Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COFIANT Y ' GOHEBYDD.'

News
Cite
Share

COFIANT Y GOHEBYDD.' Y MAE weitbian dros ddeng mlynedd ar hugain er pan fu farw Gohebydd arbenig y FANER, yr hwn, hefyd, oedd tywysog gohebwyr ei oes— • Y Gohebydd.' Bellach, wedi i gryn gyfnod lithro ymaith, y mae I Cofiant' o hono wedi ei gyhoeddi yn swyddfa y FANER, wedi ei gasglu ynghyd gan ei frawd, Mr. Richard Griffith, gyda chynnorthwy amryw eraill oeddynt yn adwaen ac yn mawrhau y gwrthddrycb. Addas oedd i'r Ilyfr yrnddacgof, ac i ninnan, yn y I Golofn Lenyddol,' draethu gair am darn yn mis Rhagfyr. Dyna fis mawr bywyd Y Gohebydd. Odd ar yr 16eg o Ragfyr, 1821, v ganed ef i'r byd, mewn tyddyn gwledig ar bwys yr Abermaw ? Ac wedi tramwyo mwy na'r cyffredin o'r byd hwn, onid ar ar y 12fed o fis Rhagfyr, 1877, yr ymunodd efe a'r anfarwolion 1 Ac yn mis Rbagfyr, 1905, daeth ei Gofiant' i ddwylaw darllenwyr Cymru ac y mae yn sicr genym y bydd yn ddiolchgar am dano. Yn ngeiriau y rhagymadrodd i'r llyfr, I Y mae f gwersi ei fywyd (Y Gohebydd), yn rfay werth- fawr i'w hebargofi; a daw o'u cyhoeddi, ni a hyderwn, ddaioni nid bychan, yn enwedig felly i bobl ieuaingc ein gwlad. Y dystiolaeth bon sydd wir ac wedi darllen y llyfr yn ofalus, gallwn sicrhau ein darllenwyr fod ynddo ddefo- ydd ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith bywyd. Yr hyn a wnaeth Y Gohebydd yr hyn ydoedd i'w wlad, oedd ei ysbryd effro, gweithgar, a di- orphwys. Ni feddai gyfansoddiad cadarn uid oedd ei babell ond bregus a salw ddigoa ond yr oedd yr ysbryd a breswyliai ynddi yn nertbol a grymua a daeth yn ysbryd gwasanaetbgar i Gymru, a hyny yn ei phethau goreu. Er yn blentyn sychedai am addysg ac am wybodaetb, Y mae y bywgraphydd wedi tynu darlun o hono, yr adeg hono, yn disgwyl y wagen fawr' yn yr Abermaw, a hyny hyd banner uos, ambell dro. Pa beth oedd yn y wagen fawr, ysgatfydd ? Wel, yr hyn a ddiagwyliai y bachgen ydoedd sypyn o'r Dysgedydd o Ddolgellau-yr uuig gyhoodd- iad Cymraeg oedd o fewn ei gyrbaedd y pryd hwnw. Ac wedi cael copi o hono, byddai fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, ae]11 prysuro adref i'w ddarllen hyd onau man y boreu. Y plentyn ydyw tad y dyn ac yn yr banes yna gellir gweled anelwig ddetoydd y dyn prysur, diflin, oedd i fod wedi hyny yn I Ile Ilygaid i werin Cymru ar faterion oedd yn dal perthynas &'u dyrchafiad a'u liwydd. Bti am gyfnod yn ardal Llangynog yn cadw masnachdy, yn areith- io ar ddirwest, ac yn ysgrifenu i'r Cronicl bach. Wedi hyny aeth i Lundain a dyna dro-bwynt ei fywyd. Ceir ysgrif o'i eiddo yn y Cofiant yn darlunio agoriad yr Arddangosfa Fawr ya y Palas Grisial yn 1851. Yn y darlun doniol hwn ceir