Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Maes Newydd i Ffermwyr ac Ymsefydlwyr. Y MAE Cwmni Cydsoddedig Rhodesia (Cyfyngedig), Wedi gwneyd trefniadau i agor ar gyfer Ymsefydlwyr saith gan mil o Erwau (700,000) o dir sydd bron yn Rhyddiaethol, i'w drefnu yn unol a ctarpariadau cyfundrefn neillduol o ymsefydl- iad. Y MAE'R oil o'r Yst&d wedi ei dethol yn ofalus; ac o ran hin, uchelder y tir, a'i ansawdd, a'i agosrwydd at reil- ffyrdd, a marchnadoedd-saif mewn rhan- barth hynod o ffafriol a manteisiol. Rhenir y tir i ddarnau o wahanol faintioli, yn mesur o 1,500 i 200,000 o erwau, y rhai hefyd a dosrenir fel ag i wneyd ffermydd o 100 erw ac uchod, i gyfarfod a chyfleuidra y sawl a'u ceisiant, Y mae y rban fwyaf o dir y Cwmni yn sefyll yn agos i gyfundrefn ffordd haiarn Rhodesia. Ar Ystad Gravesend, yn ngwlad Matabele, y mae'r Cwmni wedi sefydlu cynllun o fferm (model farm), ar yr hon y "tyfir myglys, cotwm, cnau'r ddaear, indrawn, gwair (ramie grass), ceirch, haidd, a'r holl gnydau arferol yn hynod o Iwyddiannus. Derbynir i'r fferm uchod y rhai fwriad- ent brynu tir y Cwmni, yn Rhad am un Flwyddyn, fel ad-daliad am eu gwas- anaeth, neu swm cyfattebol i'r g6st o'u cadw. Trwy hyn rhoddir cyfleusdra i Ymsefydlwyr i gael gwybodaeth drwyadl o ammodau lleol amaethyddiaeth cyn buddsoddi o honynt eu cyfalaf. Y mae Ystad y Cwmni yn cynnwys rhai o'r tiroedd goreu at fagu gwartheg yn Neheubarth Affrica, ac yn cynnwys hefyd ran o'r tir ar yr hwn y tyfir y tybaco drutaf. Bydd cynnorthwy awdurdod uchel ar dyfiant tybaco, yr hwn sydd yn ngwasan- aeth y Cwmni, at alwad pob ymsefydlydd ar dir y Cwmni, Yn yr Arddangosfa Amaethyddol a gynnaliwyd yn ddiweddar yn Salisbury, Rhodesia, dyfarnwyd i'r Cwmni y Brif Wobr am Gotwm a. Chnau'r ddaear a dyfwyd ar eu tir. Bydd y Cwmni yn barod i brynu, am bris goreu y farchnad, yr oil o'r cynnyrch allforawl a dyfir gan yr ymsefydlwyr ar eu tir, megys Tybaco, Cotwm, Cnau'r ddaear, ramie grass, &c. Hefyd, rhoddir echwyn- ion ar y cyfryw gnydau ar delerau esmwyth. Fel symbyliad i ymsefydlwyr, y mae'r cwmni wedi, ac yn bwriadu am beth amser, werthu tir yn ol cyfartaledd o 10s. yr erw; a gellir talu am dano dros ysbaid deng mlynedd yn ddi-log. Y mae nifer o ymsefydlwyr o Scandin- avia, ar ol blwyddyn o brofiad ymarferol, vedi cymmeryd tir ar y telerau uchod. Y ma.e rhai o honynt wedi dwyn 100 erw o dir dan driniaeth o fewn y flwyddyn gyntaf, ac yn drwyadl foddlawn ar eu fhagolygon. Cloddio am Aur. Y mae'r Cwmni yn barod i gynnyg ammodau neillduol i fwnwyr ac eraill am weithio ar eu heiddo. Y mae miloedd o lanercliau eang ar y tir sydd yn cynnwy;s aur. Cloddir gwerth hanner can mil o bunnau o aur' (50,000p.) yn flynyddol o'r gweithvdd hyn. Gellir gweled samplau o gynnyrchion gwahanol ac amrywiol y Cwmni yn y British South Africa Company's Museum, London Wall Buildings, London Wall, E.C. Am fanylion chwanegol a Llawlyfr darluniedig ymofyner a The Secretary, The Rhodesia Consolidated, Ltd., FINSBURY PAYEMENT HOUSE, X..OarX>OSff9 E.C., neu a'r Milwriad Owen Thomas (awdwr y llyfr 1 Rhagolygon Amaethyddol a Bugeiliol Deheubarth Affrica'), Cynghorydd Amaethyddol y Cwmni, Fawley, Henley-

[No title]

[No title]

LLANGOLLEN.

TWYLLO Y BANGC.

LLANGEFNI.

TREFFYNNON.

[No title]

Advertising

ARDDANGOSFA SMITHFIELD,

Advertising