—Rhagfyr 5ed, yn nghapel y Moth* otiistlaid Cslfinaldd, yn Bryn Selon, Pontcyisylltau, gan y Parchn. John Williams, Gwrecsam, ao E. Isfryn Williams, Pongciao, y Parch. Hugh Jones, gweinidog y Methodlstiaid Calfinaidd yn Nhreforla (gynt o'r Fron a'r Bont), & Miss Rose A. Jeffreys, pedwaredd ferch y diweddar Mt. M. Jeffreys, Pont. cyssyJltau. JONES—MORRIS—Rhagfyr 4ydd, yn ngbapel y Meth. odistiaid Calfinaidd Cymraeg (Selon), Gwreotam. gan y Parch. Edwin Jones. Gwersyllt, Mr. William Morrla, mab hynaf Mr. Isaac Morris, Tanygralg, Nantyihiw, ger Llanrwst, 4 Mrs. H. Jones, antg ferch Mrs. Overhead, Meadow Cottage, Cefn-y- bedd. JONES- ROBERTS — Tachwedd 30ain, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, yn Nghorwen, Mr. Evan Jones, cariwr glô. & Miss Elizabeth Roberts, Saracen's Head Hotel-y ddan II Gerygydruldion. MARWOLAETHAU. ELLIS- Rhagfyr 4ydd, yn 72ain mlwydd oed, yn Ty Kiddaw, Cilcain (preswylfod ei fab-yn-oghyfralth- Mr. William Jones, teillwr), Mr. Goodman Ellis, cigydd, gynt o Whitford Street, Treffynnon. EVANS- Rhagfyr 7fed, yn bedair blwydd oed y Nadollg nesaf, Mary Elizabeth, anwyl blentyn Mr. William a Mrs, Elizabeth Anne Evans, 53 Henllaut Street, Dinbych. EVANs-Rhagfyr 2tl, yn 67ain mlwydd oed, yn Eben- ezer House, Whelstone, Bagillt, Gather ne, gweddw Mr. John Evans. HUGHES-Rhagfyr 6ed, yn 82aln mlwydd oed, yn 42: Park Street, Dinbych, Mr. John Hughes. Cladd- wyd ef yn myawent capel y Groe3, dydd Sadwrn- diweddaf. JONES—Rhagfyr 3ydd, yn ddwy flwydd a naw mis- oed, Mary Martha, anwyl blentyn Mr. Thomas» Jones, Groes, Llaoasa. LLOYD-Rhagfyr 8fed, yn bedair wythnos ar ddeg oed,. Thomas Johu, anwyl faban Mr. a Mrs. Humphrey Lloyd, Glanywern Isa', ger Dinbych. Claddwyd ef yn mynwent capel y Rhewl, dydd Llun diweddaf (yr lleg). ROBERTs-Tachwedd 29ain, yn 57aia mlwydd oed;, Mr. William Roberts, Fron goch, ger Pont-rhyd- fendigaid. Cymmerodd el angladd le dydd LInn Rhagfyr 4ydd, pryd yr hebryngwyd el weddillion t fynwent y Fonachlog. ROBERTS—Rhagfyr lOled, o ddeutu 60ain mlwydd oed^, Mr. Robert Roberts, Penybangc Cottage, Tower Terrace, Dinbych. Treuliodd amryw flynyddoedd gyda'i ewythr a'i fodryb, y diweddar Mr. a Mrs. Elias Davies, Penybangc a bu wedi hyny am lawer o flynyddoedd yn un o'r oeidwaid yn Ngwallgofdy Dinbych. Dioddefodd amryw fiaoedd o gystudd yo hynod o dawfl Yr oedd yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn L6n Swan; a dygai fawr sel dros yr achos yn nghapel Tower Hill, lie yr oedd wedi der- byn ei addysg er pan yn faohgen lied ieuangc, Gadawodd weddw a thri o blant yn eu dwfn alar am dano. Nodded y Nef fyddo drostynt yn nydd eu trailed*. Cymmer el gladdedigaeth, yr hwn fydd yn un cyhoeddua,' le prydnawn dydd Iau a bwr- iedir cyohwyn oddi wrth y tt am ddau o'r gloch. THOMAs-Rhagfyr 7fed, yn ohwe mis oed, Alice Emily anwyl blentyn Mr. Azariah a Mrs. Emily Thomas. Chapel Place, Dinb; ctu I
DREFACH, FELINDRE, A'R CYLCH.