blaenbrawf o'i ddawn lithrig fel gohebydd. Ar y pedwerydd o Fawrtb, 1857, y cychwyn- wyd BANER CYMRU, gan y diweidar a'r gwlad- gar Mr. Thomas Uee; ac yn yr un mis y dechreuodd Mr. John Griffith, fel Gobebydd Llundain,' ysgrifenu i'w cholofnau. Dwy ff'aith bwysig a hanesyddol wedi digwydd yn yr un mis-cychwyniad y FANER—Times J Dywysog- aeth-a dechreuad gyrfa lenyddol ac wythnosol Y Gohebydd. Am dros ugain mlynedd, hyd yr adeg y cwympodd yr ysgrifbin o'i law, deeth y FANER a'r Gohebydd yn auwahanol gysaylltied- jg S'u gilydd. Rboddodd oreu ei amser, ei feddwl, a'i ddawn, i'r newyddiadur poblogaidd oedd yn cyhoeddi ei gynnyrchion amryfai, dar- llenadwy, a fresh, fel gwlith y wawr. Sonir yn y dyddiau hyn am 'ddarganfod' hwn ac arall fei iienorion. Darganfyddiad pwysig i Gymru oedd Y Gohebydd ac ymddengys fod y clod am hyny i'w ranu yn gyfartal rhwng Hiraethog a Mr. Gee. Cofta da am danynt Gorchwyl teilwng oedd dwyn ysgrifenydd newydd i'r golwg, a rhoddi cylfe iddo gyflawni ei neges-y gwaith yr oedd Rbagluniaeth wedi ei gym- mhwyao ar ei gyfer. Nid siopwr oedd John Griffith ysgrifenu oedd ei elfen, a gohebydd oedd ei alwedigaeth etholedig. Ac unwaith y cafodd ei gyfle priodol, gwnaeth ddefaydd ardderchog o hono a dyrchafodd y swydd i'r fath radlau yn ei berson fel y daethpwyd i ddefnyddio y faunod o flaen ei enw — Y Gohebydd.' Fel y dywed y Dr. Owen Evans yn ei sylwadau coffhaol:— Yr oedd llawer o ohebwyr eraill, galluog a doniol, hefyd, yn Nghymru ond yr oedd efe fel Saul, mab C;s, yn Israel gynt, yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na hwynt oil, fel mai yn hollol briodol y gelwid ef Y Gohebydd caDys efe, yn ddiddadl, uedd arch-ohsbwr Cymru, a tbywysog y gohebwyr Cymreig. Ac y mae yn ddiogel dyweyd yn ddibetrus fod llythyrau y I 'Rhen Ffarmwr yn yr Amserau Ymylon y Ffordd,' gan L!admerydd, yn y Tyst; a llythyr- au y Gohebydd yn y FANER y petbau mw) af dyddorol a phoblogaidd a ymddangosasanterioed yn llenyddiaeth newyddiadurol Cymru.' Taflodd ei boll enaid a'i gorph i'w ddyled swyddau gohebol. Teithiai Gymru benbaladr i bwyllgorau a ohyfarfodydd mawr. Gwnaeth ei oreu i ddyrchafu gwleidyddiaeth, addysg, llen- yddiaeth, a chrefydd yn y Dywysogaeth. Yr oedd ei ysgrifau yn adeg etholiad 1868 fel marwor tanllyd; a tbroes yn amddiflynydd a noddwr y sawl a gawsant eu herlid a'u colledu ar ol yr ethoiiad pwysig hwnw. Yr oedd addysg uwchraddol, a Choleg Aberystwyth, megys can- wyli ei lygad. Ysgrifenodd yn belaeth ar yr eiiteddfod, ac y mae llu o'i awgrymiadau wedi eu rboddi mewn ymarferiad. Ond os my a neb gael syniad addas am lafur Y Gohebydd, dar. lJenedy Cofiant. Y mae hufen ei ysgrifau wedi eu casglu ynghyd, ac yn taflu goleuni llachar- nid yn unig arno ef, ond ar ymdrech Cymru, yn yblynyddauafu i sicrhau y pethau oedd yn deilwng o honom fel gwlad a chenedl. Dywedir mai y bywgraphiad' goreu ydyw yr un sydd yn rhoddi mantaig i'r gwrthddrych i Jefaru drosto ei hun. Os felly, y mae'r Cofiant hwn yn aefyll yn y rheng flaenaf. Ar ol y sylwadau arweiniol-a thra ragorol ydynt oil !-gan y di- weddar Mr. Gee y Parchn. Job Miles Owen Evans, D.D.; David Evaca, a'r cofiantydd ei hun, arweinir ni at gynnyrchion meddwl y Gohebydd talentog, ar wabanol faterion, ac mewn gwahanol gyfnodau ar ei oes. Ac y mae yr oil yn deilwng o hono ac er iddynt gael eu hysgrifenu lawer blwyddyn yn ol, Did oes bias hen ar yr un o honynt. Y mae rhai o honynt yn ddigrif-ddoniol; eraill yn dyner a thoredig ac eraill yn llosgi gan eiddigedd gwladgarol. Nid oes ofod i fanylu ar ffeithiau bywyd Y Gobebydd. Y maent yn rhy liosog. Ond y mae hanes ei ymweliad a'r Unol Dalaethau, ai I lythyrau o Mentone, yn flasusfwyd llenyddol, ac yn brofion eglur o ddoniau yr awdwr. Sylwir yn rhywle yn y llyfr ar naturioldeb ei gynnyrch- ion mor ddarllenadwy ydynt. Ond yr oedd eu meddwl a'u cywnyrchu yn costio yn ddrud iddo ef. Cymmerai lawer o boen i ysgrifenu a dyna y rheswm. mae'n debyg, fod ei waith yn darllen mor naturiol, A gawn ni annog ein darllenwyr ieuaingc (a hen, o ran hyny), i wneyd y llyfr campus hwn yn eiddo iddynt eu hunain 1 Bydd ei gynnwys yn sicr o fod yn symbyliad i bob Cymro pur i 'ddyrcbafu Cymru yn Gymru grefyddol, yn Gymru Iftn mewn moes, ac uchel mewn dysg- yn Gymru rydd, ac yn Gymru ddedwydd.' Dyledus ydyw dyweyd fod y cofiant wedi ei argraphu yn ddeniadol wedi ei rwymo yn gryf a bardd; ac ar yr amlen oddi mewn ceir darlun gwych o'r Gobebydd-I y dyn bychan, mawr.' Oddi allan, ceir darlun o ysgrif ell— portread hollol briodol, o herwydd, yn y diwedd, 'Trech yr ysgrifbin na'r cledd.' The pen is mightier than the sword.' H.E., Pontyberem.-Dsrhynied y gobeb- ydd ieaangc fy niolch am ei lythyr amserol. Hyderaf gael egwyl i alw eylw y frawdol- iaeth at yr awgrjmied sydd ynddo yn ystod y noson nesaf, Dyddorol ydyw deall fod y Goloin Lenyddol' yn cael ffafr yn y Do. A chan i mi grybwyll am y Deheubaitb, nid gweddus ynom fyddai ymwahanu, y waith hon, heb lonsyfareh y prif-fardd Dyfed ar ei ddyrchafiad i'r swydd o Arcbdderwydd Gwnaed y gorchwyl yn foneddigaidd ac an rhydeddus a disgwyliwn gael byw i weled Dyfed yn ei wisgoedd archrffeiriadol yn eisteddfod Caersarfon y flwyddyn^cesaf. Yo y cyfamser teyroased Heddwch yr orsedd yn nsysg y beirdd a pbawb arall 1

ARDDANGOSFA AC! ARWERTHIANT…

[No title]

MR. EVAN ROBERTS YN PWLLHELI.

MR. EVAN ROBERTS YN EGLWYS…

. IDIWYGIAD '59 A '60 YN BWLCH.YGAREG,…

DADSEFYDLIAD.