News
Cite
Share
DREFACH, FELINDRE, A'R CYLCH. DIRWESTOL. DA genym hysbyau fod yr achos nchod yn dal el dfir yn gryf yn yr ardal hon a bod pleidwyr sobrwydd yn parhau i gelslo dwyn aelodau newyddlon i'w rheng- oedd. Yo mbllth y merohed y mae yr achos da hwn ynoael mwyaf o sylw ar hyn o bryd, o dan nawdd Undeb DirweBtol Merched y De. Yma y mae yr achos yn llwyddo yn rhagorol, a'r merched yn parhau yn ffyddlawn t'w hymrwymiad, gan gynnal eu oyfai- fodydd yn rheolaidd bob pythefnos, a hyny ar gyloh, yn ngwahanol gapelau yr ardal. Nos Feroher cyn y diweddaf cynnaliwyd y cyfarfod; dlrwestol diweddaf yn nghapel yr Annibynwyr, yn Soar, dan lywyddiaeth y Ilywyddes enwog, Mrs. Mary Davies, Ddetwenlaa. pryd y cafwyd cynnulliad da, er- er fpd, yr bin yn anffafrlol. Yma, cafwyd adroddladi gan yr ysgrifenyddeeau o'u hymweliad, ao o lawer a, weithredladau y gynnadled,t banner blynyddol a gyn- naliwyd yn Llanelli yn ddlweddar. NI raid iddynt wrth lythyrau canmollaeth genym nl, na neb arall, am eu hadroddlad rhagorol a manwl; o herwydd byddai yn annaturlol, (is nad yn ammhosslbl, Iddo fod yn wahanol oddi wrth ddwy mor deilwng ac addaa ole swyddau. Credwn mai mantais fawr I'r gymdelthas » fyddai argraphu y cyfryw adroddiad, a'i roddi yn llaw pob aelod o'r gymdeithas; a hyny yn fwyaf neillduol, am el fod yn ddangoseg o'r fata ysbryd rhagorol oedd yn y cynnrychiolwyr. Nid oes un ammheuaeth am lwyddlant a pharh&d y gangen ddirwestol hon, os parhl yr un ysbryd, a'r un gweithgarweh, ynddi ag y mae yn ei feddu yn bresennol. Y mae gauddl swydd- oglon gwelthgar a bywiog, yn dwyn mawr s61 dros yr urdd, ao yn ffyddlawn yn holl weithredladau y gangen, gan ddilyn, bron yn ddifwlch, bob oyfarfod o'r eiddo yr undeb. Hefyd, chat gynnorthwy gwelnldoglon y oylch yn eu cyfarfodydd, a gwahoddant bawb i ddyfod iddynt; o blagid Lid yn unig dirwest a ddaw dan Bylw yn eu oynnulliadaa, ond crefydd heiyd. Ac y mae rhal o'r oyfarfodydd wedi bod ya rhal gwresog lawn mewnmsiwl a gweddi. Yma yimae amryw wedi derbyn nerth i ddyfod yn gyhoeddus yn oyfarfodydd undebol. Ydyw y mae y safydliad hwn yn magu gweddiwyr yn .gystal a dlrwestwyr. GOHEBYDD.
[No title]
News
Cite
Share
Dywedir fod y doraeth o benwaig gafodd pysgotwyr Caergybl, yn ddiweddar, wedi bod yn foddion i ad-dyna pysgotwyr 0 Ynys Manaw yno. Ba yr ynadon yn Nghroesoswallt, dydd Llun, yn gwrandaw cyhnddiad a ddygld yn erbyn Wiliiam Reeves, Porthywaen, o dori I mewn i'r swyddfa. docynau yn ngorsaf ffordd helarn Porthywaen, nos Weoer. Oddi wrth y dyati olaeth a roddwyd ymddengys i'r ffenestr gael ei tbori, ao i 10s. 4!c. gael ei gymmeryd o'r boes arian. Pan gymmeryd y carcharor t fyny yr cedd el ddwyltiw yn gwaedu o doriadau, Oewydd. Dywedodd y carcharor, yr hwn a draddodwyd i sefvll ei brawf yn y frawdlys- chwarterol, 'Myfi dorodd y ffenestr, ond nl chymmerais ddim o'r arian.'